Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol 2007

Chwalfa etholiadol a gwleidyddiaeth glymbleidiol


Canlyniad trydydd etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Mai 2007 oedd nad oedd gan yr un blaid fwyafrif. Arweiniodd hynny at ddau fis o ansicrwydd ynghylch pwy fyddai'n ffurfio llywodraeth. Bu Jonathan Bradbury yn archwilio'r canlyniadau a goblygiadau'r etholiad.
 

Am lawer o'r ganrif ddiwethaf, bu Cymru'n un o gadarnleoedd y Blaid Lafur. Yn ôl y disgwyl, Llafur oedd y blaid fwyaf yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol, ond perfformiodd Llafur yn waeth nag yn etholiadau'r Deyrnas Unedig (DU), ac mae wedi ei chael yn anodd ffurfio llywodraeth sefydlog. Ym 1999, methodd Llafur â chael mwyafrif ac yn gyntaf ffurfiodd lywodraeth leiafrifol cyn cytuno'n nes ymlaen i ffurfio clymblaid â'r Democratiaid Rhyddfrydol a barhaodd o fis Hydref 2000 i fis Ebrill 2003. Yn 2003, enillodd Llafur 30 o'r 60 sedd, gan ennill mwyafrif technegol o un ar ôl i bleidiau eraill enwebu'r llywydd a'i ddirprwy. Sut bynnag, daeth Llafur yn llywodraeth leiafrifol eto yn 2005 yn dilyn penderfyniad yr Aelod Cynulliad (AC) Llafur dros Flaenau Gwent, Peter Law, i sefyll yn erbyn Llafur yn etholiad cyffredinol y DU, am fod y Blaid Lafur wedi gorfodi ymgeisydd benywaidd ar yr etholaeth.


Yn 2007, gwelwyd y bleidlais a dosbarthiad y seddi'n mynd ar chwâl (gweler Tabl 1). Collodd Llafur bedair, enillodd Plaid Cymru ddwy ac enillodd y Ceidwadwyr un. Llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ddal eu gafael ar eu chwe sedd, ac aeth un sedd i Lais y Bobl, y blaid a ysbrydolwyd gan Peter Law. Bu ymdrechion cynnar Llafur i ffurfio clymblaid â'r Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru yn aflwyddiannus, felly hefyd ymdrechion Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr i ffurfio clymblaid 'enfys'. Bu'n rhaid i'r Blaid Lafur ffurfio gweinyddiaeth leiafrifol. Yn y cyfamser, parhaodd y trafodaethau nes i Lafur a Phlaid Cymru ffurfio clymblaid ym mis Gorffennaf.


 


Gwleidyddiaeth Cynrychiolaeth Gyfrannol (PR)


Mae etholiadau'r Cynulliad yn dilyn system sy'n cymryd cam mawr tuag at fod yn system cynrychiolaeth gyfrannol. Mae 40 o seddi etholaethol, a gaiff eu hethol drwy'r system cyntaf-yn-y-ras, ac 20 o seddi rhanbarthol, a gaiff eu hethol drwy restrau rhanbarthol. Caiff pleidleiswyr fwrw un bleidlais i ymgeisydd o fewn eu hetholaeth, ac ail bleidlais i blaid o fewn eu rhanbarth etholaethol. Mae pum rhanbarth etholaethol, a chaiff pedwar aelod eu hethol oddi ar bob rhestr ranbarthol. Y bwriad yw digolledu pleidiau sydd wedi cael llawer o bleidleisiau ar lefel rhanbarthol, ond heb gael llawer o lwyddiant ar ennill etholaethau.


Prif nod y 'system aelodau cymysg gyfrannol' hon yw cael cynrychiolaeth leol dda drwy gyfrwng yr aelodau etholaethol, ond ar yr un pryd sicrhau bod y canlyniad cyffredinol rhwng y pleidiau yn fwy cyfrannol. Mae'r pleidiau'n derbyn bod y system hon yn caniatáu i blaid gael mwyafrif cyffredinol, ond oherwydd yr elfen gyfrannol bod 'cynulliad crog' yn ganlyniad mwy tebygol o lawer yn y Cynulliad na llywodraeth grog yn San Steffan.


Canlyniadau'r etholaethau


Yn 2007, y Blaid Lafur unwaith eto aeth â'r rhan fwyaf o'r seddi etholaethol. Ond o gymharu â 2003, roedd ei chyfran o'r bleidlais i lawr 7.8% a chollodd chwe sedd i gyd. Dim ond un etholaeth newydd a enillodd, sef Wrecsam. Collodd Flaenau Gwent i Lais y Bobl; collodd ddwy sedd i Blaid Cymru (Llanelli a Chonwy) a chollodd bedair i'r Ceidwadwyr (Preseli Sir Benfro, Gorllewin Caerfyrddin, Gorllewin Clwyd a Gogledd Caerdydd).


Ar y cyfan, dyma'r canlyniad gwaethaf i Lafur o ran ei chyfran o'r bleidlais etholaethol ers 1918 - doedd gan Lafur bellach ddim un o seddi etholaethol y Cynulliad yn y Gorllewin. Dim ond o 1.2% y llwydodd Plaid Cymru i wella ei chyfran o'r bleidlais yn etholiadau'r Cynulliad, ond cryfhaodd ei rheolaeth yno. Yn yr un modd, dim ond o 2.4% y llwyddodd y Blaid Geidwadol i wella ei chyfran hi o'r bleidlais ledled Cymru. Er hyn, cafodd fuddugoliaethau allweddol yn y math o seddi Llafur-Ceidwadol ymylol y byddai'n rhaid eu hennill mewn etholiad cyffredinol er mwyn cael mwy o rym yn San Steffan.


Ni fu unrhyw newid yn sefyllfa'r Democratiaid Rhyddfrydol. Cododd eu cyfran o'r bleidlais 0.6% yn unig, ac enillon nhw'r tair etholaeth yr oedden nhw wedi'u cadw ym 1999 a 2003. Cododd y bleidlais gyffredinol i 'Eraill' 3.5%, sef tua hanner yr hyn a gollodd Llafur, ond ni lwyddwyd i ennill seddi. Serch hynny, roedd y bleidlais gryfach hon i 'Eraill', yn arbennig i ymgeiswyr annibynnol, yn ysgytwad arall i Lafur.


Canlyniadau'r rhestrau


Llafur oedd y blaid fwyaf poblogaidd ar y rhestrau, ond yma hefyd disgynnodd ei chyfran o'r bleidlais 6.9%. Oherwydd llwyddiant cymharol Llafur ar ennill etholaethau, ni lwyddodd i ennill seddi rhestr ychwanegol mewn pedair allan o'r pum rhanbarth a enillodd. Yr eithriad oedd y Canolbarth a'r Gorllewin. Roedd y Blaid Lafur wedi dioddef colledion etholaethol trwm yn y rhanbarthau hyn, ond roedd ei phleidlais gyffredinol yn dal yn ddigon uchel i ennill dwy allan o'r pedair sedd restr.


Fel arall, roedd y rhan hon o'r system etholiadol yn mynd ati i wneud cynrychiolaeth y pleidiau eraill yn fwy cyfrannol. Llwyddodd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru i wella rhywfaint ar eu pleidlais restr. Er iddyn nhw ennill rhai o'r etholaethau, llwyddodd y Ceidwadwyr i ennill saith sedd restr a Phlaid Cymru i ennill wyth. Felly'r ddwy blaid hon aeth â'r rhan fwyaf o'r gynrychiolaeth gyfrannol yn y Cynulliad.


Siomedig fu'r etholiad i'r Democratiaid Rhyddfrydol, wrth iddyn nhw lithro 1% yn eu pleidlais restr a dal eu gafael ar y tair sedd restr yr oedden nhw wedi'u hennill yn 1999 a 2003. Cododd y bleidlais restr i 'Eraill' 4.3% ers 2003. Nodwedd allweddol o'r cynnydd hwn oedd y twf yn y gefnogaeth i'r Blaid Genedlaethol Brydeinig (BNP) yng ngogledd Cymru. Ond er i 'Eraill' gael 16.2% o'r bleidlais ar y cyd, ni chafodd yr un o'r pleidiau hyn ddigon o bleidleisiau i ennill sedd.


Cyfranogiad a chynrychiolaeth


Roedd lle i fod yn optimistaidd am gyfranogiad, wrth i'r ganran a bleidleisiodd gynyddu 5.2%. Ond eto, dim ond 43.4% a bleidleisiodd yn y gornestau etholaethol a 43.2% yn y rhestrau. Roedd hyn nid yn unig yn adlewyrchiad o'r apathi gwleidyddol yn y DU yn gyffredinol, ond hefyd yn arwydd bod drwgdeimlad a chryn dipyn o ddifaterwch yn bodoli tuag at wleidyddiaeth y Cynulliad yn benodol.


Arweiniodd yr etholiad at gynrychiolaeth decach. Gan ennill 43.3% o'r seddi, roedd y Blaid Lafur wedi ennill dros 10% yn fwy o seddi nag yr oedd ei chyfran o'r bleidlais yn ei awgrymu. Serch hynny, hwn oedd un o'r canlyniadau mwyaf cyfrannol ers blynyddoedd. Roedd cyfran y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru o'r seddi naill ai ychydig yn is neu ychydig yn uwch na'u cyfran o'r bleidlais. Y rhai a fu ar eu colled fwyaf oedd 'Eraill' wrth i'w pleidleisiau fethu â chael eu troi'n seddi, ac eithrio ym Mlaenau Gwent.


Er bod y gynrychiolaeth fenywaidd i lawr ychydig ers 2003, roedd 28 o'r 60 AC yn fenywod. Cafodd Mohammad Asghar ei ethol dros Blaid Cymru oddi ar restr y De-ddwyrain fel yr AC cyntaf o leiafrif ethnig. Byddai nifer yr aelodau o leiafrifoedd ethnig wedi gallu bod yn fwy o ystyried bod y Blaid Lafur wedi gweithredu polisi camwahaniaethu positif ar ei rhestrau rhanbarthol. Ond oherwydd prinder aelodau rhanbarthol Llafur, nid hynny a fu.


Esbonio'r canlyniad


Wrth fynd ati i esbonio canlyniadau'r etholiad, un nodwedd amlwg yw bod Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr wedi datblygu momentwm. Ar wahân i'w huchelgais sylfaenol o gael Senedd i Gymru, llwyddodd Plaid Cymru i greu argraff drwy addo gliniadur am ddim i bob disgybl ysgol a chymorth i bobl oedd yn prynu tŷ am y tro cyntaf. Y peth mwyaf nodedig am faniffesto'r Ceidwadwyr oedd ei naws 'Gymreig' amlwg o ran rhethreg a'i ymrwymiad i agenda bolisi oedd yn llawer agosach at agenda'r tair prif blaid arall nag mewn etholiadau blaenorol.


Llwyddodd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr i ecsbloetio gwendidau'r llywodraeth Lafur ers iddi gael ei hethol. Yn arbennig, roedd Llafur wedi cyhoeddi cynlluniau i ad-drefnu ysbytai cyn yr etholiad ac fe lwyddon nhw i ecsbloetio'r pryderon am gau ysbytai lleol mewn nifer o etholaethau.


Osgôdd Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol unrhyw sgil-effeithiau negyddol o gydweithio yn erbyn Llafur rhwng 2005 a 2007. Awgrymodd Llafur y byddai pleidleisio i unrhyw un o'r pleidiau hyn yn arwain at glymblaid dair plaid, a fyddai'n gadael i'r Ceidwadwyr ddod yn ôl i rym.


Yn ôl llawer roedd y pleidleiswyr o'r farn mai dim ond codi bwganod oedd Llafur ac nad oedd yr honiad hwn yn debygol o gael ei wireddu. Cafodd yr awgrym ei danseilio ymhellach gan ffynonellau o fewn Plaid Cymru a Llafur a awgrymai y gallai clymblaid Llafur-Plaid Cymru gael ei ffurfio ar ôl yr etholiad.


'Colled' Llafur


Mewn sawl ffordd, gellid dadlau mai Llafur 'gollodd' yr etholiad. Yn gyntaf, gellid dadlau bod Llafur wedi cael y neges gyffredinol gywir, yn pwysleisio Cymreictod Llafur ac ymrwymiad i wleidyddiaeth sosialaidd-flaengar wahanol a 'dŵr coch croyw'. Hyrwyddo aneffeithiol oedd wedi bwrw Llafur. Nid oedd eu polisïau i fynd i'r afael â thlodi plant wedi cael y pwyslais disgwyliedig. Cafodd y polisi presgripsiynau am ddim gryn sylw, ond roedd llawer yn ystyried hwn fel 'freebie' annoeth.


Byddai eraill yn dadlau bod Llafur wedi cael y neges gyffredinol yn anghywir a bod ei brandio Cymreig cryf a'i hymrwymiad rhethregol i sosialaeth wedi bod yn ymatebion strategol da i etholiad trychinebus 1999. O dan Alun Michael, roedd Llafur wedi dioddef am ymddangos fel petai o dan reolaeth Tony Blair yn ormodol. Symudodd y drafodaeth wleidyddol ymlaen, ac erbyn 2007, roedd neges Llafur yn dangos ei bod wedi gadael tir canol gwleidyddiaeth yn agored i'r pleidiau eraill ei meddiannu.


Ffactorau achosol


Pa bynnag ddamcaniaeth oedd yn iawn, doedd dim amheuaeth fod nifer o ffactorau eraill wedi peri i'r llanw droi yn erbyn Llafur. Mae pedwar ohonyn nhw'n haeddu sylw arbennig. Yn gyntaf, roedd siom a dadrithiad ar lefel y DU ynglŷn â rhan Prydain yn rhyfel Irac ac 'addewidion gwag Llafur' wedi dylanwadu ar yr etholiad hefyd. Yn ogystal, gellid dadlau nad etholiad cyffredinol go iawn mo'r etholiad hwn, ond cyfres o etholiadau lleol lle cafodd Llafur grasfa ar bob ffrynt.


Nid oedd gan Lafur yr adnoddau ariannol na gwleidyddol i ymladd cymaint o wrthwynebwyr ar gymaint o wahanol ffryntiau. At hyn, roedd ei methiant i gael unrhyw fath o reolaeth dros y cyfryngau wedi caniatáu i'r pleidiau eraill a'u cwynion fynnu sylw'r cyfryngau.


Yn olaf, roedd y canlyniad yn cadarnhau'r tueddiad bod yr etholwyr, ers y 1960au, wedi troi eu cefnau ar deyrngarwch grŵp cryf i bleidiau gwleidyddol. Mewn gwirionedd, roedd pleidlais graidd Llafur wedi bod yn chwalu'n raddol. Cafodd y tueddiad hwn ei guddio ym 1997 gan y gwrthwynebiad i'r Ceidwadwyr yng Nghymru a gweddill y DU, ond bu'n amlwg iawn ers hynny. Roedd etholiad 2007 yn fynegiad o'r ffordd mae'r bleidlais yng Nghymru wedi chwalu. Byddai'r chwalfa wedi gallu bod yn fwy pe bai'r pleidiau eraill wedi ecsbloetio gwendidau Llafur yn well.


Taro bargen


Am nad oedd gan yr un blaid fwyafrif cyffredinol, y cwestiwn mawr oedd pwy fyddai'n ffurfio llywodraeth? Cyfrifoldeb Llafur oedd cymryd y cam cyntaf ac felly aeth ati i gychwyn trafodaethau â'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Doedd Rhodri Morgan, arweinydd y Blaid Llafur, ddim yn un da am ddenu partneriaid a disgrifiodd ei ddilema o geisio taro bargen glymblaid fel dewis 'rhwng yr annymunol a'r anfwytadwy'. At hyn, roedd ymgais Llafur i awgrymu trefniadau anffurfiol amgen ar sail gweithdrefnau a ddefnyddir gan senedd Seland Newydd wedi ymddangos yn haerllug a hy am ei bod yn cymryd pŵer Llafur yn ganiataol.


Ar yr un pryd roedd gwleidyddiaeth fewnol y Democratiaid Rhyddfrydol o dan ddylanwad nifer o arweinwyr llywodraeth leol oedd wedi llwyddo i gipio rhai o'r cynghorau mawr oddi ar Lafur yn 2004 ac am ddal eu gafael arnyn nhw yn 2008. Doedden nhw ddim eisiau cysylltiad agos â Llafur yn y Cynulliad. O ran Plaid Cymru, doedd y diffyg cynnig pendant i gynnal refferendwm ar senedd i Gymru ddim wedi eu plesio.

Ar ddiwedd cam cyntaf y trafodaethau symudodd y momentwm at Blaid Cymru fel yr ail blaid fwyaf ac a fydden nhw'n gallu ffurfio clymblaid. Ar 17 Mai, penderfynodd y Democratiaid Rhyddfrydol dderbyn gwahoddiad Plaid Cymru a dirwyn eu trafodaethau â Llafur i ben.


Cytundeb Cymru Gyfan


Yn ystod ail gam y trafodaethau, gwelwyd Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr yn dod at ei gilydd i geisio cytuno ar raglen ar y cyd o'r enw Cytundeb Cymru Gyfan. Roedd y rhaglen yn ecsbloetio'r nodweddion tebyg yn eu maniffestos o ran ymrwymiadau polisi penodol. Er gwaethaf gwahaniaethau athronyddol, byddai o fudd i'r tair plaid yn wleidyddol fod mewn grym a hynny heb gysylltiad â Llafur. Bellach, edrychai'n debyg mai clymblaid enfys oedd y sail fwyaf tebygol ar gyfer ffurfio llywodraeth.


Ar 23 Mai, arweiniodd anghytuno rhwng y rhai oedd eisiau ffurfio clymblaid â Llafur a'r rhai oedd eisiau ffurfio clymblaid enfys at rwyg yng Ngweithgor Cymreig y Democratiaid Rhyddfrydol. Daethpwyd i'r casgliad na fydden nhw'n gallu argymell Cytundeb Cymru Gyfan i'w plaid. Edrychai fel pe bai'r glymblaid enfys oddi ar yr agenda felly. O ganlyniad i hynny, a'r ffaith bod y dyddiad ar gyfer ffurfio llywodraeth yn prysur agosáu, ar 25 Mai cyhoeddwyd Rhodri Morgan, arweinydd y blaid fwyaf a'r unig enwebai, yn Brif Weinidog Cymru unwaith yn rhagor.


Gan ddefnyddio rheolau eu plaid, mynnodd aelodau anfodlon y Democratiaid Rhyddfrydol gynnal cynhadledd ar 26 Mai. Yng nghanol cryn ddrwgdeimlad, pleidleisiodd yr aelodau o blaid Cytundeb Cymru Gyfan. Gyda chefnogaeth y Ceidwadwyr, roedd clymblaid enfys unwaith eto'n bosibilrwydd, er i hynny ddigwydd yn rhy hwyr i atal gweinyddiaeth Lafur leiafrifol.


Clymblaid Llafur-Plaid Cymru


Doedd y rhan fwyaf o ACau ddim yn disgwyl i weinyddiaeth leiafrifol Lafur bara. Cychwynnodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, drafodaethau ar ffurfio clymblaid rhwng tair plaid. Cafodd sefyllfa bosibl ei mapio lle byddai Plaid Cymru yn cyhoeddi ei chefnogaeth i'r Cytundeb Cymru Gyfan mewn cyfarfod o'i gyngor cenedlaethol, gan ddilyn hynny â phleidlais diffyg ffydd yn Rhodri Morgan yng nghanol mis Gorffennaf. Yna, byddai Ieuan Wyn Jones yn cael ei wneud yn Brif Weinidog Cymru a byddai'r glymblaid tair plaid yn gallu treulio'r haf yn rhoi trefn arni'i hun cyn i'r Cynulliad gwrdd eto ym mis Medi.


Roedd Llafur yn wynebu dewis o geisio ffurfio llywodraeth leiafrifol, neu roi cynnig arall ar ffurfio clymblaid. Penderfynodd Morgan ar yr ail ddewis. Ag ystyried sefyllfa’r Democratiaid Rhyddfrydol, nid oedd gan Lafur ddewis ond troi at Blaid Cymru unwaith eto. Aeth Llafur ati i ecsbloetio’r ffaith fod Plaid Cymru yn pryderu o ddifrif a fyddai clymblaid enfys yn gallu dal at ei gilydd yn sgil anawsterau mewnol y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd Llafur yn gwybod hefyd fod pump o ACau mwy sosialaidd Plaid Cymru yn gwrthwynebu ffurfio clymblaid â’r Ceidwadwyr.


Gwnaeth Morgan y penderfyniad strategol felly i gynnig refferendwm ar senedd i Gymru fel rhan o'r fargen. Serch hynny, roedd amseriad unrhyw refferendwm - a hyd yn oed a fyddai'n cael ei gynnal o gwbl - yn dal i ddibynnu ar farn y cyhoedd. I Blaid Cymru, roedd hyn yn cynnig y posibilrwydd o gyflawni ei phrif uchelgais cyfansoddiadol. Mewn clymblaid enfys, efallai y byddai Plaid Cymru wedi cael swydd y Prif Weinidog, ond heb gefnogaeth Llafur byddai'n annhebygol o allu cyflawni ei brif nod o gael newid cyfansoddiadol. Ar 12 Mehefin, cafodd y trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru eu hailddechrau, ac erbyn 27 Mehefin roedd grwpiau Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad wedi cymeradwyo rhaglen ar y cyd Cymru'n Un.


Ond doedd cael cymeradwyaeth y pleidiau ehangach ddim yn mynd i fod yn beth hawdd. Roedd y ddwy blaid yn hen elynion. O fewn y Blaid Lafur, dadl Rhodri Morgan oedd y dylai'r aelodau ystyried yr angen i barhau mewn grym uwch ben eu hymateb emosiynol i gydweithio â Phlaid Cymru. Serch hynny, roedd llawer yn gwrthwynebu ac fe wnaeth Aelodau Seneddol a phedwar Aelod Cynulliad Llafur Cymru fynegi hynny'n gyhoeddus. Er gwaethaf y gwrthwynebiad, dadl Rhodri Morgan a orchfygodd ar 6 Gorffennaf, gyda 78% o gefnogaeth y Blaid Lafur yn gyffredinol- sef 96% o gefnogaeth yr undebau llafur a phleidlais is o 61% gan yr etholaethau/pleidiau sirol/fforymau menywod.


Bu'r broses ychydig yn haws i Blaid Cymru. Roedd rhai'n parhau i wrthwynebu ac yn ffafrio'r glymblaid enfys, yn enwedig am eu bod yn teimlo bod yr etholwyr wedi pleidleisio yn erbyn Llafur yn yr etholiad ac eisiau dechrau newydd. Roedd pryderon hefyd ynghylch a fydden nhw'n cael eu twyllo gan Lafur dros y refferendwm ar Senedd i Gymru. Er hynny, mewn cyfarfod o Gyngor Cenedlaethol Plaid Cymru ar 7 Gorffennaf, pleidleisiodd 92% o'i aelodau o blaid y glymblaid â Llafur. O'r diwedd, roedd y glymblaid goch a gwyrdd wedi'i sefydlu.


Casgliad


Roedd etholiadau 2007 a'r trafodaethau clymbleidiol a ddilynodd yn cynrychioli digwyddiadau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen. Bu llawer yn sylwebu ar arwyddocâd hanesyddol yr etholiad. Y naratif fwyaf blaenllaw oedd bod newidiadau di-droi'n-ôl wedi digwydd ac y dylai Cymru bellach ddisgwyl gweld senedd â phwerau deddfu llawn ac etholiadau o dan system led-gyfrannol a fydd bob amser yn arwain at glymbleidiau. Yn wir, roedd y cenedlaetholwyr mwyaf optimistaidd yn rhagweld senedd â phwerau deddfu llawn yn arwain at dwf Plaid Cymru ar draul Llafur.


Roedd yr ail naratif yn fwy amheus o arwyddocâd y digwyddiadau hyn. Yn ymarferol, erbyn etholiadau 2007 roedd y prif bleidiau i gyd, hyd yn oed y Ceidwadwyr, wedi ymrwymo i fwy o bwerau i'r Cynulliad. Er bod y bartneriaeth Llafur-Plaid Cymru yn gosod hinsawdd wahanol, byddai pwerau ychwanegol wedi cael cefnogaeth sylweddol ar draws y pleidiau yn y Cynulliad beth bynnag. Serch hynny, roedd barn y cyhoedd yng Nghymru ar y mater yn parhau i fod yn rhanedig a doedd dim sicrwydd a fyddai'n bosibl cael y gefnogaeth i bwerau ychwanegol oedd yn angenrheidiol i gynnal refferendwm.


Hefyd, roedd goblygiadau etholiad 2007 i system bleidiol Cymru yn agored i'w hystyried. Wrth gwrs, roedd breuddwyd y cenedlaetholwyr o ddwyn pleidlais graidd y Blaid Lafur yn dal yn bosibilrwydd, ond roedd hefyd yr un mor ddilys i ystyried 2007 fel cam arall yn y broses o Lafur yn addasu i fod yn blaid y llywodraeth yn hytrach na'r wrthblaid. Yn y naratif hwn, roedd Llafur yn ymdrechu i gael mwyafrif ac yn parhau, o leiaf, fel y blaid fwyaf. Ar ôl etholiad 2007, profodd y Blaid Lafur ei gallu i fod yn bragmataidd wrth ystyried ei phartneriaid clymbleidiol gan barhau i ddefnyddio llywodraeth i ddilyn ei hamcanion polisi.


Efallai'n wir y bydd etholiad 2007 yn cael ei gofio gan haneswyr fel y sbardun a weddnewidiodd gwleidyddiaeth Cymru. Ond rydyn ni wedi gweld sawl gwawr ffug o'r blaen ac efallai mai dim ond un arall o'r rheiny yw hon - un a ragfynegodd newid gwleidyddol sylweddol serch hynny.


Atgynhyrchwyd drwy ganiatâd Phillip Allan Updates.