Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Etholiad 2010

Yr Athro Roger Scully

 

Sut bydd yn cael ei gofio?


Mae'n debyg y bydd Etholiad Cyffredinol 2010 yn cael ei gofio am ddau beth yn bennaf. Y cyntaf yw'r Dadleuon Arweinyddol. Roedd y gwrthdaro wythnosol ar y teledu rhwng Gordon Brown, David Cameron a Nick Clegg, a gynhaliwyd am y tair nos Iau cyn yr etholiad ar Fai'r 6ed, yn ddigwyddiadau digynsail mewn etholiadau Prydeinig. Llwyddodd y dadleuon hyn i ddenu cynulleidfaoedd sylweddol, ac i raddau helaeth ddominyddu cyfnod ymgyrch yr etholiad. Yr ail beth yw'r pum niwrnod yn dilyn yr etholiad: cyfnod o drafodaethau brwd rhwng y pleidiau a arweiniodd at sefydlu llywodraeth glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol, y glymblaid gyntaf i weithredu yn y Deyrnas Unedig mewn cyfnod o heddwch ers 1922.


I ddadansoddwyr gwleidyddol roedd nifer o elfennau unigryw ynglŷn ag etholiad 2010. Ond bydd yr erthygl hon yn gosod yr etholiad o fewn persbectif hanesyddol ehangach ac yn dadlau fod Etholiad Cyffredinol 2010 wedi cadarnhau a pharhau rhai tueddiadau hir dymor o fewn gwleidyddiaeth etholiadol y Deyrnas Unedig a Chymru. Golyga'r tueddiadau hyn fod etholiadau, mewn llawer o ffyrdd pwysig, yn sylfaenol wahanol i'r hyn oeddent tan yn weddol ddiweddar.


Etholiadau yn y DU: golwg draddodiadol


Am ran helaeth o'r cyfnod wedi'r rhyfel, gellir crynhoi natur etholiadau cyffredinol yn y DU i rai pwyntiau syml.


Gwleidyddiaeth dwy blaid: Yn gyntaf, ac yn fwyaf amlwg efallai, am y rhan fwyaf o'r cyfnod ers 1945, Cystadleuaeth Dwy Blaid oedd etholiadau cyffredinol. Am nifer o flynyddoedd, cymerwyd yn ganiataol gan ddadansoddwyr, gwleidyddion a llawer o'r cyhoedd mai'r gystadleuaeth rhwng y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol oedd sail etholiadau'r DU. Roedd hon yn dybiaeth weddol realistig. Ymhob etholiad cyffredinol rhwng 1945 a 1970, roedd o leiaf 85% o'r rheiny a bleidleisiodd wedi pleidleisio dros ymgeisydd Ceidwadol neu ymgeisydd Llafur. Cadarnhawyd yr oruchafiaeth hon gan y system etholiadol 'cyntaf-yn-y-ras' a ddefnyddir ar gyfer etholiadau San Steffan. Mae'r system hon yn ffafrio'n gryf bleidiau mawr, neu bleidiau â chefnogaeth ddaearyddol ddwys, ac fe sicrhaodd oruchafiaeth gyfan gwbl bron iawn i gynrychiolaeth seneddol gan y ddwy brif blaid. Yn ystod y cyfnod hwn, dywedwyd - gydag ond ychydig iawn o or-ddweud - y gallai'r holl Aelodau Seneddol Rhyddfrydol ffitio i un o dacsis Llundain!


Ymochri: Yn ail, roedd yna ymysg y pleidleiswyr duedd gref at 'ymochri pleidiol'. Hynny yw, roedd y rhan fwyaf o bobl yn 'uniaethu'n bleidiol' gydag un o'r ddwy brif blaid, doed a ddelo. Gwelent eu hunain fel cefnogwr y blaid honno a byddent yn pleidleisio drosti yn gyson dros amser hir. Roedd yr uniaethu hwn yn aml iawn yn dilyn arferion dosbarthiadau cymdeithasol. Am y rhan fwyaf o'r cyfnod wedi'r rhyfel, er gwaethaf polisïau'r llywodraeth i geisio lleihau anghydraddoldebau economaidd, parhâi'r DU yn gymdeithas wedi'i seilio ar ddosbarth gyda rhaniad clir rhwng y dosbarth canol a'r dosbarth gweithiol. Gellid gweld y rhaniad hwn yn uniongyrchol mewn gwleidyddiaeth: roedd y rhan fwyaf o bobl dosbarth canol yn uniaethu ac yn pleidleisio dros y Blaid Geidwadol; roedd y rhan fwyaf o bobl dosbarth gweithiol yn cefnogi'r Blaid Lafur. Gan fod y ddwy brif blaid felly yn cael eu cefnogi gan grwpiau sylweddol o fewn y gymdeithas, tueddai etholiadau i gael eu hennill a'u colli drwy benderfyniadau grŵp bychan o bobl a fyddai efallai yn newid eu pleidlais o etholiad i etholiad- y 'pleidleiswyr cyfnewidiol'.


Homogenedd etholiadol: Yn drydydd, roedd Prydain, yn etholiadol, yn endid homogenaidd. Ychydig iawn o wahaniaethau rhanbarthol pwysig oedd yn y modd y pleidleisiai pobl - gwahaniaethau dosbarth oedd yn bennaf yn gyfrifol am y gwahaniaeth yn llwyddiant etholiadol y pleidiau mewn gwahanol rannau o'r DU. Tueddai de Lloegr i bleidleisio'n fwy ceidwadol na gogledd Lloegr: ond roedd hynny oherwydd bod y De yn fwy cyfoethog a dosbarth canol na'r Gogledd. Am gyfnod helaeth o'r blynyddoedd wedi'r rhyfel, gellid rhagweld yn weddol fanwl ym mha ffordd y byddai ardal arbennig yn pleidleisio os oeddech yn gyfarwydd â'i phroffil dosbarth cymdeithasol. Un o'r eithriadau i hyn, fel y byddwn yn trafod yn fuan, oedd Cymru.


Goruchafiaeth Geidwadol: Elfen olaf yr olwg draddodiadol ar etholiadau'r DU oedd goruchafiaeth gymharol y Blaid Geidwadol. Am ran helaeth o'r 20G, cystadleuaeth dwy blaid a welid ym Mhrydain, ond nid oedd yn gystadleuaeth gyfartal. Yn amlach na pheidio, y Ceidwadwyr oedd yn ennill. Y Blaid Geidwadol fu'n llywodraethu'r DU, naill ai fel plaid unigol neu fel plaid ddominyddol o fewn clymblaid, am 68 mlynedd o'r ugeinfed ganrif. Roedd llawer o resymau dros yr oruchafiaeth geidwadol. Ond y pwysicaf oll oedd bod ganddynt, o'u cymharu â'r Blaid Lafur, enw da ac ymddangosiad o fod yn gymwys yn economaidd. Roedd nifer o argyfyngau economaidd mawr yr ugeinfed ganrif a arweiniodd at ddibrisio'r bunt (yn 1931, 1947, 1967, a diwedd yr 1970au) i gyd wedi digwydd yn ystod cyfnodau o lywodraeth Llafur. Hyd yn oed oes oeddent yn ei haeddu neu beidio, roedd gan y Ceidwadwyr enw da ymysg llawer o'r wlad eu bod yn well am redeg pethau, yn enwedig yr economi. Ac roedd yr enw da hwnnw yn mynd â'r Blaid Geidwadol hanner ffordd at ennill yr etholiad.


Cymru - Goruchafiaeth Llafur: Yr eithriad mawr i oruchafiaeth y Ceidwadwyr am nifer o flynyddoedd oedd Cymru. Mae'r Ceidwadwyr wedi gwneud yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr ymhob etholiad cyffredinol ers yr 1880au. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod Cymru, am y rhan helaethaf o'r cyfnod hwnnw, dipyn yn dlotach ac yn fwy dosbarth gweithiol na Lloegr. Ond hyd yn oed o ystyried y gwahaniaethau dosbarth, mae'r gefnogaeth i'r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi bod yn is o lawer. Mae'n bosib fod y gwahaniaeth hwn oherwydd canfyddiadau hir dymor ac eang ar draws Cymru mai plaid 'Seisnig' oedd y Ceidwadwyr yn ei hanfod. Yng Nghymru, y Blaid Lafur fu'r blaid ddominyddol ers etholiad cyffredinol 1945 - bob amser yn ennill mwyafrif yr ASau Cymreig ac yn aml yn ennill mwyafrif absoliwt o bleidleisiau Cymru.


Troi'r olwg draddodiadol ar ei phen


Mae'r nodweddion uchod yn disgrifio etholiadau cyffredinol y DU yn gywir am y rhan fwyaf o'r cyfnod ers y rhyfel. Ond dros y ddeng mlynedd ar hugain ddiwethaf, daeth yn gynyddol amlwg bod yn rhaid ailystyried ein dealltwriaeth o etholiadau yn y DU. Ac mae etholiad 2010 yn dangos yn glir iawn nad oes yr un o'r nodweddion a amlinellwyd uchod yn wir bellach.


Dirywiad gwleidyddiaeth dwy blaid: Yn gyntaf, daeth yn gynyddol afrealistig i edrych ar etholiadau yn y DU fel cystadleuaeth dwy blaid. Bu goruchafiaeth y ddwy blaid fwyaf yn erydu'n gyson ers yr 1970au gan gyrraedd isafbwynt newydd yn 2010 - pan dderbyniodd y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur gyda'i gilydd gefnogaeth lai na dau draean o'r rhai a bleidleisiodd. Aeth nifer o'r pleidleisiau hyn i'r blaid a adnabyddir bellach fel y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn etholiad 1951, derbyniodd eu rhagflaenwyr, y Rhyddfrydwyr, 1.9% o'r bleidlais: roedd y blaid yn ymddangos fel petaent ar eu ffordd i ddifodiant. Ond dechreuasant adfywio o'r 1960au ymlaen, ac maent wedi ennill mwy na 15% o'r bleidlais ymhob un o'r saith etholiad cyffredinol diwethaf. Petai Dadleuon Arweinyddol wedi eu cynnal mewn etholiadau yn y 1950au neu'r 1960au, mae'n sicr mai arweinyddion y Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur yn unig fyddai wedi eu cynnwys; yn 2010 nid oedd amheuaeth na ddylid hefyd gynnwys Nick Clegg.


Ond yn ogystal â thwf y Democratiaid Rhyddfrydol, gellir yn awr siarad yn realistig am wleidyddiaeth pedair plaid yn yr Alban a Chymru. Ers y 1960au, mae Plaid Genedlaethol yr Alban a Phlaid Cymru wedi tyfu'n rymoedd gwleidyddol difrifol. A ledled Prydain, mae'r ganran o bobl sy'n pleidleisio i bleidiau ar wahân i'r prif rai (pleidiau megis y Gwyrddion, Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - UKIP, y Blaid Genedlaethol Brydeinig - y BNP, ac yn y blaen) neu i ymgeiswyr annibynnol, wedi bod yn cynyddu'n araf: yn 2010 roedd un ymhob deg o'r rhai a bleidleisiodd yn cefnogi annibyniaeth neu ymgeisydd o blaid fechan. Ac er bod y system 'cyntaf-yn-y-ras' yn ei gwneud yn anodd i bleidiau llai, yn 2010 daeth Caroline Lucas, arweinydd y Gwyrddion, yn AS cyntaf un ei phlaid.


Dad-ymochri: Yn ail, rheswm pwysig arall dros ddirywiad goruchafiaeth dwy blaid yw dad-ymochri yr etholwyr. Mae llawer llai o bobl bellach yn uniaethu'n sicr â phlaid arbennig nag oedd 30 mlynedd yn ôl, ac o'r rheiny sydd yn uniaethu â phlaid arbennig, mae cryfder eu hunaniaeth yn fwy cyfyngedig. Mae yna amrywiol resymau dros hyn, ond un o'r pwysicaf yw bod yr hen ffyrdd o wahaniaethu ar sail dosbarth yn dadfeilio a dod yn fwy niwlog, a rhagfuriau'r hen ddosbarthiadau gwleidyddol, yn enwedig y prif undebau llafur diwydiannol megis Undeb Cenedlaethol y Glowyr, yn dirywio'n fawr. Mae dad-ymochri wedi golygu fod yna nifer yn fwy o bleidleisiau ar gael i'w hawlio; er gall hyn olygu hefyd fod pobl yn penderfynu peidio pleidleisio o gwbl os nad oes unrhyw blaid wedi creu argraff arnyn nhw. Mae hyn yn gymorth i esbonio'r ffaith y gwelwyd y nifer isaf o bleidleisiau mewn unrhyw etholiad cyffredinol ers 1918 yn y tri etholiad cyffredinol diwethaf yn y DU.


Heterogenedd etholiadol cynyddol:
Yn drydydd, bu yna heterogenedd cynyddol mewn patrymau pleidleisio Prydeinig. Mae cenhedloedd cyfansoddol Prydain wedi gwahaniaethau'n gynyddol yn y modd y pleidleisiant. Dangoswyd hyn yn glir iawn yn 2010. Tra collodd y Blaid Lafur nifer sylweddol o bleidleisiau a seddi seneddol yn Lloegr, gwelodd fwy o gefnogaeth yn yr Alban ! Golyga twf Plaid Genedlaethol yr Alban a Phlaid Cymru fod gan bleidleiswyr yn y gwledydd hynny ddewisiadau gwahanol i'r rhai a gynigir i'r rhan fwyaf o bleidleiswyr yn Lloegr, a gwelir yn gynyddol eu bod yn dewis yn wahanol. Bu'r Ceidwadwyr yn dirywio'n gyson dros y deugain mlynedd diwethaf yn yr Alban, i raddau ymhell y tu hwnt i unrhyw anawsterau y cawsant yn Lloegr, Yn 2010, enillodd y Ceidwadwyr yn Lloegr fwy o seddi a phleidleisiau nag unrhyw blaid arall: daeth y Ceidwadwyr yn yr Alban yn bedwerydd (fel y gwnaethant ymhob un o'r tri etholiad cyffredinol diwethaf).


Ond hyd yn oed ar lefel mwy lleol, mae map cystadleuaeth etholiadol Prydain dipyn yn fwy cymhleth nag y bu. Er enghraifft, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cryfhau mewn rhannau gwledig o Dde Orllewin Lloegr a gogledd yr Alban; mae ganddynt hefyd ambell ardal arall o gefnogaeth. Ond parhau yn wan y maen nhw mewn ardaloedd eraill. A gellir dweud yr un math o beth am bleidiau eraill. Nid yw bellach yn wir fod y rhan fwyaf o etholaethau'n gweld brwydr glir rhwng y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur. Wrth i deyrngarwch etholwyr i wahanol bleidiau ddod yn llai awtomatig, daeth trefniadaeth y pleidiau mewn ardaloedd penodol yn bwysicach ac mae hyn wedi esgor ar wahaniaethu cynyddol mewn patrymau pleidleisio a thirlun cystadleuaeth wleidyddol. (I ddarlunio hyn, mae awdur yr erthygl hon yn bwy mewn etholaeth lle'r oedd etholiad 2010 yn frwydr rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, gyda'r Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol ymhell y tu ôl. Roedd y sedd i'r gogledd ddwyrain iddi yn frwydr rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr, a'r etholaeth i'r de ddwyrain yn frwydr rhwng Plaid Cymru a Llafur. Tair etholaeth wledig Gymreig: tri phatrwm gwahanol iawn o gystadleuaeth etholiadol.)


Diwedd goruchafiaeth Geidwadol: Yn bedwerydd, mae yna reswm i gredu fod goruchafiaeth tymor hir y Ceidwadwyr dros wleidyddiaeth Prydain, os nad wedi dod i ben, yn sicr wedi ei erydu'n sylweddol. Peidied neb â chamddeall y datganiad hwn. Mae'r Blaid Geidwadol yn amlwg yn parhau'n blaid bwysig o fewn gwleidyddiaeth Prydain: ar hyn o bryd dyma'r blaid fwyaf yn y Senedd a hwy sy'n arwain llywodraeth y DU. Ond gadewch i ni ystyried eu record etholiadol yn y cyfnod diweddar. Collodd y Ceidwadwyr etholiadau cyffredinol 1997, 2001 a 2005. Erbyn 2010, ymddangosai fod y blaid wedi'i hadnewyddu yn sylweddol. Roedd ei harweinydd newydd, David Cameron, yn boblogaidd yn y wlad ac wedi ennill llawer o gefnogaeth gan lawer o'r cyfryngau newyddion cenedlaethol am ei strategaeth i wneud y Ceidwadwyr yn blaid fwy cymedrol. Roedd y Torïaid yn ymladd yn erbyn Plaid Lafur luddedig iawn wedi tair blynedd ar ddeg mewn llywodraeth, plaid ag iddi arweinydd amhoblogaidd dros ben, a record economaidd wan iawn i'w hamddiffyn. Roedd gan y Ceidwadwyr hefyd lawer mwy o arian na'u gwrthwynebwyr i'w wario ar ymgyrch etholiadol. Eto, mewn amgylchiadau oedd mor ffafriol, ni allai'r Ceidwadwyr ond ennill 36.1% o'r bleidlais, ac ni chawsant fwyafrif o ASau yn y senedd.


Beth sy'n esbonio dirywiad goruchafiaeth y Blaid Geidwadol? Ymddengys dau ffactor amlwg. Digwyddiad unigol yw'r cyntaf: y Dydd Mercher Du ('Black Wednesday') fis Medi 1992, pan fu i'r llywodraeth Geidwadol, yn sgil dirwasgiad economaidd difrifol, arwain ar gwymp y Bunt. Dinistriodd hyn lawer o fri'r Ceidwadwyr am eu gallu economaidd. A hwythau yn awr yn ôl mewn llywodraeth, bydd yn rhaid i'r blaid geisio ailadeiladu'r enw da hwn yn araf. Ffactor mwy cyffredinol yw'r llall - arweinyddiaeth. Dewisodd y Ceidwadwyr gyfres o arweinwyr gwan - John Major, William Hague ac Iain Duncan Smith - ac nid oedd yr un o'r rhain yn gallu cystadlu'n effeithiol gyda Tony Blair. Yn y diwedd daeth y blaid, yn David Cameron, o hyd i rywun allai apelio at lawer o'r etholwyr, ac awgryma arolygon barn a wnaed yn ystod etholiad 2010 fod Cameron dipyn yn fwy poblogaidd na'i blaid. Mae gan y Ceidwadwyr ffordd bell i fynd cyn ailsefydlu eu hunain fel 'plaid naturiol llywodraeth' i nifer fawr o bleidleiswyr.


Cymru: diwedd Hegemoni Llafur? Fel y soniwyd ynghynt, Llafur yw'r blaid ddominyddol yng Nghymru ers tro byd. Ond ers buddugoliaeth fawr Llafur yn etholiad cyffredinol 1997, gwelodd y blaid ei chyfran o'r bleidlais yn syrthio mwy yng Nghymru nag yng ngweddill Prydain ( Gweler Tabl 2). Oherwydd system' y cyntaf-yn-y-ras', llwyddodd Llafur i barhau i gael y mwyafrif o ASau Cymraeg, ond mewn nifer o seddi, trwch blewyn oedd ynddi. Collodd Llafur dir sylweddol mewn etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd cyn 2010 tra yn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2007 ac etholiad Senedd Ewrop yn 2009, cwympodd cefnogaeth Llafur i lefel is nag y gwelwyd yng Nghymru unrhyw dro ers 1918. Yn y blynyddoedd nesaf yma, efallai y bydd gwrthwynebu llywodraeth sy'n cael eu harwain gan y Blaid Geidwadol yn Llundain yn gymorth i'r Blaid Lafur adnewyddu ei rhagfuriau Cymraeg. Ond mae'n sicr yn wir i ddweud fod gwleidyddiaeth bleidiol yng Nghymru yn y cyfnod diweddar wedi edrych dipyn yn llai o oruchafiaeth un blaid nag y bu'n hanesyddol, ac yn fwy o gystadleuaeth amlbleidiol.


Casgliad


Roedd llawer am y modd y portreadwyd Etholiad Cyffredinol 2010 yn y cyfryngau newyddion, yn enwedig goruchafiaeth y Dadleuon Arweinyddol, yn hollol newydd. Felly hefyd y math o ganlyniad a gynhyrchwyd ganddo - llywodraeth glymblaid. Eto, mewn ffyrdd eraill, mae 2010 yn gweddu'n fwy cyfforddus gyda'r darlun hanesyddol o newidiadau graddol dros y gyfres o etholiadau diweddar. Ni ddylem fodd bynnag danbrisio mawredd y newidiadau hynny. Yn dawel a chan bwyll, maent wedi trawsnewid natur gwleidyddiaeth etholiadol ym Mhrydain, ac yng Nghymru.


Tabl 1: Canlyniadau Etholiad 2010 (newid ers 2005)


  Lloegr Yr Alban Cymru DU (yn cynnwys Gogledd Iwerddon)
  % o'r Bleidlais Seddi % o'r Bleidlais Seddi % o'r Bleidlais Seddi % o'r Bleidlais Seddi
Ceidwadwyr 39.6 (+3.9) 298 (+92) 16.7 (+0.9) 1 26.1 (+4.7) 8 (+5) 36.1 (+3.8) 307 (+97)
Llafur 28.1 (-7.4) 191 (-87) 42.0 (+2.5) 41 36.2 (-6.5) 26 (-4) 29.0 (-6.2) 258 (-91)
Democratiaid Rhyddfrydol 24.2 (+1.3) 43 (-4) 18.9 (-3.7) 11 20.1 (+1.7) 3 (-1) 23.0 (+1.0) 57 (-5)
SNP/Plaid Cymru - - 19.9 (+2.3) 6 11.3 (-1.3) 3 (+1) 2.3 9 (+1)
Eraill 8.1 (+2.2) 1 2.5 (-2.0) 0 6.3 (+1.4) 0 (-1) 9.6 (+1.4) 19 (-2)

Tabl 2: Cyfran y blaid Lafur o’r bleidlais, etholiadau cyffredinol 1997 a 2010


  Lloegr Yr Alban Cymru
1997 43.5% 45.6% 54.7%
2010 28.1% 42.0% 36.2%
% newid -15.4% -3.6% -18.5%