Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Falens ac Anwadalwchl

A yw pleidleiswyr yn dewis plaid oherwydd arweinydd y blaid honno, oherwydd eu hymlyniad i'r blaid neu oherwydd polisïau penodol y blaid, polisïau sy'n anelu at les cymdeithas? Mae David Denver yn edrych ar ganlyniadau arolygon barn i weld sut mae pleidleiswyr yn gwneud eu dewisiadau pleidiol.


Mae etholiadau lleol ac isetholiadau seneddol yn parhau i ddenu diddordeb sylweddol o du'r wasg ac yn parhau i ddenu sylw'r etholwyr. Gwelwyd hyn ym Mai 2008 pan lwyddodd y Ceidwadwyr i gipio etholaeth Crewe a Nantwich oddi wrth Lafur gyda gogwydd o 17.6%. Llwyddodd Boris Johnson i guro Ken Livingston er mwyn bod yn faer Llundain, ac enillodd y Ceidwadwyr ar Lafur o 44% i 24% mewn etholiadau lleol y tu allan i Lundain.


Tueddiadau arolygon barn


Ond er mor bwysig oedd y digwyddiadau hyn, roeddent yn benodol iawn o ran amser a lleoliad. I'r rheiny sydd â gwir ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a hanes y pleidiau, mae'r arolygon barn misol yn cynnig darlun mwy cyson a dibynadwy o'r gefnogaeth i'r pleidiau ar hyd a lled y wlad gyfan. Yn Ffigwr 1 gwelir y tueddiadau o ran cefnogaeth rhwng etholiad cyffredinol 2005 a Mehefin 2008, a chaiff y rhain eu seilio ar gyfartaledd y ffigyrau misol o fwriadau pleidleisio pob arolwg barn cyhoeddedig. Mae'r ffigwr yn adrodd stori hynod ddifyr. Wedi'r etholiad cyffredinol, cafodd Llafur dipyn o hwb tymor byr yn y polau. Mae cefnogaeth i'r blaid sy'n ennill etholiad cyffredinol fel arfer yn cynyddu'n syth wedi'r etholiad. Yn wir, mae'r patrwm hwn mor sefydledig bellach fel y disgrifir y cyfnod fel y 'mis mêl etholiadol'.


O fewn ychydig fisoedd, gwelwyd cefnogaeth i Lafur yn dechrau disgyn, a pharhaodd y dirywiad hwnnw fwy neu lai'n gyson am bron i ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, ym mis Rhagfyr 2005, daeth David Cameron yn arweinydd y Blaid Geidwadol. Yn fuan wedyn, am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith, enillodd y Ceidwadwyr y blaen yn glir ac yn gyson ar Lafur o ran bwriadau pleidleisio.


Ym Mehefin 2007 fodd bynnag, newidiodd pethau. Daeth Gordon Brown yn Brif Weinidog a chododd poblogrwydd Llafur i'r entrychion, ond byrhoedlog fu'r poblogrwydd hwn. Erbyn misoedd olaf 2007 ciliodd y gefnogaeth, a gwaethygodd pethau eto yn 2008. Yn dilyn y gyllideb ym mis Mawrth na chafodd dderbyniad gwresog a'r etholiadau trychinebus a soniwyd amdanynt uchod, syrthiodd y gefnogaeth i'r llywodraeth yn sydyn iawn, ac aeth Ceidwadwyr Cameron ymhell ar y blaen.


Mae'r tueddiadau o ran y Democratiaid Rhyddfrydol ac 'eraill' yn ddiddorol hefyd. Syrthiodd poblogrwydd y cyntaf yn gyflym wedi etholiad 2005 (fel sy'n arfer digwydd wedi etholiadau), simsanodd wedyn am ychydig cyn syrthio ymhellach yn ystod 2007. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, daeth Nick Clegg yn arweinydd y blaid yn lle Menzies Campbell a gwellodd pethau ryw ychydig (ond gyda llai o gefnogaeth nag yn ystod yr etholiad blaenorol). Am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn, roedd tua 10% o fwriadau pleidleisio yn mynd i'r 'eraill' (yn cynnwys Plaid Genedlaethol yr Alban - yr SNP, Plaid Cymru, y Blaid Werdd, Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - UKIP, a'r Blaid Genedlaethol Brydeinig - y BNP). Ddeng mlynedd cyn hyn, ni fyddid wedi gallu dychmygu lefel gyson fel hyn o gefnogaeth.


Anwadalwch etholwyr


Er bod lefel y gefnogaeth i'r 'eraill' yn anghyffredin, nid oes dim byd arbennig o newydd ynglŷn ag anwadalwch pleidleiswyr rhwng etholiadau. Yn wir, dros y blynyddoedd, daeth sylwebwyr i ddisgwyl rhyw gylchred cyson rhwng etholiadau, lle mae'r blaid lywodraethol yn colli llawer o gefnogaeth cyn ei ail-ennill wrth i'r etholiad nesaf agosáu. Gall arbenigwyr mewn 'pleidleisio economaidd' gysylltu'r newidiadau mewn cefnogaeth i'r pleidiau â pherfformiad yr economi neu ddisgwyliadau'r pleidleiswyr am yr economi.


Ers 1992 fodd bynnag, nid yw'r cylchredau o boblogrwydd yn cydymffurfio â'r disgwyliadau. Wrth nesáu at etholiad 1997, ni welwyd unrhyw ymchwydd yng nghefnogaeth y Ceidwadwyr oedd mewn llywodraeth, er bod yr economi'n gwella. Rhwng 1997 a 2001, ni chollodd Llafur y blaen ar y Ceidwadwyr un waith o ran y cyfartaledd misol. Wedi etholiad 2001, syrthiodd y gefnogaeth i Lafur rhyw ychydig, ac ni welwyd llawer o welliant cyn etholiad 2005. Yn yr achosion hyn i gyd, cysylltiad gwan iawn oedd rhwng y perfformiad economaidd ac optimistiaeth economaidd y pleidleiswyr â'r patrymau o gefnogaeth i'r pleidiau.


Mae'n amlwg fod tueddiadau anwadal rhyng-etholiadol yn taflu amheuaeth ar yr esboniad clasurol a gynigwyd yn yr 1960au gan David Butler a Donald Stokes (Butler and Stokes 1974) ar ddewis pleidiol. Eu dadl hwy oedd fod dewis pleidiol i raddau helaeth wedi'i seilio ar hunaniaeth dosbarth a phlaid. Roedd y rhan fwyaf o'r dosbarth gweithiol yn pleidleisio i'r Blaid Lafur a'r rhan fwyaf o bobl dosbarth canol yn pleidleisio i'r Ceidwadwyr. Atgyfnerthwyd y dybiaeth hon gan y ffaith fod y rhan fwyaf yn ystyried eu hunain fel cefnogwyr plaid, gyda dros 40% o'r etholwyr yn eu disgrifio eu hunain fel cefnogwyr plaid cadarn iawn. Mae'r pwyslais yn yr esboniad hwn ar sefydlogrwydd - y rhan fwyaf o bobl yn pleidleisio i'r un blaid bob amser - yn hytrach na chyfnewidioldeb. Byddai newid etholiadol yn araf a graddol.


Gwleidyddiaeth falens


Os yw model Butler a Stokes bellach yn annigonol, sut y gallwn esbonio dewis pleidiol ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain? Yr ateb syml yw 'gwleidyddiaeth falens' (Clarke et al, 2004) - ond efallai nad yw'r ystyr yn amlwg ar unwaith ac mae angen ychydig o esboniad. Yn eu gwaith cynharaf, wrth iddynt drafod effaith barn pleidleiswyr ar bynciau wrth iddynt ddewis plaid, gwahaniaethodd Butler a Stokes rhwng materion 'safiad' a materion 'falens'. Materion safiad yw'r rheiny lle mae pobl yn cymryd safiad neu ochr (o blaid neu yn erbyn perchnogaeth gyhoeddus o ddiwydiannau er enghraifft). Materion falens ar y llaw arall yw'r rheiny lle mae bron pawb yn cytuno ar yr egwyddor (yn erbyn trosedd neu o blaid economi gref, er enghraifft ). Gellir dadlau fod gwleidyddiaeth yn gynyddol yn ymwneud â materion falens - mae'r gwahaniaeth rhwng pleidiau ar faterion safiad yn fychan iawn bellach. Felly, i bleidleiswyr sy'n ceisio penderfynu pa blaid i'w chefnogi, nid holi y maent pa blaid sy'n cymryd safiad dros bolisïau neu ideolegau penodol ond pa blaid sydd fwyaf abl i gyflawni'r amcanion y mae'r mwyafrif yn cytuno â hwy (megis lleihau trosedd, chwyddiant isel, gwasanaeth iechyd effeithiol). Nid yw gwneud penderfyniadau fel hyn yn hawdd a rhaid ceisio casglu gwybodaeth am yr hyn y gwnâi neu y gwnaeth gwahanol bleidiau mewn meysydd polisi amrywiol. Mae pleidleiswyr felly yn tueddu i gymryd llwybr haws. Gwneud penderfyniadau am arweinwyr y pleidiau y maent. Tasg symlach o lawer. Nid oes rhaid gwybod llawer am bolisïau neu wleidyddiaeth i benderfynu pa arweinydd sydd orau gennym o'u gweld yn ddigon aml ar y teledu. Gallwn ni i gyd ffurfio barn am bobl heb o anghenraid wybod llawer amdanynt.


Arweinwyr y pleidiau


Yr allwedd i boblogrwydd pleidiol erbyn hyn felly yw poblogrwydd yr arweinwyr. Mae'n werth nodi fod y fformwleiddiad yma'n hollol i'r gwrthwyneb i'r hyn a awgrymwyd gan fodel Butler-Stokes. Yn y gorffennol, roedd hunaniaeth bleidiol yn creu barn am arweinwyr. Roedd cefnogwyr Llafur yn cynhesu at arweinwyr Llafur ac yn cymryd yn erbyn arweinwyr y Blaid Geidwadol, ac i'r gwrthwyneb gyda chefnogwyr Torïaidd. Gan fod hunaniaeth bleidiol bellach wedi gwanhau, ymddengys fod barn pobl am yr arweinwyr yn dylanwadu'n gryf ar eu dewis o blaid. Ac yn wahanol i bleidleisio ar sail hunaniaeth dosbarth neu hunaniaeth a etifeddwyd gan y teulu, mae barn am arweinwyr yn dueddol i newid yn aml. Am gyfnod hir ystyriai'r pleidleiswyr fod y Prif Weinidog Thatcher yn benderfynol a di-wyro. Wrth iddi golli poblogrwydd, fe'i gwelid yn 'ystyfnig' ac 'anhyblyg'. Yn wreiddiol, ystyrid Tony Blair yn arweinydd didwyll a dibynadwy, ond erbyn diwedd ei gyfnod fel Prif Weinidog, credai mwyafrif mawr yr etholwyr ei fod wedi colli cysylltiad â'r bobl gyffredin ac na ellid ymddiried ynddo. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad felly i mi, wrth gyfeirio at dueddiadau cefnogaeth bleidiol o 2005 ymlaen, gyfeirio at y newidiadau ar frig y pleidiau. Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol wared ar Menzies Campbell oherwydd fod y blaid yn dioddef yn y polau. Ymddangosai fod ethol Nick Clegg wedi bod yn gyfrifol am welliant bychan ar y dechrau. Ni lwyddodd rhagflaenwyr David Cameron -Michael Howard, a chyn hynny Iain Duncan Smith - i wneud fawr o argraff ar yr etholwyr. Mae Cameron wedi bod yn fwy llwyddiannus ac o dan ei arweiniad mae'r Ceidwadwyr wedi derbyn ymateb ychydig yn well yn y polau. Pan ddaeth Gordon Brown yn Brif Weinidog, gwelwyd gwahaniaeth yn ffawd y Blaid Lafur ar unwaith.


Brown yn erbyn Cameron


Mae Ffigwr 2 yn dangos fod y lefel o gefnogaeth i'r prif bleidiau wedi ei gysylltu'n agos iawn â'r gwerthusiad o'u harweinwyr. Mae'n dangos y Blaid Lafur ar y blaen (er yn negyddol y rhan fwyaf o'r amser) i'r Ceidwadwyr o ran bwriadau pleidleisio o Fawrth 2006 ymlaen, ac yn dangos fod Blair a Brown hefyd ar y blaen i Cameron wrth ystyried y person gorau ar gyfer swydd y prif weinidog. (Yn anffodus nid oes ffigyrau ar gyfer y prif weinidog gorau rhwng Hydref a Rhagfyr 2007 gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd yn dewis arweinydd newydd.)


Am y rhan fwyaf o'r cyfnod roedd y prif weinidog yn fwy poblogaidd na'i blaid ac roedd hyn yn arbennig o wir am Gordon Brown yn ystod haf 2007. Yng ngwanwyn a haf cynnar 2008, fodd bynnag, roedd Brown hyd yn oed yn llai poblogaidd na'i blaid. Yn fwy cyffredinol, mae'n syndod mor agos mae'r ddwy linell o dueddiadau yn dilyn ei gilydd. Mae'r blaid y mae pobl am bleidleisio drosti wedi'i chysylltu'n agos â barn yr etholwyr am ba arweinydd fyddai'n gwneud y prif weinidog gorau.


Gellir gweld patrymau tebyg os edrychwn ar arweinwyr y pleidiau'n unigol. Er enghraifft, mae Ffigwr 3 yn dangos pa mor fodlon mae pobl ar waith arweinydd yr wrthblaid o'i gymharu â chyfran y Ceidwadwyr o'r bwriadau pleidleisio. Gwelwyd y bodlonrwydd yn neidio i fyny pan etholwyd Cameron yn lle Howard , a chynyddodd cefnogaeth y Ceidwadwyr hefyd er ddim cymaint. Yn gyffredinol mae barn pobl am Cameron lawer yn fwy cyfnewidiol na'r gefnogaeth i'r blaid. Cafodd Cameron gyfnod anodd iawn ddiwedd haf a hydref 2007 wedi iddo dderbyn llawer o gyhoeddusrwydd negyddol am fynd ar ymweliad tramor pan oedd llifogydd difrifol yn effeithio ar rannau o Brydain. Er hynny, ymddengys fod cysylltiad y blaid a gwerthusiad y cyhoedd o'r arweinwyr yn gadarn iawn. Nid yw'r ffaith fod y llinell sy'n mesur y gefnogaeth i'r blaid a'r llinell sy'n mesur yr ymateb i'r arweinwyr yn y ddau graff yn mynd lan a lawr gyda'i gilydd yn brawf fod y naill (penderfyniad ynglŷn â phwy fyddai'r prif weinidog gorau neu fodlonrwydd gyda David Cameron) yn achosi'r llall (penderfyniad ynglŷn â pha blaid i'w chefnogi). Mae'r ddau fater wedi eu cysylltu'n agos - wrth bleidleisio am blaid benodol mae pobl mewn gwirionedd yn pleidleisio dros berson i fod yn brif weinidog - ond mae'n bosibl fod y ddau benderfyniad yn cael eu hachosi gan rywbeth arall, megis yr economi. Yn ogystal, dim ond cyfanswm yr ymatebion i'r cwestiynau perthnasol sy'n cael eu dangos yn y ffigyrau; nid yw'n dweud dim am y modd mae pleidleiswyr unigol yn penderfynu ar blaid mewn perthynas â'u barn am yr arweinwyr.


Ond mae digon o dystiolaeth yn y llenyddiaeth arbenigol ar astudiaethau etholiadol mai dyma sy'n digwydd ymhlith etholwyr Prydain heddiw (Denver 2007).


Casgliadau


Yr hyn sydd wedi ei gyflwyno yma yw disgrifiad syml o wleidyddiaeth falens. Rhaid pwysleisio nad dyma'r stori gyfan o ran deall pleidleisio ac etholiadau ym Mhrydain. Ceir o hyd nifer fawr o bleidleiswyr sy'n uniaethu â phleidiau ac yn cefnogi'r blaid honno drwy ddŵr a thân. Mae yna hefyd rai pleidleiswyr sydd wedi penderfynu ar eu safbwynt ar brif bolisïau (neu bolisïau llai pwysig) ac yn gwneud eu penderfyniadau mewn etholiadau ar sail hynny. Mae'n bosib fod yna rai pleidleiswyr sy'n parhau i feddwl am wleidyddiaeth fel gwrthdaro dosbarth. Fodd bynnag mae'n weddol sicr fod gwerthusiad o arweinwyr y pleidiau, neu ymateb iddynt, bellach yn gynyddol bwysig i bleidleiswyr wrth benderfynu ar ba blaid fydd yn cael eu pleidlais mewn etholiad. Mae'r elfen hon wedi ei chryfhau wrth ddefnyddio'r teledu fel prif ffordd o gyfathrebu'n wleidyddol a phwyslais cyson y cyfryngau ar arweinwyr y pleidiau. Mae hyn yn gwneud bywyd yn galed i'r arweinwyr. Mae'r cyfrifoldeb am daith y pleidiau'n disgyn fwyfwy ar eu hysgwyddau, ac erbyn heddiw, y gosb am fethu yw gorfod symud o'r ffordd. Canlyniad arall yw bod y pleidiau, wrth ddewis arweinydd, yn ystyried apêl yr ymgeiswyr i'r etholwyr yn hytrach na dewis ar sail ideoleg, statws o fewn y blaid, neu allu o ran hynny. A ydy hyn yn ddatblygiad i'w groesawu neu beidio sy'n bwnc trafod pellach.


Mae David Denver yn Athro Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerhirfryn


Atgynhyrchwyd drwy ganiatâd Phillip Allan Updates.