Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Systemau Aml-blaid Prydain

Philip Lynch


Honnir yn aml mai ‘system ddwy blaid’ sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig, ond nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi’r ddamcaniaeth hon mwyach. Drwy edrych o’r newydd ar y sefyllfa, gwelir bod amryw o systemau plaid ar waith yn y DU, y mwyafrif, os nad y cwbl, yn systemau aml-blaid.

 

Clafychu fu hanes system ddwy blaid Prydain, ond erys amharodrwydd i lofnodi ei thystysgrif marwolaeth. Bu cefnogaeth i’r ddwy brif blaid, y Ceidwadwyr a Llafur, ar drai ers dros 30 mlynedd. Cwympodd y gefnogaeth hon i 67% o’r bleidlais yn etholiad cyffredinol 2005, y cyfrif isaf ers 1918. Sicrhaodd y Democratiaid Rhyddfrydol y nifer uchaf o seddi i gael ei hennill gan drydydd parti ers 1923 a gyda’i gilydd, denodd y pleidiau llai dros 10% o’r bleidlais. Serch hynny, mae’r system etholiadol o fwyafrif syml (cyntaf-yn-y-ras) fel peiriant cynnal bywyd i Lafur a’r Ceidwadwyr, gan gynnig iddynt rywfaint o amddiffyniad rhag gwleidyddiaeth aml-blaid. Fodd bynnag, y tu hwnt i San Steffan, mae gwleidyddiaeth aml-blaid yn ffynnu.


Y system ddwy blaid


Yn y cyfnod 1945-70, cafwyd yn y DU enghraifft glasurol o’r system ddwy blaid. Enillodd y Ceidwadwyr a Llafur fwyafrifoedd clir yn yr etholiadau cyffredinol gan sicrhau bron bob sedd yn Nhŷ’r Cyffredin. Rhyngddynt, derbyniodd y ddwy blaid 91% o’r bleidlais yn yr wyth etholiad cyffredinol a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwn, gan sicrhau 98% o’r seddi. Rhannwyd y bleidlais boblogaidd yn agos rhyngddynt, roedd gan y ddwy blaid gefnogaeth ym mhob cwr o’r wlad, a bu’r ddwy blaid mewn grym am gyfnodau cyfatebol.


Amlygwyd y system ddwy blaid gan nifer o ffactorau. Roedd y system etholiadol o fwyafrif syml yn ffafrio’r Ceidwadwyr a Llafur ar draul y pleidiau llai. Gwelwyd ymochri cryf i’r pleidiau: pleidleisiai mwyafrif yr etholwyr i’r blaid a gynrychiolai eu diddordebau cymdeithasol - y dosbarth gweithiol i Lafur, a’r dosbarth canol i’r Ceidwadwyr - gyda chanran uchel yn dangos ymlyniad cadarnhaol i’w plaid ‘hwy’. Yn ogystal, cynhaliwyd y gystadleuaeth bleidiol ar y tir canol, lle roedd mwyafrif yr etholwyr, a hynny mewn oes o gonsensws ideolegol.


Nid yw cyfnodau o newid yn system bleidiol Prydain yn anghyffredin. Rhwng y ddau Ryfel Byd, er enghraifft, goddiweddodd Llafur y Rhyddfrydwyr, a bu llywodraethau clymbleidiol mewn grym. Yn ogystal, daeth darlun mwy cymhleth i’r amlwg ers 1970. Dadfeilio fu hanes y bleidlais ddosbarth gyda llai a llai o’r etholwyr yn dangos ymlyniad cryf i un blaid arbennig. Hefyd, ymddangosodd llu o ffactorau newydd - cenedlaetholdeb is-wladwriaeth, integreiddio Ewropeaidd a mewnfudo - materion nad ydynt yn rhan o’r patrwm cystadlu traddodiadol rhwng pleidiau’r dde a’r chwith. Yn y naw etholiad cyffredinol a gynhaliwyd rhwng 1974 a 2005, cwympodd cyfran gymedrig pleidlais y Ceidwadwyr a Llafur i 74%. Cododd y gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol i 19%, tra cododd y gefnogaeth i’r ‘eraill’ i 7%.


 

 

Tabl 1 Nifer effeithiol y pleidiau yn etholiadau cyffredinol y DU, 1974-2005
Blwyddyn % Pleidlais Ceid. Seddi Ceid. % Pleidlais Llafur Seddi Llafur % Pleidlais Rhydd. Seddi Rhydd. % Pleidlais eraill Seddi eraill NEPE NEPS
1974(Chwef) 37.9 297 37.2 301 19.3 14 5.6 23 3.13 2.25
1974 (Hyd) 35.8 277 39.2 319 18.3 13 6.7 26 3.17 2.26
1979 43.9 339 36.9 269 13.8 11 5.4 16 2.87 2.15
1983 42.4 397 27.6 209 25.4 23 4.6 21 3.12 2.09
1987 42.3 376 30.8 229 22.5 22 4.4 23 3.08 2.18
1992 41.8 336 34.2 271 17.9 20 6.1 24 3.09 2.27
1997 30.7 165 43.4 419 16.8 46 9.3 29 3.21 2.15
2001 31.7 166 40.7 413 18.3 52 9.3 28 3.33 2.19
2005 32.2 197 35.2 355 22.0 62 10.5 32 3.61 2.51
                     
Cyfartaledd 1974-2005 37.6 283 36.1 309 19.4 29 6.9 25 3.18 2.23

Nodiadau: NEPE = Nifer effeithiol y pleidiau etholiadol; NEPS = Nifer effeithiol y pleidiau seneddol (San Steffan). Mae Rhyddfrydwyr yn cynnwys SDP/Liberal Alliance (1983-87) a’r Democratiaid Rhyddfrydol (1992- ). Cynhwysir ASau Gogledd Iwerddon yn ‘Eraill’. I ganfod y NEPE/NEPS, cyfrifwch bleidlais ddegol (neu seddi) yr holl bleidiau, sgwariwch hwy cyn eu hadio at ei gilydd. Yna rhannwch 1 gyda rhif eich ateb.

 

Nifer y pleidiau


Pan ymunodd yr AS Bob Spink â phlaid UKIP yn 2008, cynyddodd nifer y pleidiau a gynrychiolwyd yn Nhŷ’r Cyffredin i 11. Cynrychiolai chwech AS arall bleidiau annibynnol, er i bedwar ohonynt gael eu hethol fel ASau Ceidwadol neu Lafur. Yn yr etholiad hwnnw, gwelwyd 47 plaid yn ymgiprys am fwy nag un sedd, a 67 arall yn cynnig ymgeisydd mewn etholaeth unigol (Webb 2005). Cofrestrodd y Comisiwn Etholiadol 353 ‘plaid’ ym Mhrydain Fawr (a 56 yng Ngogledd Iwerddon), ond oherwydd eu diffyg trefniadaeth ddatblygedig, eu polisïau cyfyng a’u hannhebygolrwydd o ennill grym, dim ond rhai ohonynt y dylid eu hystyried yn ‘blaid’ mewn gwirionedd.


Mae ‘nifer effeithiol y pleidiau’ yn fesur mwy soffistigedig gan ei fod yn fodd i adlewyrchu nifer y pleidiau mewn cyfundrefn yn ogystal â’u pwysigrwydd cymharol. Lle ceir dwy brif blaid yn denu pleidlais gyfartal, mae nifer effeithiol y pleidiau etholiadol yn 2.0. Yn yr etholiadau cyffredinol rhwng 1945 a 1970, roedd cyfartaledd nifer effeithiol y pleidiau yn 2.39, ond cododd i 3.18 am y cyfnod 1974-2005 (gw. Tabl 1). Roedd cyfartaledd ‘nifer effeithiol y pleidiau seneddol’ (h.y. y rhai a gynrychiolir yn Nhŷ’r Cyffredin) yn 2.04 am y cyfnod 1945-70, ac yn 2.23 rhwng 1974 a 2005. Cadarnhawyd dadfeiliad y system ddwy blaid, ac felly hefyd yr amddiffyniad a roddai’r system etholiadol o fwyafrif syml i’r prif bleidiau.

 


 

Tabl 2 Nifer effeithiol y pleidiau yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, 2005 a 2007
Blwyddyn Etholiad NEPE NEPS
Yr Alban      
2005 San Steffan 3.82 1.98
2007 Senedd yr Alban 4.62 3.36
       
Cymru      
2005 San Steffan 3.85 1.82
2007 Cynulliad 4.85 3.33
       
Gogledd Iwerddon      
2005 San Steffan 3.94 2.79
2007 Cynulliad 4.79 4.30
 

 

Mathau o systemau plaid


 

Beth, os o gwbl, sydd wedi cymryd lle’r system ddwy blaid? Awgrymwyd tri phrif bosibiliad: system ddwy blaid a hanner, system plaid drechaf a system aml-blaid.


System ddwy blaid a hanner


Mewn system ddwy blaid a hanner, mae plaid lai yn bodoli ochr yn ochr â’r ddwy brif blaid, ond ymhell o fod yn gyfartal â nhw. Felly, yng Ngorllewin yr Almaen, roedd y Democratiaid Rhydd bron â bod yn bartneriaid clymbleidiol parhaol. Nid yw hyn wedi digwydd i’r un graddau ym Mhrydain. O dan y cytundeb rhwng Llafur a’r Rhyddfrwydwyr yn 1976/77 (y ‘Lib-Lab pact’), cefnogodd y Rhyddfrydwyr fesurau Llafur, ond heb ymgymryd â swyddi gweinidogaethol. Ymddangosai yn y 1990au bod y Democratiaid Rhyddfrydol ar fin troi’n bartneriaid i Lafur ‘Newydd’ - roedd y bwlch ideolegol rhyngddynt yn cau wrth iddynt gydweithio ar ddiwygio cyfansoddiadol. Ond bellach, mae’r rhagolygon o ail-uno’r system blaid hon ar drai, wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol wrthwynebu rhai o bolisïau allweddol Llafur yn San Steffan.


System plaid drechaf


Defnyddiwyd y term ‘system plaid drechaf’ yng nghyd-destun y DU yn ystod cyfnodau o oruchafiaeth y Ceidwadwyr (1979-97) a Llafur (o 1997 ymlaen). Dominydda’r blaid lywodraethol y meysydd gweithredol a deddfwriaethol, gan ddefnyddio’i mwyafrif i orfodi newidiadau mawr yn yr economi ac mewn materion cymdeithasol a chyfansoddiadol. Roedd y Ceidwadwyr, ac yna Llafur Newydd, yn bleidiau ‘dal-pawb’ gydag apêl eang. Treiddiodd rhywfaint o’r ymrannu a’r llygredd a geir mewn systemau plaid drechaf (e.e. Siapan) i wleidyddiaeth Prydain, ond methodd y ddwy blaid â sicrhau mwyafrif y bleidlais boblogaidd mewn etholiadau cyffredinol. Dioddefodd y ddwy blaid golledion trwm mewn gornestau y tu hwnt i San Steffan yn ystod eu cyfnod o oruchafiaeth dybiedig.


Y system aml-blaid


Dadleua Patrick Dunleavy (2005) fod gan Brydain system aml-blaid real. Gostwng wnaeth nifer y pleidleisiau a’r seddi a enillwyd gan y prif bleidiau. Yn ogystal, nid yw etholwyr yn tueddu i gefnogi un blaid arbennig, ond yn hytrach maent yn ffurfio barn am ystod o bleidiau – yn fodlon pleidleisio dros ambell blaid, yn coleddu teimladau niwtral at bleidiau eraill, ac yn gwybod na fyddent byth yn cefnogi eraill. Dangosodd arolwg barn YouGov ym mis Mawrth 2007 bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn ail ddewis i 23% o’r rhai a holwyd (Gwyrddion 13%, UKIP 10% a’r BNP 8%). Amlygwyd hefyd ‘rannu’r bleidlais’ wrth i etholwyr fwrw pleidlais i wahanol bleidiau pan fo etholiadau i fwy nac un corff yn cael eu cynnal ar yr un pryd, neu pan fo’r system etholiadol yn gofyn am fwy nag un bleidlais.


Mae eraill yn amharod i ddiystyru’r system ddwy blaid, gan nodi nad yw’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill tir yn San Steffan, a bod ymgeiswyr y pleidiau llai yn colli eu hernes yn y mwyafrif o etholaethau. Erys llywodraeth un blaid fel norm yn y DU.

 

 

 

 

Blwch 1 Systemau a sefyllfa’r pleidiau yn y DU yn 2008
Lefel yr awdurodaeth Y sefyllfa etholiadol Y sefyllfa ddeddfwriaethol Y sefyllfa weithredol
San Steffan

Cystadleuaeth aml-blaid mewn etholiadau cyffredinol (system etholiadol o fwyafrif syml)

Deg plaid a dau annibynnol wedi eu hethol i Dŷ’r Cyffredin yn 2005

Llywodraeth Lafur un blaid

Rhanbarthol

Cystadleuaeth aml-blaid mewn etholiadau i: San Steffan (mwyafrif syml), Senedd yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru (y ddau â system aelodaeth ychwanegol), Cynulliad Gogledd Iwerddon (pleidlais sengl drosglwyddadwy), Maer Llundain (pleidlais atodol) a Chynulliad Llundain (system aelod ychwanegol)

Pum plaid ac un annibynnol wedi eu hethol i Senedd yr Alban yn 2007

 

Pedair plaid ac un annibynnol wedi eu hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2007

 

Saith plaid ac un annibynnol wedi eu hethol i Gynulliad Gogledd Iwerddon yn 2007

 

Pum plaid wedi eu hethol i Gynulliad Llundain yn 2008

Gweinyddiaeth leiafrifol Plaid Genedlaethol yr Alban yn yr Alban

 

Clymblaid Llafur-Plaid Cymru yng Nghymru

 

Pedair plaid yng Ngweithrediaeth Gogledd Iwerddon

 

Maer Ceidwadol yn Llundain

Llywodraeth leol (Prydain)

Cystadleuaeth aml-blaid yn Lloegr a Chymru (mwyafrif syml) a’r Alban (pleidlais sengl drosglwyddadwy)

Patrymau cymhleth o gynrychiolaeth yn amrywio o ardal i ardal

Ceidwadwyr yn rheoli 213 cyngor

 

Llafur yn rheoli 51 cyngor

 

Democratiaid Rhyddfrydol yn rheoli 26 cyngor

 

Eraill yn rheoli 8 cyngor

 

128 cyngor heb reolaeth bleidiol glir

Ewrop

Cystadleuaeth aml-blaid mewn 11 rhanbarth ym Mhrydain (system restr) ac yng Ngogledd Iwerddon (pleidlais sengl drosglwyddadwy)

Deg plaid wedi eu hetholi i Senedd Ewrop yn 2004

 

 


 

Systemau plaid


Nid oes gan y DU un system blaid; yn lle hynny, gellir nodi nifer o systemau plaid. Gweithreda amrywiol systemau plaid ar lefelau gwahanol o awdurdodaeth o fewn y DU - ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol, lleol ac Ewropeaidd - ac o fewn y rhain, ceir gwahanol frwydrau gwleidyddol: yr etholiadol, y deddfwriaethol a’r gweithredol (Webb 2000). Gwleidyddiaeth aml-blaid yw’r norm ar lefelau uwch-genedlaethol, is-genedlaethol, lleol ac Ewropeaidd (gw. Blwch 1). Mae cynrychiolaeth gyfrannol a’r sylw a roddir i faterion megis cenedlaetholdeb is-wladwriaethol ac integreiddio Ewropeaidd wedi rhoi hwb i ffyniant y pleidiau llai.


Systemau plaid cenedlaethol


Yr Alban a Chymru

Yn y systemau Albanaidd a Chymreig, mae’r gystadleuaeth bleidiol wedi ei hadeiladu o amgylch dwy brif echel - yr echel economaidd-gymdeithasol de-chwith (gyda’r mwyafrif o bleidleiswyr i’r chwith o’r canol) a’r echel genedlaetholgar-unoliaethol. Enillodd Llafur dros 70% o seddi San Steffan yn y gwledydd hyn yn 2005, ond gwelir bod gwleidyddiaeth aml-blaid yn ffynnu yn y cyrff datganoledig (gw. Tabl 2). Mae’r systemau plaid yma yn gystadleuol ac yn gydweithredol, gyda phleidiau yn fodlon gweithio gyda’i gilydd mewn clymbleidiau neu mewn partneriaethau anffurfiol. Roedd Llafur mewn clymblaid gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban o 1999 hyd 2007, ac o 2000 hyd 2003 yng Nghymru, lle mae’r blaid bellach yn rhannu grym gyda Phlaid Cymru. Ffurfiodd Plaid Genedlaethol yr Alban weinyddiaeth leiafrifol yn yr Alban yn 2007, ac fe lwyddodd i sicrhau cefnogaeth Plaid Werdd yr Alban a Phlaid Geidwadol yr Alban ar bleidleisiau llywodraethol tyngedfennol.

 

Gogledd Iwerddon

Ceir y brif hollt yn system blaid Gogledd Iwerddon rhwng yr unoliaethwyr a’r cenedlaetholwyr, a’r prif bwnc yw statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon. Cynrychiolir pedair plaid yn yr adran weithredol a ffurfiwyd yn 2007: Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) a Phlaid Unoliaethol Ulster (UUP), plaid weriniaethol Sinn Fein a phlaid genedlaetholgar y Social and Democratic Party (SDLP). Ceir seddi eraill yn y cynulliad gan dair plaid arall - yr Alliance Party, y Gwyrddion a’r Progressive Unionist Party, yn ogystal ag un aelod annibynnol.

 

Aros yn deyrngar i’w cymunedau a wna’r mwyafrif o etholwyr, ond cafwyd newidiadau arwyddocaol o fewn y ddwy gymuned yn ystod y degawd diwethaf. Disodlwyd yr UUP gan y DUP a ddaeth yn brif blaid yr unoliaethwyr, a disodlwyd yr SDLP gan Sinn Fein a ddaeth yn brif blaid yr etholwyr Catholig.

 

Systemau plaid rhanbarthol

Ni all yr un blaid honni ei bod yn gryf ar draws yr holl wlad. Mae’r ‘Rhaniad Gogledd-De’ yn ddisgrifiad syml o ddaearyddiaeth pleidleisio ym Mhrydain. Mae’r gefnogaeth i Lafur ar ei chryfaf yn yr Alban, Cymru a gogledd Lloegr, tra bo’r Ceidwadwyr yn perfformio’n well yn ne Lloegr, ond mae’r patrwm pleidleisio yn fwy amrywiol nag y mae’r term yn ei awgrymu. Yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, Llafur oedd y ceffyl blaen yn Etholiad Cyffredinol 2005, gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ail. Yng ngogledd-orllewin Lloegr, Swydd Efrog a Humberside Llafur oedd ymhell ar y blaen, gyda’r Ceidwadwyr yn yr ail safle. Roedd gan Lafur fantais ychydig yn is yng nghanolbarth Lloegr (gorllewin a dwyrain). Y Ceidwadwyr oedd ar y blaen yn nwyrain Lloegr gyda Llafur yn ail, a’r Ceidwadwyr enillodd y dydd yn ne-ddwyrain a de-orllewin Lloegr lle’r oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn brif wrthwynebwyr iddynt.

 

Amrywiadau ar lefel yr etholaeth sy’n bennaf gyfrifol am wahaniaethau rhanbarthol (Johnston 2005). Ceir crynhoad o wahanol fathau o bobl, cymunedau ac etholaethau mewn gwahanol rannau o Brydain. Mae’r Ceidwadwyr yn perfformio’n well mewn etholaethau gwledig, etholaethau coler wen yn bennaf, ac ardaloedd gyda chanran gymharol uchel o bensiynwyr, y ceir llawer ohonynt yn ne Lloegr. Daw canlyniadau mwyaf llwyddiannus Llafur mewn etholaethau sy’n dioddef anfanteision cymdeithasol ac mae llawer o’r rhain i’w cael yng nghanol dinasoedd gogledd Lloegr.

 

Systemau plaid lleol

Dengys detholiad o gynghorau lleol yr amrywiaeth o systemau plaid sydd mewn llywodraeth leol. Rheolaeth un blaid sydd gan y mwyafrif. Mae Manceinion yn enghraifft o system plaid drechaf, lle mae Llafur yn rheoli ers 1974. Enillodd y Ceidwadwyr eu sedd gyntaf yno ers degawd yn 2008, ond dim ond ar ôl i gynghorydd o’r Democratiaid Rhyddfrydol newid ochr. Nid oedd gan un blaid reolaeth bendant dros 128 o gynghorau yn Lloegr, yr Alban na Chymru yn 2008. Creodd hyn glymbleidiau, cytundebau rhannu grym a gweinyddiaethau lleiafrifol. Mae cydweithrediad rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gyffredin, ond prin yw’r cytundebau rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr (e.e. Birmingham). Prinach byth yw cydweithrediad rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr (e.e. Stockton-on-Tees). Yng Nghaerhirfryn, mae Llafur, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion a’r aelodau annibynnol yn rhannu grym.

 

Ewrop

Perfformiodd y pleidiau llai yn well mewn etholiadau i Senedd Ewrop nac mewn etholiadau cyffredinol. Ers cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol yn 1999, enillwyd seddi gan y Gwyrddion a Phlaid Annibyniaeth y DU (UKIP); derbyniodd yr olaf 16% o’r bleidlais yn 2004, yn rhannol oherwydd i fwy o sylw gael ei roi i faterion Ewropeaidd.

 

Casgliadau


Mae’r system ddwy blaid bellach yn ei hawr olaf yng ngwleidyddiaeth Prydain. Mae systemau aml-blaid wedi hen ennill eu plwyf ar lefelau lleol, rhanbarthol ac Ewropeaidd, gyda phleidiau heblaw’r Ceidwadwyr a Llafur yn mwynhau cefnogaeth boblogaidd, yn ymgymryd â meysydd deddfwriaethol ac yn meddu ar bŵer gweithredol. Cymerodd gwleidyddiaeth aml-blaid gamau breision ar lefel genedlaethol Brydeinig hefyd, ond erys elfennau pwysig o’r ddeuopoli Llafur-Ceidwadwyr.

 

Gwelodd etholiad Senedd yr Alban 2007 ac etholiad Maer Llundain 2008 y Blaid Lafur yn colli brwydrau tynn i’w cystadleuwyr agosaf – Plaid Genedlaethol yr Alban a’r Ceidwadwyr, wrth i’r gefnogaeth i bleidiau eraill ostwng. Gall y patrwm hwn gael ei ailadrodd yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, ond go brin y gwelwn ddychwelyd i’r system ddwy blaid glasurol. Gall y Democratiaid Rhyddfrydol golli pleidleisiau a seddi, ond ar yr un pryd gallant fod yn ddylanwadol os mai mwyafrif llywodraethol bychan, os o gwbl, fydd gan y Ceidwadwyr. Byddai hyn yn prysuro ymhellach dranc y system ddwy blaid, ond mae’n bosibl mai cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau cyffredinol fyddai’n rhoi consensws academaidd a diweddglo pendant i’r hen gyfundrefn.