Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Carfanau Pwyso yn y DU

Wyn Grant


Mae rhyddid i ymgysylltu yn un o egwyddorion sylfaenol democratiaeth. Ond a yw’n fygythiad neu’n gymorth i lywodraethau a etholwyd yn ddemocrataidd?


Mae gan y rheiny sydd yn rhannu’r un buddiannau a’r un ymgyrchoedd yr hawl i ddod at ei gilydd a dadlau’u hachos o flaen y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y llywodraeth neu’r Senedd. O edrych ar y gwahanol enghreifftiau o draddodiadau democrataidd plwralaidd, ni ystyriai’r un ohonynt fod gweithgaredd fel hyn yn fygythiad i ddemocratiaeth; ac ystyrid bod presenoldeb llawer o grwpiau buddiant yn arwydd o system ddemocrataidd iach. Yn wir, dim ond systemau llywodraethol awdurdodaidd a welid yn ceisio rheoli categorïau buddiant a allai fod yn fygythiad i’w parhad, a hynny naill ai drwy drefniadau corfforaethol mewn llywodraethau awdurdodaidd adain dde eraill, neu drwy fudiadau pleidiol mewn llywodraethau Comiwnyddol.

 

Credai plwraliaid fod buddiannau cystadleuol yn cydbwyso ei gilydd. I bob un buddiant, caed buddiant gwrthbwysol yn cynnig barn hollol wahanol. Er enghraifft, câi buddiannau’r cyflogwyr eu gwrthbwyso gan rai’r undebau llafur. Roedd yna sawl cyfle i’r holl amrywiol fuddiannau gael mynediad i’r system wleidyddol a gweithredai’r llywodraeth fel rhyw fath o ddyfarnwr neu ganolwr rhyngddynt (Blwch 1).


Problemau’n ymwneud â model plwralaidd


Mewn sawl ffordd, cynigiai’r syniadau damcaniaethol hyn fersiwn or-ddelfrydol o system wleidyddol y DU. Cawsai’r syniadau plwralaidd clasurol hyn eu tanseilio mewn sawl modd. Yn gyntaf, nodwyd bod gan y byd busnes fanteision penodol fel grŵp buddiant, gan na allai llywodraethau sicrhau’r llwyddiant economaidd yr oedd ei angen arnynt er mwyn cael eu hail-ethol heb gydweithrediad y byd busnes. Yn ail, roedd dylanwad y carfanau pwyso’n fwy cyfyngedig nag y tybiwyd gan y gallai pobl dderbyn consesiynau y’u rhoddwyd gan y llywodraeth i grŵp penodol heb iddynt fod yn aelod o’r grŵp hwnnw. Roedd grwpiau busnes yn arbennig o rwydd i’w trefnu; oherwydd yn aml, aelodaeth fechan oedd ganddynt, lle’r oedd methiant un aelod posibl i ymuno yn gallu effeithio ar lwyddiant y grŵp i ennill consesiynau gan y llywodraeth.


Yn fwy diweddar, gwelwyd mwy o ddiddordeb mewn cyfraniad grwpiau i’r broses wleidyddol. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod pryderon hirdymor ynglŷn â lobïo wedi cael eu hailgynnau; hynny yw, ceisio sicrhau dylanwad mewn ffyrdd amhriodol, fel talu arian am wasanaethau ymgynghorol. Mae rhai digwyddiadau wedi awgrymu nad yw Tŷ’r Arglwyddi’n cael ei reoleiddio gystal â Thŷ’r Cyffredin yn hyn o beth. Ond er mor bwysig yw’r materion hyn, mae ffocws yr erthygl hon yn ehangach. Mae’n edrych ar gyfraniad carfanau pwyso i’r system ddemocrataidd yn gyffredinol.



Carfanau pwyso a chynrychiolaeth


Un o’r prif ddadleuon o blaid carfanau pwyso yw eu bod yn caniatáu i farn y cyhoedd gael ei chynrychioli’n fwy cyson a threfnus. Cynhelir etholiadau bob rhyw bedair blynedd. Mae etholiadau’n fynegiant o ddewis cyffredinol y cyhoedd, mynegiant sy’n aml yn ddim mwy na phleidlais yn erbyn y blaid sydd mewn grym neu o blaid arweinydd gwleidyddol. Hyd yn oed os yw pleidlais yr unigolyn yn fynegiant o gefnogaeth i bolisi penodol, cefnogaeth gyffredinol fydd honno gan na fydd unrhyw etholwr yn debygol o gytuno â holl bolisïau unrhyw blaid: nid yw’r bleidlais yn cyfleu dwyster teimlad ar unrhyw fater penodol. Gall carfanau pwyso gynrychioli barn fwy penodol na phleidiau gwleidyddol ac felly maent yn fodd i’r llywodraeth gadw mewn cysylltiad ag ystod y farn gyhoeddus a’i thueddiadau. Yn aml, caiff pryderon newydd y cyhoedd eu gwthio ar yr agenda bolisi gan weithgarwch carfanau pwyso ac felly drwy hynny caiff y ddadl wleidyddol ei hadnewyddu a’i hadfywio’n barhaus.


Hanner can mlynedd yn ôl, roedd Prydain yn gymdeithas homogenaidd, gyda’r unig raniad o bwys yn deillio o wahaniaeth dosbarth cymdeithasol. Gellid gosod y rhan fwyaf o bobl mewn dosbarth cymdeithasol a ddylanwadai ar eu ffyrdd o fyw a’u patrwm pleidleisio. Ers hynny, mae cymdeithas Prydain wedi dod yn fwy amrywiol a thameidiog ei natur. Ni ellir bellach neilltuo unigolyn yn rhwydd i gategori dosbarth cymdeithasol ar sail gwaith ei reini. Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud mwy â hunaniaethau wedi eu dewis gan yr unigolyn, a gwelir yr hunaniaethau hynny’n cael eu mynegi’n llai rhwydd gan bleidiau gwleidyddol, yn enwedig mewn system cyntaf-yn-y-ras.


Gall carfanau pwyso gynrychioli buddiannau neu bryderon manwl a phenodol iawn. Un canlyniad yw bod aelodaeth pleidiau gwleidyddol wedi crebachu’n arw, tra cynyddu fu hanes aelodaeth y carfanau pwyso. Mae gan y Gymdeithas Frenhinol er Amddiffyn Adar (RSPB) fwy o aelodau na’r holl bleidiau gwleidyddol gyda’i gilydd.


Swyddogaeth addysgol


Er bod llywodraethau’n cyflogi ystod eang o arbenigwyr, yn aml mae gan garfanau pwyso fynediad at wybodaeth arbenigol nad oes gan y gwasanaeth sifil mohono. Yn benodol, gallant nodi gwendidau mewn cynllun polisi arbennig, gwendidau a allai esgor ar ganlyniadau gwrthnysig ac anfwriadol. Yn y modd yma, gallant gyfrannu at ansawdd y broses llunio polisïau a helpu’r llywodraeth i wneud penderfyniadau effeithiol a fydd yn bosibl eu gweithredu heb fod hynny’n arwain at sgil effeithiau annymunol.


Ansawdd y cyfranogiad mewn carfanau pwyso


Un honiad o blaid carfanau pwyso yw eu bod yn darparu ffyrdd newydd o gynnwys dinasyddion yn y broses wleidyddol, gan eu galluogi i feithrin sgiliau gwleidyddol a allai fod yn ddefnyddiol mewn cyd-destunau eraill. Fodd bynnag, o graffu’n fanwl arno, nid yw’r honiad yma’n dal dŵr.


Nid yw cysylltiad llawer o unigolion â charfanau pwyso yn ddim mwy na’r hyn a elwir yn ‘aelodaeth llyfr siec’.


Maent yn ymuno naill ai er mwyn cael rhyw fantais arbennig, fel yswiriant rhatach sydd ar gael i aelodau’r grŵp yn unig, neu oherwydd eu bod ar y cyfan yn uniaethu ag ymgyrchoedd y grŵp. Yn wir, mae’n bosib fod y ddau ffactor yma’n wir. Gallai unigolion gael eu denu i ymuno â’r RSPB oherwydd y cynnig o flwch nythu rhad ac am ddim (yr anrheg oedd ar gael i aelodau newydd ar adeg ysgrifennu’r erthygl) ond hefyd gan eu bod, fel garddwyr trefol, yn dymuno gweld adar yn cael eu hamddiffyn a’u cynnal.


Mae llawer o grwpiau amgylcheddol bellach yn frandiau sy’n cael eu marchnata’n effeithiol ac sy’n ennyn mwy o hyder y cyhoedd na sawl cynnyrch masnachol adnabyddus. Mae’r logos yn rhai adnabyddus dros ben. Mae llawer o bobl yn hoffi arddangos logo’r Gronfa Fyd-eang dros Natur (World Wide Fund for Nature) ar eu ceir. Roedd dewis panda ar gyfer y logo’n ddewis clyfar: mae’n rhywogaeth o dan fygythiad ac mae’r panda hefyd yn cael ei ystyried yn greadur annwyl a bregus – er mai arth fawr ddrwg ei thymer yw hi mewn gwirionedd.


Fodd bynnag, ychydig iawn o gyfle mae’r rhan fwyaf o garfanau pwyso yn ei roi i’r unigolyn gymryd rhan yn eu gweithgareddau. Er bod nifer o bleidiau gwleidyddol y DU, hyd yn oed yn eu hanterth, wedi cael eu dominyddu, ar y lefel lleol, gan grwpiau bychain yn rheoli cyfarfodydd diflas yn hollti blew am gwestiynau ar drefn a rheolau, roeddent o leiaf yn rhoi cyfle i’r aelodau drafod polisïau. Gallai’r aelodau mwyaf brwd fynd i ysgolion hyfforddi lle byddent yn clywed cyflwyniadau gan wleidyddion profiadol neu fynd i gynhadledd y blaid hyd yn oed. Mewn gwrthgyferbyniad, caiff nifer o garfanau pwyso eu strwythuro mewn modd sy’n cyfyngu ar gyfranogiad yr aelodau. Er enghraifft:

  • Caiff arweinydd Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU) ei ethol yn anuniongyrchol wrth i ganghennau sirol anfon cynrychiolwyr i gyngor cenedlaethol sydd wedyn yn ethol y swyddogion uchaf.

  • Cefnogwyr sydd gan Greenpeace yn hytrach nag aelodau a chaiff ei redeg yn hierarchaidd, sydd yn sicr yn cyfrannu at ei effeithlonrwydd.


Wrth gwrs, ni all carfanau pwyso anwybyddu barn eu haelodau’n gyfan gwbl, neu fel arall ni fyddent yn ailymaelodi. Efallai eu bod yn cynnal arolwg o’u haelodau o bryd i’w gilydd, ond ffurf gyfyngedig iawn ar gyfranogiad yw hon ac nid yw’n rhoi unrhyw sgiliau gwleidyddol newydd i’r aelodau.


Ymddengys felly mai ychydig iawn mae carfanau pwyso yn ei wneud i wella ansawdd a sylwedd y cyfranogiad gwleidyddol. Pryder arall yw eu bod yn gwneud llywodraethu’n anodd. Rhaid i bleidiau gwleidyddol gydgrynhoi gofynion y bobl. Rhaid iddynt eu dwyn ynghyd mewn pecyn sy’n gosod blaenoriaethau, ac sy’n ystyried cyfyngiadau cyllideb ac amser deddfu’r llywodraeth. Gall carfanau pwyso fynegi gofynion crai eu haelodau heb roi unrhyw ystyriaeth i’r goblygiadau mewn perthynas â gwariant y llywodraeth a rhaglenni eraill. Mae’n bosib fod y broblem hon wedi dod yn fwy difrifol dros amser.

 

Y newid yng ngweithgarwch carfanau pwyso’r DU


Cam 1: Y cyfnod wedi’r rhyfel

The postwar era If we take the period from the end of the Second World War to around 1970, most pressure groups were either producer or professional groups. The cause groups that existed either organised those high up the social scale, like the Council for the Protection of Rural England (CPRE), or were made up of professionals with an interest in the particular subject, like the Howard League for Penal Reform. This meant that the range of interests and concerns represented was limited. However, bodies like the National Farmers’ Union (NFU) or the British Medical Association (BMA) did perform an aggregation function akin to that of political parties. They had to balance the interests of, say, dairy farmers against arable farmers, or junior hospital doctors against general practitioners. Above all, as ‘insider’ groups engaged in a continuous negotiating dialogue with government, they had some idea of what was possible for government and hence filtered out some member demands.

 

Cam 2: Cyfnod y trawsnewid

Wedi tua 1970, ffurfiwyd math newydd o grwpiau: grwpiau amgylcheddol, grwpiau hawliau dynol a grwpiau trydydd byd. Fodd bynnag, roedd gan fudiadau fel Cyfeillion y Ddaear a Greenpeace ffocws eang, ond ar yr un pryd, roeddent yn ofalus o ran yr ymgyrchoedd a ddewisent eu blaenoriaethu. Dechreuodd grwpiau fel Amnest Rhyngwladol ac Oxfam ddeialog gyda’r Swyddfa Dramor a’r Adran Datblygu Rhyngwladol, a dechreuwyd ymddiried mewn mudiadau trydydd byd fel partneriaid yn y broses o ddosbarthu cymorth. Roedd y grwpiau hyn i gyd yn ‘ystyried eraill’; hynny ydy roeddent yn ymwneud ag achosion mawr ag iddynt sylfaen eang ac nid oedd gan eu haelodau fuddiant personol uniongyrchol ynddynt.

 

Cam 3: Gwleidyddiaeth carfanau pwyso newydd

Yn y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd yn nifer ac effaith grwpiau un mater (single interest groups), sy’n hybu achosion cul eu diffiniad. Grwpiau ‘hunangyfeiriol’. Mae nifer o ffactorau wedi helpu eu datblygiad. Golyga’r cynnydd mewn cyfryngau 24 awr aml-sianel fod mwy o alw am storïau newyddion, yn enwedig y rheiny sydd ag apêl emosiynol a gweledol. Mae’r rhyngrwyd wedi ei gwneud yn rhatach i grwpiau newydd ffurfio, yn haws iddynt ddenu aelodau, gan roi cyfrwng iddynt ymfyddino ar gyfer protestiadau. Yn y gofod gwleidyddol electronig newydd yma, gellir ffurfio grwpiau ar Facebook neu gellir gosod deisebau electronig ar wefan 10 Stryd Downing (www.number10.gov.uk).

 

Bu grwpiau Not in My Back Yard (NIMBY) yn weithgar ers tro’n gwrthwynebu datblygiadau newydd, megis hosteli i bobl ar brawf neu ehangu meysydd awyr. Daeth mastiau ffonau symudol yn ffocws mawr i brotestiadau. Er, mae’n annhebygol nad yw’r rhai sy’n eu gwrthwynebu yn defnyddio ffôn symudol weithiau, na bod y rhai sy’n gwrthwynebu ehangu meysydd awyr yn hedfan. Eu dymuniad yw symud y broblem i iard gefn rhywun arall.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd yn nifer y grwpiau cleifion a oedd am weld cyffuriau drud yn cael eu darparu i gleifion â salwch terfynol. Maent yn cael sylw eang ar raglenni newyddion rhanbarthol ac mewn papurau lleol. Nid pawb sy’n sylweddoli fod rhai o’r grwpiau hyn yn derbyn cefnogaeth sylweddol gan gwmnïau fferyllol sydd eisiau gwerthu triniaethau drud i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’n fwy effeithiol o lawer cael claf sydd â salwch terfynol yn ymladd yr achos na phrif weithredwr cwmni rhyngwladol. Fodd bynnag, nid yw cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ddiddiwedd ac, yn y pen draw, os caiff mwy ei wario ar driniaethau cyffuriau drud nad oes neb yn hollol sicr o’u gwerth, bydd llai o arian ar gael ar gyfer llawdriniaethau dewisol neu i drin salwch meddyliol. (Amlinellir rhai o’r problemau’nymwneud â gweithgareddau carfanau pwyso ym Mlwch 2.)

 


Casgliadau


Mae’r enghraifft benodol hon yn codi pwynt ehangach am natur democratiaeth ei hun. Mae wedi cael ei gweld fel proses resymegol, ystyrlon, lle caiff gwahanol ddadleuon ac achosion eu cynnig a’u profi drwy drafodaeth, gan arwain, yn y pen draw, at benderfyniadau polisi. Yn wir, cafodd y gred hon ei chryfhau dros y blynyddoedd diwethaf gan y pwyslais ar lunio polisi seiliedig ar dystiolaeth a’r defnydd o fforymau dinasyddion. Er enghraifft, o ran y drafodaeth am bris cyffuriau, roedd yn ofynnol i’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) wneud ei benderfyniadau ar sail asesiadau rhesymol a meintiol o werth gwahanol gyffuriau mewn perthynas â’i gilydd.

 

Dadl arall fyddai nad yw agweddau fel hyn yn rhoi digon o ystyriaeth i emosiwn yn hytrach na rheswm, a bod y mudiadau cymdeithasol newydd yn rhoi cyfle i chi fynegi teimladau. Pe byddai’r duedd hon yn parhau, gallai’r llywodraeth ei chael yn anos cadw’r ddysgl yn wastad rhwng gofynion y gwahanol garfanau pwyso. Gallai hyn arwain at lywodraeth lai effeithiol a mwy o rwystredigaeth gyda democratiaeth yn ei hanfod.