Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Dadleuon ar y Teledu

Paul Fairclough ac Eric Magee


Yn yr erthygl hon ystyrir i ba raddau y dylanwadodd y tair dadl a ddarlledwyd ar y teledu yn 2010 rhwng arweinwyr y prif bleidiau yn y DU ar ymgyrch yr etholiad cyffredinol. Mae hefyd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn ehangach ynghylch a yw darllediadau o’r fath yn gwella’r broses ddemocrataidd ynteu’n amharu arni.


Cyflwyniad


Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wastad wedi ffafrio cynnal dadleuon o’r fath. Roeddent yn amlwg yn teimlo y byddent yn elwa ar y sylw ychwanegol a ddeuai yn eu sgil - a hynny’n bennaf am fod eu hymdrechion i ymgyrchu ochr yn ochr â’r ddwy brif blaid wastad wedi cael eu llesteirio gan faterion yn ymwneud â diffyg cyllid a mynediad anghyfartal i’r cyfryngau.

 

Ym mhôl piniwn yr ICM a gwblhawyd ar 11 Ebrill, 4 diwrnod cyn i’r ddadl gyntaf gael ei darlledu, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ei hôl hi ar 20%, ymhell y tu ôl i’r blaid Lafur (31%) a’r Ceidwadwyr (37%). Roedd hyn yn cyfateb yn fras ag 11 o bolau piniwn blaenorol yr ICM a gynhaliwyd ers mis Gorffennaf 2009 - lle’r oedd y gefnogaeth i’r blaid wedi amrywio rhwng 18% a 23%. Yn sgil y ddadl gyntaf a ddarlledwyd, fodd bynnag, cynyddodd y gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol i 24%, ac roedd 51% yn credu bod arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ‘ennill’ y ddadl agoriadol rhwng arweinwyr y tair prif blaid. Yn wir, roedd 29% yn teimlo mai Clegg fyddai’n gwneud y prif weinidog gorau (yr un nifer ag a oedd yn ffafrio Cameron).

 

Er i’r gefnogaeth i’r ddwy brif blaid adfer yn sgil yr ail a’r drydedd ddadl (gweler Tabl 1), roedd disgwyliad cyffredinol y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol ar noson yr etholiad yn cael mwy na’r 62 o Aelodau Seneddol a etholwyd yn etholiad cyffredinol 2005.

 

Tabl 1 - Pwy enillodd y tair dadl ar y teledu?
      Pwy enillodd?  
  Ffocws y ddadl Brown Cameron Clegg

Y ddadl gyntaf
(ITV, 15 Ebrill)

Materion cartref 19% 20% 51%

Yr ail ddadl
(BSkyB, 22 Ebrill)

Materion rhyngwladol 29% 29% 33%

Y drydedd ddadl
(BBC, 29 Ebrill)

Materion economaidd 29% 35% 27%

Ffynhonnell: ICM instant polling, Guardian, 16, 23 a 30 Ebrill 2010

 


 

A wnaethant wahaniaeth?


Mae cwestiynau ‘beth os’ yn hynod o anodd eu hateb ac mae’n anodd, felly, gwybod ‘beth allai fod wedi digwydd’ pe na bai’r dadleuon ar y teledu wedi cael eu cynnal. Cyn yr etholiad, y teimlad cyffredinol oedd y byddai pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael ei gwasgu mewn brwydr rhwng Plaid Lafur a oedd yn ymladd i aros mewn llywodraeth ac i amddiffyn ei gwaddol, a Phlaid Geidwadol wedi’i ‘dadwenwyno’ a’i hatgyfodi dan arweinyddiaeth David Cameron. Dylem gofio hefyd mai’r hyn a oedd i gyfrif, yn rhannol o leiaf, am y ffaith i’r Democratiaid Rhyddfrydol gael y nifer fwyaf o seddi yn eu hanes yn 2005 oedd gwrthwynebiad y cyhoedd i benderfyniad Llafur i fynd i ryfel yn Irac; y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yr unig un o’r tair prif blaid yn y DU i wrthwynebu’r rhyfel.

 

Gan dderbyn hyn oll, mae’n bosibl nodi nifer o bwyntiau y gellid eu cynnig yn rhesymol i gefnogi naill ochr yn ddadl neu’r llall.

 

Do

  • Er bod disgwyliad mawr i bleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol gael ei gwasgu, cynyddodd y blaid ei chyfran o’r bleidlais o 22% yn 2006 i 23% yn 2010, gan sicrhau dim ond 2.8 miliwn o bleidleisiau’n llai na’r Blaid Lafur (6.8 miliwn o gymharu ag 8.6 miliwn y blaid Lafur).

  • Roedd y ganran derfynol hon o’r bleidlais yn sylweddol uwch na’r hyn a gofnodwyd yn y polau piniwn terfynol a gynhaliwyd cyn y ddadl gyntaf. Dyma’r gyfran uchaf o’r bleidlais ar gyfer trydedd blaid ers etholiad cyffredinol 1983, pan gafodd Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr 25.4% o’r bleidlais.

  • Hyd yn oed ar ôl y ddadl gyntaf, dim ond tua 24% o’r rhai a gymerodd ran ym mholau piniwn yr ICM a ddywedodd eu bod yn bwriadu pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol. Felly ni ddylid ystyried 23% o’r bleidlais fel methiant.

  • Er i’r Democratiaid Rhyddfrydol gael llai o seddi yn 2010 nag yn 2005 (gostyngiad o 5, i 57 o seddi), -chwiwiau’r system mwyafrif syml yn hytrach na chefnogaeth yn edwino a oedd i gyfrif am y canlyniad siomedig hwn yn bennaf. Dangosir hyn, er enghraifft, gan y ffaith i’r Democratiaid Rhyddfrydol ddod yn ail mewn 243 o etholaethau.

Naddo

  • Dim ond cynnydd bach a gafodd y Democratiaid Rhyddfrydol yn eu cyfran o’r bleidlais boblogaidd (cynnydd o 22% yn 2005 i 23% yn 2010) er gwaethaf ymchwydd yn y gefnogaeth i’r blaid yn dilyn y ddadl gyntaf.

  • Er gwaethaf y dadleuon ar y teledu, cafodd y Democratiaid Rhydfrydol lai o Aelodau Seneddol nag a gawsant yn 2005.

  • Er y cytunwyd yn gyffredinol bod yr arweinydd Llafur, Gordon Brown, wedi perfformio’n wael yn erbyn Nick Clegg, yn arbennig yn y ddwy ddadl gyntaf, dim ond pump o seddi’r blaid Lafur y llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i’w cipio. Hyd yn oed gyda’r Blaid Lafur ar chwâl, cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol 201 o seddi’n llai na Llafur.

  • Ymddangosodd 27 o’r 57 sedd a enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y rhestr o’r 200 uchaf gyda’r mwyafrifoedd lleiaf, h.y. gallai’r canlyniad fod wedi bod yn llawer gwaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol.


 

Beth ddigwyddodd i ‘ymchwydd y Democratiaid Rhyddfrydol’?


Yr ateb syml i’r cwestiwn hwn, fel y gwelsom, yw bod y ddadl gyntaf a ddarlledwyd wedi arwain at ‘ymchwydd Nick Clegg’ yn hytrach nag ‘ymchwydd y Democratiaid Rhyddfrydol’. Er i’r blaid weld cynnydd yn ei phoblogrwydd yn y polau piniwn yn sgil y ddadl gyntaf ar 15 Ebrill, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ac nid polisïau ei blaid a oedd yn fuddugoliaethus.

 

Er i Clegg weithio’n galed i newid llawer o feysydd polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol cyn yr etholiad, roedd y cyhoedd yn gyffredinol yn parhau i fod rhywfaint yn amheus o nifer o bolisïau’r blaid. Roedd hyn yn wir, er enghraifft, am ymagwedd y Democratiaid Rhyddfrydol tuag at reoli mewnfudo – polisi y cafodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ei feirniadu’n hallt amdano yn ystod yr ail ddadl a ddarlledwyd ac un a gafodd sylw blaenllaw yn y post-mortem yn y cyfryngau yn dilyn yr etholiad ei hun (gweler Blwch 1).


Darparu llwyfan

 

Er ei bod yn demtasiwn canolbwyntio ar fethiant y Democratiaid Rhyddfrydol i fanteisio ar yr ymchwydd byr yn y polau piniwn ar ôl y ddadl gyntaf drwy ennill rhagor o seddi yn Nhŷ’r Cyffredin, risg ymagwedd o’r fath yw peidio â gweld y ‘darlun mawr’. Roedd a wnelo’r ymchwydd yn fwy â chanfyddiadau’r cyhoedd o arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, nag â’r ffordd yr oedd pobl yn bwriadu pleidleisio, ac efallai mai yng ngoleuni hyn y dylem ateb y cwestiwn: a lwyddodd y dadleuon ar y teledu i newid yr ymgyrch? Roedd a wnelo’r dadleuon a’r ymgyrch ehangach â mwy nag ennill pleidleisiau a seddi. Roeddent yn ymwneud â sicrhau bod y cyhoedd yn gyffredinol (ac efallai uwch ffigurau yn y prif bleidiau eraill) yn gweld y Democratiaid Rhyddfrydol fel ‘plaid lywodraethu’: dewis amgen credadwy i’r ddwy blaid fawr, neu o leiaf bartner clymblaid credadwy i’r naill neu’r llall.

 

Cyn y dadleuon, roedd barn y cyhoedd am arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i llywio’n bennaf gan adroddiadau am ei orchestion rhywiol yn gynharach mewn bywyd a thrwy weld Clegg yn cael trafferth i godi ei lais uwchlaw heclo’r aelodau Llafur a Cheidwadol ar y meinciau cefn yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog. Roedd yn arwyddocaol, felly, bod y rheoliadau a oedd yn llywodraethu'r dadleuon ar y teledu - a’r rheolau sy’n cyfyngu ar gyfranogiad y gynulleidfa yn arbennig - yn golygu bod Clegg yn gallu siarad am gyfnodau maith heb i neb dorri ar ei draws.

 
 

‘Rwy’n cytuno â Nick’


Cafodd hygrededd Clegg hwb hefyd yn sgil y ffordd yr oedd ei gyd-arweinyddion, yn arbennig Gordon Brown, yn ceisio ennyn ei gefnogaeth yn y ddadl gyntaf drwy gefnogi’r safbwyntiau a fabwysiadwyd gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Pe bai’n rhaid i rywun ddewis un ymadrodd a grynhodd y ddadl gyntaf honno yn fwy nag unrhyw ymadrodd arall, ‘Rwy’n cytuno â Nick’ fyddai hynny. Er mai dim ond dwywaith y defnyddiwyd yr union ymadrodd hwnnw yn ystod y darllediad 90 munud (gan Gordon Brown ar y ddau achlysur), ymddangosai fel pe bai’n crynhoi’r ymagwedd a fabwysiadwyd gan y prif weinidog ar y pryd ac, i raddau llai, gan David Cameron, tuag at arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd Brown, yn arbennig, yn ymddangos fel pe bai’n cefnogi safbwyntiau Clegg ar bob cyfle bosibl (gweler Blwch 2).

 

Fe wnaeth yr ‘ymchwydd Clegg’ a ddeilliodd yn rhannol o ymagwedd Brown yn y ddadl gyntaf, ysgogi’r arweinydd Llafur i fabwysiadu ymagwedd go wahanol yn yr ail ddadl a ddarlledwyd ar Sky. Er y clywyd y prif weinidog yn defnyddio’r ymadrodd ‘Nick, rydych chi’n iawn’ ar un adeg yn ystod y ddadl ar Sky, ceisiodd Brown amlygu’r gwahaniaethau (yn hytrach na’r nodweddion tebyg) rhwng ei safbwynt ef a safbwynt arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol (gweler Blwch 3): ymagwedd a barhaodd yn y drydedd ddadl. Erbyn hynny, fodd bynnag, roedd y drwg wedi’i wneud.

 

 

Ydy cael dadleuon ar y teledu yn gwella democratiaeth?

 

Ydy

  • Mae cael dadleuon ar y teledu yn cynnig sianel ychwanegol ar gyfer cyfranogiad gwleidyddol. Gwyliodd ymhell dros 9 miliwn o bobl y ddadl gyntaf, gyda 4 miliwn y gwylio’r ail ac ymhell dros 8 miliwn yn gwylio’r drydedd.

  • Rhoddodd y sesiynau ffonio-i-mewn, yr erthyglau papur newydd a gweddill y sylw yn y cyfryngau a ddaeth yn sgil pob dadl gyfleoedd ychwanegol i bleidleiswyr ymgysylltu ag ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

  • Rhoddodd y dadleuon lais cyfartal i’r Democratiaid Rhyddfrydol, sy’n aml yn blaid sydd dan anfantais oherwydd diffyg arian ymgyrchu a’i mynediad cyfyngedig i’r cyfryngau.

  • Rhoddodd y dadleuon gyfle i aelodau dethol o’r gynulleidfa holi arweinwyr y pleidiau ynghylch y manylion y tu ôl i’r addewidion yn eu maniffestos.

 

Nac ydy

  • Er bod dadleuon ar y teledu yn gwneud synnwyr mewn etholiadau arlywyddol yn yr Unol Daleithiau, lle y bydd etholwyr yn ethol un weithrediaeth (neu weithrediaeth ‘unedol’), nid ydynt yn gwneud fawr o synnwyr yn y DU lle mae etholwyr yn dewis Aelod Seneddol ar gyfer eu hetholaeth.

  • Mae ansawdd y cyfranogiad democrataidd sy’n gysylltiedig â gwylio’r teledu yn gyfyngedig ar y gorau.

  • Rhoddodd y dadleuon fwy o amlygrwydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol nag y gellid ei gyfiawnhau gan berfformiad y blaid mewn etholiadau cynharach neu gan nifer y seddi a enillodd yn 2010.

  • Cafodd pleidiau eraill fel yr SNP, Plaid Cymru ac UKIP eu heithrio o’r tair dadl. Dadleuodd yr SNP fod hyn yn rhoi’r blaid dan fantais mewn gornestau seneddol i’r gogledd o’r ffin.

  • Roedd y dadleuon yn yr Alban ac yng Nghymru yn cynnwys arweinwyr yr SNP (Alex Slamond) a Phlaid Cymru (Ieuan Wyn Jones), ond ni chafodd yr un o’r ddau gyfle i eistedd ochr yn ochr â Brown, Cameron a Clegg.

 

Casgliadau

 

Er na welodd y Democratiaid Rhyddfrydol y manteision etholiadol sylweddol a ragwelwyd yn sgil y dadleuon, buont yn sicr yn fodd o wella enw da a hygrededd Nick Clegg. Efallai fod hyn wedi’i gwneud yn haws i’r Ceidwadwyr gytuno ar glymblaid gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth wynebu senedd grog (neu ‘gytbwys’) yn sgil etholiad cyffredinol 2010.

 

Fodd bynnag, er bod y dadleuon wedi bod yn elfen ddiddorol o’r ymgyrch ac yn sianel ychwanegol ar gyfer cyfranogiad gwleidyddol, nid oeddent yn gweddu system seneddol lle mae’r dinasyddion yn pleidleisio nid dros eu hoff brif weinidog, ond dros aelod seneddol ar gyfer eu hetholaeth. At hynny, arweiniodd y penderfyniad i eithrio’r pleidiau llai o’r tair prif ddadl at gyhuddiadau o ragfarn yn y cyfryngau.