Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Refferendwm Cymru 2011

Yr Athro Roger Scully

Ystyr democratiaeth yw llywodraeth gan y bobl. Fel arfer, yn ymarferol, golyga hyn ddemocratiaeth gynrychioliadol: y bobl yn pleidleisio mewn etholiadau i ddewis cynrychiolwyr i swyddi allweddol o rym er mwyn cymryd penderfyniadau pwysig. Ond yn gynyddol, ledled y byd, ceir hefyd ffurf fwy uniongyrchol o ddemocratiaeth, y refferendwm, lle caiff y bobl eu hunain benderfynu. Cynhaliwyd refferendwm o’r fath yng Nghymru ar 1 Mawrth 2011.

 

Mae gennym lawer o wybodaeth am etholiadau democrataidd; ond tipyn yn llai am ddemocratiaeth uniongyrchol refferenda. Yma byddwn yn edrych ar refferendwm Cymru fel esiampl o’r hyn sy’n digwydd pan fo’r gwleidyddion yn caniatáu i’r bobl benderfynu.


Refferendwm Cymru 2011: y Cefndir


Refferendwm y 3 Mawrth 2011 oedd y trydydd refferendwm Cymru gyfan i gael ei gynnal. Fodd bynnag, fel y gwelir yn Nhabl 1, roedd yn un o blith nifer fwy o lawer o refferenda pwysig a gynhaliwyd yn y DU. Fel dau refferendwm blaenorol Cymru, roedd yn ymwneud â datganoli. Yn 1979, roedd pobl Cymru wedi gwrthod yn gryf y syniad o gael Cynulliad Cenedlaethol a rhywfaint o hunanlywodraeth o fewn y DU. Erbyn 1997, fodd bynnag, roedd y farn yng Nghymru wedi symud cryn dipyn. Y tro hwn, pleidleisiwyd o blaid datganoli o drwch blewyn..

 

Tabl 1: Prif Refferenda’r DU

 

Tiriogaeth Blwyddyn Pwnc % y nifer a bleidleisiodd
Gogledd Iwerddon 1973 Gogledd Iwerddon i barhau yn y DU 58.7
Y DU 1975 Aelodaeth y Gymuned Ewropeaidd 64.5
Yr Alban 1979 Datganoli 63.8
Cymru 1979 Datganoli 58.8
Yr Alban 1997 Datganoli 60.4
Cymru 1997 Datganoli 50.1
Gogledd Iwerddon 1998 Cytundeb Dydd Gwener y Groglith 81.0
Llundain 1998 Maer etholedig ac Awdurdod Llundain 34.1
Gogledd Ddwyrain Lloegr 2004 Datganoli 47.7
Cymru 2011 Datganoli pellach 35.6
Y DU 2011 Diwygio’r bleidlais 42.0

 

Roedd refferendwm 2011 ychydig yn wahanol i’r rhai blaenorol. Nid oedd yn ymwneud â sefydlu Cynulliad Cenedlaethol – roedd hynny eisoes wedi digwydd – nac yn gofyn a ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol barhau mewn bodolaeth. Yn hytrach, roedd y bleidlais yn 2011 yn ymwneud â pha bwerau ddylai’r Cynulliad eu cael. Wedi refferendwm 1997, roedd y Cynulliad wedi derbyn cyfrifoldeb dros ugain maes gweithgarwch llywodraethol ( yn cynnwys i raddau helaeth addysg, datblygu economaidd, iechyd a’r iaith Gymraeg). Ond roedd y grym i wneud deddfau newydd yn y meysydd hyn yn parhau yn senedd San Steffan. Roedd datganoli Cymreig felly’n wahanol iawn i’r hyn a welid yn yr Alban: yno, roedd gan Senedd yr Alban gyfrifoldeb dros rymoedd gwneud polisi a deddfu. Yn refferendwm 2011 gofynnwyd i’r etholwyr a ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael grymoedd deddfu llawn yn yr ugain maes polisi yr oedd ganddo eisoes gyfrifoldeb amdanynt. Felly, nid oedd y refferendwm yn ymwneud ag ehangu cyfrifoldebau’r Cynulliad, ond yn hytrach yn ymwneud â dyfnder neu rym ei bwerau o fewn yr ugain maes penodol yma. Byddai pleidlais Ie yn rhoi mwy o rym i’r Cynulliad Cenedlaethol; byddai pleidlais Na yn gadael y Cynulliad gyda’r union rymoedd cyfyngedig oedd ganddo’n barod.

 

Ymgyrch y Refferendwm


Un o nodweddion amlwg Refferendwm Cymru 2011 oedd anghydbwysedd y ddwy ymgyrch. Roedd gan yr ymgyrch Ie (Ie dros Gymru) gefnogaeth y pedair plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol (er i’r Blaid Geidwadol fel plaid barhau’n niwtral yn ffurfiol); roedd nifer o sefydliadau cyhoeddus a chymdeithas sifil hefyd yn cefnogi pleidlais Ie. Llwyddodd yr ymgyrch Ie i sefydlu trefniadaeth ymgyrchu dros y rhan fwyaf o Gymru. Tueddai’r cefnogwyr Ie i ddadlau nad oedd rhybuddion gelynion datganoli yn 1997 wedi eu gwireddu: nid oedd datganoli wedi rhannu Cymru na’i hynysu oddi wrth weddill Prydain. Ond honnent fod gallu’r Cynulliad i daclo problemau Cymru yn gyfyngedig; byddai buddugoliaeth i’r ymgyrch Ie yn rhoi’r grym i’r Cynulliad weithredu polisïau effeithiol, gan olygu na fyddai gan wleidyddion Caerdydd esgusodion dros fethu cyflawni.

 

Ni lwyddodd yr ymgyrch Na (True Wales) i ennill cefnogaeth gan bron unrhyw ffigyrau gwleidyddol amlwg na sefydliadau allweddol. Tueddai’r prif ymgyrchwyr felly i fod yn llai profiadol yn wleidyddol na’r rheiny yn yr ymgyrch Ie, gan brofi’n llai effeithiol wrth drefnu’r ymgyrchu ledled Cymru. Roedd nifer o’r ymgyrchwyr Na yn bobl a oedd wedi gwrthwynebu datganoli yn 1997, ac roedd nifer ohonynt yn amlwg yn parhau i’w wrthwynebu. Nid oedd diddymu datganoli yn ddewis yn y refferendwm – byddai pleidlais Na yn gweld parhad yr hyn a wrthwynebodd nifer o’r ymgyrchwyr Na yn 1997. Ond byddai pleidlais Na yn rhwystro datganoli Cymreig rhag mynd ymhellach. Yn aml, dadleuai True Wales mai ychydig iawn yr oedd y Cynulliad wedi ei gyflwyno gyda’r grymoedd oedd ganddo’n barod – pam felly rhoi mwy o bwerau iddo? Awgryment hefyd y byddai cryfhau datganoli yn gwthio Cymru ymhellach ar hyd y ‘llethr llithrig’ tuag at chwalu’r DU yn y pen draw..

 

Roedd ymgyrchwyr ar y ddwy ochr yn ei chael yn anodd esbonio pwysigrwydd y refferendwm i bobl. Nid oedd unrhyw fater clir o egwyddor yn y fantol; roedd y cwestiwn ar y papur pleidleisio yn fwy cynnil a thechnegol. O ystyried hyn, ac o ystyried gwendid yr ymgyrch Na, nid yw’n syndod na lwyddodd yr ymgyrch i ddenu diddordeb y rhan fwyaf o’r etholwyr. Roedd llai nag un ymhob deg o’r rhai a holwyd yn Astudiaeth Refferendwm Cymru (Welsh Referendum Study - WRS) yn gallu cofio unrhyw un yn cysylltu â hwy ynglŷn â’r refferendwm, ac ychydig dros un ymhob pedwar oedd yn teimlo iddyn nhw gael ‘digon o wybodaeth i wneud dewis gwybodus’. Ond o gymharu’r ddwy ymgyrch, roedd yr ymgyrch Ie yn amlwg yn fwy effeithiol. Pan ofynnwyd yn yr Astudiaeth pa ochr oedd wedi trefnu’r ymgyrch orau ar gyfer y refferendwm, roedd bron i ddeunaw gwaith yn fwy o ymatebwyr wedi nodi’r ymgyrch Ie o’i gymharu â’r rhai a nododd yr ymgyrch Na.


 

Y Canlyniad


Dangosodd refferendwm 1997 bod Cymru wedi ei hollti’n ddwy ar fater datganoli. Nid aeth hanner yr etholwyr allan i bleidleisio, ac o’r gweddill, fe’u rhannwyd bron yn gyfartal gyda 50.3% yn pleidleisio o blaid datganoli, a 49.7% yn pleidleisio yn erbyn datganoli. Cefnogwyd datganoli gan un ar ddeg o Awdurdodau Lleol Cymru, gyda’r un ar ddeg arall yn ei wrthwynebu. Roedd canlyniad 2011 yn dra gwahanol. Roedd y nifer a bleidleisiodd hyd yn oed yn llai; yn wir ar 35.6 y cant, hwn oedd yr ail ganran isaf hyd yn un o refferenda pwysig y DU (gweler Tabl 1). Mae hyn yn rhannol yn adlewyrchu lleihad cyffredinol y cyfranogiad pleidleisio dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae hefyd yn adlewyrchu natur ddifflach ymgyrch y refferendwm a’r broblem gafodd nifer o etholwyr wrth geisio deall beth oedd yn y fantol.

 

Ond o’r rheiny a bleidleisiodd, cafwyd buddugoliaeth glir o blaid mwy o bwerau. Enillodd y rhai ar yr ochr Ie o bron i ddwy bleidlais i un dros Gymru gyfan, ac mewn 21 o’r 22 Awdurdod Lleol. (Dim ond Mynwy a bleidleisiodd yn erbyn, a hynny o nifer fechan iawn.) Fel y dengys Tabl 2, gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y bleidlais Ie ers 1997 yn yr ardaloedd a wrthododd ddatganoli o’r blaen. Roedd hyn yn gyson â darganfyddiadau ymchwil i farn y cyhoedd a fu’n dangos ers tro fod gwrthwynebiad i ddatganoli wedi syrthio fwyaf ymysg y grwpiau cymdeithasol, ac yn yr ardaloedd hynny o Gymru, a oedd fwyaf gwrthwynebus yn 1997.

 

Tabl 2: % y bleidlais Ie fesul Awdurdod Lleol, 1997 a 2011

 

Awdurdod Lleol 1997
% y bleidlais Ie
2011
% y bleidlais Ie
2011
% y newid
Sir y Fflint 38.1 62.1 24.0
Sir Ddinbych 40.8 61.8 21.0
Wrecsam 45.3 64.1 18.8
Conwy 41.0 59.7 18.7
Casnewydd 37.4 54.8 17.4
Mynwy 32.1 49.4 17.3
Caerdydd 44.4 61.4 17.0
Bro Morgannwg 36.7 52.5 15.8
Ynys Môn 50.9 64.8 13.9
Pen-y-bont ar Ogwr 54.4 68.1 13.7
Blaenau Gwent 56.1 68.9 12.8
Tor-faen 50.1 62.8 12.7
Sir Benfro 42.8 55.0 12.2
Rhondda Cynon Taf 58.5 70.7 12.2
Gwynedd 64.1 76.0 11.9
Abertawe 52.0 63.2 11.2
Merthyr Tudfu 58.2 68.9 10.7
Caerffili 54.7 64.3 9.6
Powys 42.7 51.6 8.9
Ceredigion 59.1 66.2 7.1
Castell-nedd Port Talbot 66.6 73.0 6.4
Sir Gaerfyrddin 65.3 70.8 5.5
 
Cymru 50.3 63.5 13.2

 

(Sylwer: yr ardaloedd a bleidleisiodd Na yn 1997 mewn italig)


Ie neu Na?

 

Felly pam wnaeth yr ochr Ie ennill Refferendwm Cymru 2011?

 

Deellir yn iawn fod y modd y mae pobl yn pleidleisio mewn etholiadau ran amlaf yn adlewyrchu cymysgedd o ddylanwadau hir dymor - megis uniaethu dwfn â grŵp cymdeithasol neu blaid - a ffactorau mwy byr dymor - megis eu barn gyfredol am berfformiad y pleidiau mewn llywodraeth, neu eu barn am arweinwyr y pleidiau. Mae deall patrymau pleidleisio mewn refferenda ychydig yn anos. Cynhelir refferenda’n llai aml nag etholiadau yn y rhan fwyaf o ddemocratiaethau, ac mae natur y dewis sydd gan bleidleiswyr yn wahanol iawn. Cynigir llawer yn llai o ddewisiadau mewn refferenda (Ie, Na, neu beidio pleidleisio) nag yn y rhan fwyaf o etholiadau, gyda phobl yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn canlyniad penodol yn hytrach na thros berson neu blaid.

 

Yn ôl astudiaethau refferenda blaenorol, ceir nifer o ffactorau sydd yn aml yn llywio penderfyniadau’r pleidleiswyr.

 

Negeseuon y Pleidiau: Nid pleidiau sy’n chwilio am bleidleisiau mewn refferenda. Fodd bynnag, mae barn y pleidiau mewn refferenda yn aml yn dylanwadu ar y modd y mae pobl yn pleidleisio. Os mai prin yw gwybodaeth yr etholwyr ar bwnc y bleidlais, maent yn aml yn fodlon dilyn argymhelliad y prif bleidiau ac arweinwyr gwleidyddol. Gall pleidiau ac arweinwyr poblogaidd ddenu cefnogaeth i’w hachosion. Yr un modd, gall plaid neu wleidydd amhoblogaidd achosi i bleidleiswyr wrthwynebu rhywbeth: cred ymgyrchwyr Ie fod cefnogaeth Nick Clegg i’r ymgyrch Ie yn Refferendwm y DU ar y Bleidlais Amgen ym Mai 2011 wedi colli nifer o bleidleisiau iddyn nhw.

 

Er mwyn i’r pleidiau weld eu dylanwad ar bleidleiswyr yn y modd hwn, rhaid i’r etholwyr wybod beth yw safiad y pleidiau ar y pwnc dan sylw. Yn 2011, achosodd yr ymgyrch ddi-fflach lawer o gymysgwch ym meddyliau’r etholwyr ynglŷn â safiad rhai o’r pleidiau. Fel y dengys Tabl 3, Plaid Cymru oedd yr unig blaid â barn gadarn ac amlwg yn ôl y mwyafrif o etholwyr. Roedd negeseuon y pleidiau eraill dipyn yn fwy cyfyngedig.

 

Tabl 3: Negeseuon y Pleidiau yn y Refferendwm (%)

Pa ffordd ydych chi’n meddwl mae [ENW’R BLAID] wedi argymell y dylai pobl bleidleisio yn y Refferendwm?

 

  Ceidwadwyr Llafur Democratiaid Rhyddfrydol Plaid Cymru
Ie 23 52 32 70
Na 18 3 6 1
Heb argymell 15 7 12 4
Ddim yn gwybod 44 39 49 25

 

Gwerthusiad Perfformiad: Mae llawer o ddadansoddiadau etholiadol yn amlygu pwysigrwydd perfformiad a chyflwyno polisi, gan ddadlau mai’r farn ar gymhwysedd cyffredinol y pleidiau yw’r dylanwad mwyaf ar y modd y bydd pobl yn pleidleisio mewn etholiadau. Dangoswyd weithiau bod perfformiad yn bwysig hefyd wrth ddylanwadu ar bleidleisio mewn refferenda, ac yn sicr disgwylid y byddai’n llywio’r pleidleisio yn Refferendwm Cymru 2011. Gofynnwyd i’r pleidleiswyr gytuno i roi mwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol; gallai’r farn ynglŷn â sut yr oedd wedi perfformio gyda’r pwerau oedd ganddo eisoes ddylanwadu ar eu parodrwydd i gytuno ar bwerau ychwanegol. Ond golygai rhoi mwy o bwerau i wleidyddion yng Nghaerdydd dynnu pwerau oddi ar San Steffan i ryw raddau. Felly roedd y farn ar berfformiad llywodraeth y DU hefyd yn berthnasol.

 

Fel y gwelir yn Ffigwr 1, roedd y rhai oedd â barn gadarnhaol am berfformiad llywodraeth Cymru dipyn yn fwy tebygol o bleidleisio Ie yn y refferendwm na’r rheiny oedd â barn negyddol. Ond mae’n amlwg fod y farn am lywodraeth y DU hefyd yn berthnasol. Os oedd gennych farn negyddol am berfformiad llywodraeth y DU, roeddech yn fwy tebygol o bleidleisio o blaid trosglwyddo mwy o bwerau o Lundain i Gaerdydd.

 

Ffigwr 1: % y Bleidlais Ie a Gwerthusiadau Perfformiad y Llywodraeth

 

Figure 1: % Yes Vote & Government Performance Evaluations

 

Dylanwad yr Ymgyrch: Yn aml iawn, dengys astudiaethau refferenda ar hyd a lled y byd newid mawr mewn bwriadau pleidleisio yn ystod yr ymgyrch a chyn y bleidlais ei hun. Wrth i’r etholwyr ddod i ddeall mwy am yr hyn sydd yn y fantol yn y refferendwm, maent yn aml yn newid eu barn wreiddiol. Mae hyn yn dueddol o ddigwydd yn arbennig mewn lleoedd (megis rhai taleithiau yn UDA) lle gall ymgyrchoedd wario symiau sylweddol o arian cyn y refferendwm. Yn y DU, rheolir gwariant refferendwm yn ofalus iawn. Ac fel y soniwyd ynghynt, cafodd yr ymgyrch ddi-fflach hi’n anodd iawn cysylltu â’r rhan fwyaf o etholwyr yng Nghymru yn 2011. Felly nid yw’n syndod mai ychydig oedd y newid yn ystod cyfnod yr ymgyrch (heblaw am nifer yr etholwyr ansicr yn lleihau’n araf). Roedd yr ymgyrch Ie ar y blaen yn glir ymhob pôl piniwn a gyhoeddwyd yn ystod 2010 ac yn gynnar yn 2011. Ac fel y gwelwn yn Ffigwr 2, ni ddigwyddodd dim byd yn ystod pedair wythnos olaf yr ymgyrch i newid hyn.

 

Ffigwr 2: % y Bwriadau Pleidleisio yn y Refferendwm (Cyfartaledd dros 3 diwrnod)

 

Figure 2: Referendum Voting Intention (Rolling 3-day average) %

 

Gwleidyddiaeth Hunaniaeth: Fel ag y soniwyd ynghynt, roedd Refferendwm Datganoli 1997 wedi dangos Cymru wedi’i rhwygo’n ddwy ar fater datganoli. Ffactor allweddol yn y rhaniadau hynny oedd hunaniaeth genedlaethol. Roedd y rhai oedd â hunaniaeth fwy Cymreig lawer yn fwy tebygol o gefnogi datganoli na’r rhai oedd â hunaniaeth fwy Prydeinig. Er bod ymchwil ers hynny yn dangos lleihad sylweddol yn y gwrthwynebiad i ddatganoli ymysg ymuniaethwyr Prydeinig, nid oedd yn amlwg o gwbl y byddai’r bobl yma’n fodlon cefnogi mwy o ddatganoli i Gymru. Ac fel y dengys Ffigwr 3, fe wnaeth rhai gwahaniaethau barhau, gydag ymuniaethwyr Cymreig cryf yn amlwg yn fwy tebygol o bleidleisio Ie.

 

Ffigwr 3: % y Bleidiais Ie yn ôl Hunaniaeth Genedlaethol

 

Figure 3: % Yes Vote by National Identity

 

Roedd dau wahaniaeth arall a welwyd yn Refferendwm 1997 hefyd yn bresennol yn 2011. Yn 1997, roedd dynion yn fwy parod o sawl pwynt canran i bleidleisio Ie na gwragedd; roedd hyn yn parhau’n wir yn 2011. Ac fel y gwelwn yn Ffigwr 4, roedd etholwyr hŷn yn parhau’n fwy amharod i gefnogi mwy o ddatganoli – er hyd yn oed ymysg y rhain, mwyafrif bychan ohonynt benderfynodd bleidleisio Ie.

 

Ffigwr 4: % y Bleidlais Ie yn ôl Grŵp Oedran

 

Figure 4: % Yes Vote by Age Group

 

Barn ar y Pwnc: Yn olaf, ond nid yn lleiaf, gall y ffordd mae pobl yn pleidleisio mewn refferendwm ddibynnu ar eu barn ar y pwnc ar y papur pleidleisio. Weithiau bydd refferenda yn ymwneud â materion y mae pobl yn sicr a chadarn eu barn amdanynt, er nad yw hyn yn wir yn aml iawn. Trafodwyd eisoes fod Refferendwm Cymru 2011 yn ymwneud â chwestiwn braidd yn anodd ei ddeall. Ond roedd y cwestiwn yn gysylltiedig â mater mwy sylfaenol o lawer: a ddylai Cymru gael rhywfaint o ymreolaeth wleidyddol o fewn y DU, ac yn benodol yn y refferendwm hwn, pa mor bellgyrhaeddol ddylai’r ymreolaeth hwnnw fod. Awgrymai arolygon barn dros gyfnod o sawl blwyddyn fod yna gefnogaeth gyhoeddus sylweddol i gryfhau datganoli, yn unol â chanlyniad terfynol y refferendwm. A dengys tystiolaeth Arolwg Refferendwm Cymru fod dros 95 y cant o’r pleidleiswyr sydd naill ai’n ffafrio annibyniaeth i Gymru neu’n credu y dylai’r Cynulliad gael mwy o bwerau, wedi pleidleisio Ie; roedd llai nag 20 y cant o’r rheiny a gredai y dylid diddymu datganoli neu y dylid lleihau pwerau’r Cynulliad wedi pleidleisio Na. Yn syml, roedd y modd y pleidleisiodd pobl yn y refferendwm wedi’i gysylltu’n agos iawn â’u syniadau ehangach am y modd y dylid llywodraethu Cymru.

 

Defnyddir democratiaeth uniongyrchol refferenda dipyn yn llai aml na democratiaeth gynrychioliadol etholiadau, yn y DU ac yn y rhan fwyaf o’r byd democrataidd. Ond mae’r defnydd o refferenda ar gynnydd yn bendant, gyda Refferendwm Cymru ym mis Mawrth 2011 yn un enghraifft yn unig o duedd byd-eang. Cynigiodd Refferendwm Cymru gwestiwn a oedd yn anodd iawn i nifer o etholwyr ei ddeall, ac ymgyrch a fethodd â thanio diddordeb y rhan fwyaf ohonynt. Nid yw’n syndod fod y nifer a bleidleisiodd yn fychan. Ond rhoddodd y rhai bleidleisiodd fandad clir i roi mwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol. Cadarnhaodd hyn fod y Cynulliad yn rhan bwysig o lywodraeth a gwleidyddiaeth yng Nghymru – dyma sefydliad sydd yn sicr yn mynd i gynyddu ei ddylanwad dros fywydau pobl Cymru dros y blynyddoedd nesaf yma.

 

Aeth Astudiaeth Refferendwm Cymru ati i gyfweld â sampl o 3029 person o’r etholaeth Gymreig cyn y refferendwm, ac ailgyfwelwyd â hwy yn syth wedi’r refferendwm. Cwblhawyd yr astudiaeth hon gyda chefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (grant RES-000-22-4496); cafodd y cyfweliadau eu cynnal drwy’r rhyngrwyd gan yr asiantaeth arolygon YouGov.