Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Barnwyr y DU

Neil McNaughton

 

Yn yr erthygl hon mae Neil McNaughton yn edrych ar y rhesymau dros y cynnydd diweddar ym mhwysigrwydd gwleidyddol uwch farnwriaeth (senior judiciary) y Deyrnas Unedig, ac yn gofyn a oes gan farnwyr (judges) ormod o rym ynteu ddim digon o rym.


Cyflwyniad

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae uwch farnwriaeth y Deyrnas Unedig wedi hawlio sylw gwleidyddol yn fwyfwy aml. Mae'r datblygiad hwn yn wrthgyferbyniad llwyr i statws traddodiadol barnwyr a oedd yn mynnu y dylent fod â phroffil isel, y dylent fod yn gyfan gwbl niwtral ac yn amharod i ymwneud ag unrhyw beth y credid ei fod yn fater 'gwleidyddol'. Mewn geiriau eraill, yn y gorffennol derbyniwyd y dylai'r uwch gyfreithwyr (senior lawyers) hyn, nad etholwyd mohonynt ac nad ydynt yn atebol, gyfyngu eu hunain i faterion yn ymwneud â dehongli’r gyfraith a chynnal rheolaeth y gyfraith (maintain the rule of law). Arferid credu bod gwleidyddiaeth, ar y llaw arall, y tu allan i'w maes; rhywbeth i'n cynrychiolwyr etholedig oedd hynny – y gwleidyddion. Felly, erbyn hyn dylai myfyrwyr gwleidyddiaeth ofyn:

  • Beth a ddigwyddodd i newid y darlun hwn?

  • A yw'r sefyllfa bresennol yn ddymunol?

 


Beth sydd wedi digwydd?


Gallwn briodoli’r cynnydd ym mhroffil a phwysigrwydd uwch farnwyr y Deyrnas Unedig yn y byd gwleidyddol i nifer o ffactorau.

 

Y Ddeddf Hawliau Dynol
Mae'n bosibl mai'r datblygiad mwyaf arwyddocaol oedd cyflwyno'r Ddeddf Hawliau Dynol, a basiwyd ym 1998 ac a ddaeth i rym yn y flwyddyn 2000. Yn sgil y Ddeddf daeth y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhan o gyfraith y Deyrnas Unedig. Am y tro cyntaf roedd gan y Deyrnas Unedig gyfres gyfundrefnol o hawliau dynol yn lle'r gyfres anhrefnus o statudau, cyfraith gwlad a chynseiliau barnwrol (judicial precedents) (hynny yw dyfarniadau gan farnwyr yn y gorffennol) yr oedd y llysoedd yn gweithredu ar eu sail yn y gorffennol. Bellach mae gan farnwyr gyfres lawer mwy eglur o ganllawiau pan fyddant yn wynebu achosion lle y bydd dinasyddion yn honni bod eu hawliau wedi cael eu tramgwyddo. Ar ben hynny, mae'n ymddangos bod gan y Confensiwn Ewropeaidd bellach lawer mwy o statws ac awdurdod na threfniadau blaenorol y Deyrnas Unedig ar gyfer diogelu hawliau. Mae hyn i'w weld yn astudiaeth achos 1.

 

Adolygiad barnwrol
Ers y 1990au yn arbennig, mae'r defnydd o adolygiad barnwrol (judicial review) wedi cynyddu’n sylweddol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r llysoedd yn gynyddol barod i wrando achosion pan fydd dinesydd neu grŵp o ddinasyddion yn teimlo eu bod wedi cael 'cam' gan gorff cyhoeddus o ryw fath. Fel arfer mae adolygiadau barnwrol yn deillio o honiad bod corff cyhoeddus, megis gweinidog yn y llywodraeth, gwas sifil, awdurdod lleol neu unrhyw sefydliad gwladwriaethol arall, wedi gweithredu'n anghyfreithlon. Gall 'anghyfreithlon' olygu nifer o bethau. Gall olygu bod corff wedi mynd y tu hwnt i'w bwerau cyfreithiol, neu ei fod wedi trin dinasyddion yn annheg neu'n anghyfartal, neu nad yw wedi dilyn gweithdrefnau priodol wrth wneud penderfyniad. Yn naturiol caiff adolygiadau barnwrol eu gweld yn aml fel her uniongyrchol i'r llywodraeth pan fydd barnwyr yn cadarnhau honiadau (claims) dinasyddion.

 

Cyfraith Ewrop
Fel y nodwyd uchod, mae'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol bellach yn rhan o gyfraith y Deyrnas Unedig a gellir ei orfodi gan y llysoedd mewn llawer o achosion. Ond nid dyma'r unig ddylanwad Ewropeaidd ar lysoedd y Deyrnas Unedig. Yn bennaf ers 1992, pan lofnodwyd Cytuniad Maastricht, gall llysoedd y Deyrnas Unedig hefyd orfodi amrywiaeth eang o ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn. Mae’r Deyrnas Unedig dan rwymedigaeth deddfau'r Undeb Ewropeaidd, a llysoedd y Deyrnas Unedig sy'n gorfodi'r egwyddor hon. Weithiau gall dyfarniadau (rulings) ein llysoedd ar gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd greu embaras i lywodraeth Prydain neu hyd yn oed fod yn elyniaethus tuag ati.

 

Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005
Darpariaeth fwyaf arwyddocaol y Ddeddf hon oedd creu'r Goruchaf Lys, a ddechreuodd weithredu yn 2009. Disodlodd y llys hwn yr arfer o anfon apeliadau cyfreithiol i'r 12 o Arglwyddi'r Gyfraith, sef uwch farnwyr a oedd yn eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Er nad oes gan y Goruchaf Lys bwerau ychwanegol i bwerau Arglwyddi'r Gyfraith, mae bellach yn gwbl annibynnol ar y Senedd ac mae nifer o sylwebyddion yn dadlau bod yr 'ymdeimlad' newydd o annibyniaeth wedi gwneud y llys yn fwy gweithredol (active) ac yn fwy parod i herio grym y llywodraeth na'i ragflaenydd.

 

Barnwyr rhyddfrydol
Tra bod y datblygiadau a ddisgrifir uchod wedi bod yn mynd rhagddynt, mae Prydain hefyd wedi gweld nifer o uwch farnwyr â thueddiadau rhyddfrydol amlwg yn cael eu penodi. Yn eu plith mae'r Arglwyddi Woolf, Phillips, Bingham a Hoffman. Dangosodd y barnwyr hyn (pob un ohonynt wedi ymddeol bellach) eu bod yn fwy na pharod i herio grym llywodraeth pe baent yn teimlo bod hawliau dynol dan fygythiad. Mae arweiniad y barnwyr hyn yn dal i gael ei ddilyn heddiw. Mae astudiaeth achos 2 yn dangos eu parodrwydd i gadarnhau'r hawl i breifatrwydd.

 

Astudiaeth achos 1

Y Ddeddf Hawliau Dynol a diogelwch gwladol

Disgwylir i farnwyr gynnal hawliau dynol (human rights). Ar y llaw arall, disgwylir i lywodraethau sicrhau diogelwch gwladol (national security). Weithiau, mae'n bosibl y bydd llywodraethau yn dymuno tresmasu ar ein hawliau fel unigolion er mwyn gwarchod diogelwch gwladol. Dyma enghreifftiau a welwyd o hynny: dal rhywun yr amheuwyd ei fod yn derfysgwr am gyfnodau hir heb dreial er mwyn ei groesholi’n llwyddiannus, neu wahardd gwrthdystiadau cyhoeddus a allai fygwth y drefn gyhoeddus. Pan fydd y ddau ofyniad yn gwrthdaro, mae'n bosibl y bydd gwrthdaro rhwng barnwyr a gwleidyddion. Y cwestiwn felly yw, mewn achosion lle ceir gwrthdaro rhwng hawliau dynol a diogelwch gwladol, pwy sy’n penderfynu? Barnwyr ynteu wleidyddion?

 

Digwyddodd yr achos mwyaf adnabyddus ym mis Rhagfyr 2004 pan wnaeth naw dyn oedd dan amheuaeth o fod yn derfysgwyr a oedd wedi eu cadw yng Ngharchar Belmarsh apelio yn erbyn cael eu cadw yn y ddalfa heb dreial. Dyfarnodd Arglwyddi'r Gyfraith (the Law Lords) (rhagflaenwyr y Goruchaf Lys (the Supreme Court)) fod eu hawliau dynol yn cael eu tramgwyddo ac y dylid eu rhyddhau.


Roedd y llywodraeth yn siomedig â’r dyfarniad a cheisiodd gael cymeradwyaeth y senedd er mwyn parhau i gadw’r dynion yn y ddalfa, ond aflwyddiannus fu hynny. Ers achos Belmarsh, sefydlwyd yr egwyddor bod yn rhaid i'r llywodraeth gael cytundeb y Senedd os yw'n dymuno mynd yn groes i ddyfarniad barnwyr ar faterion hawliau dynol.

 

Mae'r barnwyr yn dweud... mai nhw sy'n gwarchod hawliau dynol a bod yn rhaid iddynt gyflawni'r swyddogaeth honno heb bwysau gan y llywodraeth. Fodd bynnag, maent yn derbyn mai'r Senedd sydd oruchaf yn y pen draw.

 

Mae'r gwleidyddion yn dweud... mai'r Senedd a’r llywodraeth a ddylai benderfynu ar y ffin rhwng hawliau dynol a'r angen i sicrhau diogelwch gwladol.

 

Dyma a ddywedodd yr Arglwydd Woolf (yr Arglwydd Brif Ustus (Lord Chief Justice) ar y pryd) mewn araith ar 21 Gorffennaf 2004:
Rhaid i'r farnwriaeth fod yn wyliadwrus, bob amser, er mwyn sicrhau nad yw'r camau y mae'r Wladwriaeth yn eu cymryd i ddiogelu ei holl ddinasyddion, yn ymyrryd â hawliau'r unigolyn dim ond pan fo'r ymyrraeth honno yn cyd-fynd â'r gyfraith. Mae'r cyfrifoldeb hwn sydd gan y farnwriaeth yn un enghraifft o blith nifer pam mae’n hollbwysig bod annibyniaeth barnwyr y tu hwnt i amheuaeth.

 

Astudiaeth achos 2

Deddfau preifatrwydd

Yn 2011 daeth i'r amlwg bod nifer o ffigurau cyhoeddus, gan gynnwys pêl-droedwyr yn Uwch Gynghrair Lloegr, wedi gwneud cais am 'uwch-waharddebau' (super-injunctions) i atal y cyfryngau rhag datgelu cyfrinachau am eu bywydau preifat. Roedd yr uwch-waharddebau yn golygu nad oedd yn bosibl datgelu enwau'r enwogion o dan sylw hyd yn oed.

 

Mae'r barnwyr yn dweud... bod y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn datgan y dylid parchu preifatrwydd pobl, oni bai bod datgeliadau yn y cyfryngau 'er budd y cyhoedd' (‘in the public interest’). Lle barnwyr yw penderfynu ym mhob achos unigol yr hyn sydd 'er budd y cyhoedd', neu’r hyn nad yw ‘er budd y cyhoedd’. Ar ben hynny, dim ond cynnal rheolaeth y gyfraith (maintain the rule of law) y maen nhw.

 

Mae'r gwleidyddion yn dweud... nad yw hyn yn cynrychioli ewyllys y Senedd na'r cyhoedd ym Mhrydain. Mae barnwyr wedi 'gor-ddehongli' ystyr preifatrwydd yn y Confensiwn. Ar ben hynny, mae dyfarniadau barnwyr amrywiol ar waharddebau yn bygwth 'rhyddid y wasg'.

 

Dyma a ddywedodd David Cameron, prif weinidog Prydain, mewn araith ar 21 Ebrill 2011:
Mae barnwyr yn defnyddio'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i greu rhyw fath o gyfraith preifatrwydd heb i'r Senedd benderfynu ar hynny. Rwy'n credu bod angen i ni eistedd yn ôl a meddwl o ddifrif: a yw hyn yn iawn, ai dyma'r peth iawn i ddigwydd?

 

Yr hyn a ddylai ddigwydd mewn democratiaeth seneddol yw y dylai'r Senedd, yr ydych yn ei hethol ac yn ei rhoi yno, benderfynu faint o amddiffynfa yr ydym am i unigolion ei chael, a faint o ryddid y wasg yr ydym am ei gael ac yn y blaen. Felly rydw i braidd yn anesmwyth ynghylch yr hyn sy'n digwydd.

 


 

Rhesymau pam y dylai barnwyr gael grym


Dyma'r prif ddadleuon sy'n awgrymu y dylai'r uwch farnwyr, sy'n gwrando ar achosion o bwysigrwydd gwleidyddol, fod yn bwerus:
 

  • Mae ganddynt swyddogaeth allweddol, yn enwedig wrth gynnal adolygiadau barnwrol (gweler uchod), o ran sicrhau bod y llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yn gweithredu o fewn y gyfraith ac nad ydynt yn camddefnyddio eu grym.

  • Mae ganddynt hefyd rôl (ynghyd â'r Senedd) i sicrhau bod cyfreithiau hawliau dynol a rhyddid yn cael eu cynnal.

  • Nid gwleidyddion yw barnwyr ac maent yn annibynnol ar wleidyddiaeth. Maent felly mewn sefyllfa gref i atal achosion o gamddefnyddio grym gan lywodraethau sy'n dymuno ennill mantais wleidyddol.

  • Maent yn cynnal rheolaeth y gyfraith, lle caiff pob dinesydd ei drin yn gydradd o dan y gyfraith. Mae hyn yn atal llywodraethau a chyrff cyhoeddus rhag trin pobl yn anghyfartal er mwyn cael mantais wleidyddol.

  • Er bod barn amrywiol y cyhoedd yn dylanwadu ar wleidyddion yn aml, gall barnwyr weithredu'n gyfan gwbl o fewn y gyfraith ac felly atal achosion o gamddefnyddio grym neu sathru ar hawliau dynol a allai ddigwydd dim ond er mwyn bodloni mympwy tymor byr y cyhoedd.

 


Rhesymau pam na ddylai barnwyr gael cymaint o rym


Dyma rai safbwyntiau sy'n awgrymu bod barnwyr yn rhy bwerus ac felly y dylid atal rhywfaint arnynt:

  • Nid yw barnwyr yn cael eu hethol ac felly nid ydynt yn atebol. Mae hyn yn golygu y gallant wneud dyfarniadau sy'n anwybyddu buddiannau’r wlad neu farn y cyhoedd. Nid oes gan y Senedd na'r cyhoedd unrhyw ffordd o alw barnwyr i gyfrif, felly dylid rheoli eu pŵer.

  • Weithiau bydd barnwyr yn gwneud dyfarniadau a allai atal y llywodraeth rhag ymgymryd â'i swyddogaethau a'i mandad gwleidyddol (Astudiaeth Achos 1). Mewn achosion lle mae anghydfod rhwng grym llywodraeth a grym barnwyr, dadleuir bod democratiaeth yn mynnu mai'r llywodraeth ddylai drechu.

  • Wrth gadarnhau cyfraith yr Undeb Ewropeaidd neu'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae barnwyr y Deyrnas Unedig weithiau'n herio sofraniaeth y Senedd, un o egwyddorion allweddol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig.

  • Mae rhai sylwebyddion wedi dadlau nad oes gan uwch farnwriaeth y Deyrnas Unedig afael ar fywyd go iawn oherwydd bod ei haelodau yn dod o gefndir cymdeithasol cul, ac wedi eu haddysgu’n bennaf mewn ysgolion preifat ac ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.


Casgliad


Mae p'un a oes gan farnwyr ormod o rym ynteu ddim digon o rym yn dibynnu i raddau helaeth ar eich safbwynt gwleidyddol.

 

Os ydych yn credu y dylai materion fel diogelu hawliau dynol, rhyddid y wasg, deddfau preifatrwydd neu bolisi dedfrydu gael eu dylanwadu gan farn y cyhoedd a dod o dan reolaeth gwleidyddion atebol, etholedig, efallai y byddwch yn dod i'r casgliad bod barnwyr heddiw yn arfer gormod o rym a'u bod yn rhy aml yn rhwystro’r hyn sydd er budd y cyhoedd.

 

Ond, os ydych o'r farn bod yn rhaid diogelu ein hawliau a'n rhyddid, rheolaeth y gyfraith a chyfiawnder cyfreithiol doed a ddêl, efallai y byddwch yn dod i gasgliad cwbl groes ac yn dymuno gweld hyd yn oed mwy o rym yn nwylo barnwyr. Er enghraifft, efallai y byddech yn cefnogi'r syniad y gall barnwyr hyd yn oed fwrw sofraniaeth seneddol o'r neilltu drwy ddatgan bod rhai cyfreithiau yn 'anghyfansoddiadol' ac yn fygythiad i'n hawliau, fel sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau.



Mae Neil McNaughton yn athro gwleidyddiaeth profiadol ac yn uwch-arholwr. Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr gan gynnwys Edexcel Government and Politics at AS (3ydd argraffiad) (2010), cyhoeddwyd gan Hodder Education.