Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Sut mae Aelodau Rhanbarthol yn cael eu hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol?

Mae'r erthygl hon yn esbonio sut mae’r System Aelodau Ychwanegol yn gweithio yn ystod etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn ystyried a fydd system etholiadol Cymru yn newid o ganlyniad i newidiadau yn yr etholaethau seneddol.


Mae gan y Cynulliad 60 o aelodau etholedig ac mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais. Mae’r bleidlais gyntaf yn cael ei defnyddio i ethol Aelod Cynulliad lleol neu Aelod etholaethol yn yr un modd ag y caiff Aelodau Seneddol eu hethol i Dŷ’r Cyffredin drwy ddefnyddio system y Cyntaf i’r Felin (CiF). Mae 40 o Aelodau'r Cynulliad yn cael eu hethol ar y sail hon, un o bob etholaeth yng Nghymru.


Mae’r ail bleidlais yn cael ei defnyddio i ethol 20 aelod ychwanegol, ar sail ranbarthol, i sicrhau bod cyfanswm y seddi sydd gan bob plaid wleidyddol yn adlewyrchu’r gyfran o’r bleidlais maen nhw wedi ei chael.


Mae’r System Aelodau Ychwanegol yn System Cynrychiolaeth Gyfrannol Aelodau Cymysg. Mae’n defnyddio dwy elfen, un ohonynt yn system Cynrychiolaeth Gyfrannol, neu PR, a’r llall yn system Cyntaf i’r Felin (CiF). Mae’r elfen Cynrychiolaeth Gyfrannol yn gwneud iawn am unrhyw anghyfartaledd sy’n codi yn sgîl yr elfen CiF. Mae systemau Cynrychiolaeth Gyfrannol Aelodau Cymysg yn cael eu defnyddio mewn naw cenedl-wladwriaeth, sef Albania, Bolifia, yr Almaen, yr Eidal, Hwngari, Lesotho, Mecsico, Seland Newydd a Feneswela.


Ar gyfer yr elfen Cynrychiolaeth Gyfrannol, mae pum rhanbarth etholiadol, ac mae pob rhanbarth yn ethol pedwar aelod i’r Cynulliad.


Mae pob rhanbarth etholiadol yn cynnwys rhwng saith a naw etholaeth. Bydd pedwar Aelod Cynulliad rhanbarthol yn cael eu hethol ym mhob un o'r pum rhanbarth.


Y pum rhanbarth etholiadol hyn yw:

  • Gogledd Cymru;

  • Canolbarth a Gorllewin Cymru;

  • Dwyrain De Cymru;

  • Gorllewin De Cymru;

  • Canol De Cymru.


Mae’r rhestrau rhanbarthol yng Nghymru yn rhestrau caeedig sy'n golygu bod y pleidleiswyr yn pleidleisio dros blaid wleidyddol. Bydd y papurau pleidleisio yn dangos rhestr o enwau’r ymgeiswyr sydd wedi’u henwebu gan bob plaid wleidyddol ac os bydd plaid yn ennill seddi rhanbarthol yr ymgeiswyr sydd ar frig y rhestr fydd yn cael eu hethol. Gall ymgeiswyr annibynnol unigol fod ar y rhestr hefyd.


Gellir cynnwys uchafswm o ddeuddeg o bobl ac isafswm o un ar restr ranbarthol plaid.


Yn etholiadau’r Cynulliad, mae fformiwla d’Hondt, a enwyd ar ôl y mathemategydd a’r seffolegydd o Wlad Belg a’i dyfeisiodd, yn cael ei defnyddio i benderfynu pa bleidiau sy’n ennill y seddi ranbarthol. Defnyddir y fformiwla'n aml i ddyrannu seddi mewn gwledydd sydd â systemau Cynrychiolaeth Gyfrannol, neu PR, sy’n defnyddio rhestrau pleidiau, er enghraifft, Gwlad Belg.


Yn achos Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae’r pedwar Aelod ychwanegol o bob un o’r pum rhanbarth yn cael eu hethol drwy’r dull canlynol:

  • bydd nifer y pleidleisiau a fwriwyd dros bob plaid ar ail bapur pleidleisio'r etholwyr ym mhob rhanbarth etholiadol yn cael eu cyfrif;

  • mae’r cyfanswm hwn yn cael ei rannu â nifer y seddi etholaethol a enillodd y blaid honno o dan yr elfen CiF, plws un.
     

    Gellir mynegi’r fformiwla fel hyn: A/(B+1) lle bo:


    A = cyfanswm y pleidleisiau rhanbarthol a fwriwyd dros y blaid honno ar draws pob un o’r etholaethau yn y rhanbarth etholiadol;
     

    B = cyfanswm y seddi etholaethol a enillodd y blaid honno yn y rhanbarth etholiadol hwnnw
     

  • Bydd y blaid sydd â'r nifer mwyaf o bleidleisiau ar ôl y cyfrifiad hwn yn ennill yr aelod ychwanegol cyntaf.

  • Bydd y cyfrifiad yn cael ei ailadrodd ar gyfer yr ail i’r pedwerydd aelod ychwanegol, gan rannu pleidlais ranbarthol y blaid ym mhob achos â nifer y seddi etholaethol plws un (+ 1), ac unrhyw seddi i aelodau ychwanegol a ddyrannwyd yn y rowndiau blaenorol.


Tabl 1: Enghraifft o ddefnyddio fformiwla d’Hondt i ethol Aelodau rhanbarthol

Mae’r enghraifft hon yn cynnwys pedair plaid mewn rhanbarth sydd ag wyth o etholaethau.


  Plaid A Plaid B Plaid C Plaid Ch
Cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd i'r pleidiau 50,000 62,000 48,000 36,000
Seddi CiF a enillwyd 3 3 2 0
CiF + 1 4 4 3 1

Y sedd 1af:

Bydd cyfanswm y pleidleisiau ar gyfer pob plaid yn cael ei rannu gyda 'chyfanswm rhannu' pob plaid (nifer y seddi CiF a enillwyd + 1).


Plaid A Plaid B Plaid C Plaid Ch
50,000 ÷ 4 = 12,500 62,000 ÷ 4 = 15,500 48,000 ÷ 3 = 16,000 36,000 ÷ 1 = 36,000

Plaid Ch, gyda chyfanswm o 36,000 o bleidleisiau, a fyddai’n cipio’r sedd gyntaf.


Yr 2il sedd:

Plaid A Plaid B Plaid C Plaid Ch
50,000 ÷ 4 = 12,500 62,000 ÷ 4 = 15,500 48,000 ÷ 3 = 16,000 36,000 ÷ 2 = 18,000

Plaid Ch, gyda chyfanswm o 18,000 o bleidleisiau, a fyddai’n cipio’r ail sedd.


Y 3edd sedd:

Plaid A Plaid B Plaid C Plaid Ch
50,000 ÷ 4 = 12,500 62,000 ÷ 4 = 15,500 48,000 ÷ 3 = 16,000 36,000 ÷ 3 = 12,000

Plaid C, gyda chyfanswm o 16,000 o bleidleisiau, a fyddai’n cipio’r drydedd sedd.


Y 4edd sedd:

Plaid A Plaid B Plaid C Plaid Ch
50,000 ÷ 4 = 12,500 62,000 ÷ 4 = 15,500 48,000 ÷ 4 = 12,000 36,000 ÷ 3 = 12,000


Plaid B
, gyda chyfanswm o 15,500 o bleidleisiau, a fyddai’n cipio’r sedd olaf.


Y canlyniadau ar gyfer pob plaid yn y rhanbarth hwn fyddai:

  Plaid A Plaid B Plaid C Plaid Ch
Cyntaf i’r Felin 3 3 2 0
Aelod Ychwanegol 0 1 1 2
Cyfanswm nifer yr Aelodau Cynulliad 3 4 3 2


Y Dyfodol:


Mae nifer yr etholaethau seneddol yng Nghymru yn debygol o leihau, o 40 i 30, erbyn Etholiad Cyffredinol nesaf y Deyrnas Unedig, sydd i’w gynnal ar 5 Mai 2015.

 

Mae’r lleihad arfaethedig yn nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru wedi arwain at ddadl ynghylch a ddylid newid nifer yr etholaethau yn y Cynulliad.

 

Yn ei dro, mae hyn wedi gwneud i rai gwestiynu a oes angen newid system etholiadol bresennol y Cynulliad?

 

Yn ystod y cwestiynau Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin ar 11 Mai 2011, gofynnodd Jonathan Edwards AS i’r Gwir Anrhydeddus, Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd:

 

O ystyried gwrthwynebiad y blaid Lafur i ddatgysylltu ffiniau etholaethol San Steffan a'r Cynulliad Cenedlaethol, oni fyddai'n gwneud synnwyr i seilio cyfansoddiad y pumed Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Aelod Cynulliad rhanbarthol a 30 Aelod Cynulliad etholaethol?

 

Ar 21 Mai 2012, cyhoeddodd y Gwir Anrhydeddus Cheryl Gillan AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru (yr Ysgrifennydd Gwladol), ymgynghoriad Papur Gwyrdd ynghylch trefniadau etholiadol y Cynulliad yn y dyfodol.

 

Mae’r Papur Gwyrdd:


… yn amlinellu opsiynau a chynigion y Llywodraeth ar gyfer newidiadau i gyfansoddiad y Cynulliad, yn cynnwys nifer etholaethau’r Cynulliad, hyd tymhorau'r Cynulliad, hawl ymgeiswyr i sefyll yn yr un etholiad mewn etholaeth Cynulliad ac mewn rhanbarth a hawl Aelodau‘r Cynulliad i eistedd yn Senedd San Steffan hefyd ar yr un pryd.

 

Mae’r Papur Gwyrdd yn cynnwys y chwe chwestiwn a ganlyn, a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 13 Awst 2012:

  • A yw’n well gennych Opsiwn 1: sef 40 o etholaethau Cynulliad, a phob un yn cynnwys nifer gweddol gyfartal o etholwyr, a bod ffiniau'r etholaethau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd; ynteu Opsiwn 2: adfer y cyswllt rhwng etholaethau'r Cynulliad ac etholaethau Seneddol drwy newid i Gynulliad o 30 o etholaethau, gyda nifer cyfartal o Aelodau etholaethol ac Aelodau rhanbarthol (30:30)?

  • O dan yr opsiwn o 30 etholaeth, a ydych yn cytuno â chynnig y Llywodraeth y gellid cynyddu neu leihau nifer y seddi rhanbarthol yn y Cynulliad, i roi ystyriaeth i unrhyw newid yn nifer etholaethau’r Cynulliad?

  • Sut y dylid strwythuro rhanbarthau etholiadol y Cynulliad o dan Opsiwn 1: sef, 40 etholaeth Cynulliad; ac Opsiwn 2: 30 etholaeth Cynulliad?

  • A ydych yn meddwl y dylid cynnal etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bob pedair blynedd ynteu bob pum mlynedd? Pam ydych chi’n ffafrio tymor o bedair neu bum mlynedd?

  • A ydych yn cytuno y dylai ymgeiswyr allu sefyll mewn etholaeth a rhanbarth yn yr un etholiad Cynulliad?

  • A ydych yn meddwl na ddylai Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru allu eistedd yn Senedd San Steffan hefyd?

Cyhoeddir papur ar wefan Swyddfa Cymru a fydd yn crynhoi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyn pen tri mis ar ôl dyddiad cau’r ymgynghoriad.

 

Gweithgaredd

Sut i gyfrifo’r System Aelodau Ychwanegol

  Plaid A Plaid B Plaid C Plaid Ch
Cyfanswm nifer y pleidleisiau i unrhyw blaid 79,564 58,080 34,944 30,911
Seddi a enillwyd ar sail y Cyntaf i’r Felin 6 1 0 1
Aelod Ychwanegol Sedd 1
Cyfanswm nifer y pleidleisiau ÷ (seddi CiF a enillwyd + 1)
       
Aelod Ychwanegol Sedd 2        
Aelod Ychwanegol Sedd 3        
Aelod Ychwanegol Sedd 4        
Aelodau Rhanbarthol Ychwanegol        
Cyfanswm nifer yr Aelodau Cynulliad ar gyfer y rhanbarth        

 

 

Atebion

 

  Plaid A Plaid B Plaid C Plaid Ch
Cyfanswm nifer y pleidleisiau i unrhyw blaid 79,564 58,080 34,944 30,911
Seddi a enillwyd ar sail y Cyntaf i’r Felin 6 1 0 1
Aelod Ychwanegol Sedd 1
Cyfanswm nifer y pleidleisiau ÷ (seddi CiF a enillwyd + 1)
79,564 ÷ 7 = 11,366 58,080 ÷ 2 = 29,040 34,944 ÷ 1 34,944 ETHOLWYD 30,911 ÷ 2 = 15,455
Aelod Ychwanegol Sedd 2 79,564 ÷ 7 = 11,366 58,080 ÷ 2 = 29,040 ETHOLWYD 34,944 ÷ 2 = 17,472 30,911 ÷ 2 = 15,455
Aelod Ychwanegol Sedd 3 79,564 ÷ 7 = 11,366 58,080 ÷ 3 = 19,360 ETHOLWYD 34,944 ÷ 2 = 17,472 30,911 ÷ 2 = 15,455
Aelod Ychwanegol Sedd 4 79,564 ÷ 7 = 11,366 58,080 ÷ 4 = 14,250 34,944 ÷ 2 = 17,472 ETHOLWYD 30,911 ÷ 2 = 15,455
Aelodau Rhanbarthol Ychwanegol 0 2 2 0
Cyfanswm nifer yr Aelodau Cynulliad ar gyfer y rhanbarth 6 3 2 1