Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Y Gymdeithas Fawr

Andrew Heywood


Y Gymdeithas Fawr yw'r thema ideolegol fwyaf arwyddocaol i ddeillio o Blaid Geidwadol y DU yn y blynyddoedd diwethaf. Ond beth yw ystyr y Gymdeithas Fawr? Pam mae'r syniad wedi cael gymaint o sylw, a beth mae hyn yn ei ddweud wrthym am bwysigrwydd ideoleg wleidyddol? Sut, os o gwbl, y mae'r Gymdeithas Fawr wedi'i chysylltu â cheidwadaeth? Yn olaf, a yw'r Gymdeithas Fawr yn ymgais i ailddyfeisio ceidwadaeth yn y DU, ynteu ai dim ond ymgais i ail-frandio'r Blaid Geidwadol ydyw?



Cyflwyniad


Roedd syniad y Gymdeithas Fawr yn thema ideolegol ganolog ym maniffesto'r Blaid Geidwadol ar gyfer etholiad cyffredinol mis Mai 2010. Er y gellir olrhain syniadaeth y Gymdeithas Fawr i'r 1990au, ac i ymdrechion cynnar i ddatblygu brand an-Thatcheraidd, neu ôl-Thatcheraidd ar gyfer ceidwadaeth yn y DU, mae'r syniadaeth wedi cael mwy o sylw ers i David Cameron ddod yn arweinydd y blaid ym mis Rhagfyr 2005.

 

Beth yw'r Gymdeithas Fawr?

 

Er bod dadlau sylweddol wedi bod ynghylch y term - yn arbennig oherwydd yr honiadau bod y glymblaid, o dan arweiniad y Ceidwadwyr, wedi ei ddefnyddio fel ffordd gyfrwys o gelu toriadau mewn gwariant - mae ystyr digon syml i'r syniad ei hun.

 

Cyfeiria'r Gymdeithas Fawr, fel y'i defnyddir gan Cameron ac aelodau blaenllaw eraill yn y glymblaid, at drosglwyddo pŵer a chyfrifoldeb dros ddarparu rhai gwasanaethau allweddol oddi wrth y wladwriaeth i grwpiau cymunedol ac elusennau, yn arbennig rhai sy'n gweithredu ar lefel cymdogaeth. Felly, mae'r gymdeithas yn mynd yn fwy, yn yr ystyr bod dinasyddion yn cyfrannu mwy yn eu cymunedau drwy, er enghraifft, wirfoddolwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros redeg swyddfeydd post a llyfrgelloedd, rhieni yn sefydlu 'ysgolion am ddim' ac elusennau yn cymryd cyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus.

 

Nod project y Gymdeithas Fawr yw cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus i fathau newydd o sefydliadau cymdeithasol, sy'n aml yn sefydliadau cymunedol. Adlewyrchir y nod hwn hefyd yn y cynnig y dylid annog cwmnïau cydweithredol y mae'r gweithwyr yn berchen i gymryd cyfrifoldeb dros waith asiantaethau cyhoeddus, a dyma o ble daw'r syniad bod y Gymdeithas Fawr wedi'i hadeiladu ar fodel John Lewis.

 

Fodd bynnag, mae gan bob ffurf ar y Gymdeithas Fawr nodweddion hynod wrthwladoliaethol. Caiff y Gymdeithas Fawr ei chyferbynnu â 'llywodraeth fawr'. O'r safbwynt hwn, llywodraeth yw gelyn cymdeithas, oherwydd wrth ehangu, cymerodd (yn ôl pob sôn) unrhyw ymdeimlad o gyfrifoldeb dinesig oddi ar ddinasyddion a'u gwneud yn ddidaro. Fel y dywedodd Cameron: "Mae yna'r fath beth â chymdeithas, ond mae'n wahanol i'r wladwriaeth".

 

Mae'r dadansoddiad hwn o leihau grym llywodraeth yn seiliedig ar ddwy ragdybiaeth:

  • y bydd tynnu cyfrifoldebau oddi ar y wladwriaeth yn arwain at gynnydd sylweddol mewn gwirfoddoli a gweithredu dinesig, wrth i rôl elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau cydweithredol y mae'r gweithwyr yn berchen arnynt, a sefydliadau tebyg, ehangu

  • y gall cyrff o'r fath gyflenwi gwasanaethau yn fwy effeithlon (yn rhatach) ac yn fwy effeithiol (yn fwy ymatebol i'r gymuned) na'r wladwriaeth

 

Pam mae ideoleg yn gwrthod diflannu

 

Pam mae gwleidyddion yn teimlo'r angen i ddatblygu 'syniadau mawr' o'r fath? Pam mae Cameron a'r Ceidwadwyr wedi ceisio mynegi eu nodau a'u credoau drwy greu gweledigaeth ideolegol, yn yr achos hwn, un seiliedig ar y Gymdeithas Fawr? Yr ateb byr i'r cwestiwn hwn yw bod syniadau yn bwysig, a bod ideoleg - er gwaethaf cyhoeddiadau rheolaidd ei bod wedi diflannu - yn parhau i chwarae rôl bwysig mewn gwleidyddiaeth. Ond beth yw'r rôl honno? Mae gan ideoleg o leiaf ddau ddiben pwysig mewn gwleidyddiaeth fodern: fel fframwaith deallusol ac fel dyfais farchnata.

 

Ideoleg fel fframwaith deallusol

 

Mae ideoleg yn rhoi fframwaith deallusol i wleidyddion, pleidiau a gweithredwyr gwleidyddol eraill allu gweithredu o'i fewn. Set o syniadau, credoau a rhagdybiaethau ydyw sy'n dylanwadu ar y ffordd mae pobl yn deall y byd, a thrwy hynny'n strwythuro eu nodau a'u gweithredoedd.

 

Ni all ideoleg ddiflannu'n llwyr oherwydd mae pob un ohonom yn edrych ar y byd drwy haenen o ddamcaniaethau a rhagdybiaethau. Ni ellir deall ein gweithredoedd heb gyfeirio at y dimensiwn ideolegol hwn. Dyma oedd y Marcsydd Eidalaidd, Antonia Gramsci (1891-1937) yn ei olygu pan gyfeiriodd at ideoleg fel 'synnwyr cyffredin' yr oes, gan ddangos i ba raddau y mae credoau ideolegol wedi gwreiddio ym mhob lefel o'r gymdeithas, yn ei chelfyddydau a'i llenyddiaeth, yn ei system addysg a'r cyfryngau torfol, ac mewn iaith bob dydd a diwylliant poblogaidd.

 

Ideoleg fel dyfais farchnata

 

Mewn gwrthgyferbyniad, mae ideoleg fel dyfais farchnata neu offeryn etholiadol yn greadigaeth rhy amlwg o lawer. Daeth yr agwedd hon ar wleidyddiaeth ideolegol yn fwy arwyddocaol oherwydd pwysigrwydd cynyddol y cyfryngau torfol mewn gwleidyddiaeth a'r duedd i ffafrio arweinyddiaeth bersonol (sy'n cael ei ystyried yn aml fel gwleidyddiaeth y DU yn newid i arddull arlywyddol)..

 

Roedd arweinwyr fel Margaret Thatcher a Tony Blair yn fedrus iawn yn eu gallu i gyfleu eu hunain mewn termau ideolegol, a thrwy hynny gwelwyd twf Thatcheriaeth yn y 1980au a Blairiaeth o ganol y 1990au.

 

Fodd bynnag, nid yw pob gwleidydd mor fedrus yn ei allu i gyfleu, neu hyd yn oed ymgorffori, gweledigaeth ideolegol. Un o brif ffaeleddau Gordon Brown oedd iddo gael anhawster datblygu neu gyfleu gweledigaeth ideolegol resymegol. Roedd hyn yn niweidio ei hygrededd fel arweinydd ac yn gwneud i'w brifweinidogaeth ymddangos yn ddigyfeiriad ar adegau. Wrth roi pwyslais ar y Gymdeithas Fawr, mae Cameron wedi arddangos ei fod yn 'etifedd i Blair' a'i fod wedi dysgu o leiaf un wers yn sgil methiant Brown.

 

Er hynny, nid yw mynegi gweledigaeth ideolegol yn unig yn atgyfnerthu arweinyddiaeth nac yn sicrhau llwyddiant etholiadol. Mae ideoleg fel dyfais farchnata yn effeithiol mewn dau fath o amgylchiadau:

  • Mae'n rhaid i ideoleg fod wedi gwreiddio, neu o leiaf fod yn gyson â'r syniadau a'r credoau sy'n llunio polisi'r llywodraeth yn ymarferol. Felly, mae'n rhaid iddo gyfateb i ideoleg fel fframwaith deallusol. Pan fydd y ddau wedi gwahanu, mae perygl y bydd yr ideoleg yn cael ei hystyried fel ymarfer ail-frandio di-chwaeth. Dyma ddigwyddodd yn achos ymrwymiad George W. Bush i 'geidwadaeth gydymdeimladol', er enghraifft.

  • Mae'n rhaid i weledigaeth ideolegol ennyn diddordeb y cyhoedd yn gyffredinol - mae'n rhaid iddi gyfleu pryderon neu ddyheadau cyffredin. Mewn sawl ffordd, mae hyn yn helpu i esbonio nerth Thatcheriaeth yn y 1980au, ond mae hefyd yn esbonio'r anawsterau a oedd yn wynebu'r Blaid Geidwadol o'r 1990au ymlaen, wrth i'r sylw ganolbwyntio'n gynyddol ar nodweddion llai deniadol Thatcheriaeth.

Edmund Burke: tad y Gymdeithas Fawr?

 

Wrth i themâu'r Gymdeithas Fawr ennyn mwy o sylw, tyfodd diddordeb yn syniadau'r gwladweinydd a'r damcaniaethwr gwleidyddol o Brydain, Edmund Burke (1729-97), sy'n aml yn cael ei alw'n dad ceidwadaeth Eingl-Americanaidd. Digwyddodd hyn yn arbennig oherwydd ei gyfeiriad yn Reflections on the Revolution in France (1790) at gariad pobl tuag at tuag at y 'platŵn bychan' y maent yn perthyn iddo mewn cymdeithas. Cafodd grwpiau cymunedol, elusennau, sefydliadau cymdogaeth a sefydliadau eraill eu hail-ddehongli'n fuan fel enghreifftiau o 'blatwnau bychain' cymdeithas.

 

Er hynny, mae dau bwynt yn gwahaniaethu syniadau Burke oddi wrth syniad y Gymdeithas Fawr fel y'i defnyddir gan wleidyddion ac athronwyr Ceidwadol yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn gyntaf, pan ddefnyddiodd Burke y syniad o'r 'platŵn bychan', roedd yn cyfeirio at isadrannau cymdeithasol y mae pobl yn cael eu geni iddynt. Felly, grwpiau organig yw'r 'platwnau bychain', fel teuluoedd a dosbarthau cymdeithasol. Nid yw'n glir o gwbl a fyddai Burke wedi defnyddio'r term i gyfeirio at yr elusennau neu'r grwpiau gwirfoddol sy'n sail i syniadaeth y Gymdeithas Fawr.

 

Yn ail, roedd diben cymdeithasol a gwleidyddol y 'platŵn bychan', i Burke, yn wahanol iawn i grwpiau a sefydliadau'r Gymdeithas Fawr. Athronydd ceidwadaeth gymdeithasol oedd Burke yn ei hanfod. Tynnodd sylw at y graddau y mae bodau dynol seicolegol gyfyngedig a dibynnol, yn chwilio am ddiogelwch mewn pethau fel traddodiad, awdurdod a moesoldeb cyffredin. Yn y cyd-destun hwn, y 'platwnau bychain' yw'r glud sy'n cadw cymdeithas at ei gilydd, ac sy'n gwneud bywyd dynol yn bosibl ei oddef. Drwy ddarparu ffocws ar gyfer teyrngarwch a chariad, a thrwy atgyfnerthu ein hymdeimlad o berthyn, mae'r 'platwnau bychain' yn ein helpu i wybod pwy ydym ni a'r hyn a ddisgwylir gennym.

 

Nid yw syniadaeth o'r fath yn esbonio pam neu sut mae grwpiau cymunedol, elusennau a chyrff gwirfoddol yn debygol o gael eu creu a chymryd cyfrifoldeb dros gyflenwi'r gwasanaethau a arferai gael eu cyflenwi gan y wladwriaeth.

 

Twf ceidwadaeth ddinesig

 

Canolbwyntiodd llawer o'r syniadaeth sydd wedi bod yn sail i wleidyddiaeth ceidwadaeth yn y DU ers y 1990au ar ymdrechion i ddatblygu brand o geidwadaeth an-Thatcheraidd neu ôl-Thatcheraidd. Daeth y Blaid Geidwadol i gael ei hystyried yn 'blaid gas'. Ymgorfforwyd y 'casineb' hwn yn natganiad Thatcher, sy'n cael ei ddyfynnu'n aml: "Nid oes y fath beth â chymdeithas". Roedd meddylwyr Ceidwadol a oedd yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem hon yn gwneud hynny'n aml drwy ddatgan yr angen i atgyfodi ac atgyfnerthu cymdeithas sifil. Nid oedd hyn yn rhoi pwyslais ar y wladwriaeth nac ar yr unigolyn, ond yn hytrach ar y sefydliadau sy'n sefyll rhwng y wladwriaeth a'r unigolyn.

 

Dadleuodd David Willetts (a oedd i gael ei benodi'n weinidog gwladol dros brifysgolion a gwyddoniaeth yn 2010) yn Civic Conservatism (1994) y dylid gosod y farchnad rydd yng nghyd-destun y 'sefydliadau a'r gwerthoedd sy'n creu cymdeithas sifil', a thynnu sylw ar yr un pryd at yr hyn a oedd yn fygythiad yn ei farn ef, sef datblygiad y wladwriaeth i'r 'rhwydwaith o grwpiau gwirfoddol'. Datblygwyd syniadau tebyg yn ddiweddarach gan Phillip Blond yn Red Tory (2010), ac ers hynny fe'u hyrwyddwyd gan ei felin drafod ef, ResPublica. Yn ei hanfod, ymgais yw 'Torïaeth goch' i gyfuno ymrwymiad 'coch' i ddiwallu anghenion pobl ddifreintiedig a chynyddu cyfiawnder economaidd, gyda chred "Dorïaidd", neu geidwadol gymdeithasol, mewn traddodiad a'r hyn yr oedd Blond yn ei alw'n 'wleidyddiaeth rhinweddau'.

 

Pam ceidwadaeth ddinesig?

 

Un o atyniadau ceidwadaeth ddinesig yw ei bod yn helpu i dorri, neu o leiaf wanhau'r cysylltiad rhwng ceidwadaeth a Thatcheriaeth. Yn hytrach na bod yn gyfrwng ar gyfer datblygu'r farchnad, unigoliaeth 'gadarn' a hunanymdrechol, gallai ceidwadaeth groesawu (neu groesawu'n ôl) y syniadau o berthyn cymdeithasol ac ymgysylltiad dinesig. Mewn sawl ffordd, adlewyrcha ceidwadaeth ddinesig ddylanwad cynyddol cymunedoliaeth, yn arbennig ers y 1980au. Mae cymunedwyr yn dadlau mai'r gymuned yw prif ffynhonnell yr unigolyn ar gyfer ffurfio gwerthoedd a hunaniaeth. Maent wedi rhybuddio yn erbyn y niwed a wnaethpwyd i ddiwylliant cyhoeddus cymdeithasau rhyddfrydol yn sgil eu pwyslais ar ryddid a hawliau'r unigolyn yn hytrach nag anghenion y gymuned.

 

Gellir gweld, yng ngwaith Blond yn arbennig, bod democratiaeth Gristnogol, sy'n cael ei harfer yn yr Almaen ac mewn rhannau eraill o Ewrop gyfandirol, wedi dylanwadu ar geidwadaeth ddinesig hefyd. Mae democratiaeth Gristnogol wedi gwreiddio mewn damcaniaeth gymdeithasol Babyddol, sy'n canolbwyntio ar y grŵp cymdeithasol yn hytrach nag ar yr unigolyn, ac sy'n pwysleisio cydbwysedd neu harmoni organig yn hytrach na chystadleuaeth. Gellir gweld pleidiau democrataidd Cristnogol yn arfer eu fersiwn eu hunain o'r Gymdeithas Fawr. Maent yn draddodiadol wedi pwysleisio pwysigrwydd sefydliadau cyfryngol fel eglwysi, undebau a grwpiau busnes, wedi'u cysylltu gan y syniad o bartneriaeth gymdeithasol. Sicrhaodd syniadau o'r fath hefyd eu bod yn llawer llai tebygol o gael eu denu gan atyniadau economeg y farchnad rydd o gymharu â'r pleidiau ceidwadol yn y DU ac UDA.

 

Ceidwadaeth ar ei newydd wedd, ynteu'r un hen stori?

 

Mae hyn yn amlygu'r anhawster sy'n wynebu Cameron i geisio croesawu ceidwadaeth ddinesig a datblygu'r Gymdeithas Fawr i fod yn brosiect ideolegol, yn hytrach na'i defnyddio fel dull o geisio dadwenwyno'r brand Ceidwadol. Gellir ystyried ceidwadaeth ddinesig fel athroniaeth wrthwladoliaethol, i'r graddau ei bod yn galw am drosglwyddo pŵer a chyfrifoldeb oddi wrth y wladwriaeth i gymdeithas sifil. Fodd bynnag, mae ceidwadaeth ddinesig, i ryw raddau o leiaf, yn athroniaeth wrthfarchnad hefyd. Wrth atgyfnerthu cystadleuaeth ac annog hunan-fudd materol, ni all y farchnad ond tanseilio ein hymdeimlad o gymuned a pherthyn cymdeithasol. Dyna pam mae cymunedwyr a democratiaid Cristnogol wedi beirniadu'r rhyddfrydiaeth economaidd sy'n sail i'r brand Thatcheraidd o geidwadaeth.

 

Er mwyn croesawu ceidwadaeth ddinesig yn llwyr, mae angen i Geidwadwyr y DU ddatblygu model economaidd newydd, ac yn benodol un sy'n rhoi llai o bwyslais ar y farchnad rydd. Fodd bynnag, ni welwyd llawer o dystiolaeth o hyn yn ystod blwyddyn gyntaf y glymblaid a arweinir gan y Ceidwadwyr. Yn wir, mae'r rhaglen i leihau'r diffyg ariannol, sef prif nodwedd strategaeth y llywodraeth ers mis Mai 2010, yn arddangos nodweddion Thatcheraidd amlwg. Yn ogystal ag adlewyrchu ymrwymiad cadarn i gyllidebau cytbwys a gwrthod y syniadau neo-Keynesaidd a gafwyd o dan Brown, ac a geir o dan Obama yn UDA, drwy roi'r pwyslais ar doriadau mewn gwariant yn hytrach na chynyddu treth, mae hefyd yn golygu gostyngiad sylweddol yng nghyfrifoldebau'r wladwriaeth.

 

Felly, gellid ystyried mai'r cyfan yw'r Gymdeithas Fawr yw ymgais i roi gwedd newydd ar y dymuniad Thatcheraidd sylfaenol o leihau cyfrifoldebau'r wladwriaeth. Gallai felly atgyfnerthu Thatcheriaeth yn hytrach na'i disodli. Fel y dywedodd Blond: 'Os na fydd yn ofalus, mae perygl y bydd Cameron yn llywodraethu dros fersiwn digyswllt, wedi'i ailadrodd, o economeg y farchnad rydd, ochr yn ochr â fersiwn cydymdeimladol a di-rym o geidwadaeth gymdeithasol'.