Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Cenedlaetholdeb yn y DU

Paul Graham


Mae cenedlaetholdeb yn ysgogi ymatebion cryf. Bu wrth wraidd polisïau hil-laddiad, ond eto bu hefyd yn rym sydd wedi arwain at newid democrataidd. Yn anochel, dylanwadir ar y drafodaeth am genedlaetholdeb gan brofiad hanesyddol, gyda'r beirniaid yn awyddus i bwysleisio 'ochr dywyll' cenedlaetholdeb a'r cefnogwyr yn pwysleisio ei botensial i sicrhau rhyddid.


Cyflwyniad


Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cenedlaetholdeb yn mynd law yn llaw â democratiaeth ryddfrydol. Ceisiodd nifer o wledydd dorri'n rhydd o ymerodraeth amlgenedlaethol ac amlethnig Awstria-Hwngari, a cheisiodd Iwerddon gael ymreolaeth oddi wrth Brydain. Ysgrifennodd yr athronydd gwleidyddol John Stuart Mill (1806-73) fod 'sefydliadau rhydd bron yn amhosibl mewn gwlad sy'n cynnwys sawl cenedl wahanol' (Mill 1991). Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y daeth cenedlaetholdeb yn amheus, yn sgil y cynnydd mewn ffasgaeth a chenedlaetholdeb hiliol radical Hitler.

 

Cenedlaetholdeb a rhyddfrydiaeth


Un enghraifft o amwysedd cenedlaetholdeb yw'r gwrthgyferbyniad rhwng Plaid Genedlaethol Prydain (y BNP) a Phlaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Gallai ymwelydd â Phrydain feddwl bod y ddwy blaid hyn yn debyg o ran ideoleg, ond cyfaddefa'r BNP yn ddiedifar ei bod yn blaid hiliol. Yn ôl ei chyfansoddiad, saif y BNP 'dros warchod cymeriad cenedlaethol ac ethnig pobl Prydain', a dim ond 'pobl o darddiad ethnig Prydeinig neu darddiad ethnig Ewropeaidd cytras' a all ymuno â'r blaid. Dymuna wrthdroi'r ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail rhyw a hawliau pobl hoyw. Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, disgrifia'r SNP ei hun fel plaid ddemocrataidd sydd i'r chwith o'r canol ac sy'n ymrwymedig i sicrhau annibyniaeth i'r Alban. Mae ei pholisïau cymdeithasol yn rhyddfrydol ac mae ei hagwedd yn rhyngwladol a'i dadl yw mai dim ond drwy annibyniaeth y gall yr Alban ymgysylltu'n briodol â gweddill y byd. O dan faner yr SNP yr etholwyd yr aelod Asiaidd (a Mwslimaidd) cyntaf i Senedd yr Alban.

 

Mae'r achos rhyddfrydol dros genedlaetholdeb yn seiliedig ar yr angen am undod fel un o ragofynion yr hyn a alwodd Mill yn 'sefydliadau rhydd'. Diffiniad Mill o 'genedl' yw cyfran o'r ddynoliaeth sydd wedi'i huno gan, er enghraifft, 'hil a thras', iaith, crefydd, atgofion cyffredin a sefydliadau gwleidyddol. Nid oes angen pob un o'r pethau hyn er mwyn creu cenedl – yn sicr nid oes angen 'hil' – ond rhaid cael 'glud' o ryw fath i ddal pobl at ei gilydd. Heb y glud hwn bydd bywyd cyhoeddus yn anodd. Ni fydd pobl yn darllen yr un papurau newydd a'r un llyfrau nac yn gwylio'r un rhaglenni teledu, ac, yn wir, gallant osgoi bron bob math o gysylltiad â'i gilydd. Yn baradocsaidd, mae globaleiddio wedi dyfnhau'r gwahaniaethau hyn, oherwydd gall pobl gael newyddion dros y rhyngrwyd a theledu lloeren ac nid oes angen darlledwyr cenedlaethol arnynt.

 

 

Cenedlaetholdeb gydag 'c' fach


Yng ngwleidyddiaeth Prydain caiff rhai pleidiau eu diffinio fel pleidiau 'cenedlaetholgar' ond nid eraill. Ymysg y pleidiau cenedlaetholgar mae'r SNP, Plaid Cymru, Sinn Fein, Plaid Annibynnol y Deyrnas Unedig (UKIP), y BNP ynghyd â phleidiau llai adnabyddus, fel Democratiaid Lloegr. Ond mae'n gamarweiniol awgrymu nad yw'r blaid Lafur, y Ceidwadwyr neu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn genedlaetholgar. Pleidiau cenedlaetholgar gydag 'c' fach yn hytrach nag 'C' fawr ydynt.

 

Dadleua'r gwyddonydd gwleidyddol Michael Billig nad yw arweinwyr gwleidyddol yn diffinio eu hunain fel 'cenedlaetholwyr' – term yw cenedlaetholdeb a ddefnyddir i ddisgrifio'r rhai ar yr 'ymylon', p'un a ydynt yn ymgyrchu dros annibyniaeth oddi wrth genedl fwy ynteu'n ceisio newid ymwybyddiaeth cenedl drwy, er enghraifft, hiliaeth – ond mae'r arweinwyr hynny yn genedlaetholwyr.


Mae trafodaethau gwleidyddol a diwylliannol yn llawn symbolaeth genedlaetholgar: mae'r gair 'cenedlaethol', neu eiriau cyfatebol fel EM (Ei Mawrhydi), yn rhan o deitlau swyddogol cyrff y wladwriaeth, ynghyd â symbolau gweledol. Mewn papurau newydd, ceir newyddion 'cenedlaethol' a 'rhyngwladol'. Caiff twristiaeth ei hyrwyddo drwy gyfrwng ychydig o stereoteipiau cenedlaethol. Yr enw a roddir Billig (1995) ar hyn yw 'cenedlaetholdeb cyffredin' - rhywbeth bob dydd sy'n cael ei gymryd yn ganiataol. Nid baner yn cael ei chwifio'n frwd ac yn angerddol yw'r darlun allweddol o genedlaetholdeb cyffredin, ond yn hytrach, baner wedi'i gosod ar adeilad cyhoeddus.


Cenedlaetholdeb yr Alban

 

Pan gaiff cenedlaetholdeb ei ddisgrifio fel rhywbeth ymatebol, nid cenedlaetholdeb cyffredin sydd dan sylw gan y beirniaid ond cenedlaetholdeb hiliol yr adain dde eithafol neu genedlaetholdeb ymwahanol pleidiau fel yr SNP neu Blaid Cymru. Ond, er ei bod yn deg disgrifio'r BNP fel plaid ymatebol, nid yw'n deg rhoi'r un label ar Blaid Cymru neu'r SNP.

 

Roedd Deddf Uno 1707 rhwng Lloegr a'r Alban yn cynnwys cymalau a oedd yn diogelu annibyniaeth system gyfreithiol yr Alban a'r eglwys wladol sefydledig (Eglwys yr Alban), ond yn anochel, treiddiodd symbolaeth Brydeinig drwy'r Alban. Rhaid i unrhyw un sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth yr Alban fynd ati'n ymwybodol i gyflwyno symbolau Albanaidd er mwyn gwrthwynebu'r symbolau Prydeinig. Dyma enghraifft fach i esbonio'r pwynt. Yn sgil datblygiad y rhyngrwyd a pharthau'r we, y 'cod gwlad' sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer Prydain yw '.uk'. Methodd ymgais i gael cydnabyddiaeth i '.sco', am nad yw'r Alban yn wlad annibynnol. Ond mae'r ffaith bod yr ymgyrch '.sco' wedi cael ei gweld fel un a oedd yn amlwg yn genedlaetholgar yn cuddio'r ffaith bod y defnydd cyffredin, a gymerir yn ganiataol, o '.uk' yn genedlaetholgar hefyd.

 

Mae'r byd wedi'i rannu'n genedl-wladwriaethau ac, oni allwch chi ddadlau'n ddeallus o blaid byd sydd wedi'i drefnu ar linellau anghenedlaethol, mae'n anodd cyhuddo cenedlaetholwyr sy'n dymuno ymwahanu oddi wrth genedl-wladwriaeth o fod yn ymatebol a honni ar yr un pryd nad ydych chi'n ymatebol eich hun.

 

Y perygl gyda chenedlaetholdeb ymwahanol yw'r ffordd y mae'n mynd ati i geisio creu syniad o'r genedl. Agorodd Winnie Ewing, un o'r gwleidyddion SNP mwyaf adnabyddus, sesiwn gyntaf Senedd newydd yr Alban yn 1999 gyda'r geiriau: 'Mae Senedd yr Alban, a ohiriwyd ar bumed diwrnod ar hugain y flwyddyn 1707, wedi ailymgynnull.' Roedd yn ddatganiad cyffrous, ond camarweiniol. Prin y gellid galw Senedd 1707 yn ddemocrataidd, ac roedd yr Alban fodern wedi cael ei thrawsnewid yn gyfan gwbl yn ystod 300 mlynedd o undeb â Lloegr. Yn wir, mae rhai haneswyr hyd yn oed yn cwestiynu a oedd yr Alban yn genedl cyn 1707. Mae hyn yn annhebygol, ond yn sicr, mae symbolau poblogaidd yr Alban - tartan, bagbibau, y cilt, mythau Celtaidd - yn gynnyrch diweddarach.

 

Wrth geisio creu cenedl Albanaidd newydd, wahanol i Brydain, mae perygl y bydd ffynonellau diwylliannol y genedl 'newydd' hon yn eithrio'r rhai sy'n uniaethu â Phrydain a Phrydeindod. Nid yw ychwaith yn gydnaws â'r croeso y mae'r SNP wedi'i estyn i bobl Asiaidd yr Alban, nad oeddent yn bendant yn byw yn yr Alban yn 1707.

 

Cenedlaetholdeb Cymreig


Bu cenedlaetholdeb yn gyfrifol am beri rhwyg yng Nghymru hefyd. Er bod Plaid Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi torri'n rhydd o'i chadarnleoedd gwledig, mae cydberthyniad cryf o hyd rhwng siarad Cymraeg a phleidleisio i Blaid Cymru. Caiff dyhead Plaid Cymru i gael 'statws cenedlaethol llawn' yn yr Undeb Ewropeaidd ei lesteirio gan anallu'r mwyafrif o Gymry di-Gymraeg i uniaethu â'r iaith, a chan y llinellau cyfathrebu daearyddol yng Nghymru sy'n mynd o'r dwyrain i'r gorllewin yn hytrach nag o'r goledd i'r de. Gan fanteisio ar y ffaith bod y blaid Lafur fel pa bai wedi cefnu ar sosialaeth o dan Tony Blair a Gordon Brown, mae Plaid Cymru wedi marchnata ei hun fel plaid sosialaidd ac wedi ymgyrchu fel 'the Party of Wales' mewn ardaloedd di-Gymraeg sy'n cefnogi'r blaid Lafur. Pwysleisia Plaid Cymru ei chymwysterau rhyddfrydol, fel y gwna'r SNP, gan ddadlau dros werth cyfartal pob bod dynol, 'beth bynnag fo'u hil, cenedl, rhyw, lliw, cred, rhywioldeb, oed, gallu neu gefndir cymdeithasol'.

 

Ni ellir cyhuddo Plaid Cymru o fod yn ymatebol, ond mae Cymru, yn wahanol i'r Alban, wedi esgor ar garfan genedlaetholgar eithafol ffyrnig. Er enghraifft, yn ystod y 1970au tan y 1990au bu sefydliad o'r enw Meibion Glyndŵr yn llosgi tai haf y tybiwyd eu bod yn eiddo i Saeson. Y sefydliad cyfatebol tebycaf yn yr Alban yw Byddin Rhyddid Genedlaethol yr Alban (SNLA), sydd wedi bod yn gyfrifol am anfon bomiau post. Carfan eithafol, ond di-drais yn ôl pob golwg, yw Siol nan Gaidheal ('Had y Gaeliaid') sy'n ymgyrchu yn erbyn 'Seisnigeiddio' yr Alban. Fodd bynnag, gwelwyd hefyd grwpiau hollt o natur fwy treisgar, fel Scottish Watch a Settler Watch.

 

Efallai fod gwendid adain eithafol cenedlaetholdeb yr Alban o gymharu â Chymru yn deillio o ymdeimlad Albanaidd mwy hyderus. Nid yw presenoldeb pobl a anwyd yn Lloegr yn yr Alban - tua 8% o'r boblogaeth - yn cael ei ystyried yn fygythiad. Oherwydd yr ymgyrch i amddiffyn yr iaith Gymraeg a diffyg undod daearyddol y wlad, mae'r 20% a anwyd yn Lloegr sy'n byw yng Nghymru yn fygythiad i rai cenedlaetholwyr Cymreig.

 

Gogledd Iwerddon

 

Er bod Prydeindod ym Mhrydain - y 'tir mawr' - yn cael ei gymryd yn ganiataol, a bod y rhai sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth yr Alban neu hunanlywodraeth i Gymru yn ymddangos fel cenedlaetholwyr, yng Ngogledd Iwerddon caiff Prydeindod ei arddel a'i amddiffyn yn ddyddiol. Y paradocs yw bod hyn yn gwneud i Brydeindod unoliaethwyr Ulster ymddangos yn ddieithr i bobl sy'n byw ar dir mawr Prydain. Mae hefyd yn gwneud i undeboliaeth ymddangos fel mudiad sy'n edrych yn ôl: mae unoliaethwyr wedi'u hynysu o'r wlad y maent yn honni sy'n wlad iddynt hwy ac o'r grymoedd sydd wedi newid gweddill y DU. Maent yn llai rhyddfrydol ac yn llai parod i groesawu amrywiaeth ddiwylliannol.

 

Fodd bynnag, nid yw undeboliaeth yn unffurf. Bu ymdrechion i gyfleu undeboliaeth fodern, un sy'n croesawu sefydliadau sy'n rhannu grym a rôl i Weriniaeth Iwerddon. Pwysleisiodd David Trimble, cyn arweinydd Plaid Unoliaethwyr Ulster (UUP), sy'n blaid gymedrol, bwysigrwydd y berthynas rhwng y ddwy wlad, Prydain ac Iwerddon. Hefyd, gwelodd gyfle yn sgil datganoli yn yr Alban ac yng Nghymru i greu syniad llai Prydeinig a chaeth o undeboliaeth. Yn y pen draw, arweiniodd ei ymdrechion i geisio ennyn cefnogaeth mwyafrif yr unoliaethwyr i rannu grym gyda Sinn Fein, at golli ei sedd yn San Steffan yn etholiad cyffredinol 2005. Problem Trimble oedd bod plaid unoliaethol 'wrthodol' wastad wrth ei ystlys: Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) dan arweiniad y Parchedig Dr Ian Paisley, 'Dr No' gwleidyddiaeth Ulster. Gwrthododd Paisley bob ymgais i rannu grym gyda phlaid yr oedd ef yn honni ei bod yn adain wleidyddol i sefydliad terfysgol.

 

Honna Sinn Fein nad yw'n blaid sectyddol, ei bod i'r chwith o'r canol a'i bod yn ymrwymedig i ailuno Iwerddon yn heddychlon. Dyma'r unig blaid wleidyddol sy'n ymladd etholiadau ar ochr ogleddol a deheuol y ffin. Mae'r sylw a roddir yn y cyfryngau i faterion cyfansoddiadol wedi cymylu'r drafodaeth ynghylch ideoleg y blaid, sy'n syrthio rhywle rhwng radicaliaeth sosialaidd a cheidwadaeth yr eglwys Gatholig. Er syndod i nifer o sylwebyddion, arweiniodd Paisley y DUP i mewn i weithrediaeth sy'n rhannu grym gyda Sinn Fein. Roedd llawer o ffactorau'n sail i'r penderfyniad hwn, ond roedd arian yn ysgogiad pwerus. Bygythiodd Llundain gyflwyno taliadau dŵr yng Ngogledd Iwerddon gan ddweud bod y biliau'n barod ac y byddent yn cael eu hanfon oni fyddai Sinn Fein a'r DUP yn dod i gytundeb. Bygythiodd llawer o breswylwyr anfon eu biliau at Paisley pe na bai'n cydymffurfio.

 

Ar wahân i Sinn Fein a'r DUP ceir mudiad menywod gweithgar, a Phlaid Gynghreiriol trawsgymunedol (Protestannaidd yn bennaf), sydd wedi ceisio tywys gwleidyddiaeth Ulster oddi wrth ei hobsesiwn gyda materion cyfansoddiadol. Yn arwyddocaol, y Blaid Gynghreiriol hon oedd y blaid gyntaf i gael cynrychiolydd Tsieineaidd mewn unrhyw gynulliad seneddol yn Ewrop, gyda buddugoliaeth Anna Lo yn etholiad mis Mawrth 2007.

 

Lloegr

 

Bellach mae gan yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon sefydliadau datganoledig. Nid felly y mae hi yn Lloegr. Arweiniodd hyn at yr hyn a alwodd yr AS Llafur Tam Dalyell yn Gwestiwn West Lothian. Cafodd hwn ei enwi ar ôl ei etholaeth yn yr Alban, a oedd yn cynnwys tref o'r enw Blackburn. Mae tref arall o'r enw Blackburn, sydd ychydig yn fwy adnabyddus, yn Swydd Gaerhirfryn yn Lloegr. Pe bai Dalyell yn ysgrifennydd gwladol dros iechyd yn llywodraeth y DU, byddai ganddo gyfrifoldeb dros iechyd yn Blackburn, Swydd Gaerhirfryn, ond nid yn Blackburn West Lothian. Codwyd y broblem hon yn y 1970au, pan gafwyd yr ymgais gyntaf i ddatganoli grym i'r Alban. Daeth yn realiti ar ôl 1999 yn sgil creu Senedd yr Alban.

 

Ceir tystiolaeth o ddicter yn Lloegr tuag at allu Aelodau Seneddol yr Alban i bleidleisio ar faterion sy'n berthnasol i Loegr yn unig ac, i ryw raddau, tuag at Aelodau Seneddol yr Alban yn cael cyfrifoldeb gweinidogol dros feysydd polisi sy'n berthnasol i Loegr. Dadleua cenedlaetholwyr yr Alban, fel Alex Salmond, fod gan y Saeson yr hawl i fod yn ddig ac y dylent fynegi eu dicter drwy alw am annibyniaeth i Loegr, a dangosodd y polau piniwn yn Lloegr fod cefnogaeth i hyn. Yn arwyddocaol, gofynnir neu dehonglir cwestiwn y pôl piniwn fel un am annibyniaeth yr Alban. Yn hyn o beth, edrychir ar wahaniad fel ymwahaniad yr Alban yn hytrach na chreu gwladwriaeth Seisnig newydd. Atega hyn farn yn yr Alban fod yna ddryswch ymysg y Saeson ynglŷn â'u hunaniaeth genedlaethol. Ni allant benderfynu p'un a ydynt yn Brydeinig neu Seisnig ac maent yn dueddol o ddefnyddio'r ddwy hunaniaeth. Mae'n sicr yn wir nad oes unrhyw sefydliadau gwladwriaethol Seisnig sy'n galluogi'r Saeson i fynegi eu hundod. Er y cafwyd digwyddiadau cyfansoddiadol Seisnig pwysig, y Ddeddf Hawliau Dynol yn 1689 yn fwyaf arwyddocaol, ni all llawer o bobl uniaethu â hwy a chânt eu dehongli'n ôl-weithredol fel rhan o ddatblygiad cyfansoddiadol Prydain.

 

Gellir dadlau bod chwaraeon yn un o'r ychydig bethau sy'n uno'r Saeson. Drwy bêl-droed y mae baner San Siôr wedi dod i ddisodli Jac (neu faner) yr Undeb yn Lloegr. Ond mae hefyd yn gwneud i lawer o Saeson deimlo'n anghyfforddus â Seisnigrwydd - mae'n llawer rhy agos at y fersiwn 'iob meddw' o genedlaetholdeb. Er bod yr adain chwith yng Nghymru a'r Alban wedi croesawu cenedlaetholdeb i raddau helaeth, mae'n gymharol anarferol i'r adain chwith yn Lloegr fynegi cenedlaetholdeb Seisnig. Er enghraifft, dadleua David Goodhart (gweler Blwch 1) dros genedlaetholdeb Seisnig blaengar. Mae'r canwr a'r cyfansoddwr Billy Brag yn eithriad. Mae e'n dadlau o blaid delwedd amlddiwylliannol o Loegr er mwyn gwrthwynebu a chyferbynnu â'r BNP ac UKIP. Er gwaethaf ei henw, plaid genedlaethol Seisnig yw UKIP yn ei hanfod sy'n mynegi Seisnigrwydd drwy wrthwynebu integreiddio ag Ewrop.

 

Bydd llawer, o'r adain chwith ac o'r adain dde, yn anghytuno â Bragg, ond mae'n werth nodi bod cyfran helaeth o'r boblogaeth Fwslimaidd, er enghraifft, yn byw yn Lloegr. Mae Mwslimiaid yn cynrychioli 3.1% o boblogaeth Lloegr, ond dim ond 0.8% o boblogaeth yr Alban, 0.7% o boblogaeth Cymru, a 0.1% o boblogaeth Gogledd Iwerddon. Ond, yn ddiddorol ddigon, er bod y rhan fwyaf o Fwslimiaid yn yr Alban yn disgrifio eu hunain fel 'Albanwyr nid Prydeinwyr', dangosodd arolwg ledled y DU yn 2007 fod 51% o bobl Asiaidd (nid Mwslimiaid yn unig) yn disgrifio eu hunain fel Prydeinwyr yn bennaf, ond dim ond 29% o bobl wyn a oedd yn gwneud hynny. Ymddengys fod Prydeindod yn gymharol gynhwysol, ond nid felly Seisnigrwydd.

 

Casgliad

 

Mae p'un a yw cenedlaetholdeb yn flaengar ynteu'n ymatebol yn dibynnu ar ba fath o genedlaetholdeb sydd dan sylw. Gallai cenedlaetholdeb ymwahanol Plaid Cymru a'r SNP fod yn flaengar os bydd yn arwain at ddatblygu diwylliant gwleidyddol mwy democrataidd a phlwralaidd. Gallai Alban annibynnol feithrin mwy o gyfranogiad mewn dinasyddiaeth a bod yn fwy eangfrydig na'r wlad sydd ar hyn o bryd wedi'i 'llyncu' yn yr undeb â Lloegr. Ymgyrcha Plaid Cymru dros ddatganoli ecolegol, a bu'n gwneud hynny ymhell cyn i wleidyddiaeth werdd ddod yn ffasiynol.

 

Mae'n anodd disgrifio gwleidyddiaeth y BNP fel unrhyw beth ond ymatebol ac, er nad yw UKIP yn blaid hiliol, caiff drafferth i gyfleu delwedd flaengar o'r DU (neu Loegr). Yn sicr mae sawl ffurf wahanol ar genedlaetholdeb - rhai y gellir dadlau eu bod yn flaengar, eraill yn ymatebol - ond ni all yr un genedl osgoi'n gyfan gwbl ystyried ei dinasyddion fel pobl 'arbennig'. Mae tuedd i ffafrio ein pobl ein hunain yn rhan annatod o'r syniad o genedl. Mae cenhedloedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am adnoddau. Fel y dywed Goodhart, mae'r DU yn gwario 25 gwaith yn fwy ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol nag ar gymorth datblygu i wledydd tramor.

 

Hyrwydda rhai pobl 'ôl-genedlaetholdeb' - barn sydd, am resymau hanesyddol, yn gryf yn yr Almaen gyfoes. Dadleua ôl-genedlaetholwyr dros wrthod y genedl a datblygu dinasyddiaeth fyd-eang. Byddent hwy'n honni bod pob math o genedlaetholdeb yn ymatebol. Hyd yn oed pe bai hyn yn ddilys, mae un peth yn sicr: mae'r genedl-wladwriaeth ymhell o fod ar ei gwely angau, ac mae pawb - y pleidiau gwleidyddol prif ffrwd yn ogystal â'r rhai a ddiffinnir yn benodol fel rhai 'cenedlaetholgar' - yn meddwl ac yn gweithredu fel pe bai'r genedl yn bwysig.