Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Problemau perthynas

Cysylltiadau rhynglywodraethol: Cymru a'r Deyrnas Unedig


Elin Royles, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru


Crynodeb gweithredol


Er bod datganoli wedi trosglwyddo rhai pwerau i Lywodraeth y Cynulliad a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Senedd San Steffan yn parhau i fod yn allweddol i lywodraethu Cymru. Byddai rhai’n dadlau eu bod yn fwy allweddol i Gymru nag i’r Alban a Gogledd Iwerddon. Hyd yn hyn, mae perthynas dda rhwng y llywodraethau wedi golygu bod y trefniadau rhyngddynt wedi gweithio. Ond a wnaiff hyn barhau?

Mae’r erthygl hon yn dadlau y bydd trefniadau cyfansoddiadol, sefydliadol ac ariannol ar gyfer datganoli i Gymru yn debygol o ddod o dan straen oherwydd bod gwahanol bleidiau mewn grym ar wahanol lefelau o lywodraeth.
 

Cyflwyniad


Mae’r berthynas rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn allweddol i strwythur y Deyrnas Unedig ar ôl datganoli. Y llywodraeth ganolog sy’n gyfrifol am faterion heb eu datganoli, fel polisi tramor, amddiffyn a diogelwch cenedlaethol, yr economi a mewnfudo. Hefyd, mae’r ffordd o rannu grym yn golygu bod llawer o orgyffwrdd rhwng gweithgarwch llywodraeth y Deyrnas Unedig a phwerau’r gweinyddiaethau datganoledig. Ffactor allweddol arall yw mai’r llywodraeth ganolog yw llywodraeth Lloegr, lle mae cymaint ag 84 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn byw.
 

Mae pwysigrwydd y berthynas rhwng y llywodraeth ganolog a’r llywodraeth ddatganoledig yn amlycach yn achos Cymru. Yn un peth, mae llawer o feysydd polisi a deddfu’n gweithredu ar sail Cymru a Lloegr. Yn ogystal, mae pwerau’r Cynulliad yn debyg i ‘jig-so o ddarnau sy’n newid yn dragwyddol, lle nad oes un ymyl syth’ (Adroddiad Comisiwn Richard 2004: 114). Hefyd, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, roedd y Cynulliad yn dibynnu ar barodrwydd San Steffan i basio deddfwriaeth gynradd ar faterion yn ymwneud â Chymru. Yn sgil Deddf Llywodraeth Cymru 2006, cafodd y Cynulliad bwerau deddfu, gan gael y grym i lunio Mesurau’r Cynulliad o fewn yr ugain maes sydd wedi eu datganoli i Gymru. Mae’r Cynulliad yn dibynnu ar San Steffan i drosglwyddo pwerau deddfu fesul tipyn (naill ai drwy fesurau seneddol neu Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol). Mae’r broses hon wedi cynyddu pwysigrwydd y berthynas rhwng y ddwy haen o lywodraeth.
 

Y trefniadau: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth


Felly sut mae’r berthynas rhwng y ddwy haen o lywodraeth yn gweithio? Yn wreiddiol, y nod oedd cael trefniadau rhynglywodraethol anffurfiol ar sail y trefniadau gweinyddol a gwleidyddol oedd yn bodoli cyn datganoli. Ychydig iawn o drafod a fu ynghylch sut byddai’r berthynas rhwng y llywodraethau’n gweithio yn ymarferol ac ni roddwyd bron dim ystyriaeth i’r graddau y byddai’r llywodraethau’n ddibynnol ar ei gilydd ar ôl datganoli (Mitchell, 2010). Y brif ddogfen sy’n amlinellu’r strwythur ffurfiol yw’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig. Y Memorandwm hwn sefydlodd yr egwyddorion a fyddai’n sail ar gyfer y berthynas rynglywodraethol. Mewn gwirionedd, datganiad o fwriad gwleidyddol oedd y ddogfen hon; nid oedd yn rhwymo unrhyw sefydliad yn gyfreithiol. Sefydlodd y Memorandwm hwn Gydbwyllgor y Gweinidogion fel fforwm ar gyfer gweinidogion llywodraethau’r Deyrnas Unedig, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nod y system oedd cydlynu’r berthynas rhyngddynt, trafod materion datganoledig a materion heb eu datganoli, ynghyd ag unrhyw anghydfod rhwng y gweinyddiaethau.


 

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth


Yr egwyddorion ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol:

  • Cyfathrebu a chyfnewid gwybodaeth: cyfathrebu da rhwng y gweinyddiaethau

  • Ymgynghori: ymgynghori ymlaen llaw a rhybuddio o gynigion deddfwriaethol neu bolisi, yn arbennig mewn achosion o orgyffwrdd rhwng cymwyseddau'r gweinyddiaethau

  • Cyfrinachedd: dylid rhannu gwybodaeth a chydweithredu yng nghyd-destun trefniadau i barchu cyfrinachedd ar faterion pwysig.

Strwythurau ffurfiol:


Roedd y Memorandwm yn sefydlu Cydbwyllgor y Gweinidogion fel fforwm ar gyfer Gweinidogion o'r llywodraeth ganolog a'r llywodraeth ddatganoledig. Cafodd ei hadolygu ym mis Mawrth 2010.

 

Concordadau ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru


Cytunodd adrannau Whitehall a gweision sifil yn y gweinyddiaethau datganoledig ar goncordadau a oedd yn canolbwyntio ar y berthynas waith o ddydd i ddydd. Yn yr un modd â’r Memorandwm, roeddent yn gosod canllawiau a fyddai’n annog cydweithredu gweinyddol a chyfnewid gwybodaeth a’r nod oedd sicrhau bod y berthynas dda oedd yn bodoli ar lefel swyddogion cyn datganoli yn parhau. Eto, nid oedd y concordadau’n rhwymo unrhyw sefydliad yn gyfreithiol.
 

Y disgwyl oedd y byddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn chwarae rhan bwysig yn y cysylltiadau rhynglywodraethol. Er enghraifft, byddai’n ceisio sicrhau bod ceisiadau deddfwriaethol y Cynulliad yn cael eu cynnwys yn Araith y Frenhines, byddai’n cynnal trafodaethau gyda’r adrannau perthnasol yn Whitehall, a byddai’n gyfrifol am lywio’r ddeddfwriaeth drwy’r Senedd.
 

 

Ysgrifennydd Gwladol Cymru


Sefydlwyd y swydd ym 1964 yn ystod proses o ddatganoli gweinyddol i oruchwylio gwaith y Swyddfa Gymreig ac i fod yn aelod o’r cabinet.


O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 cadwyd y swydd. Sefydlwyd Swyddfa Cymru i gefnogi gwaith Ysgrifennydd Gwladol Cymru a oedd yn cynnwys:

  • Cynrychioli Llywodraeth y Deyrnas Unedig mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Cynulliad

  • Codi proffil trefniadau datganoli o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig

  • Cynrychioli Cymru ar Gabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig, er enghraifft mewn trafodaethau ar y gyllideb ac wrth ymdrin â deddfwriaeth gynradd i Gymru.

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 daeth y swydd yn fwy dylanwadol o ganlyniad i’r broses ddeddfu a rhan allweddol yr Ysgrifennydd Gwladol mewn refferendwm ar bwerau ychwanegol.

 

Ar yr olwg gyntaf: consensws a chydweithrediad


Yn ystod y deng mlynedd ers dechrau datganoli, ar yr olwg gyntaf, gwelwn mai consensws a chydweithrediad fu prif nodweddion y berthynas rhwng Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig a San Steffan. Heblaw am gyfarfodydd rhwng Gweinidogion Ewrop y llywodraeth ganolog a’r llywodraeth ddatganoledig (Cydbwyllgor Gweinidogion (Ewrop)), ychydig iawn o ddefnydd a wnaed o Gydbwyllgor y Gweinidogion. Ni chyfarfyddon nhw o gwbl rhwng mis Hydref 2002 a mis Mai 2008. Mewn gwirionedd, roedd y Gweinidogion yn cyfarfod yn amlach ar sail anffurfiol a hefyd yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, sef canlyniad i Gytundeb Belffast 1998. Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Swyddfa Cymru oedd y prif gyswllt rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Cynulliad. Er enghraifft, byddai Peter Hain a Rhodri Morgan yn cyfarfod yn wythnosol ac yn siarad dros y ffôn sawl gwaith yr wythnos. O ran y cydlynu rhwng Whitehall a’r Cynulliad, mae sawl enghraifft o berthynas dda rhwng adrannau, gyda rhai adrannau’n trin y Cynulliad fel partner cyfartal.
 

Golwg ddyfnach: diffyg cydlynu a dealltwriaeth


Ond wrth dyrchu’n ddyfnach, gwelwn ddarlun mwy cymhleth o’r berthynas rhwng y llywodraethau. Trefniadau anffurfiol oedd hanfod y berthynas rhwng y llywodraethau, ar ffurf cyswllt dwyochrog ac anffurfiol drwy’r gwasanaeth sifil a’r Blaid Lafur. Dyma arwydd o ddominyddiaeth Llafur dros y gwahanol haenau o lywodraethau. Cai unrhyw fân anghydfod ei drafod a’i ddatrys yn anffurfiol ac yn breifat, y tu ôl i ddrysau caeedig, gan osgoi sylw’r cyhoedd. Rhai enghreifftiau o’r materion gododd yw araith ‘dŵr coch croyw’ 2002 Rhodri Morgan yn gwahaniaethu rhwng Plaid Lafur Cymru a’r blaid ar lefel Brydeinig a materion fel diddymu taliadau presgripsiwn yng Nghymru (Trench, 2009).
 

Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd gan wleidyddion a gweision sifil blaenllaw i ymchwiliad ‘Cymru a Whitehall’ y Pwyllgor Materion Cymreig yn 2010 yn tynnu sylw at ddiffyg cydlynu canolog yn Whitehall mewn perthynas â datganoli. Yn ogystal, mae’r ystyriaeth a roddir i oblygiadau datganoli yn amrywio o adran i adran yn Whitehall, yn aml oherwydd agenda brysur a phwysau gwleidyddol. Roedd adroddiad y pwyllgor yn dadlau bod diffyg dealltwriaeth o fewn y gwasanaeth sifil yn Whitehall am y trefniadau datganoli i Gymru. Tra roedd tystiolaeth rhai’n awgrymu bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi codi proffil Cymru yn Whitehall, roedd y farn gyferbyniol yn fwy cyffredin.
 

Mae’r ddeddf wedi cymhlethu deddfwriaeth datganoli gan ei gwneud yn anoddach i weision sifil gadw golwg ar sut mae datganoli wedi esblygu. Y canlyniad yn ôl rhai tystion yw bod graddau dealltwriaeth gweision sifil yn llai heddiw nag yr oeddent ym 1999. Mae hyn yn ategu sylwadau Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth y Cynulliad, prif was sifil Cymru, ar ddiwedd 2009 yn ymwneud â’r diffyg ymrwymiad i ddatganoli yn rhai o adrannau Whitehall. Mae hyn wedi arwain at ‘ddiwylliant o draha’ a diffyg cydnabyddiaeth i Gymru (Osmond, 2009: 20). Roedd adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn beirniadu adrannau Whitehall am fod yn araf yn delio â Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol (GCD), sef ceisiadau Llywodraeth y Cynulliad am bwerau pellach. Roedd yr adroddiad yn dadlau bod rhai ceisiadau wedi diflannu i mewn i ‘dwll du Whitehall’ am ddwy flynedd a mwy (Livingstone, 2010).
 

Mae cwestiynau wedi codi hefyd ynglŷn ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’r Pwyllgor Materion Cymreig. Rhoddodd Deddf 2006 lawer o bwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol, gan gynnwys penderfynu p’un ai i gefnogi a llywio ceisiadau Llywodraeth y Cynulliad am GCD drwy Whitehall a San Steffan. Hefyd, gall yr Ysgrifennydd Gwladol ddylanwadu ar y drafodaeth am refferendwm ar bwerau deddfu llawnach. Yn y ddau achos hyn, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol rym feto. Yn ôl Trench: ‘Felly, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn borthor ar gyfer pwerau datganoledig Cymru ac unrhyw gynnydd ynddyn nhw, a bydd ganddo hefyd gyfraniad pwysig i'w wneud i'r ffordd mae Cymru yn eu defnyddio’ (2007: 41).
 

Mae’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig wedi bod yn fanwl yn ei rôl craffu cyn-ddeddfwriaethol ar Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol. Fel rhan o’r broses graffu, mae wedi ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y Cynulliad gyflwyno gwybodaeth fanwl yn esbonio sut yn union y mae’n bwriadu defnyddio ei bwerau deddfu. Yn hytrach na drafftio gorchymyn mewn ffordd eang fyddai’n caniatau hyblygrwydd yn y dyfodol, mae hefyd wedi galw ar i Lywodraeth y Cynulliad ddrafftio ei GCD mewn ffordd eithaf cul, ac yn sgil hynny wedi gosod cyfyngiadau ar y pwerau a roddir i’r Cynulliad. Roedd y GCD drafft ar Dai yn 2009 yn bwnc llosg allweddol. Ei nod oedd datganoli’r grym i roi’r hawl i brynu tai cyngor, gan gynnwys y grym i ddiddymu neu atal gweithgaredd o’r fath. Argymhellodd y pwyllgor dethol na ddylid datganoli’r pwerau hyn yn llawn. Daethpwyd i gyfaddawd y byddai’r pwerau yn cael eu datganoli ond bod angen cydsyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Barn un o bwyllgorau eraill San Steffan oedd bod rhoi grym feto i’r Ysgrifennydd Gwladol dros gymhwysedd arfaethedig i’r Cynulliad yn mynd yn groes i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Yn fwy cyffredinol, mae ymgais y pwyllgor i ddylanwadu ar gynigion deddfwriaethol Llywodraeth y Cynulliad wedi cynyddu’r potensial o densiwn o fewn llywodraeth glymblaid ‘Cymru’n Un’ a rhwng cynrychiolwyr etholedig y Blaid Lafur yng Nghymru.
 

Yr ymateb


Yn Whitehall, cynhaliodd uwch-weision sifil Adolygiad Cymhwysedd Datganoli yn 2010 ar sut mae Whitehall yn mynd i’r afael â datganoli. O ran Llywodraeth y Cynulliad, mae hithau hefyd yn ceisio annog dealltwriaeth a pherthynas dda rhyngddi hi â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae wedi ad-drefnu strwythur y gwasanaeth sifil ac wedi penodi gweision sifil o statws uwch i fod yn gyfrifol am y berthynas rynglywodraethol. Mae hefyd yn annog mwy o swyddogion i fynd ar secondiad i Whitehall. Ond a fydd hyn yn ddigonol i sicrhau perthynas well yn y dyfodol?
 

Etholiad Cyffredinol 2010: y goblygiadau


Mae llawer o ffactorau’n awgrymu bod yr hinsawdd yn newid o ran y berthynas hon. Mae’r ffaith bod Llafur wedi bod mewn grym yn San Steffan ac yn y Cynulliad wedi bod yn hollbwysig i’r trefniadau. Er gwaetha’r ymdrechion i wahaniaethu rhyngddynt, fel araith ‘dŵr coch croyw’ Rhodri Morgan, mae bod yn rhan o’r un blaid wedi eu hannog i gydweithredu er budd sefyllfa etholiadol y blaid. Yn ogystal, roedd yna awydd cryf i ddatganoli ymddangos fel llwyddiant ac ystyriwyd osgoi anghydfod yn arwydd o hynny. Canlyniad Etholiad Cyffredinol 2010 yw llywodraeth glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. A fydd yr un cydweithredu anffurfiol yn gweithio nawr gyda phleidiau cwbl wahanol mewn grym ar wahanol lefelau o’r llywodraeth? Dyma ddywedodd cyn-brif was sifil Cymru, Jon Shortridge, wrth gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Cymreig, ‘Yn fy marn i mae gweision sifil yn broffesiynol iawn ac fe barhânt â'r gwaith. Bydd y straen ar faterion yn ymwneud ag ymddiriedaeth’ (Williamson, 2010).
 

Goblygiadau'r trefniadau cyfansoddiadol a sefydliadol


Nid yw’n glir a fydd y trefniadau cyfansoddiadol a sefydliadol yn gweithio cystal o dan amgylchiadau lle mae gwahanol bleidiau mewn grym yn y llywodraeth ganolog a’r llywodraeth ddatganoledig. Beth fydd y goblygiadau i’r systemau ar gyfer trosglwyddo pwerau i’r Cynulliad o safbwynt y Senedd a Whitehall? Mae’n hawdd dychmygu senario bosibl. Mae’n bosibl y bydd gwahaniaethau clir rhwng ideoleg a blaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth San Steffan a gallai hynny effeithio ar y broses o ddatganoli grym ac achosi anghydfod. Gadewch i ni ddefnyddio’r Alban fel enghraifft, lle mae Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) wedi bod mewn grym ers 2007. Er bod y cyfryngau wedi sôn llawer am berthynas rynglywodraethol bleidiol a gwrthwynebus, mae cydweithredu anffurfiol a phragmataidd wedi parhau rhwng y ddwy lywodraeth mewn llawer o feysydd polisi cyhoeddus.
 

Fel y mae Cairney (2010) yn esbonio: ‘mae'r SNP wedi bod yn barod i fabwysiadu strategaeth 'rhywun o'r tu mewn' sy'n tueddu i dderbyn 'rheolau'r gêm', neu ddangos parodrwydd i arolygu ei hun.’ Y brif enghraifft o ffurfioli’r berthynas yw’r defnydd o Gydbwyllgor y Gweinidogion. Canlyniad uniongyrchol fu diweddaru’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a chyflwyno system newydd ar gyfer datrys anghydfod. Pe byddai pob dull arall yn methu, byddai’n rhaid defnyddio’r llysoedd i ddatrys urnhyw anghydfod, er y byddai hynny’n annisgwyl. Yn wreiddiol, pe na fyddai modd datrys anghydfod yn ymwneud â datganoli drwy Gydbwyllgor y Gweinidogion, Pwyllgor Cyfreithiol y Cyfrin Gyngor fyddai wedi bod yn gyfrifol am farnu. Oherwydd y pwyslais ar anffurfioldeb a chysylltiadau gwleidyddol, ni ddefnyddiwyd y llysoedd i ddatrys unrhyw anghydfod hyd yn hyn. Ers 2009, mae’r grym awdurdodi dros ddatganoli wedi cael ei throsglwyddo i’r Uchel Lys newydd. Er y gallai’r Uchel Lys wneud barnwyr yn fwy gweithgar, yn ôl Trench ‘mae goruchafiaeth y gwleidyddiaeth dros y broses o wneud penderfyniadau ar ddatganoli wedi bod yn hynod o gryf a hynod o wydn’ (Trench, 2009: 17).
 

Materion ariannol ar yr agenda


Y ffactor olaf yw materion ariannol a chyllidebol. Yn ystod degawd cyntaf datganoli, ni chafodd y trefniadau ar gyfer ariannu datganoli yn y Deyrnas Unedig fawr ddim sylw. Mae hyn yn eithaf unigryw o ystyried bod cyllid fel arfer yn bwnc hynod o ddadleuol. Fformiwla Barnett sy’n pennu’r gyllideb ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae’n seiliedig ar wariant adrannau Whitehall ar gyfer poblogaeth Lloegr. Ni wnaeth y Cynulliad fynegi anfodlonrwydd mawr â’r fformiwla er bod tystiolaeth academaidd wedi nodi’n gyson bod Cymru ar ei cholled yn ariannol. Wrth gwrs, yn ystod deng mlynedd cyntaf datganoli, bu cynnydd sylweddol mewn gwariant cyhoeddus ac mae’r ffaith fod y Cynulliad ar ei ennill yn ogystal â’r ddibynniaeth ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gyllid yn esbonio pam na chafodd materion ariannol lawer o sylw.
 

 

Fformiwla Barnett


Mae fformiwla Barnett wedi bod ar waith ers 1978.


Y fformiwla hon sy'n pennu'r gyllideb ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae'n seiliedig ar wariant adrannau Whitehall ar gyfer poblogaeth Lloegr. Mae'r fformiwla wedi'i seilio ar faint y boblogaeth ac nid yw'n ystyried anghenion o ran gwariant. Credir bod dyrannu cyllid yn y Deyrnas Unedig yn broses ganoledig iawn.


Rhagoriaethau’r fformiwla yw ei bod yn rhoi grym sylweddol i’r gweinyddiaethau datganoledig bennu eu blaenoriaethau ariannu eu hunain a’i bod yn ceisio cyfyngu ar yr anghydfod gwleidyddol dros ddyrannu arian. Mae llawer yn pwyso ar y llywodraeth i ddiwygio'r trefniadau ariannu ar gyfer y llywodraethau datganoledig.

 

Wrth i’r hinsawdd newid ac wrth i’r cyfyngiadau gynyddu ar y pwrs cyhoeddus, mae pwysau cynyddol ar y llywodraeth i adolygu trefniadau fformiwla Barnett. Fel rhan o gytundeb ‘Cymru’n Un’, sefydlodd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru’r Comisiwn Annibynnol ar Ariannu a Chyllid, Comisiwn Holtham. Dyma un o lawer o ymchwiliadau diweddar ar y mater. Hyd yn hyn, mae’r Comisiwn wedi dadlau bod Cymru ar ei cholled o £300 miliwn y flwyddyn. Mae hyn wedi cyfrannu at sicrhau bod y Trysorlys yn cydnabod bod y mater hwn yn broblem. Mae trafodaethau ynghylch y trefniadau ariannol ar gyfer gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig ar y gweill ac maent yn debygol o effeithio ar y cysylltiadau rhwng y llywodraethau.  
 

Casgliadau


Roedd y trefniadau rhwng y llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig yn ceisio parhau â’r system oedd yn bodoli cyn datganoli a bu’r trefniadau hyn yn llwyddiannus yn ystod cyfnod Llafur mewn grym. Rydym nawr mewn cyfnod lle mae’r berthynas rynglywodraethol yn fwy cymhleth a mwy arwyddocaol; cyfnod lle mae rôl Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn allweddol i ddeall gwleidyddiaeth Cymru. Dim ond amser a ddengys a fydd yr ymrwymiad a wnaeth Cameron ar ei ymweliad cyntaf i Gymru fel Prif Weinidog i sicrhau ‘cydweithrediad nid gwrthdaro’ wrth ymdrin â Llywodraeth y Cynulliad yn un hawdd i’w wireddu yn ymarferol (Withers, 2010).
 

Rhodri Morgan and Tony Blair