Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Llywodraethu Cymru

Owain Roberts, Uwch Swyddog Ymchwil, Tîm y Cynulliad a’r Cyfansoddiad, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Caiff penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl sy’n byw yng Nghymru eu gwneud ar bedair haen wahanol o lywodraeth, pob un â gwahanol swyddogaethau, cyfrifoldebau a phwerau mewn amrywiaeth o feysydd polisi gwahanol sydd hefyd yn gorgyffwrdd â’i gilydd. Er mwyn gwneud synnwyr o bwy sy’n gwneud beth a phwy sy’n atebol am benderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn perthynas â Chymru, rhoddir amlinelliad isod o’r ffordd y mae’r pwerau a’r cyfrifoldebau hyn wedi eu dosbarthu.

 

 

Yr Undeb Ewropeaidd


Ers ymuno â’r Gymuned Ewropeaidd, fel y’i gelwid bryd hynny, ym 1973, mae Senedd y Deyrnas Unedig wedi grymuso sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd (sef y Cyngor Ewropeaidd / Cyngor y Gweinidogion, y Comisiwn Ewropeaidd a Senedd Ewrop) yn raddol i wneud a mabwysiadu cyfreithiau mewn meysydd penodol. Amlinellir y trefniant rhannu pwerau hwn yn nau gytuniad craidd yr Undeb Ewropeaidd (y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, a ddiweddarwyd ddiwethaf gan Gytuniad Lisbon) sy’n nodi’r rheolau ffurfiol ac yn gosod pwerau penodol y gall yr Undeb Ewropeaidd eu harfer mewn nifer o feysydd. Yn gyffredinol, mae modd rhannu pwerau’r Undeb Ewropeaidd yn dri chategori:

 

  • Meysydd cymhwysedd yr Undeb Ewropeaidd yn unig: Dyma’r meysydd lle mae Senedd y Deyrnas Unedig wedi trosglwyddo’r holl awdurdod deddfu i’r Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys cymhwysedd deddfwriaethol dros undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd; rheolau cystadleuaeth i ganiatáu ar gyfer gweithredu’r farchnad fewnol; polisi ariannol ar gyfer gwledydd sy’n aelodau o’r ewro; diogelu adnoddau biolegol y môr o dan y polisi pysgodfeydd cyffredin; a’r polisi masnachol cyffredin.

     

  • Meysydd cymhwysedd a rennir: Caiff y cyfrifoldeb dros ddeddfu ei rannu rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Senedd y Deyrnas Unedig mewn rhai meysydd. Mae’r rhain yn cynnwys pwerau dros y farchnad fewnol; polisi cymdeithasol; cydlyniant economaidd, cymdeithasol a thiriogaethol; amaethyddiaeth a physgodfeydd, ac eithrio gwarchod adnoddau biolegol y môr; yr amgylchedd; diogelu defnyddwyr; trafnidiaeth; rhwydweithiau traws-Ewropeaidd; ynni; maes rhyddid, diogelwch a chyfiawnder; materion diogelwch cyffredin yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.

     

  • Meysydd gweithredu cefnogol, cydgysylltiedig ac ategol: Mae cytuniadau craidd yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn galluogi’r Undeb Ewropeaidd a’r aelod-wladwriaethau i weithio gyda’i gilydd ar nifer o feysydd i ddatblygu ymagwedd gydgysylltiedig o ran polisïau. Mae modd cyflawni hyn drwy ddulliau deddfwriaethol a dulliau anneddfwriaethol. Mae meysydd o’r fath yn cynnwys diogelu a gwella iechyd pobl; diwydiant; diwylliant; twristiaeth; addysg, ieuenctid, chwaraeon a hyfforddiant galwedigaethol; polisïau economaidd a chyflogaeth; a datblygu polisïau tramor a diogelwch cyffredin ledled yr Undeb Ewropeaidd.

 

Llywodraeth a Senedd y Deyrnas Unedig


Ac eithrio’r meysydd hynny sy’n gyfrifoldeb i’r Undeb Ewropeaidd yn unig, Senedd y Deyrnas Unedig (Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi) yw’r sofran mewn perthynas â holl gyfraith y Deyrnas Unedig a gall barhau i ddeddfu ar bob maes cyfraith (meysydd wedi’u datganoli a meysydd heb eu datganoli) yng Nghymru. Fodd bynnag, drwy gonfensiwn, nid yw’n deddfu ar faterion sydd wedi eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol neu i Weinidogion Cymru heb gael caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol (drwy’r hyn a elwir yn Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol).
 

Llywodraeth y Deyrnas Unedig (a elwir yn Llywodraeth Ei Mawrhydi hefyd) sy’n gyfrifol am redeg y Deyrnas Unedig, a’i chyfrifoldeb hi yw datblygu a gweithredu polisïau a drafftio deddfau yn ymwneud â phob mater sy’n effeithio ar Gymru nad yw wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Y Prif Weinidog yw pennaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a chaiff swyddogaethau’r llywodraeth eu cyflawni gan nifer o adrannau llywodraethol megis Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, y Weinyddiaeth Amddiffyn a Thrysorlys Ei Mawrhydi.


Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru


Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol hawl i ddeddfu (gelwir y rhain yn Ddeddfau’r Cynulliad), ond dim ond mewn rhai meysydd penodol. Caiff y pwerau hyn eu hamlinellu yn yr 20 Pwnc canlynol sydd yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:


  • Amaethyddiaeth, Coedwigaeth, Anifeiliaid, Planhigion a Datblygu Gwledig

  • Henebion ac Adeiladau Hanesyddol

  • Diwylliant

  • Datblygu Economaidd

  • Addysg a Hyfforddiant

  • Yr Amgylchedd

  • Y Gwasanaethau Tân ac Achub a Diogelwch Tân

  • Bwyd

  • Iechyd a Gwasanaethau Iechyd

  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth

  • Tai

  • Llywodraeth Leol

  • Cynulliad Cenedlaethol Cymru

  • Gweinyddiaeth Gyhoeddus

  • Lles Cymdeithasol

  • Chwaraeon a Hamdden

  • Twristiaeth

  • Cynllunio Gwlad a Thref

  • Dŵr ac Amddiffyn rhag Llifogydd

  • Y Gymraeg

Os nad yw maes polisi wedi’i nodi yn un neu fwy o’r Pynciau a restrwyd (neu os yw wedi ei nodi’n eglur fel eithriad neu fel cyfyngiad i bwerau’r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ddeddf 2006), nid oes gan y Cynulliad Cenedlaethol bŵer i ddeddfu yn y maes hwnnw. Yn ddiddorol ddigon, mae hyn ychydig yn wahanol i’r sefyllfa yn yr Alban, lle mae gan Senedd yr Alban bwerau cyffredinol i ddeddfu ymhob maes heblaw am y rhai sydd wedi eu cadw’n ôl yn benodol gan Ddeddf yr Alban 1998.


Ymysg yr enghreifftiau o feysydd sydd heb eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol mae:

  • plismona a chyfiawnder troseddol;

  • materion tramor, amddiffyn a materion diogelwch; a

  • lles, budd-daliadau a nawdd cymdeithasol.


Heblaw am bwerau i bennu’r dreth gyngor ac ardrethi busnes, Llywodraeth a Senedd y Deyrnas Unedig sy’n parhau i fod yn gyfrifol am dreth hefyd. Trysorlys Ei Mawrhydi sy’n gyfrifol am hynny ac am bolisïau cyllidol a macro-economaidd a dyraniadau gwariant cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig.


Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y meysydd hynny sydd wedi eu datganoli i Gymru (megis addysg, llywodraeth leol ac iechyd) ac mae hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisïau ac am ddrafftio cyfreithiau’n ymwneud â phob mater datganoledig. Mae holl Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol, fel aelodau o Lywodraeth Cymru, yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd.


Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog, saith o Weinidogion Cymru, tri Dirprwy Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol. Mae ei swyddfeydd ym Mharc Cathays, yn agos at ganol dinas Caerdydd.


Awdurdodau Lleol Cymru


Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu gwasanaethau penodol yn eu priod ardaloedd. Maent yn darparu rhai o’r gwasanaethau hyn yn uniongyrchol, maent yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, ac yn comisiynu eraill i ddarparu gwasanaethau ar eu rhan. Maent yn derbyn tuag 80 y cant o’u harian yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.


Ni all awdurdodau lleol basio deddfwriaeth sylfaenol nac is-ddeddfwriaeth, ond gallant wneud is-ddeddfau mewn rhai meysydd penodedig – fel cŵn yn baeddu, rheoleiddio tacsis a pharcio – sydd ond mewn grym yn lleol.


Fodd bynnag, prif waith awdurdodau lleol yw darparu gwasanaethau penodol y mae gofyn iddynt eu darparu yn ôl y gyfraith. Er bod gwasanaethau o’r fath yn ddarostyngedig i gyfreithiau, strategaethau, fframweithiau a thargedau sy’n cael eu pennu a’u monitro yn bennaf gan Lywodraeth Cymru, mae ganddynt rywfaint o ddisgresiwn ynghylch sut i ddarparu a chyflenwi’r gwasanaethau hynny yn eu hardaloedd. Mae cyfrifoldebau awdurdodau lleol yn eang ac i’w canfod mewn darnau niferus o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth sydd wedi cael eu pasio ar hyd y blynyddoedd gan Senedd y Deyrnas Unedig a’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r rhestr isod yn rhoi gorolwg anghyflawn o’r meysydd y mae pob awdurdod lleol yn gyfrifol amdanynt:


  • gwasanaethau cofrestru sifil (genedigaethau, marwolaethau a phriodasau);

  • crwneriaid;

  • amlosgi a chladdu;

  • datblygu economaidd ac adfywio (gan gynnwys pwerau i ddarparu grantiau a chynorthwyo busnesau);

  • addysg (gan gynnwys darparu addysg feithrin, cynradd, uwchradd, llawn amser, 16-19 ac ôl-19 ac eithrio Addysg Uwch);

  • yr amgylchedd (gan gynnwys iechyd y cyhoedd, lles anifeiliaid, llygredd sŵn a golau, cerbydau sy’n cael eu gadael, cynnal a chadw tiroedd a pharciau a sbwriel ac ati);

  • cynllunio at argyfwng;

  • y gwasanaethau tân ac achub;

  • diogelwch bwyd;

  • rhai priffyrdd (o dan y darpariaethau a amlinellir yn Neddf Priffyrdd 1980);

  • tai;

  • hamdden a chwaraeon;

  • llyfrgelloedd;

  • trwyddedu (gan gynnwys cyfrifoldeb dros drwyddedu alcohol, tacsis, adloniant cyhoeddus a gamblo);

  • parciau cenedlaethol;

  • cynllunio;

  • gwasanaethau cymdeithasol;

  • cynllunio strategol;

  • trafnidiaeth;

  • safonau masnach; a

  • gwastraff.