Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

A yw llywodraeth gabinet yn ei hôl?

Cyflwyniad


Daeth David Cameron i rym gan addo adfer y cabinet i’w swyddogaeth ganolog. Mae’r erthygl hon yn rhoi prawf ar yr honiad bod llywodraeth gabinet wedi ei hadfer o dan Cameron, a bod y cabinet yn chwarae rhan ganolog mewn penderfyniadau unwaith eto.


Daeth Cameron i rym ym mis Mai 2010 gan addo na fyddai penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn cylchoedd mewnol cyfrin a oedd yn osgoi ymgynghori â’r cabinet llawn o hyn ymlaen. Byddai’r cabinet yn cael ei adfer i’r swyddogaeth a briodolir iddo mewn gwerslyfrau, wrth galon y llywodraeth. Fel y mae Anthony Seldon wedi’i ddadlau, ‘Roedd Cameron...yn bendant y byddai ei brif weinidogaeth yn dychwelyd at lywodraeth cabinet ffurfiol’.


Pam yr oedd Cameron am adfer y cabinet?


Cameron fel gwrthwynebydd Blair

Daeth David Cameron i rym ar ôl gwneud datganiad sy’n enwog bellach mai ef oedd ‘etifedd Blair’ (“the heir to Blair”). Yn sicr ceisiodd Cameron efelychu peiriant ennill etholiadau Blair. Fodd bynnag, mewn un maes hanfodol o leiaf, ceisiodd wahaniaethu rhwng ei brif weinidogaeth ei hun a phrif weinidogaeth Blair. Daeth i rym gan addo dychwelyd at lywodraeth gabinet. Gwrthodai ddull ‘llywodraeth soffa’ Blair o wneud penderfyniadau, a gwnaeth ymdrech hefyd i wahaniaethu rhwng ei arddull ef ac arddull arweinyddol ddi-drefn Gordon Brown. O dan Cameron byddai’r cabinet yn trafod materion o bwys ac yn gofyn cyngor y gwasanaeth sifil traddodiadol. Dim ond cadeirydd y bwrdd (y cabinet) fyddai ef, nid prif weithredwr hollalluog.


Brwdfrydedd chwyldroadol Cameron

Rheswm arall dros gefnogaeth gyhoeddus Cameron i’r cabinet a’i bwyllgorau oedd ei fod, pan ddaeth i rym, wedi rhoi cychwyn ar yr hyn y mae’r awdur Andrew Rawnsley wedi’i alw’n chwyldro ‘Maoaidd’ yn holl adrannau’r llywodraeth. Gwrandawodd Cameron o ddifrif ar sylw Blair ei fod yn difaru nad oedd wedi bod yn ddigon radicalaidd yn ystod ei dymor cyntaf (1997-2001). Buan iawn yr oedd llywodraeth Cameron yn ferw o brysurdeb ym mhob un adran bron â bod.


Efallai y byddem wedi disgwyl i’r ‘brwdfrydedd chwyldroadol’ hwn beri i Cameron efelychu Blair a chymryd rheolaeth dros bethau o’r canol fel ffordd o wthio’r diwygiadau hyn drwodd. Fodd bynnag, penderfynodd Cameron ddirprwyo a rhoi rhyddid rhyfeddol i weinidogion gychwyn a datblygu polisïau ar eu pen eu hunain. Am ran helaeth o flwyddyn gyntaf y llywodraeth newydd, y prif ddarlun oedd gweinidogion a oedd yn gwneud diwygiadau radicalaidd ac yn cael rhyddid i redeg eu hadrannau eu hunain.


Cameron mewn clymblaid

Y rheswm pwysicaf dros ddychwelyd at lywodraeth gabinet oedd realiti gwleidyddiaeth clymblaid. Roedd perthynas Cameron a Clegg yn un gyfeillgar ar unwaith, a datblygodd hyn yn bartneriaeth weithio agos a oedd wrth galon y llywodraeth. Golygai’r realiti o orfod gweithio gyda gweinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol bod trafod, dadlau a chyd-drafod yn hanfodol i sicrhau parhad y weinyddiaeth o dan arweiniad y Ceidwadwyr. Roedd Democratiaid Rhyddfrydol wedi'u penodi'n weinidogion ledled San Steffan, ac roedd pump yn y cabinet ei hun.


Buan iawn y dechreuodd uwch weision sifil ddefnyddio’r ferf ‘clymblaideiddio’ (‘to coalitionise’) i ddisgrifio’r broses o wneud penderfyniadau. Byddai’r ddwy blaid yn trafod cynigion mewn ffordd gydweithredol iawn cyn y byddai modd eu mabwysiadu’n ffurfiol fel polisi’r llywodraeth. Golygai hyn fod angen atgyfodi ffurfioldeb a’i roi wrth galon y llywodraeth. Bodolaeth y glymblaid gyntaf mewn cyfnod o heddwch ers y 1920au oedd y sbardun hanfodol ar gyfer datblygu arddull golegol newydd o wneud penderfyniadau.


Ffurfioldeb yn dychwelyd


Nid oes llawer o amheuaeth bod y cabinet wedi ei adfer i amlygrwydd cyhoeddus. Fel yr adroddodd y corff ymchwil uchel ei barch, Uned Cyfansoddiad Coleg Prifysgol Llundain yng nghanol 2011, ‘Mae’r cabinet a’i bwyllgorau wedi eu hadfywio’n sylweddol o dan y llywodraeth newydd’. Er enghraifft, caiff camau penodol a phendant eu cymryd er mwyn sicrhau bod cydgytundeb yn parhau:

  • rhaid i bob papur ar gyfer pwyllgorau’r cabinet nodi beth sydd wedi cael ei wneud i sicrhau cyd-gymeradwyaeth

  • rhaid gwirio’r polisi yn erbyn cytundeb y glymblaid

  • rhaid i gadeirydd a dirprwy gadeirydd y pwyllgor (un o bob plaid bob tro) fod wedi cymeradwyo’r papur drwy ei lofnodi


Erbyn hyn mae’r cabinet ei hun yn cwrdd bob dydd Mawrth am hyd at ddwy awr – newid byd ers sesiynau tri chwarter awr Tony Blair. Oherwydd cyfansoddiad dwybleidiol y cabinet, mae’n debyg bod trafodaethau polisi gwirioneddol yn digwydd yn y cyfarfodydd hyn, a bod y prif weinidog bob amser yn arbennig o awyddus i wrando ar farn gweinidogion y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn y cyfnod cyn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ym mis Hydref 2010, trafododd y cabinet llawn y toriadau gwario arfaethedig o leiaf naw o weithiau. At hynny, digwyddodd y cyd-drafodaethau preifat ynghylch toriadau penodol rhwng y Trysorlys ac adrannau unigol o dan oruchwyliaeth George Osborne, canghellor y Torïaid, a Danny Alexander, y Democrat Rhyddfrydol sy’n brif ysgrifennydd y Trysorlys.


Mae’n debyg bod uwch weision sifil wrth eu boddau gyda’r penderfyniad i adfer ffurfioldeb. Roedd Cameron yn dibynnu’n fawr ar Gus O’Donnell, ysgrifennydd y cabinet, mewn modd nad oedd yn wir am Blair a Brown. Roedd Cameron ac O’Donnell yn cwrdd cyn pob cyfarfod o’r cabinet, ac yn ôl y sôn roedd O’Donnell yn agosach at y prif weinidog nag unrhyw ysgrifennydd cabinet arall yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.


Swyddogaeth pwyllgorau’r glymblaid


Fodd bynnag, caiff y darlun o adferiad y cabinet ei gymhlethu gan y ddadl bod y llywodraeth yn gweithredu o ddydd i ddydd drwy bwyllgorau clymblaid, nid drwy lywodraeth gabinet. Ym misoedd cynnar y glymblaid dadleuodd rhai sylwebwyr mai’r pwyllgorau newydd hyn a oedd yn meddu ar y grym gwirioneddol. Ym mis Mai 2010, awgrymodd Tim Montgomerie o ConservativeHome.com bod ‘y busnes go iawn o flaenoriaethu polisi yn digwydd mewn cyfarfodydd mwy penodol sy’n llai o faint, sef cyfarfodydd Pwyllgorau’r Cabinet’. Y pwysicaf o’r rhain fyddai ‘pwyllgor y glymblaid’ (a’i lysenw oedd ‘chwarterwyr y glymblaid’ neu’r ‘quarterback’). Ei ddiben o’r cychwyn oedd cwrdd yn wythnosol a rheoli’r gwaith o weithredu Cytundeb y Glymblaid. Roedd yn cynnwys rhai o aelodau pwysicaf y cabinet; pum Ceidwadwr a phum Democrat Rhyddfrydol, gan gynnwys David Cameron a Nick Clegg. Diben y pwyllgor hwn oedd rhoi cyfeiriad strategol i’r llywodraeth.


Fodd bynnag, ers mis Mai 2011 dim ond dwywaith y mae pwyllgor y glymblaid wedi cwrdd, ac mae’n amlwg nad yw wedi chwarae’r rhan ganolog yr oedd rhai wedi ei rhagweld, gan gynnwys arweinwyr y pleidiau eu hunain o bosibl. Yn ôl yr Uned Cyfansoddiad, ‘Caiff materion y glymblaid eu datrys mewn cyfarfodydd anffurfiol, ac nid yn y cabinet na’i bwyllgorau’.


Apêl oesol anffurfioldeb


Felly, daeth Cameron i rym gyda'r bwriad o adfer llywodraeth gabinet. Fe’i canmolwyd yn eang am hynny. Fodd bynnag, o edrych yn fanylach mae darlun mwy cymysg yn ymddangos, a’r dystiolaeth academaidd ddiweddaraf yw bod Cameron yn gweithredu mewn rhwydwaith cymhleth o grwpiau ffurfiol ac, yn hollbwysig, grwpiau anffurfiol.


Wrth i’r prif weinidog ddod i arfer â grym, mae atyniad dull anffurfiol o wneud penderfyniadau wedi ailgodi ei ben, yn rhannol o leiaf. Mae sawl ffactor yn gyfrifol am hyn. Yn gyntaf, gall trafodaethau polisi rhwng dwy blaid eithaf gwahanol arafu’r broses o wneud penderfyniadau a’i pharlysu’n gyfan gwbl. Am y rheswm hwn yn unig, gall cychwyn polisi fod yn gam synhwyrol, a thrafod y polisi mewn grwpiau llai o faint, sy’n fwy anffurfiol. Rheswm arall posibl yw mai dyma oedd arddull Cameron yn yr wrthblaid sydd bellach yn cael ei rhoi ar waith mewn llywodraeth. Fel arweinydd yr wrthblaid, roedd Cameron yn adnabyddus am ddatblygu strategaethau a pholisïau mewn clic bach o gydweithwyr yr oedd yn ymddiried ynddynt, gan gynnwys Steve Hilton a George Osborne. Mae’n bosibl bod Cameron yn dychwelyd i’w arfer wrth iddo ddatblygu arddull gwneud penderfyniadau mwy personol ac anffurfiol. Nid oes llawer o amheuaeth bod bron y cyfan o’r gwaith cyd-drafod polisi o bwys yn digwydd y tu allan i beirianwaith ffurfiol y cabinet.


Y gwifrau cudd


Mae Blwch 1 yn amlinellu’r fforymau anffurfiol pwysicaf ar gyfer gwneud penderfyniadau. Yr elfen sy’n clymu’r fforymau anffurfiol hyn at ei gilydd, wrth gwrs, yw bodolaeth y glymblaid ei hun. Mae’r ffaith bod angen cadw cefnogaeth y ddwy blaid, yn enwedig ar lefel yr arweinwyr, wedi golygu bod y llywodraeth wedi datblygu ystod o ddulliau anffurfiol ac arloesol ar gyfer sicrhau undod.

 

Un o sgil-gynhyrchion hyn, mae’n debyg, yw bod y Cabinet ei hun o dan arweiniad Cameron wedi ei rannu’n ddau gylch: cylch Ceidwadol wedi’i reoli gan y prif weinidog a chylch y Democratiaid Rhyddfrydol wedi’i reoli gan Nick Clegg. Mae o leiaf un sylwebydd wedi dadlau mai David Cameron yw’r prif weinidog cyntaf i ildio grym dros ran o'i gabinet yn wirfoddol. Mae’n debyg mai Nick Clegg sy’n rheoli’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd yn y cabinet, tra bod Cameron yn rheoli’r ochr Dorïaidd. Cafwyd un arwydd posibl o hyn yn gynnar yn 2011 pan aeth y Democrat Rhyddfrydol oedd yn ysgrifennydd ynni, Chris Huhne, i drafferthion oherwydd trosedd yn ymwneud â gyrru. Mae’n debyg mai Nick Clegg fu’n ei holi, yn hytrach na David Cameron, mewn ymgais i amlygu’r hyn y gallech ei alw yn gabinet ‘dau bennaeth’. Mae’r bartneriaeth wleidyddol hynod anarferol hon wrth galon y cabinet presennol yn golygu bod y trefniadau arferol ar gyfer gwneud penderfyniadau wedi eu gweddnewid.


Y cam nesaf: Rhif 10 yn dychwelyd?


Fodd bynnag, mae’n bosibl nad adfywiad y cabinet (ynghyd ag amryw drefniadau anffurfiol) fydd diwedd y stori. Ym mis Chwefror 2011, cyhoeddodd Stryd Downing y byddai uned bolisi Rhif 10 (a oedd wedi ei lleihau yn fwriadol pan ddaeth Cameron i rym, fel rhan o’r ymgais i ymwrthod ag arddull Blair o geisio ‘rheoli popeth’) yn cael ei chryfhau. Cyhoeddodd y prif weinidog bod amryw o gynghorwyr arbennig wedi eu penodi a fyddai’n gyfrifol am sicrhau craidd cryfach ac am oruchwylio adrannau yn fwy manwl.

 

Yn dilyn sawl anffawd yn gysylltiedig â pholisi, a sawl tro pedol o ganlyniad, mae Cameron wedi gwrthdroi yn rhannol ei hoffter o roi rhyddid i weinidogion ddatblygu polisi a chyfathrebu. Yr ymyriad uchaf ei broffil o'r ymyriadau hyn gan Rif 10 oedd y ‘saib’ ym mesur diwygio’r gwasanaeth iechyd yng ngwanwyn 2011. Yn dilyn gwrthwynebiad chwyrn gan weithwyr iechyd proffesiynol a storm yn y cyfryngau, fe arafodd cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, a oedd wedi eu datblygu a’u cyfathrebu gan yr ysgrifennydd iechyd, Andrew Lansley, nes dod i stop. Teimlai David Cameron bod angen iddo gamu i’r adwy a chymryd rheolaeth dros neges y llywodraeth, ar ôl cyhuddiadau nad oedd ganddo ddigon o afael ar y polisïau yr oedd ei weinidogion ef ei hun yn eu datblygu. Roedd y problemau yn ymwneud â diwygio’r gwasanaeth iechyd wedi dilyn sawl ‘tro pedol’ arall fel maen nhw’n cael eu galw, ar fater gwerthu coedwigoedd cyhoeddus, chwaraeon mewn ysgolion a llaeth mewn ysgolion. Er bod Cameron, efallai, yn dal i weld ei hun fel cadeirydd y bwrdd (y cabinet), mae’n ymddangos ei fod bellach yn ymddwyn yn debycach i brif weithredwr.

 

O’r cychwyn, roedd perygl y gallai arddull Cameron fel arweinydd, ynghyd â’r berw o brysurdeb yn adrannau’r llywodraeth, arwain at drafferthion. Mewn cyfnod pan fo disgwyl i’r prif weinidog fod â rheolaeth dros bolisi ar draws y llywodraeth, aeth y llywodraeth i drafferthion oherwydd dirprwyo helaeth Cameron. Yn ddiddorol iawn, dehonglodd yn llythrennol rybudd Tony Blair i beidio â gwastraffu ei dymor cyntaf gan symud yn gyflym i gyflwyno gwahanol ddiwygiadau. Fodd bynnag, methodd wers arall o brofiad Blair – yr angen i Rif 10 fonitro adrannau San Steffan yn ofalus. Ei gydnabyddiaeth o’r ail wers hon yn gynnar yn 2011 a arweiniodd at benderfyniad Rhif 10 i ‘farcio’ adrannau er mwyn cadw llygad arnynt ac osgoi camgymeriadau polisi eraill. Byddai Tony Blair yn siŵr o fod wedi sylwi ar y newid hwn; mae’n bosibl bod Cameron yn mabwysiadu arddull lywodraethu sy’n debycach i arddull lywodraethu’r arweinydd Llafur wedi’r cyfan.