Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Etholiad biliwn o ddoleri cyntaf yr Unol Daleithiau

Etholiad biliwn o ddoleri cyntaf yr Unol Daleithiau


Clodagh Harrington


Dywedodd y gwleidydd Jesse Unruh mai 'arian yw llaeth y fam mewn gwleidyddiaeth'. Dydy democratiaeth ddim yn rhad yn yr Unol Daleithiau, ac etholiad arlywyddol 2008 fu'r drutaf o bell ffordd. Fe gostiodd mwy na $1bn, sy'n cyfateb yn fras i $8 y bleidlais. Dyma adolygiad Clodagh Harrington o rôl arian yn etholiad arlywyddol 2008.


Daw cyllid ymgyrchoedd etholiadol o amrywiaeth o ffynonellau: cyfraniadau unigol bychain, pwyllgorau gweithredu gwleidyddol (political action committees - PACs) a'r lleiaf arwyddocaol mae'n debyg, cronfeydd ymgyrchu gan blaid wleidyddol yr ymgeisydd. Un peth anarferol am etholiad 2004 oedd bod y Democrat John Kerry wedi llwyddo i godi bron cymaint o arian â'i wrthwynebydd Gweriniaethol, George W. Bush. Yn draddodiadol, mae ymgeiswyr Gweriniaethol yn codi ac yn gwario mwy o arian na'u cyfoedion Democrataidd. Yn hanesyddol, mae sylfaen o roddwyr y Gweriniaethwyr yn tueddu i fod yn llai ac yn cyfrannu symiau mwy, tra bo'r gwrthwyneb yn wir am y Democratiaid.


Parhaodd y ddau dueddiad hyn yn etholiad 2008, gan arwain at yr etholiad mwyaf ariannog erioed. Yn ystod y ddau etholiad, oherwydd amhoblogrwydd cynyddol Arlywydd Bush, gwelwyd y cyfraniadau ariannol i'r Democratiaid yn cynyddu'n raddol. Agwedd anarferol arall ar etholiad 2008 oedd nad oedd arlywydd cyfredol, neu 'incumbent', yn sefyll. Felly, gydag ambell eithriad amlwg, sef Hillary Clinton a Rudy Giuliani, nid oedd y ceffylau blaen yn ddigon ffodus i fod yn adnabyddus i'r cyhoedd.


Yn 2002, pasiwyd y Bipartisan Campaign Reform Act, neu Ddeddf McCain-Feingold fel y'i galwyd. Roedd deddfwriaeth flaenorol o'r 1970au wedi cyflwyno uchafswm ar faint y cyfraniadau gan unigolion, grwpiau a phleidiau i ymgeiswyr etholiadol. Ar yr un pryd, cyflwynwyd trefniadau cyllido cyhoeddus ar gyfer ymgyrchoedd arlywyddol. Yn 1979, daeth deddfwriaeth newydd i rym oedd yn caniatáu i bleidiau godi a gwario 'arian meddal'. Dim ond i bleidiau gwleidyddol y byddai cyfraniadau o'r fath yn cael eu gwneud, yn hytrach nag i'r ymgeiswyr eu hunain. Arweiniodd hyn at lu o broblemau, wrth i bobl ddehongli mewn gwahanol ffyrdd beth ddylai ac na ddylai arian meddal gael ei wario arno.


Arian McCain


Dechrau'n wan wnaeth trefniadau codi arian ymgyrch John McCain yn 2008, gan wella dros amser. Roedd ganddo ddwy fantais fel ymgeisydd y Gweriniaethwyr. Yn gyntaf, drwy werthu ei hun fel 'tipyn o rebel', roedd yn hawdd i McCain ymbellhau oddi wrth ei ragflaenydd amhoblogaidd. Oherwydd hyn, llwyddodd McCain yn yr etholiadau cynradd (primaries) i ennill 31% o bleidleisiau'r rhai oedd ddim yn hoff o Bush. Roedd y ffaith ei fod ef a Bush wedi tynnu'n groes yn y gorffennol yn gysur i'w gefnogwyr; trwy hyn, llwyddodd i gael cymorth ariannol y rhai oedd wedi'u dadrithio â'r Blaid Weriniaethol yn gyffredinol.


Fodd bynnag, anfantais McCain oedd nad oedd yn un o ffefrynnau'r ceidwadwyr. Mitt Romney, Fred Thompson a Mick Huckabee oedd y rheiny. Hefyd, roedd yr ymgeisydd rhyddewyllysol (libertarian), Ron Paul, wedi parhau i ennill cefnogaeth ac wedi dangos bod ganddo'r gallu i godi symiau mawr o arian dros y we. Wrth i'r etholiadau cynradd ddirwyn i ben, meddyliai llawer o'r sylwebyddion tybed sut byddai McCain yn gallu parhau â'i ymgyrch yn erbyn yr ymgeisydd Democrataidd, pwy bynnag y bo. Hyd yma, roedd yr ymgeiswyr Democrataidd a Gweriniaethol eraill wedi codi symiau oedd yn amrywio o $60,000 (Alan Keyes) i $222mn (Hillary Clinton). Tra roedd rhai, fel Mitt Romney, wedi codi dros $107mn a hynny wedi arwain at ddim, o leiaf cafodd Hilary Clinton ryw fath o wobr, drwy gael lle ar y cabinet fel ysgrifennydd gwladol.


Erbyn mis Ebrill 2008, roedd McCain wedi codi $100.4mn o gymharu â $272.1mn Obama. Roedd pethau'n argoeli'n dda i McCain yn y polau piniwn, ond heb yr arian oedd ei angen arno, byddai'n andros o anodd iddo fynnu sylw'r cyhoedd tan fis Tachwedd. Ym mis Awst 2008 yn unig, llwyddodd ymgyrch McCain i godi $47mn. Roedd y gamp hon yn un o ganlyniadau uniongyrchol 'effaith Palin' fel y'i gelwid. Yn ôl y Comisiwn Etholiadol Ffederal (Federal Election Commission), codwyd $10mn ohono yn y ddau ddiwrnod cyntaf ar ôl i McCain gyhoeddi enw ei gydymaith yn y ras. Yn sydyn iawn, roedd ceidwadwyr cymdeithasol, a oedd ar eu gorau'n amheus o McCain, yn tyrru i roi arian i'r ddau Weriniaethwr. Diolch i'r 'tîm o rebels', cafodd yr ymgyrch yr hwb hollbwysig roedd ei angen, dros dro o leiaf. Roedd McCain wedi dewis bod yn rhan o'r trefniadau cyllido cyhoeddus. Golygai hyn y byddai wedi'i gyfyngu i wario $84mn ar 1 Medi 2008, ar ôl derbyn ei enwebiad fel ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn ffurfiol,


Arian Obama


Ym mis Mehefin 2008, cyhoeddodd Obama ei fod yn optio allan o'r trefniadau cyllido cyhoeddus. Golygai'r penderfyniad hwn fod Obama'n rhydd o gyfyngiadau'r trefniadau cyllido cyhoeddus o ran gwariant. Yn ôl yr ysgolhaig a'r sylwebydd, Larry Sabato, roedd penderfyniad Obama ynghyd â'i allu gwyrthiol i godi arian yn nodi diwedd y trefniadau cyllido cyhoeddus. Yn y dyfodol, byddai unrhyw un sy'n dewis bod yn rhan o'r trefniadau cyllido cyhoeddus yn siŵr o gael y label 'collwr' gan y cyfryngau.


Ym mis Awst 2008, llwyddodd ymgyrch Barack Obama i godi $66mn. Nid oedd unrhyw ymgeisydd gwleidyddol arall yn hanes yr Unol Daleithiau wedi llwyddo i godi swm mor syfrdanol mewn un mis yn unig. Y 'blogosffer' rhyddfrydol gafodd lawer o'r diolch am hyn am hyrwyddo, trafod a chanmol Obama'n barhaus ar y rhyngrwyd, gan arwain at gynnydd yn y rhoddion i'w ymgyrch. Mewn ymdrech i ddangos ei fod am osgoi cyllid gan noddwyr gwleidyddol cyfoethog, ('fat cat funding') fe wnaeth Obama ddatgan yn glir na fyddai'n derbyn cyfraniadau gan lobïwyr. Fodd bynnag, derbyniodd ei ymgyrch roddion gan berthnasau i lobïwyr, cymrodd ei ymgyrch gyngor gan lobïwyr a derbyniodd ei ymgyrch ddegau o filiynau o ddoleri gan gyfreithwyr.


Ar beth wariodd yr ymgeiswyr yr arian?


Mae'r Comisiwn Etholiadol Ffederal (www.fec.gov) a Chyfrinachau Agored (www.openecrets.org) yn olrhain incwm a gwariant yr ymgeiswyr ac yn rhoi dadansoddiad llawn o'r llif arian i mewn ac allan.


Dechreuodd ymgyrch Hillary Clinton yn gadarn, o ran delwedd ac o ran codi arian. Ym mis Ionawr 2007, cafodd ei chais i gyrraedd y Tŷ Gwyn ei lansio drwy ei gwefan. Bwriad y penderfyniad i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn hytrach na chyfrwng mwy traddodiadol, oedd dangos ei bwriad i gynnal ymgyrch gyfoes a thechnolegol. Ond mewn gwirionedd, cafodd ei hymgyrch ei rhedeg mewn ffordd draddodiadol. Cafodd ei phecynnu'n gelfydd fel mam Americanaidd oedd â'i thraed ar y ddaear, yn hoff o fwyta barbeciws ac yfed cwrw ac weithiau'n colli deigryn neu ddau. Yn ôl y Ganolfan ar gyfer Gwleidyddiaeth Ymatebol (Centre for Responsive Politics), roedd Clinton wedi gofyn i roddwyr unigol roi'r rhodd uchaf bosibl o $2,300 ac wedi elwa o hyn, yn arbennig yn y dyddiau cynnar. Fel gyda'i chystadleuwyr, cafodd y symiau anferthol a godwyd eu gwario ar weinyddu, codi arian, cyfraniadau, y cyfryngau a threuliau amrywiol. Er enghraifft, yn ôl opensecrets.org, gwariodd Clinton $56.2mn ar y cyfryngau yn yr etholiadau cynradd, o gymharu â $119mn McCain. Yn y pen draw, fyddai'r un ohonyn nhw wedi gobeithio dod yn agos at $364mn Obama ar y cyfryngau. Yn gyffredinol, gwariodd yr ymgeiswyr tua 55% o'u cronfeydd ar hysbysebion - ar y teledu'n bennaf, ond hefyd ar y radio, y rhyngrwyd a thrwy'r post. Cododd John McCain dros $360mn drwy gydol ei ymgyrch gyfan (gan gynnwys yr etholiadau cynradd) ac roedd y dadansoddiad o'i wariant yn debyg iawn i'w gystadleuwyr.


Technoleg yn erbyn y traddodiadol


Roedd ymgyrch McCain yn un draddodiadol o'r cychwyn cyntaf, ac fe gododd McCain rwystr rhyngddo ef a phleidleiswyr ifanc drwy gyfaddef nad oedd yn deall y rhyngrwyd nac yn gwybod sut i anfon e-bost. Cyn hir, sylweddolodd ei dîm fod hyn yn edrych yn hen ffasiwn iawn ac yn cyferbynnu'n llwyr â steil technolegol a chyfoes Obama. Wrth i'r ymgyrch dywallt mwy o arian i'r cyfeiriad hwn, dechreuodd y cyfryngau adrodd bod mwy a mwy o bobl yn edrych ar McCain ar YouTube a bod gwelliannau wedi'u gwneud i'w dudalen MySpace. Yn ogystal, prynodd ei ymgyrch chwileiriau ar Google a Yahoo i wneud yn siŵr bod defnyddwyr y we'n cael eu cyfeirio'n syth i'w ymgyrch ar-lein. Roedd McCain yn wynebu'r her o gadw ei sylfaen o bleidleiswyr traddodiadol, sef y ceidwadwyr gwyn hŷn, a cheisio denu pleidleiswyr ifanc newydd ar yr un pryd. O ganlyniad, roedd yn rhaid i'w gronfeydd fynd i wahanol gyfeiriadau, am fod ei gefnogwyr traddodiadol yn dueddol o ffafrio'r cyfryngau hen ffasiwn.


Ym mis Tachwedd 2007, nododd prif strategydd ymgyrch Clinton, Mark Penn, fod cefnogwyr Obama 'yn edrych fel Facebook.' Roedd yn bod yn ddirmygus. Yn wir, nid yn unig yr oedd ei ddisgrifiad yn gywir, ond hefyd penderfynodd Chris Hughes, un o sylfaenwyr Facebook, adael y wefan rhwydweithio cymdeithasol i fynd i weithio ar ymgyrch Obama. Helpodd yr entrepreneur 24 oed hwn i weddnewid gwefan yr ymgyrch a'i throi'n arf gwleidyddol syfrdanol o effeithiol. Ymhen dim o amser, roedd miliynau o gefnogwyr ar-lein wedi cyfrannu rhoddion o $200 neu lai. Cododd Obama bron ddwywaith gymaint â McCain, gan arwain yn y pen draw at y swm anhygoel o $700mn. Denodd ei ymgyrch dros chwe miliwn o roddwyr unigol.


Dilyn model Howard Dean


Er i'r ymgeisydd Democrataidd yn etholiad arlywyddol 2004, Howard Dean, fethu â chyrraedd y Tŷ Gwyn, fe lwyddodd i adael ei farc ar ddulliau ymgyrchu. Fe aeth Obama'n arbennig ati i fabwysiadu ac addasu dulliau ymgyrchu Dean, a gwneud hynny'n llwyddiannus hefyd. Roedd dau nod yn cymell Dean i ddefnyddio'r rhyngrwyd - codi arian a chodi ymwybyddiaeth. Llwyddodd i gyflawni'r ddau. Codwyd $50mn yn ystod yr ymgyrch, swm mwy nag oedd wedi'i godi erioed o'r blaen, a gwelwyd cynnydd o ran ymwybyddiaeth a chyfranogiad pleidleiswyr. Roedd Dean yn arloeswr am y ffordd ddyfeisgar y defnyddiodd declynnau cyfarfod ar-lein, blogiau a dulliau codi arian dros y we. Dangosodd ei ymgyrch fod modd cyfuno dulliau technolegol arloesol a dulliau 'cael-y-bleidlas-allan' traddodiadol i greu ymgyrch berffaith.


Cymhwyso sgiliau


Er gwaethaf ymosodiadau parhaus gan Sarah Palin am brofiad Obama fel trefnydd cymunedol yn Chicago, bu'r sgiliau a enillodd Obama yn ystod y cyfnod hwn o werth iddo. I dîm Obama, ei rinwedd unigryw ef oedd ei fod yn ddigon ifanc a ffasiynol i ddefnyddio teclynnau fel Facebook yn llwyddiannus. Yn ystod araith agoriadol Obama ar 20 Ionawr 2009, roedd 4,000 o ddiweddariadau statws y funud, gyda chymaint ag 1.5mn drwy gydol y dydd. Y fantais fwyaf o ddefnyddio'r rhyngrwyd fel hyn oedd ei bod yn ffordd gost effeithiol o gyrraedd nifer fawr o gefnogwyr. Yn gyffredinol, dim ond 2% o'i arian a wariodd ymgyrch Obama ar y rhyngrwyd, 13% ar dreuliau ac 8% ar godi arian, tra cafodd y rhan fwyaf o'r cyllid ei wario ar ymgyrchu yn y cyfryngau.


Y cyfryngau - defnyddio'r hen a'r newydd


Mae pob gwleidydd modern yn gwario arian mawr ar hysbysebion teledu, yn arbennig yr hyn a elwir yn 'infomercial' - hysbyseb sy'n gwerthu ac yn rhoi gwybodaeth, ac sy'n para pum munud. Cadwodd Obama at yr arferiad hwn ac yn y cyfnod yn arwain at 4 Tachwedd, roedd gwyliwr teledu nodweddiadol yng Ngorllewin Virginia yn gweld 35 o hysbysebion Obama yr wythnos ar gyfartaledd. Disgrifiodd un gwyliwr y profiad fel fersiwn deleweledol o gael eich 'bomio'n systematig ar raddfa fawr'. Cafodd slot teledu 30 munud Obama ei ddarlledu yn ystod cyfnod brig ar saith o brif sianeli'r Unol Daleithiau, gan gyrraedd 33mn o wylwyr. Roedd McCain yn methu â chystadlu â hyn. Ni welwyd ymgyrch debyg erioed o'r blaen.


Ond nid codi a gwario'r symiau mwyaf o arian oedd unig sail llwyddiant Obama. Roedd hefyd i'w wneud â defnyddio'r arian hwn mewn ffyrdd eithriadol ac, fel y gwnaeth gyda'r we, cyflawni canlyniadau effeithiol am gost fechan. Doedd manteisio ar bosibiliadau Facebook yn unig ddim yn ddigon i dîm Obama. Aethon nhw ati hefyd i greu gwefan rhwydweithio cymdeithasol arbennig ar gyfer yr ymgyrch, mybarackobama.org. Roedd hon yn rhoi'r newyddion diweddaraf i gefnogwyr am ddigwyddiadau ymgyrchu yn eu hardaloedd nhw. O ganlyniad uniongyrchol i hyn, cynhaliwyd 200,000 o ddigwyddiadau ymgyrchu oedd heb eu rheoli'n ganolog gan y tîm ymgyrchu swyddogol. Yn ogystal, gallai dilynwyr Obama lawrlwytho ei areithiau pen stryd (stump speeches) fel tonau i'w ffonau symudol. Ond yn ddi-os, yr enghraifft fwyaf arloesol o dechnoleg gyfoes yn cael ei defnyddio i ennill pleidlais y bobl ifanc, pleidlais enwog am fod yn anodd ei chael, ydy ymgyrch Obama'n talu i hysbysebu ar gemau cyfrifiadurol Xbox 360. Wrth i ieuenctid America, rif y gwlith, chwarae eu hoff gêm, ymddangosai hysbysebion Obama o'u blaen, ynghyd â manylion ei wefan.


Beth am y dyfodol?


Y prif gwestiwn ar gyfer y dyfodol yw a fydd y tueddiad hwn o wario mwy a mwy ym mhob etholiad yn parhau? Mae'r ateb i hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar gostau darlledu ar y teledu. Mae llawer o wleidyddion yn yr Unol Daleithiau yn galw ar ddileu'r costau a rhoi amser darlledu am ddim i ymgeiswyr. Heb ddatblygiad o'r fath, mae etholiadau sy'n costio biliwn a mwy o ddoleri yn edrych yn anochel. Sut bynnag dyma farn a gyhoeddwyd yn y New York Times, 'Mae'r dirwasgiad wedi anelu ei belydryn marwol at union ethos afradlonedd amlwg' ('Extravagance has its limits', New York Times, 9 Mawrth 2009). O ganlyniad, mae pobl yn dechrau 'mynd yn ôl at yr hanfodion' fel petai. Efallai y bydd y dirwasgiad yn lladd yr arferiad o wario mwy a mwy ym mhob ymgyrch etholiadol hefyd. Hwyrach y byddai cael hawl i ddarlledu am ddim ar y teledu, defnyddio'r rhyngrwyd yn ddoeth a defnyddio dulliau ymgyrchu traddodiadol yn gweddnewid arferion gwario etholiadol sydd wedi mynd yn rhai rhodresgar ac, ym marn llawer, annemocrataidd iawn.


Atgynhyrchwyd drwy ganiatâd Phillip Allan Updates.