Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

UDA: Diweddariad

Edward Ashbee sy’n rhoi etholiadau canol tymor 2010 yn eu cyd-destun.


Gwnaeth Plaid y Gweriniaethwyr gynnydd sylweddol yn etholiadau canol tymor 2010. Sicrhaodd fwyafrif yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr a chipiodd seddi gan Blaid y Democratiaid yn etholiadau’r Senedd. Er i Harry Reid, Arweinydd Mwyafrif y Senedd, lwyddo i wrthsefyll sialens gan ymgeisydd Gweriniaethol oedd â chysylltiad agos â’r mudiad Te Parti, nid oes llawer o amheuaeth fod Arlywydd Obama’n wynebu cryn anawsterau. Nid oes yna bellach unrhyw obaith am ddeddfwriaeth fyddai’n ychwanegu at bwerau’r llywodraeth. Hefyd, gallai’r Gweriniaethwyr ddefnyddio’u rheolaeth dros y Tŷ i ddwysáu’r arolygaeth dros y Tŷ Gwyn. O ystyried y gwahaniaethau rhwng y pleidiau, nid oes llawer o le i gyfaddawd. (Mae canlyniadau etholiadau canol tymor 2010 yn destun erthygl fydd yn ymddangos yng Nghyfrol 20, Rhif 4, Ebrill 2011.)



'Etholiad Ton'


Mewn sylw enwog unwaith, dywedodd ‘Tip’ O’Neill, cyn-Lefarydd Tŷ’r Cynrychiolwyr, fod ‘gwleidyddiaeth yn hollol leol’. Etholiadau Cyngresol yn bennaf oedd ganddo dan sylw, etholiadau sy’n draddodiadol wedi canolbwyntio ar faterion sy’n bwysig i dalaith neu ardal benodol. Pan gollid seddi, roedd hyn fel arfer o ganlyniad i faterion lleol neu ofidiau am ymgeisydd arbennig.


Fodd bynnag, mae yna eithriadau i ddatganiad O’Neill. Yn wir, byddai rhai’n dadlau fod y datganiad erbyn hyn wedi colli llawer o’i berthnasedd blaenorol. Gwelir bellach fwy a mwy o ‘etholiadau ton’. Caiff y rhain eu gyrru gan bryderon cenedlaethol yn hytrach na rhai lleol. Er bod yna amrywiadau, gwelir y pendil cenedlaethol yn gogwyddo o un blaid i’r llall.


Gellir gweld elfennau ton mewn tri etholiad Cyngresol diweddar. Yn 1994, oherwydd diffyg ymddiriedaeth cyffredinol yn yr Arlywydd Bill Clinton a’r Democratiaid Cyngresol, gwelwyd llanw Gweriniaethol a roddodd fwyafrifau i’r blaid yn y ddwy siambr. Yn 2006, gwelwyd llanw Democrataidd. Ac yn 2010, ddwy flynedd yn unig wedi colli’r etholiad arlywyddol i Barrack Obama, llwyddodd y Gweriniaethwyr i adennill mwyafrif yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr a gwneud cynnydd arwyddocaol yn y Senedd ar sail gelyniaeth gyffredinol tuag at weinyddiaeth Obama a’r Democratiaid ar Fryn y Capitol.


Pam?


Mae’n anodd bod yn siŵr beth sy’n achosi etholiadau ton. Un o’r rhesymau yw bod ymddangosiad a chynnydd rhwydweithiau newyddion cebl (a’r rhyngrwyd efallai) wedi ‘cenedlaetholi’ dadleuon gwleidyddol. Cafwyd hefyd bolareiddio cynyddol, ymysg gweithredwyr brwd o leiaf. Mae popeth arall, gan gynnwys pryderon yn ymwneud â’r dalaith a’r ardal, yn rhan o’r frwydr rhwng ceidwadwyr a’r rhai ar y chwith. I leiafrif arwyddocaol, doedd polisïau’r Arlywydd George W. Bush yn gwneud dim ond gwarchod buddiannau corfforaethol. Honnwyd iddo ymelwa’n ddidostur ar yr ofnau a grëwyd gan ymosodiadau’r 11eg o Fedi. Yn yr un modd, mae’r Arlywydd Obama wedi wynebu ymosodiadau difrïol gan y rheiny sy’n cwestiynu a oes hawl cyfansoddiadol ganddo i fod yn arlywydd, y rhai sy’n credu ei fod yn sylfaenol ‘wrth-Americanaidd’, neu’r rhai sy’n honni ei fod yn sosialydd ymroddedig neu’n genedlaetholwr du.


2008 a 2010


Ond mae etholiadau canol tymor 2010 yn hawlio esboniad pellach. Ddwy flynedd ynghynt, enillodd Barrack Obama’r arlywyddiaeth a chynyddodd y Democratiaid Cyngresol eu mwyafrif ynghanol honiadau fod proses o ail-ymochri wedi digwydd. Mae’r term ‘ail-ymochri’ yn awgrymu fod un o’r ddwy blaid Americanaidd fawr, am gyfnod estynedig – ac mae sylwebwyr fel arfer yn sôn am gyfnod o 30 neu 40 mlynedd –wedi sicrhau goruchafiaeth tra roedd y blaid arall wedi’i gostwng i statws israddol. O’r persbectif hwn, y Democratiaid oedd y blaid ddominyddol rhwng dechrau’r 1930au a diwedd yr 1960au. Nhw enillodd y rhan fwyaf o’r etholiadau a gosod yr agenda gwleidyddol am ran helaethaf y cyfnod. Yna, yn y degawdau canlynol, ymddangosai’r Gweriniaethwyr fel y blaid ddominyddol (er bod y dystiolaeth ar brydiau braidd yn anghyson). Dadleuodd sylwebwyr fod buddugoliaethau’r Democratiaid yn 2006 a 2008 wedi agor drws i gyfnod hir o ddominyddiaeth Democrataidd.


Esboniwyd hyn, yn rhannol o leiaf, drwy gyfeirio at dueddiadau demograffig. Roedd cymeriad UDA yn newid. Erbyn tua 2050, byddai yno fwyafrif na fyddai’n wyn eu croen. Yn benodol, roedd Americanwyr Lladinaidd, ac i raddau llai, Americanwyr Asiaidd, yn cynyddu o ran cyfran poblogaeth UDA. Fel Americanwyr Affricanaidd, byddai’r grwpiau hyn hefyd yn tueddu i ffafrio’r Democratiaid (er, nid i’r un graddau). Ar yr un pryd hefyd, gwelid niferoedd cynyddol o bobl broffesiynol tra medrus a chanddynt gymwysterau addysgol da. Roedd y rheiny hefyd yn tueddu i bleidleisio i’r Democratiaid.


O ystyried y cefndir yma felly, siaradai rhai am y ‘mwyafrif Democrataidd a oedd ar gyrraedd’. Ym Mai 2009, cyhoeddodd James Carville, strategydd dylanwadol o fewn y Blaid Ddemocrataidd a’r gŵr oedd y tu ôl i ymgyrch arlywyddol Bill Clinton yn 1992, gyfrol o’r enw ‘40 More Years: How Democrats Will Rule the Next Generation’. Yn ystod rhan helaeth o 2009, pan welwyd gwrthwynebiad chwerw’r Gweriniaethwyr i Dŷ Gwyn Obama a chefnogaeth mudiadau ceidwadol i ffigyrau dadleuol megis sylwebydd Fox News, Glenn Beck, ymddangosai fod y Blaid Weriniaethol ar ei gwely angau.


Atgyfodiad y Gweriniaethwyr


Ond profwyd yr honiadau hyn i gyd yn anghywir. Yn gynnar yn 2010, daeth yn amlwg fod barn y boblogaeth yn symud yn erbyn gweinyddiaeth Obama a’r Democratiaid Cyngresol. Beth sbardunodd atgyfodiad y Gweriniaethwyr?


Roedd yna wrthdaro rhwng rhethreg a realiti. Yn 2008, enillodd yr Arlywydd Obama’r rhagetholiadau yn erbyn Hilary Clinton a’r etholiad cyffredinol yn erbyn John McCain ynghanol rhethreg gynyddol. Galwai ef am newid, soniai am foesoldeb gymaint ag am wleidyddiaeth, ac addawodd i godi uwchben pleidgarwch. Ym mis Chwefror 2008, yn dilyn canlyniadau’r Super Tuesday, cyrhaeddodd rhethreg Obama uchelfannau newydd wrth iddo ddweud wrth gefnogwyr yn Chicago:


"Ni yw’r rhai y buom yn aros amdanynt. Ni yw’r newid y buom chwilio amdano. Ni yw gobaith y bechgyn hynny sydd heb lawer; y rhai y dywedwyd wrthynt na allant gael yr hyn y breuddwydiant amdano. Na allant fod yr hyn a ddychmygant... Gallant, fe allant." (Obama, 2008)


Ni allai’r fath rethreg ond arwain at siom wrth wynebu realiti gwleidyddol creulon. Yn union cyn etholiadau canol tymor 2010, ymddangosodd Obama ar The Daily Show gyda Jon Stewart. Roedd cwestiwn cyntaf Stewart yn finiog wawdlyd:


"..rydych chi ddwy flynedd i mewn i’ch gweinyddiaeth, a’r cwestiwn sy’n codi yn fy meddwl yw: Ai ni yw’r bobl y buom yn aros amdanynt? Neu ydy’r bobl hynny yn dal allan yna a does gennym ni ddim eu rhif ffôn? Sut rydych chi’n teimlo am hynny?"


Roedd buddugoliaeth Obama yn 2008 yn erbyn McCain i ryw raddau yn ganlyniad i amgylchiadau eithriadol, ac felly byddai’n annhebygol o allu cynnal y canlyniadau. Roedd UDA a llawer o’r byd yn wynebu argyfwng economaidd dramatig a dwys. Ar rai adegau, ymddangosai fel petai’r sector bancio ar fin syrthio dros y dibyn. Difrïwyd y Gweriniaethwyr oherwydd methiant polisïau a sgandal. Er gwaethaf llwyddiannau milwrol, roedd rhyfel Irac yn dal i lusgo ymlaen. Wedi dau dymor, roedd yr Arlywydd Bush yn amhoblogaidd dros ben. Er i McCain strwythuro ei ymgyrch o gwmpas honiadau ei fod yn rebel, roedd yn anodd iddo ymbellhau oddi wrth Bush. Dinistriwyd ymgyrch McCain hefyd gan gwestiynau am hygrededd ei ddewis o gymar is-lywyddol, y Llywodraethwr Sarah Palin.


Bu etholiad 2008 yn eithriadol mewn ffyrdd eraill. Roedd ymgeisyddiaeth Obama’n denu cefnogaeth benodol gan grwpiau arbennig, yn fwyaf nodedig pobl ifanc (rhwng 18 a 29 oed) a lleiafrifoedd. Er bod y grwpiau yma’n tueddu i gefnogi’r Democratiaid, mae’r ganran ohonynt sy’n pleidleisio yn gymharol isel. Yn 2008, llwyddodd ymgyrch Obama i danio dychymyg y grwpiau yma a chafwyd mwy ohonynt yn troi allan i bleidleisio. Eto, roedd yn anodd cynnal hyn, yn enwedig mewn cystadleuaeth ganol tymor pan nad oedd yr arlywyddiaeth yn y fantol.


Roedd rhai Democratiaid ar lawr gwlad braidd yn siomedig â dwy flynedd gyntaf Obama fel arweinydd. Teimlent fod y diwygiadau gofal iechyd wedi cilio oddi wrth amcanion gwreiddiol y weinyddiaeth. Cafodd ymdrechion i dynhau rheoleiddiadau’r sector ariannol eu glastwreiddio. Ac fel yr honnodd Paul Krugman sawl gwaith yn ei golofnau dylanwadol yn y New York Times, roedd yr ysgogiad cyllidol a gymeradwywyd yn Chwefror 2009, a oedd yn ceisio hybu twf yr economi a lleihau diweithdra, yn rhy fychan o lawer.


Achosodd sefyllfa economaidd UDA lawer o siomedigaethau. Gwelliant bach a phetrusgar iawn a wnaed wedi argyfwng 2008-09. Roedd y raddfa diweithdra yn parhau’n 9.6% ym mis Medi 2010 a chafodd effeithiau hynny eu gwaethygu oherwydd absenoldeb darpariaeth gynhwysfawr gan y llywodraeth i’r rhai oedd allan o waith. Câi busnesau anhawster dod o hyd i gwsmeriaid. Mae’r realiti economaidd creulon yma wedi cyfrannu at besimistiaeth gyffredinol ynglŷn â dyfodol y wlad. Gyda llai nag wythnos i fynd cyn yr etholiadau canol tymor, darganfu arolygon Rasmussen mai dim ond 32% oedd yn teimlo fod y wlad yn ‘mynd i’r cyfeiriad cywir’. Mewn cyferbyniad, roedd 64% yn credu fod UDA ar y trac anghywir. (Adroddiadau Rasmussen, 2010). Mae cydberthynas agos rhwng y farn am gyfeiriad y wlad a’r patrwm pleidleisio.


Tra roedd yna rywfaint o ddigalondid ymysg cefnogwyr y Blaid Ddemocrataidd a’r grwpiau oedd yn tueddu i gefnogi’r blaid honno, cafodd y Gweriniaethwyr nerth newydd. Roedd hyn yn rhannol oherwydd ymdrechion a syniadau’r mudiad Te Parti (the Tea Party Movement). Gan gymryd ei enw ar ôl Te Parti Boston yn 1773 (a hefyd yn ôl rhai ‘Wedi’n Trethu Ddigon yn Barod’ - Taxed Enough Already), mae’r mudiad wedi ymrwymo i sicrhau llywodraeth gyfyngedig, marchnadoedd rhydd, a chyfrifoldeb cyllidol. Gwêl fesurau gweinyddiaeth Obama a’r Democratiaid Cyngresol, megis y diwygio ar ofal iechyd a’r ysgogiad cyllidol, fel bygythiadau peryglus i economi’r genedl a rhyddid yr unigolyn. Dywed y byddai hawliau a rhyddid y dinesydd mewn perygl petai’r llywodraeth yn ehangu. Awgrymodd arolwg a wnaed yn Ebrill 2010 fod 22% o Americanwyr yn eu diffinio eu hunain fel ‘cefnogwyr’ y mudiad.


Mae rhai grwpiau nid yn unig wedi aros adre ond wedi gogwyddo yn erbyn y Blaid Ddemocrataidd. Yn benodol, roedd y rheiny a alwai eu hunain yn annibynwyr (tri ymhob deg o bleidleiswyr) wedi troi yn erbyn gweinyddiaeth Obama. Yn 2008, roedd Obama’n wedi denu hyd at wyth pwynt o annibynwyr yn fwy na’r Seneddwr McCain. Erbyn Gorffennaf 2010, roedd y Gweriniaethwyr 12 pwynt ar y blaen i’r Democratiaid (Cillizza, 2010). Awgryma’r dystiolaeth fod nifer o annibynwyr yn rhannu ofnau’r dde am ‘lywodraeth fawr’ a’u bod yn poeni fod ymrwymiadau gwario ar raddfa eang yn mynd i ychwanegu at y diffyg yng nghyllideb y llywodraeth ffederal a’r ddyled genedlaethol.


Tagfa Ddeddfwriaethol


Yn sgil yr etholiadau, soniwyd yn aml am dagfa ddeddfwriaethol (gridlock). Mewn geiriau eraill, roedd y gwahaniaethau gwleidyddol rhwng gweinyddiaeth Obama, y mwyafrif Gweriniaethol yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr, a’r Senedd newydd yn rhwystro unrhyw ddeddfwriaeth rhag cael ei phasio.


Teimla rhai y gallai Obama efelychu’r Arlywydd Clinton a geisiodd, yn dilyn etholiadau canol tymor 1994, ddilyn polisi ‘triongliant’ drwy leoli’i hun rhwng llawer o’r Blaid Ddemocratiaid a’r Gweriniaethwyr ar y llaw arall. Roedd y parodrwydd yma i orfodi gornest gyda’r Gweriniaethwyr ar faterion a ddewiswyd yn ofalus, ac economi oedd yn ehangu, wedi galluogi Clinton i ail-afael yn ychydig o’i boblogrwydd cynharach ac ennill yr etholiad arlywyddol yn 1996. Ni fydd y dasg mor hawdd i’r Arlywydd Obama. Mae’n debygol y bydd yna gyfnod maith o dwf economaidd araf a diweithdra uchel. Mae’r Gweriniaethwyr yn benderfynol o gwtogi ei ddeddfu, gan roi llai o le i gyfaddawdu. Ac mae’n bosib nad oes gan Obama hyblygrwydd personol Clinton. Hynny yw, mae’n ddigon posibl na fydd modd datrys yr anghytundeb llwyr (stalemate) rhwng y pleidiau.


Drifft


Beth fyddai tagfa ddeddfwriaethol neu anghytundeb llwyr yn ei olygu mewn gwirionedd? Fel arfer, golyga hyn gyfnod lle na fydd modd cychwyn na chyflawni dim byd. Fodd bynnag, mae yna fwy iddo na hyn. Mewn erthygl ddylanwadol wedi’i seilio ar eu gwaith cynharach (ar sail methodolegau sefydliadol) dadleua Jacob Hacker a Paul Pierson nad yw absenoldeb gweithredu deddfwriaethol yn golygu fod prosesau gwleidyddol ac economaidd yn aros yn yr unfan. Yn hytrach, mae yna ddrifft polisi wrth i strwythur yr economi newid dros amser, wrth i’r ddeddfwriaeth gyfredol ddyddio’n gynyddol, ac wrth i wleidyddiaeth symud oddi wrth y Gyngres tuag at ddulliau mwy anffurfiol o ddwyn perswâd.


"Ond yn amlach na pheidio, mae drifft yn ffurf dawel, goddefol-ymosodol ar wleidyddiaeth .. Mae drifft yn chwarae ffefrynnau. Mae’n rhoi manteision i’r rhai trefnus a gwyliadwrus a’r rhai sydd eisiau i’r llywodraeth ymwneud lai a llai â’r gwaith o ffurfio Cymdeithas Americanaidd ac ymateb i sialensiau cymdeithasol ac economaidd. Mae drifft yn grymuso’r rhai sy’n gweithio yng nghysgodion gwleidyddiaeth: lobïwyr a grwpiau buddiant a rhwydweithiau o weithredwyr." (Hacker and Pierson, 2010)