Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Etholiadau canol tymor 2010

Clodagh Harrington


Ar 2 Tachwedd 2010, pleidleisiodd yr Americanwyr yn yr etholiadau canol tymor. Dioddefodd Plaid Ddemocrataidd Obama golledion enbyd. Mae Clodagh Harrington yn dadansoddi’r canlyniadau ac yn gofyn: beth wnaiff Obama nawr?


Wrth bori drwy gyfryngau’r Unol Daleithiau a’r cyfryngau rhyngwladol ar ôl yr etholiadau, byddai rhywun yn maddau i chi am feddwl bod llywyddiaeth Barack Obama ar ei gliniau, ar ôl cwta 22 o fisoedd. Datganodd yr Houston Chronicle fod yr ‘hyfforddiant-mewn-swydd parhaus sy’n destun embaras...yn arwydd pendant mai arlywydd un tymor yw Obama’ ac yn La Stampa yn yr Eidal penderfynwyd bod yr ‘etholiadau canol tymor yn ergyd farwol i Obama’.

 

Ond a yw pethau mor ddu â hynny i’r dyn yr oedd pawb yn credu yn 2008 y byddai’n newid y byd? Neu’n newid polisi’r Unol Daleithiau o leiaf. Nid oes amheuaeth bod y Democratiaid wedi cael ergyd drom ar 2 Tachwedd (gweler Blwch 1) - y canlyniad gwaethaf i’r blaid mewn hanner canrif. Cafodd Obama ei feirniadu o bob tu:

  • gan ei gefnogwyr Rhyddfrydol a oedd wedi’u dadrithio

  • gan y rhai a bleidleisiodd am y tro cyntaf yn 2008 na welwyd lliw ohonynt ar ddiwrnod yr etholiad yn 2010

  • gan ei wrthwynebwyr a oedd yn falch iawn o weld nad oedd yn plesio neb

Ar gost o ymhell dros $5 biliwn – yr etholiad drutaf yn hanes yr Unol Daleithiau – roedd hwn yn brawf costus o farn y cyhoedd yn yr Unol Daleithiau.


Gwersi o hanes diweddar


Gall cymryd cipolwg drwy hanes roi rhywfaint o gyd-destun i’r sefyllfa bresennol. Meddyliwch am etholiadau canol tymor 1938 pan gollodd plaid Franklin D. Roosevelt 71 o seddi yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr. Trodd y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid ceidwadol yn ei erbyn oherwydd i’r economi ddirywio am y eildro yn ystod y Dirwasgiad. Serch hynny, ailetholwyd Roosevelt ddwywaith ac fe’i ystyrir gan lawer fel arlywydd gwychaf yr ugeinfed ganrif.


Neu ystyriwch Ronald Reagan, a etifeddodd sefyllfa economaidd ofnadwy pan ddaeth i rym yn 1981. Erbyn etholiadau canol tymor 1982, roedd y cyhoedd mor rhwystredig gyda’r ffordd yr oedd yr arlywydd yn ymdrin â’r economi nes i’w blaid golli 27 o seddi yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr. Roedd diweithdra wedi cyrraedd 10% - cyfradd uwch na’r gyfradd bresennol o 9.6% - ond eto gwta 2 flynedd yn ddiweddarach, cafodd Reagan fuddugoliaeth ysgubol arall gyda chefnogaeth 49 o daleithiau a daeth yn un o arlywyddion mwyaf poblogaidd yr oes fodern.

 

Yn olaf, mae llywyddiaeth Clinton yn enghraifft ddiweddar sy’n werth ei chrybwyll. Adeg ei fuddugoliaeth yn 1992, roedd y wlad ynghanol dirwasgiad difrifol. Enillodd ei blaid fwyafrif yn y ddau Dŷ Cyngres ac eto, ymhen 2 flynedd, roedd ei boblogrwydd wedi lleihau’n sylweddol a’i agenda ddeddfwriaethol yn diffygio’n arw. Roedd ymgyrch Clinton yn seiliedig ar ddiwygio gofal iechyd a dyma oedd prif bolisi 2 flynedd gyntaf ei lywyddiaeth. Yn wahanol i Obama, methodd cynllun Clinton cyn iddo gyrraedd y Gyngres hyd yn oed, rhywbeth a oedd wrth fodd calon ei wrthwynebwyr. Serch hynny, aeth Clinton ymlaen i ennill buddugoliaeth am yr ail dymor a llwyddo i wneud busnes gyda Newt Gingrich, ei wrthwynebydd Gweriniaethol.



Y sefyllfa bresennol


A yw’r heriau ar ôl etholiad canol tymor yn wahanol i arlywydd yn yr unfed ganrif ar hugain? Mewn rhai ffyrdd, nac ydyn. Erys llawer o’r prif faterion yr un fath. Mae gofal iechyd wedi bod yn broblem gynhennus iawn yn yr Unol Daleithiau ers degawdau. Llwyddodd Obama i gyflawni rhywbeth na lwyddodd ei ragflaenwyr. Llwyddodd i gael mesur gofal iechyd drwy’r Gyngres, er yn fersiwn wedi’i lastwreiddio, a gwnaeth hynny heb gefnogaeth y Gweriniaethwyr. Etifeddodd economi ar ei gliniau. Mae dirwasgiad yn ddigwyddiad cymharol reolaidd ond roedd y dirwasgiad hwn yn un enbyd iawn. Roedd llawer o Americanwyr yn gwaredu o glywed am y cynllun ysgogi $787 biliwn a’r help llaw i’r banciau ond eto mynnodd y weinyddiaeth y byddai’r economi wedi diffygio’n llwyr heb y mesurau hyn.


Mae angen i Obama yn awr ddysgu gwersi o sefyllfa Clinton yn 1994. O’r pwynt hwn ymlaen bu’n rhaid i Clinton finiogi ei sgiliau gwleidyddol ac - yn hollbwysig - ddangos gostyngeiddrwydd a’r gallu i gyfaddawdu. Mae llawer o agweddau ar Obama fel arlywydd nad ydym wedi’u gweld eto. Yn ei fuddugoliaeth yn etholiad 2008 gwelwyd ei sgiliau trefnu rhagorol wrth iddo gynnal ymgyrch ddiledryw. Ar y pryd, roedd yr amheuwyr yn meddwl tybed a fyddai ei sgiliau gwleidyddol cystal, ac yn ystod ei 2 flynedd gyntaf yn y swydd, gyda mwyafrif yn y tai Cyngres, prin fu’r galw arno i ddangos unrhyw sgiliau cyd-drafod. Ond mae’r dyddiau hyn wedi dod i ben, yn ddi-os.


Ni allwn ond gobeithio bod Obama yn meddu ar bragmatiaeth ac optimistiaeth, sef y rhinweddau angenrheidiol a lwyddodd i gynnal arlywydd Reagan ac arlywydd Clinton drwy amseroedd heriol tebyg. Mae hyd yn oed y rhai sy’n dal i gefnogi Obama yn cydnabod bod petruster ac ymagwedd broffesoraidd ymysg ei wendidau. Y brif flaenoriaeth i unrhyw arlywydd sydd dan anfantais ar ôl cael ei drechu mewn etholiad canol tymor yw ymgysylltu â’r cyhoedd a gwneud ei neges yn glir. Mae llawer o Americanwyr yn credu bod Obama yn oeraidd, a hyd yn oed yn ddidaro.

 

Dicter yn yr Unol Daleithiau


Mae etholwyr yr Unol Daleithiau wedi’u cythruddo. Gwelwyd hyn yn etholiadau canol tymor 2010. Newidiodd llawer o bleidleiswyr Democrataidd eu pleidlais neu penderfynasant aros adref ar ddiwrnod yr etholiad. Fodd bynnag, mae rhywbeth llawer mwy dwys na phenderfyniadau’r arlywydd presennol yn poeni pleidleiswyr o bob math. Maent wedi’u cythruddo gan wleidyddion, gan y llywodraeth a chan y system gyfan.

 

Mae patrwm yma. Yn etholiadau canol tymor 2006, dangosodd y pleidleiswyr eu rhwystredigaeth â llywdoraeth Bush drwy ddiddymu rheolaeth y Gweriniaethwyr dros y Gyngres. Yn sgil toriadau mewn trethi a arweiniodd at gynyddu’r ddyled, system fancio nad oedd yn atebol i neb, dau ryfel maith a chostus, yr ymateb i Gorwynt Katrina yn 2005, marweidd-dra economaidd, costau gofal iechyd uchel iawn a chynnydd mewn diweithdra cynyddodd dicter y cyhoedd.

 

Yn 2008, cefnodd yr etholwyr ar y Blaid Weriniaethol yn gyfan gwbl a throsglwyddo’r weithrediaeth, yn ogystal â’r Tŷ a’r Senedd i ddwylo’r Democratiaid. Rhan fawr o apêl Obama pan oedd yn ymgeisydd am yr arlywyddiaeth oedd y ffaith nad Bush ydoedd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, nid yw’r problemau wedi diflannu. Yn hytrach mae pobl yn teimlo rhwystredigaeth gydag Obama a’r Democratiaid nawr, ac mae’r blaid sydd mewn grym yn cael ei chosbi unwaith eto. Y canlyniad yw tagfa wleidyddol lle na all grymoedd o’r ddau begwn gydweithredu’n ystyrlon, neu lle nad ydynt yn fodlon gwneud hynny..

 

Bydd Cyngres wedi’i hollti - Gweriniaethwyr yng ngofal y Tŷ a’r Democratiaid yng ngofal y Senedd - yn gwneud rhestr dorcalonnus yr arlywydd o bethau i’w gwneud (gweler Blwch 2) yn fwy o her byth..


Yr hetwyr hurt ynteu’r te parti?


Llwyddodd y mudiad Te Parti, sydd ar hyn o bryd yn ddim mwy na chymysgedd o grwpiau a syniadau heb fawr o drefn na ffocws, i ennill poblogrwydd ac ysgubo drwy’r wlad yn y cyfnod yn arwain at yr etholiadau canol tymor. Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau hyn ar adain dde eithaf gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau wedi anesmwytho’r cymedrolwyr hynny yn y Blaid Weriniaethol nad ydynt yn cefnogi agenda’r arlywydd.


Gellid cymharu hyn â chlymblaid Reagan yn yr 1980au, hynny yw, Americanwyr priod, gwyn yn ddig ac yn rhwystredig ynghylch cyfeiriad y wlad. Ond mae demograffeg y mudiad Tea Party yn tueddu i fod yn hŷn ac ychydig yn fwy cefnog. Serch hynny, yr un yw eu cred, sef ‘nid llywodraeth yw’r ateb, llywodraeth yw’r broblem’.


Mewn sawl ffordd mae’r slogan hwn o ymgyrch Reagan yn yr 1980au yn crynhoi hanfod rhyfeloedd diwylliant yr Unol Daleithiau - yr hollt barhaus rhwng amrywiol grwpiau ar draws sbectrwm gwleidyddol yr Unol Daleithiau. Nid yw’r dadleuon yn newydd, ond mae dyfodiad y cyfryngau newydd a’r diwylliant newyddion 24 awr yn sicrhau bod y frwydr yn un ddi-baid ac yn aml yn mynd y tu hwnt i’r gwleidyddol gan droi’n frwydr bersonol, gas sy’n llawn gwrthdaro.

 

Nid yw’r sylwebyddion gwleidyddol wedi penderfynu beth fydd dyfodol y Te Parti eto. Yn hanesyddol, mae’r Unol Daleithiau wedi tueddu i fod yn genedl ddwy blaid, er gwaethaf ymdrechion pobl o’r tu allan a charfanau gwleidyddol o wrthgilwyr dros y blynyddoedd. Y canlyniad arferol i grŵp o’r fath yw ei fod naill ai’n diflannu neu’n cael ei fwrw i’r cysgod gan y blaid sydd agosaf ato o ran ideoleg.

 

Blwch 2

Rhestr Obama o bethau i’w gwneud


Mae rhestr bresennol yr arlywydd o bethau i’w gwneud yn ddigon i godi ofn ar rywun:

  • Mae mynd i’r afael â’r economi yn hollbwysig. Adeg ysgrifennu’r erthygl hon, roedd dyled genedlaethol yr Unol Daleithiau yn $13,719,512,111,466. Mae’n cynyddu ar gyfradd o $100,000 bob eiliad. Mae rhai arwyddion o welliant economaidd ond mae’r farchnad dai yn sefyll yn ei hunfan ac mae cyfraddau diweithdra’n ystyfnig o uchel, gydag 14 miliwn o bobl yn ddi-waith.

  • Mae sôn y bydd milwyr America yn gadael Afghanistan fis Gorffennaf 2011 ond mae gan y Cadfridog Petraeus yr hawl i newid hyn.

  • Roedd y gwariant ar amddiffyn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010 yn $553.8 biliwn - ffigur rhyfeddol o gofio’r pwysau ariannol ar y wlad.

  • Mae mewnfudo yn dod yn fater sy’n amhosibl ei anwybyddu ac eto bydd yr arlywydd yn cael trafferth i gael y pleidiau i gydweithredu ar fater mor gynhennus.

  • Mae’r adran amddiffyn yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa gyfnewidiol yn Iran ond dywed arbenigwyr ar bolisi tramor fod yr Unol Daleithiau yn annhebygol o weithredu.

  • Nid yw strategaeth ‘AfPak’ Obama wedi creu fawr o argraff ar Rwsia na Tsieinia.

  • Mae ymdrechion Obama i symud y broses heddwch yn Israel yn ei blaen yn parhau i gael eu llesteirio.

  • Er gwaethaf addewid yn yr ymgyrch etholiadol i gau gwersyll Guantanamo - sy’n gyfystyr ag anghyfiawnder rhyngwladol ym meddyliau llawer – mae’n parhau i fod ar agor.

  • Mae’r bygythiad gan derfysgwyr yn parhau, a rhaid mynd i’r afael ag ef.

  • Mae’r broblem niwclear yn fawr, yn arbennig mewn perthynas â Rwsia, ac mae taleithiau sydd ddim yn parchu taleithiau eraill yn eu gweithredoedd rhyngwladol (rogue states) yn parhau i achosi pen tost.

  • Nid yw polisi newid hinsawdd y weinyddiaeth wedi mynd fel dylai, gan nad yw targedau llym 2008 ar gyfer lleihau allyriadau carbon wedi cael eu cyrraedd oherwydd llu o achosion cyfreithiol yn erbyn y llywodraeth.

 

Arthes


Rhaid aros i weld p’un a yw’r Te Parti yn fwy na storm mewn cwpan de, ond ffefryn y mudiad yw’r cyn ymgeisydd am swydd y dirprwy arlywydd, sydd bellach yn ddadansoddwraig newyddion i Fox, Sarah Palin. Mae ei brand a’i phoblogrwydd enfawr ymysg cefnogwyr Gweriniaethol (81% ym mis Tachwedd 2010, yn ôl polau piniwn diweddaraf Gallup) yn golygu bod y sylwebyddion yn damcaniaethu’n frwd ynghylch ei chynlluniau ar gyfer etholiadau 2012. Hyd yma, nid yw wedi cadarnhau ei bwriadau ond dywedodd wrth y New York Times ei bod yn ymgynghori â’i theulu ynghylch y mater.

 

Bydd y Blaid Weriniaethol yn ymwybodol iawn nad yw’n boblogaidd mewn polau piniwn ymysg y Democratiaid a’r Annibynwyr (mae gan 81% a 53% yn y drefn honno ddelwedd negyddol ohoni). Fodd bynnag, mae 2 flynedd yn amser hir i finiogi’r sgiliau gwleidyddol angenrheidiol a dywed y rhai sy’n ei hadnabod fod Palin yn dod yn fwyfwy medrus wrth ymdrin â’r cyfryngau, ei bod yn ddoeth, yn dysgu’n gyflym, yn uchelgeisiol iawn ac yn garismataidd.

 

Mae dynion a chanddynt lawer llai i’w gynnig wedi llwyddo i gyrraedd Swyddfa’r Oval yn y gorffennol, felly ni ddylid ei diystyru fel cystadleuydd. Yn ogystal, os ystyrir bod pecyn ysgogi Obama yn fethiant yn ystod y 2 flynedd sydd i ddod, bydd apêl ei syniadau am lywodraeth fach yn ehangu.

 

Mae’r gwyddonydd gwleidyddol Larry Sabato yn ein hatgoffa, er bod Palin yn boblogaidd iawn ymysg Gweriniaethwyr, bod llawer o’r rhai sy’n hoff ohoni yn cydnabod bod ganddi ‘ormod o nodweddion negyddol’ a’i bod yn creu hollt. Bu i Karl Rove, prif strategydd gwleidyddol yr Arlywydd George W. Bush, feirniadu Palin yn gyhoeddus am ddiffyg urddas pan benderfynodd ymddangos ar ei sioe deledu realiti ei hun ar sianel Discovery. Dadleuodd eraill, mewn oes lle ceir diwylliant o obsesiwn gydag enwogion, fod hyn yn gam clyfar i fynd â’i neges a’i ffordd o fyw i ystafelloedd byw miliynau o bobl nad oes ganddynt ymwybyddiaeth wleidyddol. Fodd bynnag, efallai nad yw ei phoblogrwydd yn ddigon ynddo’i hun i gael ei dewis fel ymgeisydd yn 2012 pan fo’r Gweriniaethwyr bron â marw eisiau cael gwared ar Obama.

 


Tagfa wleidyddol ynteu cydweithrediad?


Bydd llawer o’r hyn sy’n digwydd yn wleidyddol yn ystod y 2 flynedd nesaf y tu hwnt i reolaeth yr arlywydd. Bydd p’un a fydd Obama yn arlywydd un tymor ynteu ddau dymor yn cael ei ddylanwadu gan ei ymdrechion i ddatrys argyfyngau’r wlad ochr yn ochr â’r Gweriniaethwyr. Fodd bynnag, bydd ffilibystro parhaus gan ei wrthwynebwyr yn y Gyngres, er enghraifft, yn herio ei allu gwleidyddol yn sylweddol.

 

Dan yr amgylchiadau, sydd mor heriol ag y gallai unrhyw arlywydd eu dymuno, yr opsiwn gorau i Obama yw realaeth ac ymwybyddiaeth o gostau. Mae lleihau’r rhethreg eithafol a chrisialu ei neges yn hollbwysig. Mae cyfeiriad gwleidyddol y ddwy blaid yn y tymor canol yn eithaf ansicr, ond mae rhai meysydd lle gallai’r rhai sy’n ymddangos fel eu bod ar begynau eithaf y sbectrwm gwleidyddol ddarganfod, er syndod iddynt, bod tir cyffredin rhyngddynt, er enghraifft, drwy gytundeb ar leihau’r gyllideb amddiffyn.

 

Ar hyn o bryd, mae’r pleidiau’n paratoi ar gyfer gornest ideolegol a fydd yn para 2 flynedd am yr hyn y gellid dadlau yw’r swydd bwysicaf ar wyneb y ddaear. Parhewch i wylio a gwrando.