Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Llys Roberts

Robert Singh

 

Yn yr erthygl hon mae Robert Singh yn edrych ar dymor 2010-11 Llys Goruchaf Unol Daleithiau America ac yn gofyn a yw ceidwadaeth gyfansoddiadol (constitutional conservatism) yr 21ain ganrif wedi disodli gweithrediaeth ryddfrydol (liberal activism) a welwyd yng nghanol yr 20fed ganrif.

 

Cyflwyniad

 

Yn ystod ei wrandawiadau cadarnhau gerbron Pwyllgor Barnwriaeth Senedd yr Unol Daleithiau yn 2005, addawodd John Roberts na fyddai ganddo 'ddim agenda' wrth gyflawni swydd prif ustus (chief justice) UDA. Gan addo dull minimol o ddehongli'r cyfansoddiad, cymharodd ei ffordd o ddehongli'r gyfraith â 'dyfarnwr pêl fas yn galw peli ac ergydion’. Ond, ar ôl chwe blynedd o'r hyn y mae rhai beirniaid yn ei alw'n ddyfarnu hynod unllygeidiog sydd wedi arwain at 'benderfyniadau mor wael nes eu bod yn destun embaras' (R. Dworkin, New York Review of Books, 26 Mai – 8 Mehefin 2011, tt. 40-41), mae'n ymddangos bod galwadau ei lys yn gogwyddo'n drwm tuag at y batwyr ceidwadol yn ei ddyfarniadau ar erthyliad, rheoli gynnau, gwahaniaethu cadarnhaol, cyllido ymgyrchoedd, dedfrydu troseddol a'r gosb eithaf.
 

 

Yn ei dymor diweddaraf, rhwystrodd Llys Roberts (hynny yw, y Llys Goruchaf o dan John Roberts) yr achos gwahaniaethu ar sail rhyw mwyaf a welwyd yn yr Unol Daleithiau erioed, gwrthododd apeliadau cyn-garcharorion o Irac a oedd yn honni iddynt gael eu cam-drin yn Abu Ghraib, a di-rymodd gyfraith yn Arizona a oedd yn rhoi arian cyhoeddus ychwanegol i ymgeiswyr a oedd yn cystadlu yn erbyn ymgeiswyr a chanddynt arian preifat.
 

 

Ers Llys rhyddfrydol Warren (1953-1969), mae ceidwadwyr wedi condemnio gweithredwyr barnwrol (judicial activists) sy'n gwyrdroi cynsail sefydledig (established precedent) ac yn dadansoddi’r Cyfansoddiad mewn modd sy’n peri iddynt weld hawliau ynddo nad ydynt wedi eu nodi'n bendant. Drwy wrthod ildio i ganghennau etholedig o lywodraeth, a dehongli cymalau'r Cyfansoddiad yn eang yn hytrach nag yn gul - yn lle defnyddio ataliaeth farnwrol (judicial restraint) - mynnodd barnwyr anetholedig ddefnyddio eu gwerthoedd eu hunain, a hynny'n anghyfreithlon, yn lle gwerthoedd llunwyr y Cyfansoddiad a chynrychiolwyr y bobl: y Gyngres a'r arlywydd. Mewn egwyddor, fodd bynnag, gallai gweithrediaeth farnwrol (judicial activism) arwain at ganlyniadau rhyddfrydol neu geidwadol, yn dibynnu pa gynseiliau a deddfau sy'n cael eu gwyrdroi. (Yn sicr roedd y llys ceidwadol a ddi-rymodd gyfreithiau Bargen Newydd Franklin D. Roosevelt ym 1933-38 yn sicr yn 'gweithredu' yn yr ystyr honno.)
 

 

Gyda phenodiad cyfreithwyr ceidwadol i'r llysoedd ffederal yn nodwedd gyson ers 1981, a yw gweithrediaeth geidwadol yr 21ain ganrif wedi disodli gweithrediaeth ryddfrydol canol yr 20fed ganrif? Ynteu, yn absenoldeb consensws mwyafrif clir, a oes raid i lys dan ataliaeth (restrained) gymharol ond pur geidwadol adlewyrchu ac atgyfnerthu'r polareiddio ehangach yng ngwleidyddiaeth gyfoes yr Unol Daleithiau?
 

 

Tabl 1 - Llys Roberts, 2010-11
Ustus Ganed
 
Penodwyd
 
Yr arlywydd a’i penododd
 
Gwleidyddiaeth farnwrol (Judicial politics)
John Roberts (Y Prif Ustus)
 
1955 2005 George W. Bush? Ceidwadol
 
Antonin Scalia 1936 1986 Reagan Ceidwadol
Anthony Kennedy? 1936 1988 Reagan Ceidwadol/Pendil
Clarence Thomas 1948 1991 George H. W. Bush Ceidwadol
Ruth Bader Ginsburg 1933 1993 Clinton? Rhyddfrydol
 
Stephen Breyer 1938 1994 Clinton? Rhyddfrydol
Samuel Alito 1950 2006 George W. Bush? Ceidwadol
Sonia Sotomayor 1954 2009 Obama Rhyddfrydol
Elena Kagan 1960 2010 Obama Rhyddfrydol
 

 


Tymor 2010-11: déjà vu unwaith eto


Gan fod Llys Roberts, fel y mae Tabl 1 yn ei ddangos, yn cynnwys mwyafrif ceidwadol eithaf dibynadwy, nid yw'r ffaith mai dyfarniadau ceidwadol y mae wedi eu gwneud yn bennaf yn llawer o syndod. Yn hynny o beth, dangosodd y tymor diweddaraf bedair nodwedd gyfarwydd i'r rhai sy'n dilyn hynt y llysoedd:

1. Nid yw pob tymor llys yn gyfartal. Mewn sesiwn nad oedd yn nodedig iawn, er na chyhoeddodd y llys y math o benderfyniadau pwysig fel Roe v Wade (1973) sy'n corddi cymaint ar wrthwynebwyr gweithrediaeth farnwrol, fe wnaeth ddyfarniadau pwysig ar bynciau amrywiol a dadleuol (Tabl 2).
 

2. Er bod llawer o ddyfarniadau yn ffafrio canlyniadau ceidwadol – yn enwedig mewn perthynas â buddiannau corfforaethol – nid oedd hyn heb eithriadau. Yn achosion Snyder a Brown ar y Gwelliant Cyntaf, er enghraifft, cafodd mesurau diogelu rhyddid i lefaru (freedom of speech) eu hymestyn i ymddygiad y mae'r rhan fwyaf o geidwadwyr yn eu gwrthwynebu'n gryf.


3. Pan fydd y llys wedi ei hollti o ran ideoleg, fel arfer Ustus Kennedy fydd yn penderfynu ai'r bloc ceidwadol ynteu’r bloc rhyddfrydol fydd yn fuddugol. Fel y dengys Tabl 3, yn y sesiwn fwyaf diweddar, roedd un o bob pump o'r achosion yn benderfyniadau 5-4, gyda bron 90% yn rhaniadau ideolegol lle’r oedd y pedwar ceidwadwr yn erbyn y pedwar rhyddfrydwr. O'r rhain, aeth 71% o blaid y ceidwadwyr diolch i bleidlais Kennedy.


4. Fel y dengys Tabl 4, pan fydd y llys ar ei fwyaf rhanedig, mae ustusiaid ceidwadol yn y mwyafrif bron ddwywaith mor aml ag ustusiaid rhyddfrydol, sy'n cadarnhau ble mae craidd y disgyrchiant gwleidyddol yn Llys Roberts.
 


 

Llai o weithrediaeth farnwrol, mwy o geidwadaeth gyfansoddiadol


Ymhell o fod yn ffurf newydd ar weithrediaeth geidwadol, mae Llys Roberts wedi bod yn llai parod i wyrdroi cynseiliau a dirymu (strike down) deddfau fel rhai anghyfansoddiadol – dau fesur allweddol gweithredu barnwrol – hyd yn oed na'i ragflaenwyr cymharol ataliedig (restrained). Cyhoeddodd Llys Roberts benderfyniadau ceidwadol 58% o'r amser yn ei 5 mlynedd cyntaf ar draws yr holl achosion. Cyhoeddodd llysoedd Burger a Rehnquist ddyfarniadau ceidwadol fwy neu lai ar yr un gyfradd: 55%. Mae hynny'n newid mawr o gymharu â Warren, a gyhoeddodd benderfyniadau ceidwadol ddim ond 34% o'r amser.
 

 

Mae’r diffyg gweithredu barnwrol ar draws y pedwar llys yn drawiadol. Cafodd llai na thri chynsail eu gwyrdroi ymhob tymor ar gyfartaledd, a dirymodd Llys Burger fwy o gyfreithiau ar gyfartaledd nag y gwnaeth Warren. Ond mae Roberts wedi bod yn llawer mwy ceidwadol wrth weithredu. Gwrthododd Llys Rehnquist 45 cynsail dros gyfnod o 19 mlynedd; roedd 60% o'r penderfyniadau hynny yn rhai ceidwadol. Gwrthododd Llys Roberts 8 cynsail yn ei 5 mlynedd cyntaf, cyfradd flynyddol ychydig yn is; ond canlyniad ceidwadol oeddent i gyd heblaw un.
 

 

Mae'r llys presennol yn fwy ceidwadol na'i ragflaenwyr yn gyffredinol, ond yn fwy felly mewn perthynas â dyfarniadau allweddol a phenderfyniadau nad ydynt yn unfrydol. Mae pedwar o'r chwe ustus (justice) mwyaf ceidwadol i eistedd ar y llys ers 1937 yn gwneud hynny ar hyn o bryd (Roberts, Alito, Scalia a Thomas) ac mae’r ustus 'pendil' (swing), Kennedy, hefyd yn un o'r deg ustus mwyaf ceidwadol mewn 74 mlynedd. Ond mae ceidwadaeth y llys ymhell o fod yn unffurf – yn enwedig ar ryddid i lefaru, y rhyfel ar derfysgaeth, gwahanu pwerau – ac mae ei weithredu ceidwadol yn gyfyngedig ac yn ddethol, er yn fawr ei effaith.

 

Tabl 2 Naw achos mawr o dymor 2010-11
Achos a dyfarniad
 
Manylion cryno
 
Angladdau milwrol | Snyder v Phelps (8-1) Unodd ustusiaid mwyaf ceidwadol a rhyddfrydol y llys i ddyfarnu bod Gwelliant Cyntaf y Cyfansoddiad yn diogelu protestiadau eglwys eithafol yn erbyn pobl hoyw mewn angladdau milwrol. Mae rhyddid mynegiant mor ganolog i'r genedl nes ei fod yn golygu amddiffyn protestiadau creulon ac amhoblogaidd, hyd yn oed ar adeg o alar teuluol dwys.
Mynediad at dystiolaeth DNA | Skinner v Switzer (6-3) Wrth ddyfarnu o blaid carcharor ar res angau yn Texas, sef Henry Skinner, oedd yn honni nad oedd wedi lladd ei gariad a'i dau fab, sefydlodd y llys lwybr cyfreithiol posibl i garcharorion gael mynediad at dystiolaeth DNA a allai brofi eu bod yn ddieuog.
Credydau treth ar gyfer ysgolion crefyddol | Sefydliad Addysgu Ysgol Gristnogol Arizona v Winn (5-4) Drwy wrthod achos cyfreithiol yn erbyn rhaglen credydau treth yn Arizona sy'n cynorthwyo ysgolion preifat, gwnaeth y llys hi'n anoddach i drethdalwyr fynd i gyfraith yn erbyn rhaglenni'r llywodraeth sy'n cynorthwyo sefydliadau crefyddol.
 
Carchardai gorlawn | Brown v Plata (5-4) Gorchmynnodd llys rhanedig y dylai talaith California sicrhau gostyngiad o 30,000 o garcharorion yn ei charchardai gorlawn, gan ddadlau bod yn rhaid i farnwyr ymyrryd pan fo amodau'n 'anghydnaws â'r cysyniad o urddas dynol'. Cadarnhaodd y llys benderfyniad llys is bod amodau carchardai California yn torri gwaharddiad y Cyfansoddiad ar gosbi creulon ac anarferol.
 
Cyflogi gweithwyr heb ddogfennau | Siambr Fasnach v Whiting (5-3) Dyfarnodd y llys y gall talaith Arizona ddirymu trwyddedau busnes cwmnïau sy'n cyflogi gweithwyr heb ddogfennau yn fwriadol – gan wrthod dadleuon mai cyfrifoldeb ffederal yw rheoli mewnfudo anghyfreithlon a chan gymeradwyo ymdrechion cyfyngedig y dalaith i reoleiddio achosion o gyflogi estroniaid anghyfreithlon.
Plant dan amheuaeth | J.D.B. v Gogledd Carolina (5-4) Dyfarnodd y llys fod yn rhaid i’r heddlu fod yn sensitif i oedran plant dan amheuaeth wrth benderfynu p'un a ddylid rhoi gwybod iddynt am hawl Miranda yn erbyn hunanargyhuddo. Gan ysgrifennu ar ran y mwyafrif, disgrifiodd Ustus Sotomayor y dyfarniad fel canlyniad 'synnwyr cyffredin' o ganfyddiadau blaenorol nad 'oedolion bychain' yw plant ac y dylid eu trin yn wahanol. Honnai'r lleiafrif ceidwadol a oedd yn anghytuno â’r penderfyniad bod y mwyafrif yn 'dechrau proses ehangu newydd' mewn perthynas â hawliau pobl dan amheuaeth.
Gwahaniaethu ar sail rhyw | Wal-Mart v Dukes (9-0) Gan ddyfarnu o blaid Wal-Mart, rhwystrodd y llys yr achos gwahaniaethu ar sail rhyw mwyaf a welwyd yn yr Unol Daleithiau erioed. Gallai cymaint ag 1.5 miliwn o weithwyr presennol a chyn-weithwyr benywaidd fod wedi cymryd rhan yn y cyd-achos (class action) i erlyn Wal-Mart, cwmni a oedd yn wynebu'r posibilrwydd o fod â dyled gwerth biliynau o ddoleri mewn ôl-daliadau. Ond dyfarnodd y llys nad oedd y menywod wedi profi eu bod wedi dioddef yn sgil polisi cyffredin o wahaniaethu - penderfyniad sy'n peri rhwystrau mawr i gyd-achosion eraill sy'n cael eu dwyn yn erbyn corfforaethau mawr.
 
Gemau fideo treisgar | Brown v Entertainment Merchants Assoc. (7-2) Dyfarnodd y llys fod ymgais talaith California i wahardd gwerthu gemau fideo treisgar i blant dan oed (dan 18) yn anghyfansoddiadol, gan gadarnhau penderfyniad llys is bod ymgais y dalaith i godi dirwy o $1000 ar rai sy'n gwerthu neu'n rhentu gemau fideo treisgar i rai dan oed yn tramgwyddo hawliau rhyddid i lefaru.
 
Cyllid ymgyrchoedd | Arizona Free Enterprise v Bennett (5-4) Yn y penderfyniad diweddaraf sy'n datgan bod hawl i siarad yn wleidyddol yn drech nag ymdrechion y llywodraeth i atal grym arian mewn etholiadau, gwrthododd y llys system Arizona o ddarparu 'arian cyfatebol' i ymgeiswyr sy'n wynebu gwrthwynebwyr neu wrthbleidiau cyfoethog. Dywedodd y llys fod y gyfraith yn annog ymgeiswyr a sefydliadau annibynnol i beidio â gwario arian i hybu eu barn wleidyddol.
 

 

Ffynhonnell: Llys Goruchaf yr Unol Daleithiau (www.supremecourt.gov)

 

 

Tabl 3 - Achosion mwyafrif 5-4 (2000/01-2010/11)
Tymor Nifer y barnau 5-4
 
% yr holl farnau
 
% y rhaniadau 5-4 sy’n ideolegol *Buddugoliaeth geidwadol
(% y rhaniadau 5-4 ideolegol)
*Buddugoliaeth geidwadol
(% yr holl raniadau 5-4)
2000-01 26 31% 85% 64% 54%
2001-02 21 26% 57% 67% 38%
2002-03 15 16% 67% 60% 40%
2003-04 21 24% 76% 63% 48%
2004-05 24 20% 50% 42% 21%
2005-06 11 12% 73% 63% 45%
2006-07 24 33% 79% 68% 54%
2007-08 12 17% 67% 50% 33%
2008-09 23 29% 70% 69% 48%
2009-10 16 18% 69% 73% 50%
2010 -11 16 20% 88% 71% 63%

Cyfartaledd
 
19 22% 71% 63% 45%

 

*Mae 'buddugoliaeth geidwadol' yn digwydd pryd bynnag y bydd y mwyafrif yn cynnwys y Prif Ustus Rehnquist neu Roberts, O'Connor neu Alito, Scalia, Thomas a Kennedy.

 

Ffynhonnell: www.scotusblog.com

 

 

Tabl 4 - Aelodaeth mewn mwyafrif 5-4 (tymhorau 2006/7-2010/11)
    Canran yr amlder o ran mwyafrif 5-4
 
Ustus
 
Amlder o ran mwyafrif
 
2010-11 2009-10 2008-09 2007-08 2006-07
Kennedy 14 achos 88% 69% 78% 67% 100%
Thomas 12 achos 75% 69% 65% 67% 61%
Scalia 11 achos 69% 69% 70% 58% 58%
Roberts 10 achos 63% 56% 48% 58% 67%
Alito 10 achos 63% 56% 48% 58% 67%
Ginsburg 6 achos 38% 25% 52% 50% 33%
Sotomayor 6 achos 38% 43% -    
Kagan 6 achos 38% - - - -
Breyer 5 achos 31% 38% 39% 45% 46%

 

Ffynhonnell: www.scotusblog.com

 

 

Llys Roberts: cadarn neu ymostyngol?


Mewn rhethreg boblogaidd, mae ‘gweithrediaeth’ neu ‘weithredu’ (activism) yn golygu penderfynu ar achosion ar sail y polisi y mae’r barnwr yn ei ffafrio yn hytrach na'r gyfraith. Ond er bod y term yn cael ei ddefnyddio'n aml fel term difrïol, i feirniadu penderfyniadau y mae'r sylwebydd yn anghytuno â nhw, anaml y mae'n bosibl datgan yn hyderus bod y llys wedi gweithredu felly. Mae darpariaethau cyfansoddiadol sy'n arwain at achosion dadleuol yn tueddu i gynnwys rhai gwerthoedd pwysig – cydraddoldeb, er enghraifft, neu ryddid i lefaru – ond nid yw'n rhoi gwybod i'r llys sut i weithredu hynny mewn amgylchiadau penodol. Nid yw'r 'gyfraith' yn rhoi atebion eglur mewn achosion anodd. O ystyried hyn, a gan fod pob barnwr yn 'weithredwr' ar ran rhai gwerthoedd cyfansoddiadol, mae penderfynu ble mae barnwyr wedi ymwrthod â’r gyfraith er mwyn ffafrio polisi yn fwy o gelfyddyd nag o wyddor.


 

Felly sut y mae'r llys yn penderfynu ar achos cyfansoddiadol anodd? Y dewis mwyaf sylfaenol y mae'n rhaid iddo'i wneud yw pa mor gadarn – neu 'wrth-fwyafrifol' (‘counter-majoritarian’) – y bydd wrth ymdrin â changhennau eraill o'r llywodraeth. A fydd yn ymostwng i'w barn nhw? Ynteu a fydd yn hybu ei weledigaeth ei hun o gydraddoldeb neu ryddid i lefaru yn erbyn barn y Gyngres neu’r dalaith? Dyna safiad ideolegol sy'n cael ei guddio yn aml iawn wrth siarad am weithrediaeth. Nid dewis rhwng gweithredwyr dieflig a dyfarnwyr angylaidd yw hyn, ond rhwng gwahanol ddulliau ideolegol o farnu a'r ffyrdd gwahanol y mae gwleidyddiaeth a'r gyfraith yn rhyngweithio.


 

Er mai cymharol ychydig o gynseiliau y mae Llys Roberts wedi eu gwyrdroi ac mai cymharol ychydig o ddeddfau y mae wedi eu dirymu, mae'r rhai y mae wedi eu dirymu neu eu gwyrdroi yn aml wedi bod – fel Warren gynt – yn rhai mawr a dadleuol. Mae Llys Roberts wedi datblygu cyfres o ganlyniadau mwy cyson geidwadol mewn achosion o'r fath na'i ragflaenwyr 'ataliedig' (restrained) tebyg.



Mae Robert Singh yn athro ym maes gwleidyddiaeth yng ngholeg Birkbeck, Prifysgol Llundain, ac mae'n awdur blaenllaw ar wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau.