Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Sosialaeth

Moyra Grant


Yma, ymchwilia Moyra Grant i'r agweddau chwyldroadol ac esblygiadol ar sosialaeth a gofynna a oes gan sosialaeth, ar unrhyw ffurf, rôl hyfyw yn yr unfed ganrif ar hugain.


Cyflwyniad


O ystyried bod modd cysylltu ideoleg sosialaeth gyda phobl mor amrywiol â Karl Marx, Joseph Stalin a Tony Blair, mae'n amlwg bod yr athroniaeth hon yn un o'r rhai mwyaf eang o blith yr holl athroniaethau gwleidyddol. Diffinnir sosialaeth gan ei gwrthwynebiad i gyfalafiaeth - system economaidd o berchenogaeth breifat er budd elw preifat. Yn ôl pob tebyg, mae credoau sylfaenol sosialaeth - sef bod y natur ddynol yn reddfol anhunanol, bod cydberchenogaeth yn gwella cytgord cymdeithasol a bod cydraddoldeb yn hanfodol i gyfiawnder cymdeithasol - mor hen â dynoliaeth ei hun. Fodd bynnag, gwelwyd sosialaeth yn ffynnu fwyaf yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gyrhaeddodd cyfalafiaeth ddiwydiannol Gorllewin Ewrop ei hanterth, a'r holl anghydraddoldebau ac amddifadedd a ddaeth yn ei sgil. Mae ffurfiau gwahanol ar sosialaeth wedi egino ac esblygu drwy gydol yr ugeinfed ganrif, rhai ohonynt yn fwy llwyddiannus nac eraill. Fodd bynnag, mae p'un a oes gan sosialaeth rôl hyfyw yn yr unfed ganrif ar hugain yn bwnc sydd angen ei drafod.

 

Yn gyffredinol, gall sosialaeth fod yn chwyldroadol neu'n esblygiadol o ran dulliau a modd. Yn eu tro, mae'r rhain i ryw raddau wedi llunio ac addasu ei hamcanion a'i nodau.

 

 

Sosialaeth chwyldroadol


Nod sosialaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd ceisio dymchwel system economaidd a gwleidyddol gyfalafol y dydd yn llwyr, drwy gychwyn gwrthryfel torfol ymhlith y dosbarth gweithiol diwydiannol a oedd yn cael eu hecsbloetio a'u diraddio yn ddyddiol ac a oedd yn dioddef tlodi o ganlyniad i'r farchnad rydd.

 

Mae dau fath o sosialaeth chwyldroadol:

  • sosialaeth foesegol neu iwtopaidd

  • sosialaeth wyddonol neu Farcsaeth

Sosialaeth iwtopaidd

 

Roedd y sosialaeth iwtopaidd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn hyrwyddo dadansoddiad moesegol o gyfalafiaeth fel ideoleg gystadleuol, gynhennus, ormesol a chreulon. Roedd hwn yn ystyried bod sosialaeth yn meddu ar ragoriaeth foesol oherwydd bod pobl, yn eu hanfod, yn greaduriaid cymdeithasol a chydweithredol sydd â'r gallu i ddangos trugaredd a hyd yn oed berffeithioldeb.

 

Cafodd cymunedau arbrofol eu sefydlu gan nifer o sosialwyr iwtopaidd, megis Robert Owen (1771-1858) a Charles Fourier (1772-1837) - rhai ohonynt yn fwy llwyddiannus na'i gilydd. Cafodd anarchwyr adain chwith megis Pierre-Joseph Proudhon (1809-65) eu labelu gan eu beirniaid - Marcswyr yn bennaf - fel sosialwyr iwtopaidd.

 

Marcsaeth

 

Tra roedd sosialwyr iwtopaidd yn hyrwyddo dadansoddiad ideolegol (emosiynol a moesol), roedd Marcsaeth yn hyrwyddo dadansoddiad materol (economaidd a gwrthrychol) o gyfalafiaeth. Roedd y ddamcaniaeth Farcsaidd yn ddadansoddiad 'gwyddonol' o ddatblygiadau hanesyddol a chymdeithasol wedi'i seilio ar arsylwadau empirig, rhesymeg resymegol, gwrthrychedd a phenderfyniad. Nid oedd Marcsaeth yn ymhél â gobeithion ofer nac yn barnu gwerthoedd moesol ond, yn hytrach, roedd yn darogan y byddai anghysondebau annatod cyfalafiaeth ei hun yn arwain yn y pen draw at ei dymchwel.


Materoliaeth ddialectegol

 

Materoliaeth ddialectegol oedd y label a roddwyd gan Engels (cyfaill a chydweithiwr Marx) ar ddamcaniaeth cynnydd drwy wrthdaro economaidd Marx. Mae Marcsaeth yn fateryddol (h.y. gwêl ffactorau economaidd fel y prif ffactorau). Archwilia hanes dynoliaeth gan ddadlau bod cynnydd, drwy gydol hanes dynoliaeth, wedi'i sbarduno gan wrthdaro economaidd - gwrthdaro dosbarth yn arbennig. "Mae hanes pob cymdeithas a fu hyd yma yn hanes rhyfel dosbarth", ysgrifennodd Marx yn y Maniffesto Comiwnyddol. Gwêl Marcsaeth hanes fel cyfres o gamau economaidd cymdeithas - o gomiwnyddiaeth gyntefig, drwy gymdeithas hynafol a ffiwdaliaeth i gyfalafiaeth. Mae pob cam (ac eithrio'r cam cyntaf) yn cynnwys dau brif ddosbarth:

  • y bourgeoisie - perchenogion y modd cynhyrchu

  • y proletariat - y gweithwyr

Mae Blwch 1 yn amlinellu damcaniaeth Marx ar gynnydd drwy wrthdaro economaidd.

 

Ffynnodd theori sosialaeth chwyldroadol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan nad oedd gan y dosbarth gweithiol yr hawl i bleidleisio a phan nad oedd y llwybr seneddol, drwy'r blwch pleidleisio, yn opsiwn. Fodd bynnag, yn yr ugeinfed ganrif, gwelwyd cyfundrefnau Comiwnyddol honedig yn troi'n economïau gwladoliaethol a gawsai eu rheoli'n llym, a chyfundrefnau gwleidyddol unbenaethol - fel Staliniaeth yn yr Undeb Sofietaidd - nid yn olaf am eu bod wedi digwydd yn y lleoedd anghywir ar yr adegau anghywir (mewn economïau cyn-gyfalafol annatblygedig).

 

Sosialaeth esblygiadol


Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, estynnwyd yr hawl i bleidleisio i'r dosbarth gweithiol. Felly, mabwysiadodd rhai sosialwyr strategaeth wleidyddol newydd. Un o gefnogwyr blaenllaw'r mudiad hwn oedd Sidney Webb (1859-1947), diwygiwr cymdeithasol o Brydain a fu'n hyrwyddo 'natur anochel graddoliaeth'. Awgrymai hyn y byddai tactegau esblygiadol - hynny yw, tactegau seneddol - yn arwain yn y pen draw at fuddugoliaeth sosialaeth dros gyfalafiaeth (Blwch 2).

 

Ysgrifennodd Sidney Webb Is-gymal 4 gwreiddiol cyfansoddiad Plaid Lafur y DU (1918) a oedd yn hybu'r nod o berchenogaeth gyffredin:

 

"Sicrhau ffrwyth llafur llawn y gweithwyr, boed â llaw neu drwy'r ymennydd, a dosbarthu'r ffrwyth llafur hwnnw yn y ffordd fwyaf teg, ar sail perchenogaeth gyffredin dros y modd cynhyrchu, dosbarthu a chyfnewid, ac ar sail y system weinyddu a rheoli orau bosibl ar gyfer pob diwydiant neu wasanaeth."

 

Sosialaeth ddemocrataidd

 

Roedd amcanion sosialwyr chwyldroadol cynnar, megis Webb, yn parhau i fod yn rhai ffwndamentalaidd. Roeddent yn parhau i geisio dymchwel cyfalafiaeth yn llwyr, ond drwy'r blwch pleidleisio yn hytrach na thrwy chwyldro. Fodd bynnag, oherwydd bod eu dulliau a'u moddau wedi newid, a'u bod bellach yn gweithredu drwy sefydliadau a strwythurau'r wladwriaeth, newidiodd eu gweledigaeth o sosialaeth hefyd gan ddod yn fwy gwladoliaethol. Daeth perchenogaeth gyfartal i olygu gwladoli eang yn hytrach na'r gweithwyr yn cymryd rheolaeth uniongyrchol dros ffatrïoedd. Daeth canlyniadau cyfartal i olygu'r wladwriaeth yn codi trethi uchel ar y rhai mwyaf cyfoethog ac yn darparu system les gynhwysfawr ar gyfer y rhai llai cefnog.

 

Yn allweddol, felly, diwygiodd y sosialwyr esblygiadol eu dadansoddiad o'r wladwriaeth. Yn hytrach na'i hystyried fel arf y dosbarth llywodraethol, nad oedd yn bosibl ei hadennill, daethant i'w hystyried fel cyfrwng posibl ar gyfer datblygu a diwygio sosialaeth flaengar. Disodlwyd y cysyniad Marcsaidd - y byddai'r wladwriaeth, yn y pen draw, yn edwino mewn cymdeithas Gomiwnyddol lle byddai'r gweithwyr yn berchen arni'n uniongyrchol ac yn ei rheoli a lle ceir democratiaeth egalitaraidd - gan weledigaeth o berchenogaeth, rheolaeth, ymyrraeth a rheoleiddio gan y wladwriaeth ar ran y tlawd a'r amddifadus. Yn gryno, o ganlyniad i ddewis y llwybr esblygiadol tuag at sosialaeth, fe ailddiffiniwyd sosialaeth.

 

Fodd bynnag, nid oedd y weledigaeth wladoliaethol a seneddol o sosialaeth yn boblogaidd bob tro, hyd yn oed ymysg y pleidleiswyr dosbarth gweithiol. Roedd hon yn cael ei hystyried yn aml fel gweledigaeth aneffeithlon, fiwrocrataidd ac amhersonol, a oedd yn cyfyngu ar ryddid, dewis ac ymreolaeth bersonol. Yn y cyfamser, roedd economïau cyfalafol y Gorllewin ar ôl y rhyfel yn ffynnu, ac yn ymddangos fel petaent yn llwyddo i wella safonau byw, cynyddu'r dewis a oedd ar gael i'r defnyddwyr, creu mwy o gyfleoedd addysgol a chyfleoedd gwaith, rhyddid a hawliau cymdeithasol a gwleidyddol, a hwyl pur. Roedd ffurf yr economïau hyn yn newid hefyd: roedd diwydiannau coler las traddodiadol yn dirywio a'r sector gwasanaeth coler wen yn ehangu. Roedd y dosbarth gweithiol traddodiadol yn dirywio o ran niferoedd, a'r dosbarth canol yn cynyddu o ran niferoedd.

 

Golygai hyn fod yn rhaid i bleidiau sosialaidd ailddiffinio eu hunain er mwyn ennill etholiadau. I bob pwrpas, bu'n rhaid iddynt gefnu ar sosialaeth.

 

Democratiaeth gymdeithasol

 

Felly, bu'n rhaid i'r pleidiau sosialaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd gefnu ar ffwndamentaliaeth a throi at adolygiadaeth. Nid oeddent bellach yn ceisio diddymu cyfalafiaeth ond yn hytrach ei diwygio, gan sicrhau cydbwysedd rhwng effeithlonrwydd economaidd cyfalafiaeth y farchnad ac apêl foesegol sosialaeth y wladwriaeth. Creodd hyn 'ddemocratiaeth gymdeithasol': economi gymysg a oedd yn cyfuno perchenogaeth breifat a pherchenogaeth gan y wladwriaeth, gyda system les gymedrol a phwyslais mwy rhyddfrydol ar gyfle cyfartal, yn hytrach na nod pellgyrhaeddol y sosialwyr o ganlyniadau cyfartal. Fodd bynnag, nid oedd hyn hyd yn oed yn llwyddo i ennill etholiadau yn y 1980au.

 

Y drydedd ffordd

 

Slogan oedd y 'drydedd ffordd' a oedd yn ceisio mynd â sosialaeth yn agosach byth at yr adain dde rhwng cyfalafiaeth y farchnad rydd a sosialaeth y wladwriaeth. Cafodd y slogan a'r cysyniad eu dyfeisio'n wreiddiol gan yr arweinydd ffasgaidd Eidalaidd, Benito Mussolini, yn y 1930au. Cafodd ei ddatblygu mewn democratiaeth gymdeithasol ar ôl y rhyfel a'i fabwysiadu yn y 1990au gan fudiadau neo-adolygiadaeth megis Democratiaid Clinton yn yr UD a Llafur Newydd Blair yn y DU. I'r rhan fwyaf o arsylwyr, roedd yn gymysgedd digyswllt ac oportiwnistaidd o gyfalafiaeth y farchnad a hawliau a chyfrifoldebau rhyddfrydol cymunedol, gyda dos o awdurdodaeth gymdeithasol wedi'i hychwanegu at y cyfan.

 

Felly, bu i sosialaeth seneddol lithro'n ddiwrthdro tuag at yr adain dde yn ystod yr ugeinfed ganrif, a chefnu ar y rhan fwyaf o'i gwerthoedd a'i hegwyddorion craidd ar hyd y ffordd. Mae Blwch 3 yn rhestru rhai o'r rhesymau pam y bu i sosialaeth esblygiadol fethu.


Y dyfodol?

 

Dengys taith sosialaeth, a ddisgrifir uchod, pa mor bell y mae wedi teithio o'i gwreiddiau chwyldroadol ac egalitaraidd at gyfaddawd gyda chyfalafiaeth a'i gwerthoedd moesol. Mae hyn yn ein harwain at y pwynt a godwyd gan y newyddiadurwr Petter Kellner, nad yw sosialaeth yn '-ism' ond yn '-wasm'. Datganodd cyn-brif weinidog Ceidwadol y DU, Margaret Thatcher, ei phenderfyniad i 'ladd sosialaeth' - a hwyrach ei bod wedi llwyddo. A yw sosialaeth - p'un a yw'n sosialaeth chwyldroadol ynteu'n sosialaeth esblygiadol - wedi marw?

 

Efallai nad yw hynny'n wir. Nid yw'r feirniadaeth o gyfalafiaeth y farchnad wedi diflannu'n llwyr; yn wir, mae wedi dwysáu yn dilyn methiannau diweddar y banciau ac, o ganlyniad i hynny, y dirwasgiadau economaidd a'r agendâu gwleidyddol o doriadau mewn gwariant a budd-daliadau, sy'n niweidio pobl lai cefnog tra bod y bancwyr a'r gwleidyddion yn parhau i ffynnu. Gwelwyd protestiadau cynyddol a gweithredol yn erbyn cyfalafiaeth marchnad rydd fyd-eang, a'i goblygiadau i dlodi a dyled mewn gwledydd llai datblygedig, a llygredd, militariaeth a neo-imperialaeth mewn gwledydd datblygedig. Yn ddiweddar, mae'r mudiadau gwrthgyfalafiaeth hyn sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd wedi mynd i'r afael â chysyniadau anghydraddoldeb ehangach (e.e. hil a rhyw) a meysydd ehangach lle ceir ecsbloetio (e.e. yr amgylchedd). Yn y cyfamser, mae gwerthoedd moesol sosialaeth yn parhau, sef anhunanoldeb, cydweithrediad, egalitariaeth a pharch pur.

 

Wedi dweud hynny, awgryma weddnewidiad comiwnyddiaeth chwyldroadol o ddemocratiaeth Farcsaidd i unbennaeth Stalinaidd, a natur fiwrocrataidd ac awdurdodaidd sosialaeth esblygiadol, fod sosialaeth yn wladoliaethol y tu hwnt i adferiad a'i bod felly, o'r brig i'r bôn, yn ormesol ac yn cyfyngu ar ryddid, dewis ac ymreolaeth bersonol. Felly, gwelwyd dadrithiad cyffredinol gyda sosialaeth ganolog y wladwriaeth, boed hynny'n sosialaeth chwyldroadol neu'n sosialaeth esblygiadol.

 

Fodd bynnag, efallai y gall ffurfiau newydd ar sosialaeth - ffurfiau llai gwladoliaethol ac sy'n wirioneddol fwy egalitaraidd, rhyddhaol, democrataidd a rhyngwladol - ddeillio o'r dadrithiad gyda chyfalafiaeth yn yr unfed ganrif ar hugain. Hwyrach nad rhwng y gwahanol ddulliau sosialaidd - chwyldroadol neu esblygiadol - y mae'r rhaniad hanfodol ond rhwng modelau sosialaidd - gwladoliaethol neu ryddfrydol.