Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Diwygio gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau

Mae diwygiadau gofal iechyd yr Arlywydd Obama yn dweud llawer wrthym ynglŷn â ffordd y Gyngres o weithio. Yma mae Kay Moxon yn defnyddio'r diwygio fu ar ofal iechyd fel astudiaeth achos o broses gyfreithiol y Gyngres.


Ar 23 Mawrth 2010, yn dilyn yr hyn a alwodd Barack Obama'n 'flwyddyn o drafod a chanrif o ymdrechu', cyflwynodd yr Arlywydd ddiwygiadau cymdeithasol mwyaf America ers 45 mlynedd. Ymgyrchodd Obama am yr arlywyddiaeth yn 2008 gan addo diwygio'n sylfaenol system a adawodd 45 miliwn o Americaniaid heb eu hyswirio, er gwaethaf y gost o $2.2 triliwn yn 2007 - ddwywaith cyfartaledd y Sefydliad er budd Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) y pen. Dylai 'Obamacare', sef newidiadau gofal iechyd Obama, gynnig gofal iechyd i 32 miliwn ychwanegol o Americaniaid (gweler Blychau 1 a 2 am fanylion).


Gwelir hyn gan ryddfrydwyr fel cam hanesyddol ymlaen mewn cyfiawnder cymdeithasol, tra bod ceidwadwyr yn amheugar ynglŷn â'r arbedion arian a ragamcanwyd ac yn ei weld fel ymyrraeth na ellir ei chyfiawnhau ar ddewisiadau preifat Americaniaid. Gallai ffyrnigrwydd y gwrthwynebiad i daith y mesur - mae'r slogan o'r hen gyfnod trefedigaethol 'Paid â sathru arnaf i' wedi cael ei atgyfodi - fod yn ddechrau pennod newydd yn rhyfeloedd diwylliannol America.


Y broses ddeddfwriaethol


Mae diwygio gofal iechyd nid yn unig yn garreg filltir i gymdeithas UDA ac yn llwyddiant diamheuol i Barack Obama fel arlywydd, ond hefyd mae taith arteithiol y mesur yn cynnig gwersi niferus i fyfyrwyr sy'n astudio llywodraeth a gwleidyddiaeth America. Yn fwyaf blaenllaw, gan iddo faglu ar bob tramgwydd deddfwriaethol posibl (gweler Blwch 3), mae'n cynnig astudiaeth achos ragorol i broses gyfreithiol y Gyngres.


Blwch 1 - Gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau: cyn y diwygio

  • Roedd y rhan fwyaf o unigolion yn derbyn yswiriant iechyd drwy fod eu cyflogwyr yn ei ddidynnu o'u cyflog; roedd eraill yn cofrestru ar gynlluniau yswiriant preifat

  • Roedd Medicare yn darparu gofal iechyd wedi'i gyllido gan y llywodraeth ar gyfer y rhai dros 65 oed

  • Roedd Medicaid yn darparu gofal iechyd wedi'i gyllido gan y llywodraeth ar gyfer y rheiny ar incwm isel iawn

  • Roedd Rhaglen Yswiriant Iechyd Plant y Wladwriaeth yn darparu gofal i blant nad oedd eu rhieni'n gymwys i dderbyn Medicaid

  • Câi'r rhai heb yswiriant eu trin mewn unedau argyfwng yn unig.

 

Blwch 2 - Gofal Iechyd yn yr Unol Daleithiau: wedi'r diwygio (i ddod i rym 2010-14)

  • Mandad unigol: rhaid i unigolion gael yswiriant iechyd neu wynebu dirwy.

  • Cymorthdaliadau i'r rhai llai cefnog.

  • Cyfnewidiadau yswiriant seiliedig ar y wladwriaeth i'r rheiny nad yw eu cyflogwyr yn darparu yswiriant.

  • Yswirwyr yn gorfod cadw at reoliadau llymach; ni chânt wrthod yswirio'r rheiny sydd eisoes â chyflyrau ac ni chânt gyfyngu amseriad yr yswiriant.

  • Ymestyn Medicaid.

  • Cau'r bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer cyffuriau presgripsiwn o fewn Medicaid.

  • Talu am hyn drwy leihau gwastraff o fewn rhaglen Medicare a threthu'r cynlluniau yswiriant mwyaf drud - cynlluniau yswiriant 'Cadillac'.

 

Mae'r mesur yn dangos beth yw swyddogaethau'r llefarydd o fewn Tŷ'r Cynrychiolwyr ac Arweinydd Mwyafrif y senedd. Roedd y Llefarydd, Nancy Pelosi, yn allweddol wrth sefydlu mwyafrif i gefnogi'r mesur yn y Tŷ, a hefyd Harry Reid, arweinydd y mwyafrif yn y Senedd. Roedd rôl hollbwysig y pwyllgorau o fewn y Gyngres hefyd yn amlwg. Rhoddodd Obama'r gwaith o lunio'r gyfraith i'r pwyllgorau cyngresol i raddau helaeth - a dylid nodi'n benodol swyddogaeth y Seneddwr Max Baucus fel cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd.


Dangosodd y mesur hwn, gymaint ag unrhyw fesur arall mewn hanes, arwyddocâd rhwystrau a gwrthbwysau o fewn system lywodraeth UDA, system a fu bron ag arwain at barlys llwyr yn yr achos hwn. Amlygwyd yr angen am gyfaddawd - oedd yn cynnwys masnachu 'ffafrau etholaethol' ('pork') weithiau - a phwysigrwydd pwerau perswadio'r arlywydd er mwyn cyflawni diwygio gwerthfawr. Efallai mai'r peth mwyaf arwyddocaol oedd effaith y ffilibystriad yn y Senedd. Gorfododd hyn y Democratiaid, a oedd eisoes wedi colli eu mwyafrif anferth o 60 sedd yn Ionawr 2010, i ddefnyddio dulliau cyllidol braidd yn aneglur (a llechwraidd yn ôl nifer o Weriniaethwyr) er mwyn pasio'r ddeddfwriaeth.


Bu rhaid cael gorchymyn gweithredol yn gwarantu na fyddai cronfeydd y wladwriaeth yn cael eu gwario ar erthyliadau, oni bai mewn achosion o drais, llosgach neu pan fyddai bywyd y fam mewn perygl, er mwyn perswadio'r Cynrychiolydd Democrataidd cymdeithasol-geidwadol, Bart Stupak, ac eraill i gefnogi'r mesur seneddol. Pasiwyd y mesur drwy'r Tŷ yn y pen draw heb iddo erioed fynd i bwyllgor cynhadledd - sy'n dangos yn glir allu'r arlywydd i drechu rhwystrau a gwrthbwysau cyfansoddiadol. Amlygodd y mesur gofal iechyd hefyd swyddogaeth gynyddol y pleidiau o fewn y Gyngres dros y blynyddoedd diwethaf - a pholareiddiad cynyddol y pleidiau hynny.


Fodd bynnag, nid y pleidiau yw'r unig chwaraewyr gwleidyddol arwyddocaol i gael dylanwad ar wleidyddiaeth America, a bu dylanwad lobïo gan grwpiau buddiant yn allweddol yn hyn o beth. Petai'r Twrneiod Cyffredinol mewn taleithiau megis Virginia, De Carolina a Florida yn llwyddo i herio cyfansoddiadoldeb gorfodi unigolion i brynu yswiriant iechyd, mae'n bosib y gallai'r mesur gofal iechyd fod yn esiampl ddefnyddiol o waith y Goruchaf Lys hyd yn oed.


Pleidgarwch


Cafodd camau blaenorol i ddiwygio gofal iechyd - Medicare a Medicaid yn 1965 - eu derbyn gan glymbleidiau trawsbleidiol. Er bod Obama wedi ymgyrchu yn 2008 gan addo gwleidyddiaeth ddwybleidiol, daeth yn amlwg yn fuan iawn nad oedd yn bosibl cael unrhyw fath o fesur dwybleidiol yma.


Blwch 3 - Llinell Amser: digwyddiadau allweddol yn nhaith y mesur


2009


7 Tachwedd - Tŷ'r Cynrychiolwyr yn pasio'r mesur gofal iechyd gyda 220-215 o bleidleisiau; 39 Democrat yn ymuno â'r Gweriniaethwyr i gyd heblaw am un (Anh Cao o Louisiana) i wrthwynebu'r mesur


24 Rhagfyr - Y Senedd yn pasio ei mesur gofal iechyd ar sail pleidlais hollol bleidiol: 60-39 (60 oedd y lleiafswm oedd ei angen i oresgyn ffilibystriad Gweriniaethol). Dechrau trafodaethau i gyfuno'r gwahanol fesurau o'r gwahanol siambrau.


2010


19 Ionawr - Y Gweriniaethwr Scott Brown yn ennill etholiad arbennig i sedd y diweddar, Seneddwr Ted Kennedy yn Massachusetts, gan ddileu uwch-fwyafrif y Democratiaid yn y Senedd a'u gallu i dorri ffilibystriad Gweriniaethol yng ngham olaf taith mesur cyfaddawd o bwyllgor cynhadledd.


25 Chwefror - Yr Arlywydd Obama ac arweinwyr cyngresol o'r ddwy blaid yn cynnal uwchgynhadledd teledu.


21 Mawrth - Tŷ'r Cynrychiolwyr yn pasio ei Fesur Gofal Iechyd gyda 219-212 o bleidleisiau. (Dyma i raddau helaeth y mesur a basiwyd yn y Senedd ym mis Rhagfyr: trefniant oedd yn golygu na fyddai'n rhaid i'r mesur ddychwelyd i'r Senedd i gael ei gymeradwyo'n derfynol). Y mesur yn cael ei wrthod gan holl Weriniaethwyr y Tŷ a 34 Democrat. 'Mesur cyfaddawd cyllidol' oedd yn cynnwys gwell budd-daliadau i bobl hŷn a theuluoedd incwm isel yn cael ei basio hefyd. Darpariaethau'n ymwneud â chyllideb yn gallu pasio drwy'r Senedd gyda mwyafrif syml yn unig.


23 Mawrth - Yr Arlywydd Barak Obama yn llofnodi'r Ddeddf Amddiffyn Cleifion a Gofal Fforddiadwy gan ei gwneud yn ddeddf.


25 Mawrth - Y Senedd yn pleidleisio 56-43 o blaid y mesur cyfaddawd. Y seneddwyr Democrataidd Blanche Lincoln a Mark Pryor o Arkansas a Ben Nelson o Nebraska yn ymuno â'r holl Weriniaethwyr i'w wrthwynebu.


25 Mawrth - Tŷ'r Cynrychiolwyr yn rhoi ei gymeradwyaeth derfynol i'r mesur cyfaddawd, 220-207.


29 Mawrth - Obama'n llofnodi'r mesur cyfaddawd a'i wneud yn ddeddf.

 

Cafodd y Mesur Tŷ gwreiddiol gefnogaeth y cyngresydd gweriniaethol Anh Cao o Louisiana, a phleidleisiodd y seneddwr gweriniaethol Olympia Snowe o Maine gyda'r Democratiaid o fewn Pwyllgor Cyllid y Senedd, ond heblaw am hynny ni chaed unrhyw gefnogaeth i'r diwygio gan y Gweriniaethwyr. Mae disgyblaeth bleidiol eithafol fel hyn yn cynyddu grym y ffilibystriad a'r potensial i leiafrif rwystro cynlluniau'r mwyafrif.


Nid oedd y Democratiaid yr un mor ddisgybledig, a gyda mwyafrifau llai ym mhob siambr, efallai na fyddent wedi gallu pasio'r mesur. Bu rhaid prynu cefnogaeth nifer o Ddemocratiaid ansicr yn y Senedd gyda ffafrau etholaethol ('pork'). Yn y Tŷ, fe wnaeth nifer o'r Democratiaid cyllidol-geidwadol hynny sy'n cael eu galw'n 'Blue Dogs' wrthod cefnogi'r mesur a bu rhaid i sawl ceidwadwr cymdeithasol - o dan arweiniad Bart Stupak - gael eu sicrhau o ran cyllido erthyliadau.


Roedd y mesur yn ormod o gyfaddawd i'r Democratiaid mwy rhyddfrydol, ac a dweud y gwir yn waeth na pheidio cael mesur o gwbl, o gofio absenoldeb 'dewis cyhoeddus' (yswiriant y wladwriaeth i gystadlu â'r sector breifat). Roedd y cynrychiolydd Dennis Kucinich o Ohio yn rhyddfrydwr dylanwadol yn y garfan hon, a llwyddodd y Tŷ Gwyn i'w berswadio i dynnu ei wrthwynebiad yn ôl ar y funud olaf. Yn gyffredinol, dylid nodi mai cynrychiolwyr tymor cyntaf oedd yn amddiffyn mwyafrifoedd bychain mewn ardaloedd a fu'n Weriniaethol oedd y rhai mwyaf tebygol o wrthod cefnogi'r mesur.



Ffafrau Etholaethol (Pork)


Yn ôl Mike Lillis yn y Washington Independent ('Health Care Reform', Earmark Edition, 29 Mawrth 2010): 'Dyna reol gyntaf deddfu cyngresol: peidied byth â methu'r cyfle i fachu popeth posib i'ch etholwyr, hyd yn oed os ydy hynny ar draul pawb arall'. O ystyried mor agos oedd y bleidlais yn y Gyngres a phwysigrwydd y mesur i'r weinyddiaeth, roedd digon o botensial ar gyfer 'gwleidyddiaeth ffafrau etholaethol' ('pork barrel politics') yma. Mae'r rhestr o seneddwyr a lwyddodd i ychwanegu cymalau i'r mesur yn hir. Yn fwyaf amlwg na neb, gan wneud testun sbort o'i honiad nad oedd ei bleidlais ef 'ar werth', llwyddodd y Democrat Ben Nelson o Nebraska i ddal ei gefnogaeth i'r mesur yn ôl yn ddigon hir i orfodi Harry Reid, arweinydd mwyafrif y Senedd, i addo na fyddai'n rhaid i Nebraska ysgwyddo unrhyw ran o'r gost o ehangu Medicaid yn y dyfodol.


Roedd y seneddwr annibynnol o Vermont, Bernie Sanders (a gafodd ei gyfrif ymysg y 60 pleidlais oedd eu hangen ar y Democratiaid yn y Senedd) wedi bygwth gwrthwynebu'r mesur pe nai bai'n cynnwys 'dewis cyhoeddus' cadarn; newidiodd ei feddwl fodd bynnag pan gafodd ei gais am $10 biliwn ychwanegol i wario iechyd yn y gymuned ei ganiatáu, yn ogystal â chyllid ychwanegol i Vermont i dalu am Medicaid. A llwyddodd Max Baucus, a oedd fel cadeirydd Pwyllgor cyllid y Senedd yn gyfrifol am ysgrifennu'r mesur i raddau helaeth, i gynnwys darpariaeth i ymestyn Medicare i'r rheiny oedd yn byw yn ymyl mwynglawdd asbestos yn ei dalaith ef ei hun yn Montana, achos y bu'n ymgyrchu'n hir drosto.


Lobïo


Gellir dadlau nad y rheiny a lwyddodd i gael yswiriant iechyd am y tro cyntaf, na Barack Obama ei hun, a oedd ar eu hennill fwyaf yn sgil y diwygiadau gofal iechyd, ond yn hytrach y diwydiant lobïo. Yn ôl y corff gwarchod Centre of Public Integrity, cafodd lobïwyr eu talu o leiaf $1.2 biliwn yn 2009 i weithio ar faterion iechyd gan gynnwys y diwygiadau gofal iechyd; mae hyn yn fwy na thraean yr holl wario ar lobïo y flwyddyn honno. Roedd chwe lobïwr gofal iechyd cofrestredig i bob un cyfreithiwr yn Washington, a'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio ar ran cwmnïau cyffuriau ac yswiriant. Yn ogystal â lobïo uniongyrchol, cafodd biliynau ei wario gan grwpiau buddiant ar hysbysebion ar y teledu ac fel cyfraniadau i goffrau ymgeiswyr oedd yn ail-sefyll etholiadau. Mae'n sicr fod mwy wedi ei wario ar y mesur hwn gan ei amrywiol grwpiau buddiant nag ar unrhyw fesur arall yn hanes yr Unol Daleithiau.


Y ddau gwmni a wariodd fwyaf ar lobïo oedd y Pharmaceutical Research and Manufacturers of America (PhRMA) a'r American Medical Association (AMA). Roedd cwmnïau unigol fel GlaxoSmithKline, Pfizer a Johnson and Johnson hefyd wedi gwario'n drwm. Yr un modd, roedd cwmnïau fel y ffederasiwn o yswirwyr iechyd Blue Cross and Blue Shield Association (BCBSA) wedi gwario llawer. Mae bron pob aelod o'r Gyngres - gan gynnwys yr Arlywydd Obama a dderbyniodd $1.2 miliwn am ei ymgyrch arlywyddol - wedi derbyn arian gan y sector gofal iechyd ar ryw adeg neu'i gilydd. Y mwyaf nodedig efallai yw'r $1.5 miliwn a dderbyniodd y Seneddwr Baucus i'w goffrau gwleidyddol yn ystod 2009. Yn gweithio ar y cyd â Baucus, yn drafftio cryn dipyn o'r geiriad ar gyfer y diwygio, roedd Liz Foweler, cwnsel pwyllgor Seneddol - a fu cyn hynny'n is-lywydd Wellpoint, cwmni yswiriant iechyd mwyaf y wlad.


Nid oes unrhyw amheuaeth fod nifer o grwpiau buddiant wedi ceisio prynu dylanwad dros y mesur gofal iechyd, ac ymddengys fod llawer ohonynt wedi cael llwyddiant. Llwyddodd diwydiant cyffuriau'r UD i rwystro cyfyngiadau ar brisiau yn ogystal â derbyn amddiffyniad 12 mlynedd rhag cyffuriau generig rhatach. Cafodd cynigion i ganiatáu cystadleuaeth gan gyffuriau rhad o wledydd eraill eu gwrthod hefyd. Ac wrth gwrs mae gan y diwydiannau yswiriant iechyd - er eu bod yn gorfod derbyn rheoliadau llymach - bwll o gwsmeriaid newydd a fydd yn gorfod prynu eu cynnyrch neu wynebu dirwy; a diolch i'w hymdrechion lobïo nid oes unrhyw 'ddewis cyhoeddus' i gystadlu yn eu herbyn.


Mae Kay Moxon yn dysgu yn Ysgol Tonbridge ac yn Olygydd Cynorthwyol POLITICS REVIEW.


Atgynhyrchwyd drwy ganiatâd Phillip Allan Updates.