Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Ecolegyddiaeth

Andrew Heywood


Cyflwyniad


Beth yw ecoleg ddofn? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ecoleg ddofn a ffurfiau eraill ar ecoleg? Pam a sut mae ecoleg ddofn wedi ennyn cymaint o feirniadaeth gan feddylwyr gwyrdd eraill? Andrew Heywood sy’n cynnig atebion i’r cwestiynau hyn.

 

Bathwyd y term ‘ecoleg ddofn’ gan Arne Naess yn 1973 (gw. Blwch 1). Defnyddiodd y term i wahaniaethu rhwng dau fath o feddwl ecolegol, un ohonynt yn ‘ddwfn’ a’r llall yn ‘fas’. Wrth reswm, nid yw’r derminoleg yn niwtral gan fod ‘dwfn’ yn awgrymu dwys, cadarn neu ddidwyll, tra bod ‘bas’ yn awgrymu arwynebol, ansylweddol neu annilys.


Beth yw ecoleg ddofn?


Yn ôl Naess mae ecoleg ddofn (a elwir weithiau’n ‘ecoganolbleidiaeth’ (ecocentrism), ‘ecosoffi’ neu ‘ecoathroniaeth’) yn ddwfn gan ei bod yn gofyn cwestiynau dyfnach ynglŷn â ‘pham’ a ‘sut’. Mae’n ymwneud â chwestiynau athronyddol sylfaenol am effaith dynoliaeth ar y biosffer (y rhannau hynny o gramen y ddaear a’r atmosffer sy’n cynnal organebau byw). Prif bwnc y ddadl yw’r berthynas rhwng ecoleg ac anthroposentrigiaeth (anthropocentrism) (gweler Blwch 2).


Ecoleg ddofn ac anthroposentrigiaeth


I’r rhai sy’n cefnogi ecoleg ddofn, mae’n amhosib cymodi rhwng ecoleg ac anthroposentrigiaeth. Fel astudiaeth o’r berthynas rhwng organebau byw a’r amgylchedd, mae ecoleg yn pwysleisio’r rhwydwaith cysylltiol sy’n cynnal pob ffurf ar fywyd. Trwy bwysleisio’r cydgysylltiad a’r gyd-ddibyniaeth, mae ecoleg yn ei gwneud hi’n anodd, neu hwyrach yn amhosibl, i roi blaenoriaeth i unrhyw rywogaeth, neu unrhyw ran benodol o natur. Cymer ecoleg ddofn yr egwyddor ecolegol i’w heithaf rhesymegol, ac wrth wneud hynny, cynigia weledigaeth foesol ac athronyddol sylfaenol i’r meddylfryd gwyrdd.


Ecoleg fas ac anthroposentrigiaeth


Mewn cyferbyniad, mae’r rhai sy’n cefnogi ecoleg fas yn ceisio harneisio’r gwersi a
ddysgir gan ecoleg ar gyfer dibenion ac anghenion y ddynoliaeth. Maent yn falch o’u hanthroposentrigiaeth, ac yn cofleidio'r hyn y gellir ei alw’n ecoleg ddyneiddiol neu ecolegyddiaeth ddyn-greiddiol/anthoposentrig. O’u safbwynt hwy, gall anthroposentrigiaeth fod yn dda neu’n ddrwg, yn ecolegol neu’n wrth-ecolegol:

  • Gellir cymodi ecoleg ac anthroposentrigiaeth pan fo’r olaf yn canolbwyntio ar les y ddynoliaeth yn y tymor hir, gan ystyried budd cenedlaethau’r dyfodol a chydnabod na all pobl ffynnu ond mewn amgylchiadau o gynaliadwyedd ecolegol. Gellir galw hyn yn ‘anthroposentrigiaeth oleuedig’.

  • Ni ellir cymodi ecoleg ac anthroposentrigiaeth os yw’r olaf yn canolbwyntio ar fudd y ddynoliaeth yn y tymor byr ac yn trin natur yn gamarweiniol fel petai’n adnodd diderfyn a thragywydd.

 


Sut y dechreuodd ecoleg ddofn?


Os mai’r diffiniad o ecoleg ddofn yw ei bod yn gwrthod anthroposentrigiaeth, beth a olygir a beth a awgrymir gan hyn? Mewn un ystyr, tyfodd ecoleg ddofn mewn dau gam. Camau oedd yn delio yn gyntaf â moesoldeb ac yna â metaffiseg.


Ecoleg ddofn a moesoldeb


Mae ecoleg ddofn o natur heriol ac unigryw. O’i gymharu â phwyslais moesoldeb confensiynol ar hawliau, anghenion neu fuddiannau dynol – ei anthroposentrigiaeth foesol – mae ecolegwyr dwfn yn gweld natur fel y ffynhonnell o ddaioni moesol. Mae i natur felly werth ‘cynhenid’ neu reddfol, ac nid gwerth cyfryngol yn unig sy’n deillio o’r buddiannau mae’n eu rhoi i ddynoliaeth.

 

Mynegir datganiad clasurol o fframwaith moesegol ecoleg ddofn yn Sand County Almanac (1948) Aldo Leopold wrth sôn am ‘foeseg tir’ (land ethic): ‘Mae rhywbeth yn iawn pan fo’n tueddu i ddiogelu urddas, sefydlogrwydd a harddwch y gymuned fiotig. Mae’n anghywir pan fo’n tueddu fel arall’. Mae safiad moesol fel hyn yn awgrymu ‘cydraddoldeb biosentrig’ – yr egwyddor fod pob ffurf ar fywyd ac endid yn y biosffer o werth moesol cyfartal, a phob un yn fynegiant o ddaioni natur.

 

Esbonia Naess hyn yn y syniad o ‘hawl cyfartal i fyw a ffynnu’, gan bwysleisio hefyd werth bioamrywiaeth, a dadlau po ehangaf yr ystod o amrywiaeth o fewn y gymuned fiotig, yr iachaf a mwyaf sefydlog y bydd y gymuned honno.


Ecoleg ddofn a metaffiseg


Yn ogystal â meddwl moesegol newydd, roedd i ecoleg ddofn ddull athronyddol dyfnach a mwy heriol a oedd yn arwain at fetaffiseg newydd, ffordd newydd o feddwl am y byd ac o ddeall y byd. Metaffiseg yw’r gangen o athroniaeth sy’n ymwneud ag esbonio natur sylfaenol bodolaeth neu fod. Nid mater o ddiddordeb academaidd yn unig mo hyn, ond hefyd, ac yn hanfodol felly, mae’n effeithio ar ein gwerthoedd dyfnaf a’r modd yr ydym yn ymdrin â’r byd.

 

Mae ecoleg ddofn yn galw am newid ymwybyddiaeth, ac yn benodol am fabwysiadu ‘ymwybyddiaeth ecolegol’ neu ‘ymwybyddiaeth gosmolegol’. Yn ganolog i hyn, mae’r gallu i drosgynnu’r hunan, neu ego unigol, a chydnabod fod pob person wedi’i gysylltu’n gynhenid â phob peth byw arall, ac â’r bydysawd cyfan.

 

Mae’r athronydd o Awstralia, Warwick Fox, yn cysylltu ecoleg ddofn â’r hyn a eilw’n ‘ecoleg drawsbersonol’, y sylweddoliad ‘fod pethau’, fod bodau dynol a phob endid arall yn rhan o un realiti sy’n datblygu. Yn y modd yma, mae ecoleg ddofn yn trosgynnu anthroposentrigiaeth athronyddol.


Syniadau nodedig ecoleg ddofn


Mae ecoleg ddofn yn golygu ecoleg wahanol mewn o leiaf dri ystyr.

 

Ei drafodaeth feirniadol o’r diraddiad amgylcheddol (environmental degradation)

 

Nid yw ecoleg ddofn yn cysylltu’r argyfwng amgylcheddol sy’n wynebu dynoliaeth â pholisïau penodol neu system wleidyddol, gymdeithasol neu economaidd arbennig (e.e. diwydiannaeth, cyfalafiaeth, patriarchiaeth). Yn ôl ecoleg ddofn, ffynhonnell y diraddio amgylcheddol yw’r byd-olwg sydd wedi dominyddu meddylfryd cymdeithas y gorllewin ers yr ail ganrif ar bymtheg, ac sydd wedi effeithio ar y rhan fwyaf o’r byd ers hynny.

 

Mae beirniadaeth ecoleg ddofn o anthroposentrigiaeth yn deillio o’i feirniadaeth o foderniaeth. Yn The Turning Point (1982), mae Fritjof Capra yn olrhain dechreuad y byd-olwg hwn i syniadau gwyddonwyr ac athronwyr megis René Descartes (1596-1650) ac Isaac Newton (1642-1727). Roedd y byd cyn hyn wedi cael ei ddeall mewn termau organig, ond yn ôl Capra, dechreuodd y ‘cynllun Cartesaidd-Newtonaidd’ hybu byd-olwg mecanistig, lleihaol (reductionist) ac offeryniaethol (instrumentalist).

 

Yn fwy na dim, mae’r patrwm hwn yn ddeuolistig: ceisia ddeall y byd mewn termau gwahaniaethol – meddwl/mater; deall/emosiwn, yr hunan/eraill, dynoliaeth/natur, unigolyn/cymdeithas, ac yn y blaen – yn hytrach nag mewn termau unol neu gydgysylltiedig. Roedd meddwl mecanistig o’r fath yn ei gwneud yn haws meddwl am natur fel rhywbeth anadweithiol a diwerth ynddo ei hun, gan ei wneud yn ddim ond adnodd sydd ar gael i fodloni anghenion dyn.

 

Ei angen am newid patrwm

 

Os oes gan y diraddiad amgylcheddol wreiddiau diwylliannol neu ddeallusol, cred ecolegwyr dwfn na ellir ei herio ond trwy ‘newid patrwm’ – newid yn y modd y deallwn y byd. Os yw anthroposentrigiaeth wedi arwain at ‘golli cyfaredd natur’ (disenchantement of nature), rhaid datblygu syniadau a damcaniaethau newydd er mwyn ail-gyfareddu natur (re-enchant nature).

 

Mae ecolegwyr dwfn wedi chwilio am ystod eang o syniadau a damcaniaethau ar gyfer y pwrpas hwn, gan gynnwys crefyddau cyntefig, cyfriniaeth ddwyreiniol (Hindŵaeth, Taoaeth a Bwdhaeth, yn enwedig Bwdhaeth Zen), a ffiseg fodern, gan feddwl yn arbennig am fecaneg cwantwm ffisegwyr fel Niels Bohr (1885-1952) a Verner Heisenberg (1901-76). Mae’r syniadau hyn i gyd yn esiampl o gyfaniaeth radical (radical holism). Wrth bwysleisio fod y cyfan yn bwysicach na’i rannau unigol, maent yn amlwg yn ddi-ddeuol ac yn darparu sail i ecoganolbleidiaeth (ecocentrism) sy’n blaenoriaethu cynnal cydbwysedd ecolegol yn hytrach nag ateb dibenion dynol.

 

Ei amcanion allweddol


Nodweddir ecoleg ddofn gan gyfres o amcanion allweddol sy’n deillio o fabwysiadu cynllun cyfanol neu ddi-ddeuol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Cadwedigaeth y gwyllt. Nod ecolegwyr dwfn yw cadw natur yn ‘wyllt a rhydd’, gan gredu fod natur, heb ei dinistrio gan ymyrraeth ddynol, yn ‘storfa o ddoethineb a moesoldeb’. Mae cadwedigaeth (preservationism) yn wahanol i gadwraeth (conservationism); mae’r cyntaf yn awgrymu rhwystro effaith dynoliaeth ar yr amgylchedd, ond mae’r ail fel arfer yn awgrymu amddiffyn natur er mwyn bodloni anghenion dynoliaeth yn y tymor hir. Mae moeseg y gwyllt o fewn ecoleg ddofn yn aml yn cael ei chysylltu â syniadau’r meddyliwr rhyddewyllysol Americanaidd, Henry David Thoreau (1817-62). Yn ei ymchwil am wirionedd ysbrydol a hunan fodlonrwydd, dihangodd rhag bywyd gwaraidd a byw am flynyddoedd mewn unigedd fwy neu lai, yn agos at natur, profiad a ddisgrifir ganddo yn Walden (1854).

  • Rheoli’r boblogaeth. Er bod ecolegwyr o nifer o wahanol draddodiadau wedi dangos pryder am y twf esbonyddol ym mhoblogaeth y byd, mae ecolegwyr dwfn wedi rhoi pwyslais arbennig ar y mater hwn. Maent yn aml wedi galw am leihad sylweddol yn y boblogaeth fel yr unig ffordd o sicrhau ffyniant bywyd nad yw’n ddynol. I’r pwrpas hwn, mae rhai ecolegwyr dwfn wedi gwrthod cymorth i’r byd sy’n datblygu, wedi galw am leihad yng nghyfradd y genedigaethau, yn enwedig yn y byd sy’n datblygu, neu wedi dadlau y dylid stopio mewnfudo o’r byd sy’n datblygu i’r byd datblygedig.

  • Byw’n syml. Cred ecolegwyr dwfn nad oes gan bobl unrhyw hawl i leihau cyfoeth ac amrywiaeth natur oni bai fod hynny, fel y noda Naess, i fodloni anghenion sylfaenol. Dyma athroniaeth ‘cerdded yn ysgafnach ar y Ddaear’. Rhydd bwyslais ar hybu ansawdd bywyd (y ‘bod’) yn hytrach nag ansawdd meddiannau (y ‘cael’), a chaiff ei gysylltu’n aml â model ôl-faterol o hunansylweddoliad (self-realisation), a ddeellir yn gyffredin fel hunangyflawniad (self-actualisation). Awgryma hunangyflawniad drosgynnu neu ragori ar egoistiaeth a materoliaeth, gan alluogi pobl i fod yn ‘fewnol gyfoethog tra byddant yn allanol dlawd’.

  • Bioranbartholdeb (bioregionalism). Dyma’r syniad y dylai natur a’r gymdeithas ddynol gael eu haildrefnu i gydfynd â rhanbarthau a ddiffiniwyd yn naturiol, gyda phob ‘bioranbarth’ mewn gwirionedd yn ecosystem. Mae’r math yma o syniadaeth, yn naturiol, yn gwbl wahanol i raniadau tiriogaethol sefydledig, seiliedig ar ffiniau cenedlaethol neu wladwriaethol. Er mai anaml y mae ecolegwyr dwfn yn ceisio dweud sut y dylai pobl drefnu eu hunain o fewn bioranbarthau o’r fath, mae yna cefnogaeth gyffredinol i gydgymunedau gwirfoddol o gymunedau hunanddibynnol, hunangynhaliol a hunanlywodraethol.

 


Beirniadu ecoleg ddofn


Mae rôl a phwysigrwydd ecoleg ddofn o fewn syniadaeth wleidyddol werdd ehangach wedi achosi cryn ddadlau. Mae arwyddocâd ecoleg ddofn o ran y dadleuon athronyddol a moesegol a ysgogodd wedi bod yn drech na’i bwysigrwydd ymarferol o fewn y mudiad gwyrdd. Mae hefyd ar adegau wedi ennyn beirniadaeth danbaid gan gyd-ecolegwyr. Er bod y rhan fwyaf o’r beirniadaethau hyn wedi eu gwreiddio mewn persbectif ecoleg ddyneiddiol, mae rhai ohonynt wedi bod yn gysylltiedig yn benodol ag ecoleg gymdeithasol.


Ecolegwyr dyneiddiol


Gwrthoda ecolegwyr dyneiddiol yr honiad mai fersiwn ‘fas’ o ecoleg ddofn yw eu syniadau, gan ddadlau yn hytrach fod ecoleg ddofn yn ddiffygiol yn athronyddol, yn foesol ac yn wleidyddol.

 

O’r persbectif hwn, methiant athronyddol ecoleg ddofn yw’r gred fod anthroposentrigiaeth ac ecoleg yn annibynnol ar ei gilydd. Mewn gwirionedd, yr unig fodd o ddiwallu anghenion a dyheadau dynoliaeth yw gwerthfawrogi cydbwysedd ecolegol. Er mwyn hybu lles y ddynoliaeth, neu ei lles hir dymor a chynaliadwy o leiaf, rhaid parchu ecoleg yn hytrach na’i bradychu. Ymhellach, dywedant fod amau holl feddwl cyfoes y gorllewin ar y sail ei fod yn fecanistig a lleihaol (reductionist), fel yr awgryma rhai ecolegwyr dwfn, yn beryglus o anghytbwys ac o bosib yn bygwth gwrthod yr holl ddatblygiadau a gysylltir â meddygaeth fodern er enghraifft.

 

Mae diffygion moesol ecoleg ddofn yn deillio o’r syniad o werth ‘cynhenid’ natur. Yn ôl dyneiddwyr, ni all moeseg amgylcheddol fod yn ddi-anthroposentrig (non-anthropocentric) gan fod moesoldeb yn syniad dynol: ni ellir diffinio ‘da’ a ‘drwg’ ond yn nhermau lles dynol, neu o leiaf yn nhermau lles rhywogaethau cymhleth a soffistigedig sy’n gallu hunan-ystyried a dioddef. Mae unrhyw ymgais i lunio damcaniaeth foesegol ddi-anthroposentrig yn mynd i fod yn llawn gwrth-ddywediadau a chymlethdodau. Er enghraifft, os yw natur yn rym cynhenid da, sut gellir esbonio daeargrynfeydd, newyn a llifogydd? Ac a yw hi’n bosibl cynnal y syniad o gydraddoldeb biosentrig pan fo hyn yn awgrymu fod i firws y frech wen a dolffin yr un gwerth?

 

Mae diffygion gwleidyddol ecoleg ddofn yn deillio o’r ffaith fod gwrthod cydnabod dilysrwydd buddiannau pobl yn golygu mai gallu cyfyngedig sydd gan ecoleg ddofn i hybu gweithredu gwleidyddol neu i ddenu cefnogaeth boblogaidd eang. Mae ecoleg ddofn yn tueddu i fod yn anwleidyddol ac elitaidd, yn rhannol gan ei fod mor agored wrthwynebus i werthoedd a dyheadau’r rhan fwyaf o bobl.

 

Yn ogystal, mae’r gweithredu gwleidyddol a ysbrydolwyd gan ecoleg ddofn wedi denu llawer o wrthwynebiad. Mae hyn oherwydd i gred ecoleg ddofn fod gwleidyddiaeth gonfensiynol wedi’i llygru gan faterion a blaenoriaethau anthroposentrig wedi annog ei chefnogwyr i weithredu’n uniongyrchol, sydd yn aml wedi arwain at ddinistrio eiddo ac weithiau at fygythiadau a brawychu ehangach. Gellir gweld enghreifftiau o hyn yn achos grwpiau amgylcheddol radical megis Earth First! a’r Animal Liberation Front. Tuedda gweithredu uniongyrchol fel hyn i fod yn wrthgynhyrchiol (oherwydd ei fod yn portreadu gweithredwyr gwyrdd fel pobl ddi-hid ac anghyfrifol), ac fe allai fod yn gysylltiedig ag athroniaeth wrth-ddynol sydd, o bosib, yn caniatáu i weithredwyr ddiystyru’r dioddefaint sy’n cael ei achosi i bobl.

 


Ecolegwyr cymdeithasol


Mae’r tensiynau rhwng ecoleg ddofn ac ecoleg gymdeithasol wed cael eu hamlygu yn arbennig gan yr athronydd anarchaidd cymdeithasol Americanaidd, Murray Bookchin (1921-2006) – prif arweinydd ‘ecoleg gymdeithasol’.

 

Mae ecolegwyr cymdeithasol wedi beirniadu ecoleg ddofn am fethu â chydnabod effaith systemau cymdeithasol neu economaidd ar y berthynas rhwng dynoliaeth a natur – gwelir diwydiannaeth, cyfalafiaeth a phatriarchaeth fel mynegiannau o’r ‘patrwm Cartesaidd-Newtonaidd’. Mae ecoleg ddofn yn ymwneud â’r chwyldro ‘mewnol’, trawsnewid ymwybyddiaeth, ac mae’n credu yn naïf y gellir ei gyrraedd heb gyd-broses o newid cymdeithasol radical. Yn yr ystyr hwnnw, gellir dweud fod ecoleg ddofn yn gymdeithasol geidwadol.

 

Rhoddodd Bookchin bwyslais arbennig ar y modd mae ymdrechion ecolegwyr dwfn i ailgyfareddu (re-enchant) natur wedi eu hannog i droi cefn ar feddwl rhesymegol a chofleidio yn hytrach gyfriniaeth, a gyfeirir gan Bookchin fel ‘ysbrydegaeth aflednais Califfornia’ neu ‘Eco-la-la’. O bersbectif ecoleg gymdeithasol, nid rhesymu a dulliau beirniadol o feddwl yw achos gwaelodol yr argyfwng amgylcheddol; yn hytrach dyma ran o’r ffordd y gallwn ddatrys yr argyfwng.