Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Ffeministiaeth

Paul Graham


Mae Paul Graham yn trafod y gwahaniaethau rhwng ffeministiaid rhyddfrydol a ffeministiaid radical ac yn esbonio pam mae ffeministiaid radical yn beirniadu ffeministiaid rhyddfrydol.


Cyflwyniad


Er bod pobl yn dueddol o drin ffeministiaeth fel un ideoleg mewn sgyrsiau bob dydd, mae nifer o fathau gwahanol o ffeministiaeth. Nid yw'r gwahaniaeth rhwng ffeministiaeth radical a ffeministiaeth ryddfrydol hyd yn oed yn syml, oherwydd ceir sawl elfen wahanol i'r ddau fath o ffeministiaeth. Fodd bynnag, mae'n gwneud synnwyr i ni wahaniaethu rhwng rhyddfrydwyr a radicaliaid:

  • man cychwyn rhyddfrydwyr yw'r syniad fod bodau dynol yn unigolion ac y gall dynion a menywod godi uwchlaw eu rhyw i raddau helaeth

  • dadleua radicaliaid fod y berthynas rhwng y rhywiau yn hollbwysig - bod cymdeithas yn seiliedig ar batriarchaeth

 

Ffeministiaeth ryddfrydol


Ceir dau brif fath o ffeministiaeth ryddfrydol:

  • rhyddewyllysiaeth (neu ryddfrydiaeth glasurol)

  • rhyddfrydiaeth egalitaraidd

Pwysleisia'r ddau fath bwysigrwydd rhyddid yr unigolyn, ond prif nod rhyddewyllyswyr yw cael gwared ar orfodaeth y wladwriaeth, tra bod egalitariaid yn dadlau bod amodau materol i ryddid, ac felly fod gan y wladwriaeth rôl bwysig i ailddosbarthu cyfoeth a rhoi cyfleoedd i bawb.

 

Rhyddewyllysiaeth


Dadleua Robert Nozick (1938-2002), un o'r athronwyr gwleidyddol rhyddewyllysol mwyaf adnabyddus, fod 'gan unigolion hawliau, ac mae rhai pethau na ddylai unrhyw berson neu grŵp eu gwneud iddynt (heb fynd yn groes i'w hawliau)'. Gall rhai achosion o fynd yn groes i hawliau unigolyn fod yn rhyw-benodol. Er enghraifft, ym Mhrydain, hyd y 1970au, os oedd menyw am brynu ei heiddo ei hun roedd yn rhaid iddi yn gyntaf gael llofnod dyn ar y contract. Mae hyn yn mynd yn groes i hawliau cydraddoldeb oedolion cydsyniol i ymrwymo i gontract. Fodd bynnag, byddai rhyddewyllyswyr hefyd yn gwrthwynebu cynnig i wneud y weithred o brynu rhyw yn drosedd, fel sydd wedi digwydd yn Sweden, ar y sail bod y wladwriaeth yn ymyrryd mewn gweithredoedd cydsyniol rhwng unigolion (Blwch 1).

 

Rhyddfrydiaeth egalitaraidd


Mae rhyddfrydwyr egalitaraidd yn fwy sensitif i anghydraddoldebau sy'n deillio nid yn unig o ddosbarth ond o ryw hefyd. Dadleuant dros bolisïau sy'n rhoi cyfle cyfartal ac 'isafswm cymdeithasol' hael o ran incwm. Er enghraifft, ym maes addysg prifysgol, byddai'r rhan fwyaf o ryddewyllyswyr wedi cefnogi ymgyrchoedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif i godi'r gwaharddiad ar fenywod yn mynd i'r brifysgol, ond ni fyddent wedi cefnogi mesurau cadarnhaol i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau, megis mesurau i greu cyfle cyfartal.

 

Mae cyfle cyfartal yn mynd y tu hwnt i fynediad cyfartal yn yr ystyr ei fod yn ceisio sicrhau bod addysg uwchradd yn galluogi'r ddau ryw i gyflawni eu potensial. Hefyd, cydnabod egalitariaid fod bwlch yn bodoli rhwng cyflogau dynion a menywod, ond dadleuant mai ailddosbarthu cyfoeth a chael gwladwriaeth les gynhwysfawr yw'r ffyrdd gorau o gau'r bwlch hwn. Pe byddai rhieni'n cael lefel dderbyniol o gynhaliaeth cynnal plant yna byddai'n bosibl i fenywod barhau â'u gyrfaoedd a byddent yn llai dibynnol ar ddynion ac ar rolau traddodiadol y rhywiau.

 

Dadansoddi'r ffeminist radical


Rhyddfrydwyr yw ffeministiaid rhyddfrydol yn gyntaf, a ffeministiaid yn ail. Cred ffeministiaid radical, ar y llaw arall, fod rhywedd yn agwedd sylfaenol ar berthynas pobl â'i gilydd a bod ffeministiaeth yn ideoleg ar ei phen ei hun a gwahanol i ryddfrydiaeth, sosialaeth neu geidwadaeth. Mae gan ffeministiaid radical ddau brif gysyniad:

  • patriarchaeth

  • y syniad bod 'y personol yn wleidyddol'

Patriarchaeth

 

Rheolaeth wrywaidd yw patriarchaeth - yn llythrennol, 'rheolaeth y tad'. Defnyddia ffeministiaid batriarchaeth i ddadansoddi pob agwedd ar gymdeithas. Felly, wrth ymateb i'r feirniadaeth nad ydynt yn poeni am wrthdaro rhwng dosbarthau cymdeithasol a gwrthdaro ethnig neu ddiraddio ecolegol, dadleua ffeministiaid radical fod yr ysfa i gronni eiddo sydd wrth wraidd cyfalafiaeth, neu'r ymddygiad ymosodol sy'n ysgogi rhyfeloedd, yn rhan o'r seice gwrywaidd. Seice sydd, yn llythrennol, yn hyrddio pŵer (nid yw'r gymhariaeth rhwng taflegryn niwclear a ffalws i fod yn jôc). Mae'r cyffro y mae arweinwyr gwleidyddol (gwrywaidd) yn ei brofi wrth adeiladu systemau arfau mwy o faint, mwy pwerus a mwy trawiadol yn llythrennol yn fynegiant o bŵer gwrywaidd.

 

Mae ffydd ffeministiaid rhyddfrydol yn y wladwriaeth - neu i ryddewyllyswyr gwrth-wladwriaeth, eu ffydd yn hawliau'r unigolyn - yn fath o ymwybyddiaeth ffug. Ni all rhyddfrydwyr weld fod y wladwriaeth wedi'i hadeiladu ar batriarchaeth. Efallai bod y wladwriaeth les yn ymddangos yn beth da, ond yr un wladwriaeth sy'n ariannu'r gwasanaeth iechyd ac ysgolion sydd hefyd yn adeiladu ac yn bygwth defnyddio arfau niwclear. Felly, caiff y wladwriaeth les ei defnyddio i gyfreithloni pŵer y wladwriaeth.

 

Nid yw ffeministiaid rhyddewyllysiol sy'n beirniadu'r wladwriaeth, rhai i'r graddau eu bod yn anarchwyr, yn rhydd mewn gwirionedd oherwydd mae hawliau'r unigolyn yn fynegiant o bŵer gwrywaidd. I ryddewyllyswyr, yr hawl mwyaf sylfaenol yw'r hawl i eiddo preifat. Efallai fod hyn yn cyd-fynd â ffeministiaeth, yn yr ystyr eich bod yn dechrau drwy fod yn berchen ar eich corff eich hun. Ond i ffeministiaid radical, nid yw hunan-berchnogaeth yn ddim mwy nag esgus i gronni pethau eraill, megis tir neu lafur pobl eraill.


Byddai'r byd rhyddewyllysiol lle nad oes gwladwriaeth, neu efallai 'wladwriaeth fach iawn' yn unig, yn fyd gwrywaidd. Er enghraifft, gwrthoda rhyddewyllyswyr y syniad o fonogami ar y sail ei fod yn ymyrryd â rhyddid yr unigolyn, a mynnant y dylai pobl fod yn rhydd i gael perthynas amlgymar, lle gall dyn gael nifer o wragedd (amlwreiciaeth) neu lle gall gwraig gael mwy nag un gŵr (aml-wriaeth). Dengys profiad dynol y bydd amlwreiciaeth yn llawer mwy cyffredin nac aml-wriaeth. Yn wir, gwrthododd nifer o ffeministiaid radical 'gariad rhydd' y 1960au am yr union reswm hwn: eu barn hwy oedd, waeth pa mor flaengar yr oedd dyn ar yr olwg gyntaf, gallai gymryd mantais ar unrhyw agweddau rhydd tuag at ryw a pherthynas.

 

Mae'r personol yn wleidyddol


P'un a yw perthnasau rhwng pobl yn seiliedig ar fonogami ynteu amlwreiciaeth, i ffeministiaid radical, mae unrhyw berthynas bersonol rhwng dyn a menyw yn berthynas wleidyddol. Mae ffeministiaeth ryddfrydol yn celu perthnasau pŵer. Gwelir hyn yng ngwaith un o ryddfrydwyr mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf, John Rawls (1921-2002).

 

Y pwnc sy'n mynd â bryd Rawls yw cyfiawnder cymdeithasol, ond gwahaniaetha rhwng y cyfiawnder sy'n ddyledus gennym i'n gilydd fel dinasyddion, a 'chyfiawnder lleol'. Mae cyfiawnder yn galw am drosglwyddo cyfoeth o'r cyfoethog i'r tlawd ond bod y cyfoeth yn cael ei roi i gartrefi ac nid i unigolion. Er enghraifft, efallai y cewch chi £1,000 y flwyddyn i bob plentyn, ond penderfyniad pob teulu unigol yw sut i'w wario. Ac nid oes gan y wladwriaeth unrhyw gyfrifoldeb dros ddosbarthu gwaith tŷ. Nid yw pwy sy'n coginio'r prydau bwyd ac yn smwddio'r dillad yn fater o gyfiawnder gwleidyddol; yn hytrach mae'n fater o gyfiawnder lleol. Yn gryno, mae'r wladwriaeth yn celu gorthrwm. Ond mae'n waeth na hynny: mae'r wladwriaeth yn rhoi bargen wael i fenywod, oherwydd mae pob plentyn yn ddarpar weithiwr a allai ddod â budd i'r wladwriaeth yn y dyfodol. Mae menywod - sy'n ysgwyddo cyfran anghymesur o'r baich o fagu plant - yn gweithio'n ddi-dâl i'r wladwriaeth ac i'r system gyfalafol y mae'r wladwriaeth yn ei chefnogi.

 

Mae'r personol yn wleidyddol ac mae'r gwleidyddol yn bersonol. Mae rôl menywod - yn arbennig ffeministiaid radical - yn y mudiad yn erbyn rhyfel yn arwyddocaol (un enghraifft amlwg oedd Gwersyll Heddwch Greenham Common, 1981-2000). Er ei bod yn ddadleuol a yw menywod yn fwy tebygol o ddioddef mewn rhyfeloedd na dynion - wedi'r cyfan, y duedd yw i lawer mwy o ddynion farw mewn rhyfeloedd - anodd yw gwadu bod mwyafrif helaeth y rhai sy'n cyflawni trais yn ddynion. Gweithgarwch gwrywaidd yw rhyfel ar y cyfan. Nid yw'r ffaith fod gan Brydain brif weinidog benywaidd pwerus - Margaret Thatcher - pan oedd yr ymgyrch yn erbyn arfau niwclear ar ei hanterth yr yn 1980au, yn gwneud dim i danseilio dadl y ffeministiaid radical. Gan osgoi gwneud sylwadau coeglyd nad oedd Thatcher yn fenyw mewn gwirionedd, derbynia ffeministiaid radical y gall menywod gael eu tynnu i mewn i fyd gwrywaidd, ac y bydd rhai ohonynt yn mabwysiadu nodweddion sy'n ymddangos yn rhai gwrywaidd.

 

Hanfodaeth

 

Un pwnc canolog i ffeministiaid yw p'un a yw'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau yn naturiol? Gall ffeministiaid rhyddfrydol osgoi'r pwnc, oherwydd cyn belled â bod dynion a menywod yn cael cydraddoldeb cyfreithiol ac - i ryddfrydwyr egalitaraidd - yr adnoddau materol i gyflawni eu potensial, nid oes ots p'un a oes sail fiolegol i'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau. Ond ni all ffeministiaid radical osgoi'r pwnc os ydynt am osod patriarchaeth wrth hanfod eu dadansoddiad o gymdeithas.

 

Mae'n rhaid i ffeministiaid radical ateb y cwestiwn, o ble daeth patriarchaeth? Os ydynt yn mabwysiadu safbwynt Marcsaidd ac yn dweud bod patriarchiaeth wedi datblygu o ganlyniad i anghydraddoldeb rhwng dosbarthau cymdeithasol, yna byddai'n gwneud synnwyr i ymladd cyfalafiaeth ac nid patriarchaeth. Y dewis arall yw rhyw fath o ddadl fiolegol - neu fiolegol-gymdeithasol. Mae yna beryglon i ffeministiaid wrth ddilyn y trywydd hwn. O safbwynt biolegol, gellid rhoi esboniad gwyddonol dros rai o'r agweddau gwaethaf ar ymddygiad gwrywaidd (ond nid cyfiawnhad). Er enghraifft, yn 2000, cyhoeddwyd llyfr o'r enw A Natural History of Rape: Biological Bases of Sexual Coercion gan R. Thornhill a C. T. Palmer. Yn y llyfr hwn, dadleuant fod trais yn 'addasiad esblygol'. Dylid dweud bod nifer o fiolegwyr-cymdeithasol wedi beirniadu'r llyfr. Fodd bynnag, y pwynt yw y gallai hanfodaeth arwain pobl i gymeradwyo rhai agweddau ar ddadansoddiad y ffeministiaid radical, ond ar yr un pryd eu harwain i feddwl 'all dynion ddim peidio'. Wrth gwrs, os yw patriarchaeth wedi bwrw gwreiddiau dwfn, yna nid yw'r hyn a ddiffinnir fel arfer fel 'treisio' yn ddim byd ond rhan o gontinwwm lle nad oes gwir gydsyniad i gael rhyw.

 

Beth y dylid ei wneud?

 

Dyma gwestiwn mwy ymarferol: os nad yw ffeministiaid radical yn hoffi rhyddfrydiaeth, beth y bwriadant ei roi yn ei le? Ar y pegwn mwyaf radical ceir ymwahaniaeth, a allai gynnwys mabwysiadu lesbiaeth, nid yn gymaint fel ysfa sydd wedi'i sbarduno gan eneteg neu fioleg, ond yn fwy fel datganiad cymdeithasol a gwleidyddol.

 

Mewn rhai ffyrdd, mae ffeministiaid radical wedi osgoi - neu ochel rhag - y cwestiwn mawr: sut mae trefnu cymdeithas nad yw'n batriarchaidd drwy ganolbwyntio ar wrthwynebiad ar raddfa lai. Gwelwn hyn ar ffurf menywod yn 'codi ymwybyddiaeth', cymryd rhan yn y mudiad yn erbyn rhyfel, cymorth i rai sy'n dioddef trais yn y cartref, ymgyrchu yn erbyn pornograffi a phuteiniaeth a thros hawliau atgenhedlu menywod, a chreu cymunedau bychain ar gyfer menywod yn unig. Yr hyn sy'n absennol yw dewis gwahanol ac sydd wedi'i ddatblygu'n llawn i ddemocratiaeth ryddfrydol.