Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Rhyddfrydiaeth, goddefgarwch ac amrywiaeth

Andrew Heywood


Mae amrywiaeth gynyddol y gymdeithas fodern, sy'n effeithio ar faterion moesoldeb personol yn ogystal ag egwyddorion crefyddol ac arferion diwylliannol, yn cael ei chysylltu'n aml â datblygiad rhyddfrydiaeth a lledaeniad goddefgarwch. Fodd bynnag, dim ond cyfiawnhad amodol dros amrywiaeth a geir gan ryddfrydiaeth , sy'n pwysleisio rhinweddau goddefgarwch ond hefyd ei derfynau.


Cyflwyniad


Mae cymdeithasau modern wedi dod yn fwyfwy amrywiol mewn amryw o ffyrdd gwahanol. Ers y 1960au, mae agweddau tuag at foesoldeb personol mewn meysydd fel rhywioldeb, priodas, cymryd cyffuriau a ffydd grefyddol wedi newid yn aruthrol. Yn fwy diweddar, arweiniodd tueddiadau tuag at aml-ddiwylliannaeth at ledaeniad amrywiaeth foesol, grefyddol ac ethnig, gan ddileu am byth, o bosibl, y syniad bod gwledydd yn seiliedig ar un diwylliant. Ysgogodd tueddiadau o'r fath drafodaethau a dadleuon ideolegol, lle gosodwyd rhyddfrydiaeth yn erbyn ceidwadaeth yn aml. Caiff rhyddfrydwyr fel arfer eu portreadu fel cefnogwyr goddefgarwch ac amrywiaeth, a chaiff ceidwadwyr, ar y llaw arall, eu hystyried fel amddiffynwyr gwerthoedd awdurdodol a diwylliant cyffredin.

 

Mae agwedd o'r fath yn bygwth sefyllfa lle caiff rhyddfrydiaeth ei cham-gynrychioli, a lle mae'r ffin rhwng goddefgarwch ac amrywiaeth yn niwlog. Mae hefyd yn anwybyddu gwahaniaethau pwysig o fewn rhyddfrydiaeth ei hun. Er bod rhai rhyddfrydwyr wedi ceisio cymodi ag amrywiaeth, ceisiodd eraill bennu ble maent yn 'tynnu'r llinell'.

 

Beth yw goddefgarwch, a pham mae rhyddfrydwyr wedi ei gefnogi? Beth nad yw rhyddfrydwyr yn barod i'w oddef? Ac i ba raddau y gall rhyddfrydwyr groesawu amrywiaeth a pharhau i fod yn rhyddfrydol yr un pryd?

 

Beth yw goddefgarwch?


Gwerth gwleidyddol sy'n cael ei gamddeall yn fawr yw goddefgarwch. Mewn iaith bob dydd, cymerir yn aml fod goddefgarwch, y rhinwedd o fod yn oddefgar, yn golygu parodrwydd i 'adael pethau i fod' neu i 'adael llonydd', heb ystyried rhyw lawer y cymhellion sy'n sail i'r safbwynt hwn. Awgryma'r safbwynt hwn fod goddefgarwch yn golygu diffyg gweithredu, gwrthod ymyrryd neu barodrwydd i 'ddioddef' rhywbeth. Cyfeiria goddefgarwch, fodd bynnag, at fath penodol o ddiffyg gweithredu, sy'n seiliedig ar resymeg foesol a set benodol o amgylchiadau. Yn arbennig, mae'n rhaid pwysleisio bod gwahaniaeth rhwng goddefgarwch a bod yn oddefol, difaterwch llwyr a maddeugarwch parod. Er enghraifft, ni ellir dweud bod rhywun sy'n cerdded heibio ac yn dewis peidio â helpu i ddal mygiwr, neu riant sy'n anwybyddu ymddygiad afreolus ei blant neu ei phlant, yn arddangos 'goddefgarwch'.

 

Ystyr goddefgarwch yw amynedd, parodrwydd i dderbyn mathau o ymddygiad neu gredoau nad ydych yn eu cymeradwyo - neu nad ydych yn eu hoffi. Hynny yw, nid yw goddefgarwch yn niwtral yn foesegol: ni fydd ond yn berthnasol mewn amgylchiadau lle ceir anghytundeb â safbwyntiau neu weithredoedd pobl eraill, ynghyd â phenderfyniad bwriadol i wrthod gweithredu i'w hatal. Cyfleodd yr awdur Ffrengig, Voltaire, farn o'r fath gyda'r geiriau cofiadwy: 'Mae'n gas gen i'r hyn rydych yn ei ddweud ond byddaf yn amddiffyn hyd farwolaeth eich hawl i'w ddweud.' Felly, amharodrwydd egwyddorol i orfodi eich barn ar eraill, pan fydd gallu amlwg i wneud hynny, yw goddefgarwch. Er enghraifft, prin y gellir dweud bod gwraig sy'n cael ei churo gan ei phartner ac yn aros gydag ef oherwydd bod arni ei ofn, yn goddef ei ymddygiad.

 

Ar y llaw arall, arweinia hyn at yr hyn a elwir yn 'baradocs goddefgarwch': y ffaith ei fod yn caniatáu i bobl i feddwl neu ymddwyn mewn ffyrdd sy'n cael eu hystyried yn anfoesol, neu'n annymunol mewn rhyw ffordd. Os yw rhywbeth yn 'ddrwg', onid oes rheidrwydd ar bobl i'w atal? Felly, mae beirniaid goddefgarwch yn aml yn ei gyflwyno fel methiant o ran ymwybyddiaeth foesol, neu hyd yn oed benderfyniad llwfr i wrthod sefyll dros yr hyn rydych yn credu ynddo. Afraid dweud bod rhyddfrydwyr yn gwrthod y feirniadaeth hon, gan ddadlau eu bod yn sefyll dros yr hyn y credant ynddo, ac mai'r hyn y credant ynddo yw goddefgarwch. Ond pam?

 

Cyfiawnhau goddefgarwch


O fewn ideoleg ryddfrydol, mae goddefgarwch wedi cael ei gyfiawnhau mewn o leiaf dair ffordd wahanol:

 

Roedd y ddadl gynharaf o blaid goddefgarwch yn seiliedig ar resymoliaeth. Gellir olrhain dadleuon o'r fath i resymoliadau o'r ail ganrif ar bymtheg o blaid goddefgarwch crefyddol, a ddatblygwyd gan awduron megis John Milton a John Locke. Er i Locke gyflwyno nifer o ddadleuon o blaid goddefgarwch, ei gred sylfaenol oedd na fydd y 'gwirionedd' ond yn dod i'r amlwg drwy gystadleuaeth rydd rhwng syniadau a chredoau, ac felly rhaid gadael i'r gwirionedd 'ymorol amdano ef ei hun'. Dim ond yr unigolyn fydd yn gallu sefydlu gwirionedd crefyddol iddo ef neu iddi hi ei hun: ni ellir ei ddysgu, ac ni ddylai llywodraeth ei orfodi. Felly, dylid caniatáu i unigolion synhwyrol sefydlu eu credoau eu hunain a phenderfynu ar eu gweithredoedd eu hunain. Mae'r gred hon yn cael ei chadarnhau ymhellach gan y rhagdybiaeth ryddfrydol bod y rhan fwyaf o fathau o anoddefgarwch yn deillio o anwybodaeth a rhagfarnau cymdeithasol. Er enghraifft, tuedda rhyddfrydwyr i gyfeirio at anoddefgarwch hiliol (e.e. gwrth-Semitiaeth), anoddefgarwch rhywiol (e.e. rhywiaeth a homoffobia) ac anoddefgarwch crefyddol (e.e. Islamaffobia) fel dim ond enghreifftiau syml o ragfarn. Felly, mae anoddefgarwch yn chwalu, fel arfer, yn wyneb dadansoddiad rhesymegol.

 

Yr ail sail, a'r sail glasurol, i oddefgarwch yw ymreolaeth, y weledigaeth bod bodau dynol yn greaduriaid annibynnol sy'n gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Mynegwyd y farn hon yn yr amddiffyniad mwyaf enwog, o bosibl, o oddefgarwch: On Liberty gan J. S. Mill (1859). Yn ôl Mill, roedd ymreolaeth yn amod hollbwysig ar gyfer unrhyw fath o ddatblygiad personol neu foesol. Felly, roedd yn dilyn bod anoddefgarwch, sy'n cyfyngu ar ddewisiadau'r unigolyn, yn gwneud dim byd ond dibrisio a llygru'r unigolyn. Anogodd hyn Mill i ddatblygu'r hyn a ddaeth i gael ei alw'n 'egwyddor niwed', sef y gred ei bod yn gyfiawn i gyfyngu ar ryddid yr unigolyn dim ond pan fo hynny'n atal 'niwed i eraill'. Roedd Mill yn arbennig o ofnus o'r bygythiad i ymreolaeth a ddaeth yn sgil lledaeniad democratiaeth, a'r hyn roedd e'n ei alw'n 'unbennaeth arfer'. Rhybuddiodd y byddai pŵer barn y mwyafrif yn hyrwyddo 'cydymffurfiaeth ddiflas' ac yn annog unigolion i ildio eu cynneddf resymegol i ragfarnau poblogaidd yr oes. Roedd e'n canmol rhinweddau unigoliaeth (gan bwysleisio pa mor unigryw yw pob unigolyn dynol) a bod yn ecsentrig hyd yn oed.

 

Y trydydd cyfiawnhad dros oddefgarwch yw ei fod yn dod â budd i'r gymdeithas yn ogystal â'r unigolyn. I Mill, rhinwedd amrywiaeth foesol, ddiwylliannol a gwleidyddol yw ei bod yn sicrhau y bydd pob damcaniaeth yn cael ei 'phrofi' mewn cystadleuaeth rydd yn erbyn syniadau ac athrawiaethau cyferbyniol. Er mwyn i gymdeithas ddatblygu, rhaid i syniadau da ddisodli syniadau gwael a rhaid i wirionedd drechu anwiredd. Er hynny, fel rhyddfrydwyr eraill, derbyniai Mill y byddai'r dadleuon a'r trafodaethau yn parhau, oherwydd ni fydd byth yn bosibl canfod gwirionedd terfynol neu absoliwt. Felly, mae datblygiad deallusol ac iechyd moesol cymdeithas yn mynnu bod goddefgarwch yn cael ei gynnal yn gydwybodol er mwyn sicrhau 'marchnad rydd mewn syniadau'.


Ffiniau goddefgarwch

 

Pa mor bell y mae goddefgarwch rhyddfrydol yn ymestyn? Ble mae rhyddfrydwyr yn 'tynnu'r llinell'? Dim ond cyfiawnhad cyfyngedig a phenodol y mae goddefgarwch yn ei roi dros amrywiaeth. Gellir gweld hyn mewn o leiaf dair ffordd wahanol:

 

Y cyfyngiad mwyaf sylfaenol ar oddefgarwch yw nad yw ond yn cwmpasu safbwyntiau, gwerthoedd ac arferion cymdeithasol sy'n oddefgar eu hunain. Hynny yw, syniadau a gweithredoedd sy'n cyd-fynd ag ymreolaeth a rhyddid yr unigolyn yn unig. Mae'n anodd i ryddfrydwyr oddef safbwyntiau a gweithredoedd anoddefgar oherwydd, yn y bôn, credant eu bod yn 'anghyfiawn' - er enghraifft, cododd Mill ei lais yn erbyn yr arfer Tsieineaidd o rwymo traed menywod. Golyga hyn na all rhyddfrydwyr dderbyn yr 'amrywiaeth ddofn' y mae rhai amlddiwylliannwyr yn dadlau o'i phlaid. Er enghraifft, gallai rhyddfrydwyr fod yn amharod i gymeradwyo arferion megis enwaedu menywod, priodasau sy'n cael eu gorfodi (ac, o bosibl, rhai sy'n cael eu trefnu) a chodau gwisg i fenywod, waeth pa mor gryf y bydd y grwpiau dan sylw yn dadlau bod yr arferion hyn yn hollbwysig i'w hunaniaeth ddiwylliannol.

 

Yn fwy cyffredinol, golyga'r pwyslais ar ymreolaeth y bydd rhyddfrydwyr fel arfer yn rhoi mwy o flaenoriaeth i hawliau'r unigolyn na hawliau (honedig) grwpiau diwylliannol, crefyddol neu ethnig. Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fydd amheuon ynghylch a yw pobl yn aelod o grŵp arbennig o'u gwirfodd. Mae rhyddfrydwyr yn sicr yn bryderus ynghylch rhwystrau a allai atal aelodau rhag gadael grŵp (yn arbennig pan allant gael eu cosbi am wneud hynny), ond maent hefyd wedi barnu'r arfer o gyflyru plant a chyfyngu ar hawl aelodau i glywed safbwyntiau cyferbyniol a phrofi ffordd wahanol o fyw (wedi'r cyfan, mae goddefgarwch yn dod â budd i gymdeithas am yr union reswm ei fod yn hyrwyddo'r arfer o 'gymysgu' deallusol a diwydiannol).

 

Yr ail sail ar gyfer cyfyngu ar oddefgarwch yw er mwyn cynnal sylfaen o deyrngarwch dinesig a gwerthoedd gwleidyddol a rennir. Yn wahanol i geidwadwyr, nid yw rhyddfrydwyr yn credu mai'r unig ffordd y gall cymdeithas fod yn sefydlog yw pan fydd hi'n seiliedig ar werthoedd a rennir a diwylliant cyffredin. Fodd bynnag, bydd rhyddfrydwyr yn aml yn mynnu y dylid cyfyngu amrywiaeth foesol a diwylliannol i fywyd 'preifat' ac na ddylid caniatáu iddi ymyrryd â bywyd 'cyhoeddus'. Yn y ffordd honno, gwelant amrywiaeth foesol a diwylliannol yn gweithredu o fewn cyd-destun dinasyddiaeth a rennir. Dyna pam y bu i gymaint o ryddfrydwyr ymateb yn feirniadol i'r syniad a godwyd gan Archesgob Caergaint ym mis Chwefror 2008 ei bod yn anochel y bydd llysoedd Sharia yn gweithredu ochr yn ochr â phrosesau ffurfiol gwasanaeth llys y DU. I ryddfrydwyr, byddai datblygiad o'r fath yn gwanhau hunaniaeth ddinesig a chyfreithiol y gymdeithas. Dadl nodweddiadol rhyddfrydwyr fyddai, pe byddai cyfreithiau Sharia yn cael eu derbyn yn y DU, dylent fod yn eilradd i system ffurfiol y gwasanaeth llys a dylent gydymffurfio â darpariaethau cyfreithiol eraill - y Ddeddf Hawliau Dynol yn arbennig.

 

Y drydedd sail ar gyfer cyfyngu ar oddefgarwch yw bod democratiaeth ryddfrydol yn cael ei hystyried fel yr unig system wleidyddol gyfreithlon. Rhinwedd y system yw mai'r system hon yn unig sy'n gallu sicrhau bod llywodraeth yn seiliedig ar gydsyniad y bobl, a gwarantu rhyddid personol a goddefgarwch. Felly, gallai rhyddfrydwyr fod yn barod i wahardd grwpiau ffasgaidd neu ffwndamentalwyr milwriaethus sy'n ceisio disodli democratiaeth ryddfrydol yn enw un ffynhonnell o awdurdod diwrthwynebiad. Yn ymarferol, gallai rhyddfrydwyr fod yn anfodlon gorfodi'r gwaharddiadau gan ofni y gallai grwpiau o'r fath fynd yn danddaearol a chryfhau, ond wedi'i seilio ar bragmatiaeth y mae safbwynt o'r fath yn hytrach nag ar egwyddor, ac nid yw'n arwydd o oddefgarwch.

 

Rhyddfrydiaeth a phlwraliaeth


Fodd bynnag, yn arbennig ers y 1970au, mae rhyddfrydwyr wedi ceisio canfod ffyrdd o groesawu amrywiaeth ehangach. Mae hyn fel arfer wedi golygu ceisio dangos bod rhyddfrydiaeth yn niwtral, i'r graddau ei bod rhywsut uwchlaw trafodaethau a dadleuon moesol. O'r safbwynt hwn, nid ideoleg yn unig yw rhyddfrydiaeth ond 'meta-ideoleg'; hynny yw, corff o reolau sy'n gosod y seiliau ar gyfer cynnal trafodaethau gwleidyddol ac ideolegol. Ceir dwy brif ddadl o blaid safbwynt niwtral o'r fath. Un o'r rhain yw'r gred fod rhyddfrydiaeth yn rhoi blaenoriaeth i'r hyn sy'n 'iawn' dros yr hyn sy'n 'dda', fel y dadleuodd John Rawls (1970). Ym marn Rawls, ceisia rhyddfrydiaeth sefydlu'r amodau sy'n galluogi pobl mewn grwpiau i geisio byw bywyd da yn ôl eu diffiniad hwy ('yr iawn'), ond nid yw'n pennu nac yn ceisio hyrwyddo unrhyw werthoedd neu gredoau moesol penodol ('y da'). Felly, mae hyn yn galluogi rhyddfrydiaeth i gyd-fyw ag amrywiaeth eang o gredoau gwleidyddol, moesol a diwylliannol.

 

Mae'r ddadl arall o blaid niwtraliaeth yn seiliedig ar y syniad o blwraliaeth gwerthoedd, sydd wedi'i chysylltu'n fwyaf amlwg ag Isaiah Berlin. Awgryma plwraliaeth gwerthoedd, yn gryno, fod pobl yn sicr o anghytuno ynglŷn ag amcanion sylfaenol bywyd, gan ei bod yn amhosibl dangos bod un system foesol yn rhagori ar un arall. Wrth i werthoedd wrthdaro, mae'n anochel y bydd gwrthdaro moesol yn rhan annatod o'r cyfyng-gyngor dynol. Yn ôl y farn hon, nid oes gan gredoau rhyddfrydol, megis cefnogi ymreolaeth, goddefgarwch a democratiaeth, fwy o awdurdod moesol na chredoau anrhyddfrydol neu anoddefgar. Mae safiad o'r fath yn mynd y tu hwnt i oddefgarwch, gan ddatgan y dylai cymdeithas fod yn seiliedig ar yr egwyddor bod 'ar bawb eisiau byw', neu'r hyn a elwir weithiau yn wleidyddiaeth difaterwch.

 

 

A all rhyddfrydiaeth fod yn niwtral?

 

Bydd unrhyw ymgais i geisio cymodi rhyddfrydiaeth a phlwraliaeth yn taro ar anawsterau mewn perthynas â'r syniad o niwtraliaeth foesol. A yw'n bosibl i ryddfrydwyr sefyll uwchlaw trafodaeth a dadl foesol a pharhau i fod yn rhyddfrydol? Nid yw rhyddfrydiaeth, ac ni all fod byth, yn athroniaeth o 'wneud fel y mynnoch'.

 

Er bod rhyddfrydiaeth yn sicr yn ffafrio gonestrwydd, trafodaeth a hunanbenderfyniad, mae hefyd wedi'i nodweddu gan bwyslais moesol cryf. Roedd Rawls, er enghraifft, yn cydnabod hyn, gan ddadlau bod yn rhaid i wahaniaethau o fewn cymdeithas ddigwydd o fewn 'consensws sy'n gorgyffwrdd', neu'r hyn y gallai dinasyddion gytuno arno er gwaethaf y materion eraill oedd yn eu gwahanu. Wrth graidd y consensws hwn, mae'r gwerthoedd ymreolaeth, rhyddid a chydraddoldeb - gwerthoedd y credai Rawls ei bod yn 'afresymol' eu herio neu'u gwrthod. Mae hyn yn wir hefyd am Berlin, a barhaodd i fod yn rhyddfrydwr i'r graddau ei fod yn credu mai dim ond o fewn cymdeithas sy'n parchu rhyddid yr unigolyn y gellir sicrhau plwraliaeth gwerthoedd. Fodd bynnag, un o'r problemau gyda'i waith ef oedd na lwyddodd i arddangos sut y gall credoau rhyddfrydol ac anrhyddfrydol gyd-fyw'n gytûn o fewn yr un gymdeithas.

 

Y ffaith syml yw bod plwraliaeth gwerthoedd, ar ôl cael ei derbyn gan ryddfrydiaeth, yn anodd ei chynnal o fewn fframwaith rhyddfrydol. Dyma lle mae rhyddfrydiaeth a phlwraliaeth yn gwahanu. I ryddfrydwyr, dim ond o'i dehongli o fewn fframwaith o oddefgarwch ac ymreolaeth bersonol y bydd modd cymeradwyo amrywiaeth. Mae plwralwyr, ar y llaw arall, yn gwrthod cadarnhau rhyddfrydiaeth fel yr 'absoliwt', ac yn rhoi statws cyfartal i syniadau rhyddfrydol ac anrhyddfrydol. Dadleuodd John Gray (1993) felly fod plwraliaeth yn awgrymu safiad 'ôl-ryddfrydol', lle nad oes gan werthoedd, sefydliadau a chyfundrefnau rhyddfrydol fonopoli dros gyfreithlondeb bellach. Caiff rhyddfrydiaeth felly ei 'pherthynoli'. Nid yn unig y mae rhyddfrydiaeth a phlwraliaeth yn cynnig agweddau gwahanol ar amrywiaeth, ond hefyd mae'r gystadleuaeth rhyngddynt wedi dod yn un o'r prif frwydrau ideolegol mewn cymdeithasau modern.