Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

English

Amlddiwylliannedd

Andrew Heywood


Amlddiwylliannedd


Wrth i drafodaethau ynglŷn â sut dylai'r Deyrnas Unedig fynd i'r afael â'r sialensiau sy'n deillio o amrywiaeth ddiwylliannol gynyddol ddwysáu, datblygodd amlddiwylliannedd i fod yn bwnc mwyfwy amlwg a dadleuol. Fodd bynnag, erys cryn dipyn o ddryswch ynglŷn â'r defnydd a wneir o'r term, ynghyd â'r syniadau cyffredinol sy'n sail i wleidyddiaeth ddiwylliannol.


Yn wahanol i Ganada ac Awstralia, ni fu i'r Deyrnas Unedig erioed fabwysiadu amlddiwylliannedd yn ffurfiol fel canllaw ar gyfer rheoleiddio cysylltiadau rhyng-gymunedol o fewn y wladwriaeth. Serch hynny, ers tua'r 1980au cynnar, gwelwyd syniadau amlddiwylliannol yn magu gwreiddiau ac erbyn hyn maent yn ddylanwad amlwg ar natur a chyfeiriad amryw o drafodaethau cyhoeddus allweddol. Amlygir hyn gan ddatblygiadau megis twf dwyieithrwydd yng Nghymru, y pwyslais a roddir ar 'gydraddoldeb ac amrywiaeth' ym maes gwasanaethau cyhoeddus, ymlediad 'ysgolion ffydd' fel y'u gelwir a pharodrwydd y cyn Arglwydd Brif Ustus (yr Arglwydd Phillips) i dderbyn llysoedd Sharia fel dull dilys o ddatrys rhai anghydfodau rhwng Mwslimiaid Prydeinig.

Fodd bynnag, bu i ddatblygiadau o'r fath esgor ar gryn dipyn o wrthwynebiad mewn rhai cylchoedd. Yn wir, bellach clywir amryw o sylwebwyr yn hawlio bod amlddiwylliannedd wedi 'mynd yn rhy bell' neu 'wedi cael ei ddydd'; barn a fynegwyd gan neb llai na Trevor Phillips, cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Ond beth yn union yw amlddiwylliannedd? Ar ba fath o dybiaethau a syniadau y caiff ei seilio a pha ffurfiau gwahanol sydd iddo? Yn olaf, beth yw'r prif ddadleuon yn erbyn amlddiwylliannedd, a gwleidyddiaeth ddiwylliannol yn gyffredinol?


"Ymdrech i ymdrin yn deg â'r sialensiau sy'n deillio o fodolaeth amrywiaeth ddiwylliannol yw amlddiwylliannedd."


Beth yw amlddiwylliannedd?


Mae rhai'n parhau i ddefnyddio amlddiwylliannedd fel term empeiraidd, hynny yw, term i ddisgrifio bodolaeth amrywiaeth o ddiwylliannau a thraddodiadau o fewn yr un gymdeithas. Fodd bynnag, nid yw amlddiwylliannedd yr un fath ag amrywiaeth ddiwylliannol. Yn hytrach, dull o ymdrin â'r sialensiau amrywiol sy'n deillio o fodolaeth amrywiaeth ddiwylliannol ydyw, ac yn benodol, dull o hybu dyrchafiad cymdeithasol grwpiau ymylol a dan anfantais. Fodd bynnag, mae amlddiwylliannedd yn bersbectif sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn mewn ffordd newydd, gan gefnu ar ffyrdd mwy cyfarwydd o ymdrin â dyrchafiad cymdeithasol: fel gweriniaetholdeb a diwygiaeth gymdeithasol (Blwch 1).


Dull Prif rwystr i ddyrchafiad Prif thema Agwedd tuag at wahaniaeth Sut mae i’w weld ar waith
Gweriniaetholdeb Allgau cyfreithiol a gwleidyddol Dinasyddiaeth fyd-eang Dall i wahaniaeth – gwleidyddiaeth ddiwahaniaeth
  • Cydraddoldeb ffurfiol (hawliau cyfreithiol a gwleidyddol)
  • Gwahardd camwahaniaethu
  • Gwahardd defnyddio categorïau ethnig/diwylliannol (Ffrainc)
Diwygiadaeth gymdeithasol Anfantais gymdeithasol Cyfle cyfartal Tynnu sylw at wahaniaeth, ond er mwyn ‘rhagori arno’
  • Hawliau cymdeithasol
  • Lles ac ailddosbarthu
  • Camwahaniaethu cadarnhaol
Amlddiwyllianedd Ymyleiddio diwylliannol Grwpiau’n mynnu cydnabyddiaeth Dathlu gwahaniaeth – mae gwahaniaeth yn barhaol ac ni ellir cael gwared arno
  • Hawl i gydnabyddiaeth a pharch (cyhoeddus)
  • Hawliau (amlethnig) lleiafrifol
  • Dyfalbarhad grwpiau

Gweriniaetholdeb


Prif ffocws gweriniaetholdeb (sy'n gysylltiedig â rhyddfrydiaeth glasurol) yw allgau cyfreithiol a gwleidyddol, hynny yw, y broses o amddifadu rhai grwpiau o hawliau sylfaenol sydd gan eu cyd-ddinasyddion. Mae gweriniaetholdeb wedi'i seilio ar yr egwyddor o ddinasyddiaeth gyffredinol (universal citizenship); y gred y dylai pob aelod o'r gymdeithas feddu ar yr un statws a hawliau. Amlygwyd syniadau gweriniaethol eu natur yn ystod y don gyntaf o ymgyrchu ffeministaidd. Roedd yr ymgyrch hon, a oedd yn galw am ryddfreiniad benywaidd, yn pwysleisio'r angen i roi'r hawl i bleidleisio i bob menyw a hefyd yr angen i sicrhau cydraddoldeb mewn meysydd allweddol fel addysg a gyrfaoedd, ynghyd â bywyd cyhoeddus yn gyffredinol.


Mae gweriniaetholdeb hefyd yn amlwg mewn deddfwriaeth camwahaniaethu, fel y Ddeddf Cysylltiadau Hil (1976), sy'n gwahardd camwahaniaethu ar sail hil, lliw neu gefndir ethnig a chenedlaethol. A siarad yn gyffredinol felly, mae'r gweriniaethwr yn 'ddall i wahaniaeth' - yn dewis anwybyddu gwahaniaeth cymdeithasol o bob math. Mae'r gweriniaethwr yn gweld gwahaniaeth fel problem (gan ei fod yn arwain at gamwahaniaethu a thriniaeth annheg), ac yn cynnig y gellir bwrw gwahaniaeth o'r neilltu neu ragori arno yn enw cydraddoldeb. Canlyniad hyn yw bod y gweriniaethwr o'r farn mai trwy egalitariaeth gyfreithiol y gellir sicrhau dyrchafiad cymdeithasol.


Diwygiadaeth gymdeithasol


Deilliodd diwygiadaeth gymdeithasol (sy'n gysylltiedig â rhyddfrydiaeth fodern a democratiaeth gymdeithasol) o'r gred na all dinasyddiaeth gyffredinol a chydraddoldeb ffurfiol, ar ben eu hunain, ymdrin â'r problemau sy'n wynebu grwpiau ymylol a dan anfantais. Wedi'r cyfan, nid allgau cyfreithiol a gwleidyddol yn unig sy'n gallu dal pobl yn ôl. Rhaid hefyd ystyried anfanteision cymdeithasol megis tlodi, diweithdra, cartrefi o ansawdd gwael, diffyg addysg ac ati. Mae diwygiadaeth gymdeithasol wedi'i seilio ar yr egwyddor o gyfle cyfartal, sef y gred y dylid rhoi'r un cyfle i bob aelod o'r gymdeithas, gan alluogi pobl i esgyn neu ddisgyn mewn cymdeithas, a hynny ar sail eu gallu personol a'u parodrwydd i weithio yn unig

Er mwyn gwireddu'r egalitariaeth gymdeithasol hon, rhaid wrth gynllunio cymdeithasol sydd â'r nod o liniaru effeithiau tlodi a goresgyn anfantais o bob math, a hynny'n rhannol drwy gydnabod gwahaniaethau rhwng gwahanol grwpiau. Er enghraifft mae'r Ddeddf Cysylltiadau Hil (2000) yn rhoi pwyslais ar gyfleoedd cyfartal, ac yn sgil hynny yn gorfodi ysgolion, colegau a phrifysgolion i roi ystyriaeth ffurfiol i faterion fel cefndir ethnig neu hiliol wrth recriwtio a dyrchafu staff neu wrth gloriannu perfformiad myfyrwyr. Serch hynny, cydnabyddiaeth dros dro yn unig i wahaniaethau rhwng grwpiau y mae hyn yn ei roi; caiff y gwahanol grwpiau eu nodi dim ond er mwyn tynnu sylw at arferion annheg (honedig) a chael gwared arnynt.


Amlddiwylliannedd


Datblygodd amlddiwylliannedd o'r gred fod gan yr ymyleiddio cymdeithasol sy'n effeithio ar nifer o grwpiau wreiddiau dyfnach byth. Nid dim ond ffenomen gyfreithiol, wleidyddol neu gymdeithasol mohoni, ond yn hytrach, ffenomen ddiwylliannol, un sy'n gweithredu trwy gyfrwng stereoteipiau a gwerthoedd sy'n lliwio'r modd y bydd pobl yn gweld eu hunain, ynghyd â'r modd y'u gwelir gan eraill. Mewn geiriau eraill, nid yw dinasyddiaeth gyffredinol na chyfle cyfartal yn mynd yn ddigon pell. Cyfyngedig yw cyfraniad egalitariaeth mewn gwirionedd, boed yn ei ffurf gyfreithiol neu ei ffurf gymdeithasol, ac yn wir, gall fod yn rhan o'r broblem. Mae amlddiwylliannedd, fodd bynnag, yn rhoi pwyslais ar wahaniaeth, yn hytrach na chydraddoldeb. Tanlinellir hyn gan ei egwyddor sylfaenol: y gred y dylid cymeradwyo gwahaniaeth, ei ddathlu hyd yn oed, gan roi cyfle i grwpiau ymylol a dan anfantais fynnu cydnabyddiaeth, a thrwy hynny, adennill balchder yn eu cefndir diwylliannol. Golyga hyn, felly, fod hawliau amlddiwylliannol yn tueddu i fod yn hawliau sy'n ymdrin ag anghenion penodol y grŵp dan sylw, yn hytrach na hawliau 'cyffredinol' neu 'gyfartal'.


Yn eu plith mae:

  • Yr hawl i gydnabyddiaeth (gyhoeddus) a pharch. Dylai gwahanol grwpiau diwylliannol, boed hwy'n rhai sy'n seiliedig ar nodweddion fel iaith, ethnigrwydd neu gefndir cenedlaethol, gael eu cydnabod fel actorion dilys mewn bywyd cyhoeddus. Gall hawliau o'r fath gynnwys yr hawl i beidio cael eich digio a'ch tramgwyddo, hawl a fydd yn amddiffyn credoau sanctaidd neu greiddiol grŵp rhag ymosodiad neu sarhad.

  • Hawliau lleiafrifol 'arbennig' neu hawliau 'amlethnig'. Breintiau neu eithriadau cyfreithiol yw'r rhain sy'n caniatáu i grwpiau diwylliannol penodol gadw elfennau o'u hunaniaeth a'u ffyrdd o fyw arbennig. (Ymysg yr enghreifftiau a geir yn y Deyrnas Unedig mae'r arfer o eithrio Sikhiaid o'r angen i wisgo helmed wrth ddefnyddio beic modur, yr arfer o eithrio perchnogion siop Iddewig o ddeddfau sy'n ymwneud â masnachu ar y Sul, a'r arfer o eithrio cigyddion Mwslimaidd ac Iddewig o ddeddfau sy'n rheoleiddio'r broses o ladd anifeiliaid ac adar.)

  • Yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i rywfaint o ymreolaeth. Mae hawliau o'r fath yn caniatáu i grwpiau gael elfen o reolaeth dros, neu o leiaf ddylanwad ar, eu bywydau. Tuedda'r rhai sy'n arddel amlddiwylliannedd rhyddfrydol, fel Will Kymlicka (1995), i gyfyngu'r hawl o ymreolaeth i bobloedd a llwythau brodorol (gan fod eu statws lleiafrifol yn deillio o goncwest neu wladychiad), ac anwybyddu'r grwpiau lleiafrifol hynny a dyfodd yn sgil mewnfudo (lle gellir tybio y bu elfen o gydsyniad).

Hawlio cydnabyddiaeth ddiwylliannol


"Mae amlddiwylliannedd yn rhan o symudiad gwleidyddol ehangach, un sydd â'r nod o hawlio cydnabyddiaeth ddiwylliannol."


Ffurfiwyd amlddiwylliannedd gan gorff ehangach o syniadau sy'n hawlio bod diwylliant yn gwbl ganolog i hunaniaeth wleidyddol a chymdeithasol. Yn hynny o beth, mae amlddiwylliannedd yn rhan o symudiad gwleidyddol ehangach, un sydd â'r nod o hawlio cydnabyddiaeth ddiwylliannol. Gellir olrhain gwreiddiau'r symudiad hwn yn ôl i'r gwrth-Ymoleuo (counter-Enlightenment), ac yn benodol i waith y bardd a'r athronydd Almaenaidd, Herder (1744-1803), gŵr a ddisgrifir yn aml fel 'tad' cenedlaetholdeb diwylliannol. Fodd bynnag, cafodd gwleidyddiaeth ddiwylliannol, yn ei ffurf gyfoes, ei ffurfio gan ddau rym allweddol: gwleidyddiaeth hunaniaeth a chymunedoliaeth (communitarianism).


Gwleidyddiaeth hunaniaeth


Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn derm cyffredinol sy'n cwmpasu ystod eang o dueddiadau gwleidyddol a datblygiadau ideolegol. Yr hyn sy'n gyffredin rhwng pob ffurf ar wleidyddiaeth hunaniaeth yw'r gred fod rhyddfrydiaeth gyffredinol (liberal universalism) yn rym gormesol, neu hyd yn oed yn ffurf ar imperialaeth ddiwylliannol, sy'n tueddu i ymylu a llethu grwpiau a phobloedd israddol. Deillia hyn o'r ffaith fod diwylliant cymdeithasau rhyddfrydol, er gwaetha'r ffasâd cynhwysol a chyffredinol, yn tueddu i ffafrio buddiannau eu grwpiau trechol - dynion, pobl wyn, y cyfoethog ac yn y blaen. Bydd grwpiau a phobloedd israddol yn aml naill ai'n cael eu darostwng trwy gyfrwng stereoteip cul neu israddol neu'n cael eu hannog i uniaethu â buddiannau a gwerthoedd y grwpiau trechol, eu gormeswyr.


Ceisiodd Edward Said (2003) dynnu sylw at hyn trwy gyfrwng y syniad o Orientaliaeth (Orientalism). Pwysleisiodd y graddau y llwyddwyd i gynnal gwladychiaeth Ewropeaidd trwy gyfrwng stereoteipiau ffuglennol a oedd yn bychanu a diraddio pobl a diwylliant nad oedd yn orllewinol. Fodd bynnag, mae gwleidyddiaeth hunaniaeth hefyd yn trin diwylliant fel adnodd y gellir ei ddefnyddio i ryddhau a grymuso pobl. Gellir sicrhau dyrchafiad cymdeithasol a gwleidyddol trwy broses o fynnu cydnabyddiaeth ddiwylliannol sydd â'r nod o feithrin ymdeimlad o hunaniaeth 'bur' neu 'ddilys'. Mae cofleidio hunaniaeth o'r fath felly yn weithred wleidyddol, yn ddatganiad o fwriad, ac yn rhyw fath o broses amddiffyn. Dyma sy'n esgor ar natur ymosodol a gwrthdrawiadol gwleidyddiaeth hunanaieth ac sy'n egluro ei rym seico-emosiynol cryf. Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn asio'r personol a'r gwleidyddol.


Cymunedoliaeth


Seilir cymunedoliaeth ar y gred y caiff yr hunan neu'r person ei ffurfio gan y gymuned: hynny yw bod unigolion yn cael eu siapio gan y gymuned y maent yn aelodau ohoni, ac yn sgil hynny, maent yn ddyledus iddi ac yn meddu ar ddyletswydd i'w pharchu. Datblygodd cymunedoliaeth fel adwaith yn erbyn rhyddfrydiaeth gyffredinol, y gred fod unigolion, beth bynnag fo'u cefndir cymdeithasol neu ddiwylliannol, yn meddu ar yr un anian sylfaenol neu hunaniaeth 'fewnol'. Honnodd cymunedwyr fel Alisdair MacIntyre (1981) a Michael Sandel (1982) fod y dehongliad hwn o unigolyddiaeth haniaethol - 'yr hunan dilyffethair' ('the unencumbered self') - yn bendant o arwain at atomiaeth ddigyswllt.


Blwch 2


Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn fath ar wleidyddiaeth sy’n ceisio hybu buddiannau grwpiau penodol yn wyneb y profiad neu’r canfyddiad o anghyfiawnder, gorthrwm neu ymyleiddiad, a hynny drwy godi ymwybyddiaeth yr aelodau o’u hunaniaeth a’u profiadau cyffredin. Gellir gweld amryw o’r mudiadau cymdeithasol a’r ideolegau ‘newydd’ fel rhan o’r duedd fwy cyffredinol hon tuag at wleidyddiaeth hunaniaeth. Yn eu plith fe ellir cynnwys yr ail don o ymgyrchu ffeministaidd, y mudiad hawliau hoyw, mudiad hawliau’r anabl, cenedlaetholdeb ethnig a diwylliannol, ffwndamentaliaeth grefyddol ac amlddiwylliannedd. Barn gyffredin yw fod y twf mewn gwleidyddiaeth hunaniaeth i’w briodoli i ddatodiad clymau confensiynol dosbarth ac ideolegau, ac yn neilltuol felly ddirywiad athroniaethau dinasyddiaeth fyd-eang, yn enwedig rhyddfrydiaeth a sosialaeth (yn ei gwahanol ffurfiau). Disodlir y rhain wedyn gan bersbectifau sy'n pwysleisio ‘gwleidyddiaeth gwahaniaeth’, gan danlinellu pwysigrwydd elfennau megis rhywedd, ethnigrwydd, hil, cenedligrwydd, diwylliant a chrefydd.

 

Yn hytrach, rhaid i unigolion fod wedi'u gwreiddio mewn cyd-destun cymdeithasol, sefydliadol, moesol ac ideolegol penodol, oherwydd dim ond ffactorau 'allanol' a all ddatblygu ymdeimlad gwirioneddol o hunaniaeth foesol a phwrpas mewn pobl. Bu'r 1980au a'r 1990au yn gyfnod o ddadlau tanbaid rhwng athronwyr rhyddfrydol a chymunedol, ac un o ganlyniadau mwyaf arwyddocaol y dadlau hwn fu'r parodrwydd diweddar ymhlith rhyddfrydwyr i gydnabod pwysigrwydd diwylliant. Cyfrannodd hyn, yn ei dro, at dynnu sylw rhyddfrydwyr at rinweddau amlddiwylliannedd.


Ffurfiau ar Amlddiwylliannedd


Cred gyfeiliornus yw honno sy'n hawlio mai dim ond safbwynt gwleidyddol syml yw amlddiwylliannedd: y gred y dylai amrywiaeth ddiwylliannol gael ei chydnabod a, hyd yn oed, ei dathlu. Yn hytrach, mae amlddiwylliannedd yn wagle ideolegol eang sy'n cwmpasu ystod o ddulliau gwahanol o ymdrin â'r sialensiau sy'n deillio o fodolaeth amrywiaeth. Tuedda pob ffurf ar amlddiwylliannedd i gytuno ar y pwynt sylfaenol y gallai ac y dylai'r broses o gydnabod amrywiaeth ddiwylliannol ddigwydd o fewn ffiniau un gymdeithas wleidyddol unedig, hynny yw 'amrywiaeth o fewn undeb'. Fodd bynnag, mae natur y pwyslais a roddant ar amrywiaeth o gymharu ag undod yn tueddu i amrywio (Blwch 3). Y ffurfiau pwysicaf ar amlddiwylliannedd yw:

  • Amlddiwylliannedd ryddfrydol

  • Amlddiwylliannedd blwralaidd

  • Amlddiwylliannedd gosmopolitaidd

Ffurf Agwedd tuag at amrywiaeth Sail ar gyfer integreiddio Beirniadaethau allweddol
Amlddiwylliannedd ryddfrydol Amrywiaeth o fewn fframwaith ryddfrydol (rhaid bod yn gydnaws â goddefgarwch ac ymreolaeth) Amrywiaeth ddiwylliannol o fewn undeb dinesig ehangach - dinasyddiaeth gyffredinol o fewn cyd-destun trefn ddemocrataidd ryddfrydol Cynnal goruchafiaeth rhyddfrydiaeth orllewinol; gwadu dilysrwydd traddodiadau diwylliannol nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion rhyddfrydiaeth
Amlddiwylliannedd blwralaidd Amrywiaeth yn werth ynddo'i hun; pob diwylliant yn gydradd ac yn amlygiad o wahanol agweddau o'r natur ddynol Ymdeimlad o berthyn diwylliannol yn sail ar gyfer cyfranogiad dinesig - dinasyddiaeth wahaniaethol, cydnabod hawliau amlethnig a hawliau eraill Arwain at ynysu diwylliannol a diffyg undod dinesig
Amlddiwylliannedd gosmopolitaidd Amrywiaeth yn hybu lluosogedd o ran hunaniaeth; safbwynt ôl-ryddfrydol, ond ymdrech i fod yn gydnaws â chyfiawnder byd-eang Cymysgu diwylliannol yn hybu ymwybyddiaeth o bobloedd eraill ac o'r byd ehangach - dinasyddiaeth fyd-eang Amlddiwylliannedd arwynebol sy'n tanseilio arwahanrwydd diwylliannol ac yn anwybyddu ei wreiddiau cymdeithasol a hanesyddol.

Mae amlddiwylliannedd ryddfrydol yn ffenomen ideolegol gymhleth. Mae'n ymgais gan ryddfrydwyr i ymbellhau oddi wrth gyffredinolrwydd a chlosio, cymaint ag sy'n bosib, at blwraliaeth. Gwnaed hyn yn bennaf trwy arddel niwtraliaeth fodern; syniad sy'n hawlio nad yw rhyddfrydiaeth yn pennu set o werthoedd y dylai unigolion eu dilyn, ond yn hytrach, yn caniatáu iddynt fyw eu bywydau yn ôl eu safonau moesol eu hunain. Fodd bynnag, tuedda rhyddfrydwyr i osod terfyn ar hyd a lled yr amrywiaeth foesol y gellir ei oddef. Caiff hyn ei gyfleu gan yr ymadrodd, 'amrywiaeth o fewn fframwaith rhyddfrydol', sy'n pwysleisio y bydd rhyddfrydwyr yn ei chael hi'n anodd, os nad yn amhosib, i gymeradwyo arferion diwylliannol sy'n ymddangos yn wrth-ryddfrydol neu'n ormesol.


Ymhellach, gan fod rhyddfrydwyr yn tueddu i roi pwyslais ar undod dinesig, maent hwy'n dadlau y dylai'r broses o arddel a dathlu amrywiaeth gael ei chyfyngu i'r sffêr preifat, a thrwy hynny, ganiatáu i'r sffêr cyhoeddus barhau yn faes lle gellir hybu integreiddio. Yn olaf, cred rhyddfrydwyr fod gan ddemocratiaeth ryddfrydol fantais unigryw o gymharu a systemau gwleidyddol eraill, sef ei bod yn drefn sy'n amddiffyn ymreolaeth bersonol yr unigolyn ac felly'n caniatáu i amrywiaeth gael ei warchod.


Rhydd amlddiwylliannedd blwralaidd fwy o bwyslais ar amrywiaeth nag undod. Mae'n mynnu y dylai amrywiaeth gael ei drin fel rhywbeth sy'n werthfawr ynddo'i hun, dadl sy'n seiliedig ar y gred fod pob safbwynt moesol - ac felly pob traddodiad diwylliannol - mor ddilys â'i gilydd. Fodd bynnag, gan mai amlddiwylliannedd blwralaidd yw'r ffurf ar amlddiwylliannedd sy'n arddel gwleidyddiaeth hunaniaeth yn y modd mwyaf eglur, caiff ei gysylltu ag ymdrechion i warchod diwylliannau sydd 'dan ormes' a grwpiau lleiafrifol. Canlyniad hyn yw mai perthynas amwys, ar y gorau, sydd rhyngddo â rhyddfrydiaeth. Mae'n ymwrthod â phob ymdrech i ddyrchafu rhyddfrydiaeth i wastad diamod ac yn mynnu na ddylai gwerthoedd rhyddfrydol a strwythurau gwleidyddol rhyddfrydol-democrataidd gael eu gosod uwchlaw eraill. Yn ogystal, mae'r rhai sy'n arddel amlddiwylliannedd blwralaidd yn dadlau mai cydnabyddiaeth gref a chyhoeddus o wahanol gefndiroedd diwylliannol yw'r unig ffordd y gellir caniatáu i bobl gyfranogi'n llawn ym mywyd eu cymdeithas, a thrwy hynny, gofleidio'r syniad o ddinasyddiaeth wahaniaethol (differentiated citizenship).

Yn olaf, ceir hefyd ffrwd o amlddiwylliannedd a ddatblygwyd gan athronwyr sy'n arddel syniadau cosmopolitaidd. Un o flaenoriaethau'r garfan hon fu gwarchod hawliau diwylliannau a phobloedd frodorol, yn aml fel rhan o gyfraniad at drafodaeth ehangach ynglŷn â chyfiawnder byd-eang. Un o nodweddion allweddol amlddiwylliannedd gosmopolitaidd yw'r pwyslais a roddir ar rinweddau cymysgu diwylliannol (arfer a amlygir, er enghraifft, gan y syniad o 'gerddoriaeth byd'). Gellir gweld hyn fel ffordd o ehangu ein gorwelion gwleidyddol ac, yn y pen draw, osod sail ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang. Mae rhai wedi portreadu amlddiwylliannedd gosmopolitaidd fel ffrwd o feddwl sy'n tueddu i drin hunaniaeth ddiwylliannol fel peth gymharol arwynebol ('pick and mix multiculturalism') neu 'amlddiwylliannedd ysgafn', gan awgrymu mai cyfres o ddewisiadau ffordd o fyw yw hunaniaeth ddiwylliannol yn hytrach na rhywbeth sydd â gwreiddiau cymdeithasol a hanesyddol dwfn.


Gwrthwynebiadau i amlddiwylliannedd


Nid yw'r pwyslais newydd ar ddiwylliant wedi'i groesawu gan bawb. Beirniadwyd gwleidyddiaeth ddiwylliannol o sawl gwahanol gyfeiriad ac mae hyn, yn ei dro, wedi esgor ar feirniadaethau penodol o amlddiwylliannedd. Mae'r mwyaf arwyddocaol o'r beirniadaethau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Tuedd amlddiwylliannedd i orsymleiddio natur diwylliant

  • Natur ormesol diwylliant

  • Y peryg y gall pwysleisio diwylliant a gwahaniaeth esgor ar anghydfod a gwrthdaro.

"Mae amlddiwylliannedd yn wagle ideolegol eang sy'n cwmpasu ystod o ddulliau gwahanol o ymdrin â'r sialensiau sy'n deillio o fodolaeth amrywiaeth."


Bu i gymdeithasegwyr gwestiynu'r graddau y gellir dehongli grwpiau diwylliannol fel actorion gwleidyddol ystyrlon, gan nad unedau unffurf mohonynt, yn eu tyb hwy, ond yn hytrach greadigaethau cymhleth, amrywiol a chyfnewidiol. Golyga hyn fod tuedd ymhlith y sawl sy'n arddel gwleidyddiaeth hunaniaeth i orsymleiddio diwylliant. Tueddant i ddiffinio gwahanol ddiwylliannau ar sail un neu ddau o nodweddion allweddol, ac yna cymryd yn ganiataol fod pawb sy'n rhannu'r nodweddion hynny yn perthyn i'r un 'gymuned'. Fodd bynnag, mae'r rhai sy'n feirniadol o'r safbwynt hwn wedi hawlio nad oes y fath beth â'r 'gymuned Fwslimaidd' neu'r 'gymuned Somali', yn yr un modd nad oes y fath beth â'r 'gymuned hoyw'. Creadigaethau gwleidyddol yw'r rhain; unedau dychmygol yn hytrach na rhai organig a byw.
 

"Nid unedau unffurf mo diwylliannau, ond yn hytrach greadigaethau cymhleth, amrywiol a chyfnewidiol."

Caiff diwylliant hefyd ei ddehongli fel grym gormesol. Dyma safbwynt a gaiff ei arddel gan ryddfrydwyr cyffredinol, sydd o'r farn na all unrhyw fudd gwleidyddol ddeillio o arddel gwleidyddiaeth ddiwylliannol. Deillia'r dybiaeth hon o'r ffaith mai rhywbeth a gaiff ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall trwy broses o gymdeithasoli yw diwylliant. Golyga hyn mai anaml iawn y caiff diwylliant ei fabwysiadu gan unigolyn ar sail dewis rhydd ac ymwybodol, ac yn sgil hynny gall diwylliant gyfrannu at danseilio unigolyddiaeth ac ymreolaeth bersonol - tuedd sy'n adlewyrchu'r hyn a ddisgrifiodd J. S. Mill fel 'unbennaeth arferion' ('the despotism of custom').


Enghraifft benodol o'r feirniadaeth hon yw'r dehongliad ffeministaidd o amlddiwylliannedd. Yn ôl y dehongliad hwn, nid yw amlddiwylliannedd yn ddim mwy nag ymgais gudd i atgyfnerthu grym gwrywaidd, gan mai daliadau hynod batriarchaidd yw'r rhai a gaiff eu hybu ganddo. O ganlyniad, mae peryg y bydd gwleidyddiaeth ddiwylliannol yn cael ei defnyddio i gyfreithloni a chynnal safle israddol y ferch o fewn cymdeithas.


Yn olaf, bu i amlddiwylliannedd gael ei gysylltu ag anghydfod a gwrthdaro. Gwnaed hyn gan ddwy garfan feirniadol wahanol. I ddechrau, mae cenedlaetholwyr, ac yn benodol cenedlaetholwyr o anian ceidwadol, wedi herio'r honiad nad yw'r arfer o bwysleisio amrywiaeth ddiwylliannol yn peryglu undod gwleidyddol. I genedlaetholwyr, mae gallu'r genedl i gynnig sail ddilys ar gyfer trefniadaeth wleidyddol yn deillio'n uniongyrchol o'i gallu i warantu fod hunaniaeth ddiwylliannol a hunaniaeth wleidyddol yn gorgyffwrdd. Bydd amlddiwylliannedd, fodd bynnag, yn esgor ar anghydfod dinesig ac ansefydlogrwydd gwleidyddol.

Yn ail, hawliodd sosialwyr y gall yr arfer o bwysleisio amrywiaeth ddiwylliannol danseilio ein hymdeimlad o ddynoliaeth gyffredin, ac yn sgil hynny, gyfyngu ein hymdeimlad o gyfrifoldeb moesol i'r rhai sy'n gyd-aelodau o'n grŷp diwylliannol ni yn unig. Dros amser, bydd tuedd o'r fath yn tanseilio'r gefnogaeth i wleidyddiaeth lles ac ailddosbarthu, sy'n dibynnu ar allu'r gymdeithas gyfan i anwybyddu gwahaniaethau a mabwysiadu agweddau anhunanol tuag at bawb.


Atgynhyrchwyd drwy ganiatâd Phillip Allan Updates.